Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

COLEG Y BALA.

Colofn y BeirddI

.CYFARCHIAD

Y BERDONEG.

Y BRYTHON.

AFONIG Y NANT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AFONIG Y NANT. AFONIG fechan unig, Brysuri drwy y nant, Mae clywed swn dy ganig Yn magu ynof chwant Am aros yma enyd I wrando ar dy gan, A dysgu gwersi gennyt Afonig fechan lan. Cychwyni mewn dinodedd, Ond nerth sydd it' yn st6r I gynnydd wyt etifedd O'r ffynnon fach i'r mor A chain alawon geni Wrth gyrchu tua'r don, Heb ofal i dy boeni, Afonig fechan Ion. Wyt ddarlun byw, afonig, 0 fywyd goreu dyn Dy gynnydd a dy ganig 'Ynt wersi i bob dyn Gwynebi bob anhawster, Gorchfygi rwystrau lu, A chanu 'rwyt bob amser, Afonig fechan gu. Afonig fechan unig, Brysuri drwy y nant, Mae gwrando ar dy ganig Yn magu ynot chwant Am fod fy hun yn ddiwyd I ganu'n lion ac iach, A chynnydd lond fy mywyd, Fel ti, afonig fach. J. CKJNIONYDD ROBERTS.

Advertising

YN AWR YN BAROD.

DEIGRYN HIRAETH AR OL IONAWRYN.