Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Advertising

Yr Undeb yng Nghastell= nedd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr Undeb yng Nghastell= nedd. Y MAE poblogrwydd cynhyddol cyfarfod- ydd Yr Undeb yn brawf amlwg fod yr eglwysi anibynol yn dechreu sylweddoli y gall ein cyfundrefn eglwysig ganiatau cydweithrediad unol yr holl eglwysi i sicrhau buddiannau cyffredin iddynt oil. Nid heb lawer o ddadleu a chroes- dynnu ar ran ein tadau y dygwyd oddi- amgylch y cyfnewidiad pwysig hwn. Ofnid gan y rhai oedd eiddigus dros hunanlywodraeth yr eglwysi unigol y byddai i'r cyfnewidiad eu hysbeilio o'r cyfryw ragorfraint. Ond y mae profiad blynyddoedd wedi argyhoeddi bron yr oil ohonynt nad oedd sail i'r ofn. Yr ydym yn byw mewn oes werinol iawn. Ac nid oes berygl mawr i unrhyw gorff eglwysig gyfyngu ar ryddid eglwysi unigol yn ein dyddiau ni. Os yw yr Anibynwyr fel enwad yn dyfod yn fwy Presbyteraidd,y mae'n llawn cyn wired fod eglwysi unigol perthynol i'r Corff Meth- odistaidd neu i'r Cyfundeb Wesleaidd yn dyfod yn fwy-fwy eiddigus pan yr ymyrrir yn ormodol a'u rhyddid. Yr oedd y cynhulliad o Weinidogion a lleygwyr yng Nghastellnedd y lliosocaf a welwyd hyd yn hyn. Yr oedd amryw ystyriaethau yn cyfrif am hyn. Cyn- helid y cyfarfodydd mewn tref ym Mor- gannwg boblog, lie y mae'r Anibynwyr yn lliosog iawn. Yr oedd y cyfleusterau i deithio yno o bob rhan o'r wlad o'i hamgylch yn rhwydd a rhad. Teimlid dyddordeb mawr yn sefydliad y Llyfrfa ac apwyntiad Arolygydd iddi. Ac at hyn, rhaid ychwanegu dyddordeb cynhyddol yr eglwysi yn Yr Undeb," a chydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r enwad, er ei alluogi i gydsymud ynglyn a materion cyhoeddus. Prawf o'i was- anaeth yw y gronfa a gasglwyd yn ddi- weddar i sefydlu achosion newyddion a chynorthwyo achosion gweiniaid. Y mae ein Hemynlyfrau bellach yn eiddo'r enwad, ac yn dwyn elw sylweddol. Gellir dweyd yr un peth am Werslyfrau a Llawlyfrau ein Hysgolion Sul. Y mae ysbryd Presbyteraidd neu Sosialaidd yn ein gyrru i gefnu ar eiddo personol ac unigol, ac yn ein dwyn i fabwysiadu cyfundrefn eiddo corfforiaethol. Ac ar ol i ni gael bias ar fwynhau y cyllid a dderbynir i gynorthwyo achosion gwein- iaid, nid ydym yn debyg o fyned yn ol yn fuan at yr hen drefn.

Rhai Neilltuolion.

Advertising