Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HENRY MILES & COMPANY, Popular Milliners. Glovers and .4 4 Fancy Drapers. J- ø LARGEST AND MOST COMPLETE ^OCK OF LADIES' AND CHILDREN'S ^ONG AND SHORT GLOVES IN ENGLAND. a Latest Novelties in all Departments. "THE SIGN OF THE GLOVE," 25 & 25a Church St., LIVERPOOL. ^elej>hone No. 7385.
Advertising
KEENORA Self- SELF- Raising RAISING. FLOUR. I TRY IT I TRY IT I TRY IT I You'll use no other. Sold Retail 2d., 3d., 6d. and Is. per packet From all Grocers and Dealers. Sole Wholesale Agents: Morris & Jones, Liverpool.
Advertising
Roberts EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 KirKdale Rd., Liverpool. Telephone: 2193 Royal. == Waiter Roberts & Go., 40ldhall St., LIVERPOOL. "SOLESALE Coal Exporters & Timber Merchants l' I l' e èJJhone: 5581 Central, Liverpool. elegrarns: "Inquire," Liverpool. ASl{FOR IDRIS ^ble Waters In Syphons and Bottles. SOl)J\ WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE. Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL. wmmmmmmmmm TAILORING THE MATERIALS ON OFFER FOR THIS SEASON ARE EXCEPTIONALLY GOOD, BOTH IN VALUE 8 STYLE AND WELL WORTH INSPECTION. ALL CAREFULLY FITTED PATTERNS On Application sl == PI 11 ,4 BEATY# THE CELEBRATED .TAILORS LONDON ROAD f CHURCH ST. LIVERPOOL Summer Bargains! 500 Cases Elbow-length LACE GLOVES. 6id., 81 d., IOid. 2 2 100 Doz. NEW SUMMER BLOUSES. Beautifully Trimmed l/lll, 2/11, 3/11. 2 50 Doz. Ladies' WASHING SKIRTS. New Zepher Plaids and Stripes, 2/11, 3/11, 4/11. 250 pieces NEW TWEED DRESS MATERIALS. Lovely assortment. 1/=, 1/6, l/llt 25 pieces NEW BLOUSE SILK. Choice Designs. 1/01. l/4j, l/6j, ø Jones's Bee Hive, ø 59, 61, d 63 BrunswicK Road. -=- 1 I Remember to use I Amok Idailk., AAML Amik, s CROSSLEY'S ) Eory soap, j IT IS THE BEST. I A • g GOOD Artificial A TEETH are I AAT ll NEEDED BY ■ EVERYONE To keep the bloom of youth To keep good looks. To keep health. Our Teeth are the results of personal experience and practical knowledge; the former has given us the precise knowledge of our Clients' requirements, the latter to meet those needs in a perfect and satisfactory way. They are both in At and finish far superior to most Teeth made to-day. Advice and Estimates of Cost. FREE. Mr. HELY'S charges are always moderate. He does not go in for Guinea Sets ,rand such-like things. What he does he does well, and one can be certam of having the highest skill and finest materials at a reasonable outlay. —— H. W. HELY, 13 NORTON ST., London Rd. Corner 0 0 Liverpool. Tel. 0733 Royal. Established 1884 JOHN LLOYD, -HIGH-CLASS TAILOR- (From T. B. Johnston, Lord St.), 89 HOLT ROAD,
Croeso'r Brenin a'r Frenhines.
Croeso'r Brenin a'r Frenhines. EICH UCHELDERAU BRENHINOL, Gwerinwr i'r earn yw y BRYTHON, ond nid yn ddigon cul ac eithafol i beidio anfon gair o groeso i chwi ar eich ymwel- iad a Chymru Wen. A diau na fydd i chwithau gymeryd hyn o linellau i olygu fod cyfaredd eich cysgod, wrth fynd heibio o Lunden, wedi ei wirioni nes peri iddo wegian dim yn ei farn a'i egwyddor. Y mae o galon yn dymuno i chwi eich dau ymdaith ddifyr ddianhap drwy Ogledd a Dehau, a dychwelyd ohonoch adref gydag atgofion melus am Gymru a'i phobl. Y mae yn edrych arnoch chwi, fel ereill, mor bell ag yr a eich swydd, yn greaduriaid amgylchiadau, ac yn well na miloedd o werinwyr pe buasent wedi eu dwyn i fyny yn eich cylch er mai ei ddymuniad yw am i amgylchfyd gwa- hanol gael ei greu yn raddol fel ag i gyn- hyrchu ffurf arall ar lywodraeth y wlad. Nid oes i chwi ddeiliaid mwy ufudd a heddychol dan eich baner na'r Cymry, er cymaint o adsain trais y teyrniaid cynt sydd eto yn eu clyw. Bu eu saint yn gweddio'n bryderus dros y Brenin presennol pan oedd yn Dywysog Cymru, a'i fywyd yn chwareu yng nghlorian clefyd, rhwng bywyd a bedd ac wedi hynny, pan mewn argyfwng tebyg, ac y bu raid i'w ben orffwys ar obenydd cys- tudd pan yr oedd y Goron yn barod iddo. Ac nid purachna dyfnach llawenydd neb na'r eiddynt hwy pan dderbyniwyd y newydd bob tro fod y fantol wedi troi i ochr bywyd. Da gennym eich bod yn ymweled a Chymru i gefnogi dysg a daioni. Buoch yno o'r blaen, ar ymweliad ag Eistedd- fodau, ac ni welwyd neb mwy gwylaidd a serchog pan ym mhresenoldeb yr Arch- dderwydd yng Ngorsedd y Beirdd, na balchach o'i ruban a'i fendith ef Yr ydym yn credu fod ynoch reddf garedig a chydymdeimlad eang a'r truenusion yn y deyrnas. Ymddengys na pherthyn ichwi broffesu politiciaeth, ac yr ydych yn bur lwyddiannus i guddio eich tuedd bleidiol, os oes gennych un, at y naill blaid mwy na'r llall. Ond, er hynny, pe caech eich ffordd-ped ymffurfiai eich teimlad a'ch tuedd mewn proffes- braidd na chred y BRYTHON mai clamp o Ryddfrydwr a fyddech chwi. Gwyddoch y medr y Cymry ganu, a diau y cewch eu clywed ar eich hynt y tro hwn eto. Ond nid ar ganu yn unig y bydd byw y genedl. Mae ganddi gwyn- ion teg, a hen erbyn hyn, yn erbyn gormes tirol a clirefyddol, ac mae hi yn dyheu am ei gwrando yn effeithiol. Ac yn awr, wrth derfynu, cais y BRYTHON gennych chwi, 0, Frenin, wneud yr unig beth a gadarnha eich Gorsedd yn y wlad ac yng nghalon Cymru,-teflwch eich dylanwad yn erbyn y gwrthuni ysgymun a elwir yn Dy yr Arglwyddi Amen ac Amen.
Advertising
Eisteddfod Llangollen, RHESTR GYFLAWN Y TESTYNAU YN AWR YN BAROD, AC I'W CHAEL, PRIS 6ch., DRWY'R POST 7 £ c., GAN EVANS, SONS & FOULKES, SWYDDFA'R BRYTHON."
Llythyr Gwleidyddol
Llythyr Gwleidyddol [GAN Y GWYLIWR]. O'r Twr, Westminster, Nos Fawrth, Gorff. 9, 1907. Yr Aelodau Gwyddelig. Y MAE diflasdod yr haf gaeafol presennol wedi syrthio ar Dy y Cyffredin, ac nid oes nac ynni na bywyd o'i fewn. Neithiwr, er esiampl, pan oedd yr aelodau yn rhoddi ystyriaeth i Fesur y Tenantiaid Gwydd- elig di-dir, gyda'r bwriad o roddi ail- ddarllenniad iddo, nid oedd y lie yn chwarter llawn. Bu Mr. T. W. Russell a Mr. Walter Long ar eu traed, siaradodd y cyn-Dwrnai Cyffredinol dros Iwerddon yn boeth yn erbyn y tenantiaid, cymer- odd Mr. John Redmond gyfle i roddi brechdan fel i'r Ysgrifennydd Gwydd- elig, a thraddododd Mr. Birrell un o'r areithiau hynny—cymysg o arabedd a synnwyr cyffredin-a'i gosodant yn uchel ar ysgol siaradwyr cyhoeddus. Ond nid oedd yr atdyniad yn ddigon cryf "i gadw Ty," a seddi gweigion oedd yr order of the day y rhan fynychaf. Un rheswm am hynny, feallai, ydyw fod yr aelodau Rhyddfrydol, tra yn cydnabod cyfiawn- der llawer o ofynion y Blaid Wyddelig, yn teimlo yn flin oblegid aniolchgarwch y Gwyddelod a'u diffyg i dalu'r echwyn yn ol pan fyddo ar eu llaw i wneuthur hynny. Y mae Mr. John Redmond o'r diwedd wedi troi ar y Sinn Fein, ac yr oedd yn hen bryd iddo y mae llawer gormod o'r Ni ein hunain" yn nhon ac yn ymddygiad rhai o'n cefndyr yr ochr draw i'r Irish Channel yna. Cafwyd adsain o'r dymer Ryddfrydig y cyfeiriwyd ati neithiwr yn araith Mr. Birrell. Hawliai ei fod yn siarad, nid fel cynrychiolydd y Blaid Wyddelig—llawer llai fel cynrych- iolydd y Ceidwadwyr above the gangway,- ond fel cynrychiolydd y teimlad da tuag at yr Iwerddon sydd yn aros yng nghalon- au Saeson, Cymry, ac Ysgotiaid, yn wyneb ami i affront, ac, fel y dywedwyd, llawer o aniolchgarwch. Gair dwys, ac eto pigog. Hyderaf iddo gyrraedd calonn- au Mr. John Redmond a Mr. Tim Healy, ac y bydd i'r ddau, os nad ymgyfamodi a'u gilydd, o leiaf dalu'r pwyth yn ol i'r blaid sy'n gweithio dros eu cenedl. Yr Aelodau Cymreig. Fel pobl yn gyffredin, nid yw'r aelodau Cymreig ychwaith yn gallu gwrthsefyll yr atdyniad Cymdeithasol sy'n cydfyned a'r presennoldeb brenhinol. Yr wythnos hon y mae nifer ohonynt wedi myned i lawr i Arfon a Mon i gyfarfod ein Grasusaf Frenin a'r Frenhines, ac y mae gweddill yn paratoi i fyned i lawr i'r De erbyn dydd Gwener i'w cyfarfod drachefn yng Nghaerdydd. Wel, pob rhwydd hynt iddynt: y mae y Brenin Edward a'i briod hawddgar y Frenhines Alexandra yn caru ein cenedl ni," ac yn teilyngu pob gwarogaeth gyfreithlon gennym. Ond parthed yr aelodau Cymreig, nid wyf yn tybio y gwna eu habsenoldeb o'r Ty am wythnos neu ddwy fawr o wahaniaeth i gwrs gwleidyddiaeth. Mae'n wir fod eu hymweliad a'r Hen Wlad wedi peri iddynt ohirio ymhellach y cyfarfod gohiriedig y bwriedid ei gynn- al yr wythnos hon i ystyried—unwaith eto-safle cwestiwn Datgysylltiad, ond nid yw wythnos neu ddwy o chwareu gyda'r mater hwnnw yn debyg o wneuthur unrhyw wahaniaeth i'r safle. I ddiben- ion sy'n eithaf dealladwy i'r cyfarwydd, y mae cynrychiolydd glowyr Merthyr yn dal i ofyn cwestiynau, a chynrychiol- ydd ffermwyr Mon yn parhau i ysgrifennu llythyrau meithion i daflu amheuaeth ar addewid y Prifweinidog a sicrhad Llywydd Bwrdd Masnach yr ymdrinir a'r mater yn y Senedd bresennol os na ddigwydd iddi ddiwedd disyfyd. Os daw iddi'r fath ddiwedd, ni fydd cwest- iynau Mr. D. A. Thomas, na llythyrau Mr. Ellis J. Griffith, o bwrpas yn y byd ond i ddatguddio teimladau personol. O'r ochr arall, os bydd y Senedd byw i'w hamser terfynedig, y mae yn haws gennyf