Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

r™—s J TRWY Y DRYCH. j

Advertising

Nodion o'r De.

Ffetan y Gol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ffetan y Gol. Y Pregethwyr Poblogaidd. SYR,—Yn eich colofn dra dyddorol 0 Big y G'lomen," bythefnos yn ol, dywedid fod un o Gymdeithasau Cymru Fydd Lerpwl wedi trefnu cystadleuaeth enwi'r chwe pregethwr mwyaf poblogaidd yng Ngliymru, gan nad o ba enwad a rhoddid dwy restr, a adawodd rhyw ymgeisydcl angliofus, meddech chwi, ar ei ol yn y tren. A'r tri uchaf yn yr ail restr ydoedd y Parch. W. Prydderch, Abertawe. Y Tad Ignatius, Llanthony. Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llanddulas. Wel, mi chwarddais yn fy nyble weled cyf- uniad mor anisgwyliadwy—dyna'r sandwich ryfeddaf a welais erioed, gyda'r Ignatius, Babydd poetli, megis mwstard rhwng dau dafell o fara iach. Ond i ddweyd hyn y dechreuais ysgrif- ennu, sef nad yw ddiben yn y byd i'r un gymdeithas ddisgwyl cael cystadleuaeth deg ac amhartiiol ar y fath bwnc y mae'r Cymry yn rhy sectol i enwi neb ar ei deilyng- dod ei hun, a gormod tan ddylanwad rhagfarn enwadol i enwi chwech yn onest a chyd- wybodol. Gwyn y gwel y sect ei chyw, Er fod ei liw yn lowddu." Yr unig gystadleuaeth onest ellir drefnu ydyw gofyn am chwe pregethwr mwyaf poblogaidd pob enwad ar ei ben ei hun. Ac er mwyn rhoi cyfie i rywun arall ddatgan ei farn, fe enwaf yma'r chwech mwyaf pobl- ogaidd i'm syniad i. Nid y chwech goreu, o angenrheidrwydd, a ddywedaf—y mae'r rhai poblogaidd ymhell o fod y rhai goreu weithiau Y Methodistiaid Calfinaidd. Parch. John Williams, Brynsiencyn. Parch. T. C. Williams, M.A., Y Borth. Parch. John Roberts, B.A., Lerpwl. Prifathro Owen Prys, M.A., Aberystwyth. Parch. Wm. Prytherch, Abertawe. Parch. S. T.Joiies, Rhyl. Yr Anibynwyr. Parch. H. Elfed Lewis, M.A., Llunden. Parch. W. J. Nicholson, Porthmadog. Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon. Parch. Gwylf a Roberts, Llanelli. Parch. Ben Davies, Panteg.. Parch. O. L. Roberts, Lerpwl. Y Wesleaid. Parch. D. Gwynfryn Jones, Llandudno. Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llanddulas. Parch. W. O. Evans, Y Rhyl. Parch. Thos. Hughes, Lerpwl. Parch. T. Nicholls Roberts, Y Wyddgrug. Parch. T. O. Jones (Tryfan), Manceinion. Y Bedyddwyr. Parch. E. T. Jones, Llanelli. Parch. Charles Davies, Caerdydd. Parch. Aaron Morgan, Blaenffos. Pedr Hir, Bootle. Parch. Hugh Jones, Llanelli. Parch. Moses Roberts, Ffestiniog. A rhag i chwi feddwl mai gyda'r Ymneiiltu- wyr yn unig y mae pregethwyr poblogaidd, dyma i chwi chwe efengylydd poblogaidd yr Hen Fam heddyw :— Parch. T. Pritchard, Ficer y Rhos. Parch. James Davies, M.A., Lerpwl. Parch. David Jones, Penmaenmawr. Canon E. T. Davies (Dyfrig). Archddiacon Wynne Jones, Llangollen. Parch. J. F. Reece, Llanfwrog. Maddeuwch i mi am gymeryd cymaint o'ch gofod. Yr eiddoch, Morfa Harlech. CLUSTFEINIWR.

GLANNAU'R GLWYD.

TREMEIRCHION. MO1

--0--CARMEL, ger TREFFYNNON-on…

Advertising