Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Cysgodau y ] Blynyddoedd Gynt.

Jarrow.

Allan o Waith.

Gwyr y Rheilffyrdd eto.

Ty'r Arglwyddi.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ty'r Arglwyddi. Beth, mewn difrif, y mae darllennwyr y BRYTHON yn ei feddwl o'r ddadl ar bender- fyniad a phlan y Prifweinidog ? Yr oedd y ddadl yn eithaf ond y nef a'n gwaredo rhag y plan Pe buasai'r Llywodraeth wedi bod wrthi yn un pwrpas yn dyfeisio cynllun i wastio amser ac i'w gwneud yn anhawddach nag erioed i basio mesurau really democratic and progressive, mi fuasai yn anodd iddynt saernio un mwy tebyg o gyrraedd y diben na'r plan mulaidd ac anhymig hwn. Oblegid, beth y mae'r cyn- llun yn ei olygu ? Golyga fod mesur i gael ei basio drwy Dy'r Cyffredin i ddechreu (ac fe gymer y Llywodraeth ofal am iddo fod yn un digon glasdwraidd, fel y Bil Addysg, er engraifffc), ac wedyn fe'i cicir ef o Dy i Dy ac o gynhadledd i gynhadledd, fel ag i ddi- ffodd hynny o anadl einioes oedd ynddo ar y cychwyn. Dyma'r drefn y rhaid i bob mesur fynd drwyddi yn ol cynllun Campbell- Bannerman 1.—Pasio'r Mesur drwy Dy'r Cyffredin. 2.-Teflir y Mesur allan gan yr arglwyddi. 3.-Cynhadledd gyfrinachol rhwng nifer benodol o aelodau T^'r Cyffredin a'r un nifer o arglwyddi. 4.—Os methir cytuno, y Mesur i fyned eil- waith drwy Dy'r Cyffredin, wediysbaid, dyweder, o chwe mis. 5.-Aiifonir y Mesur i'r Arglwyddi yr ail waith. 6.—Os gwrthodir y Mesur, ail gynhadledd. 7.-0s methir cytuno, pesir y Mesur heb golli rhagor o amser drwy Dý'r Cyffredin, a gyrrir ef y drydedd waith i Dy'r Arglwyddi, a dywedir wrthynt os na phesir y Mesur gennych yn y ffurf hon, pesir ef dros eich pennau." 8.-Cyiihadledd arall. 9.—Y Mesur drwy gydsyniad y Teyrn, ond heb gydsyniad yr Arglwyddi, i ddod yn gyfraith y tir. Dyna fo i chi. What do you think of it ? Beautiful time-wasting machine, isn't it ? Fe ellir dweyd good-bye wrth bob mesur democrataidd o dan y drefn hon. Fe gymer y Whigs yn y secret conference ofal am hynny. Secret conference, wir Onid oes digon o gudd-gynllunio a chyfaddawdu mewn gwleid- yddiaeth yn barod ? Rhagor o oleuni dydd ar ein Seneddwyr sydd eisieu, ac nid llai. Ac yn wyneb hyn oil, cymer rhai arnynt synnu yn anghyffredin fod pleidwyr Llafur yn gwrthod ymddiried yn y Llywodraeth. Blessed is he that expecteth nothing, for he shall not be disappointed. Onibae am bresenoldeb Plaid Llafur yn y Senedd, buasai record y Llywodraeth hon yn anialwch sych a diffrwyth. Rhyfedd mor ami y crybwyllwyd y Trades Disputes Bill yn ystod y ddadl. Pilsen chwerw anghyff- redin i'r Liberals oedd pasiad hwnnw drwy Dy'r Arglwyddi. Ddarfu iddynt erioed ddychmygu y cymerai hynny hynny le. Ond fe wyddai my lords mai dynion o ddifrif oedd y tu ol i'r Trades Disputes Bill-ac nid Ymneilltuwyr Cymru.

Undeb yr Anibynwyr a Llafur.

Advertising