Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

GlannauV Mersey

Advertising

EBION,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EBION, Neilltuid cyfarfodydd gweddiau Methodist- iaid Lerpwl yr wythnos hon i erfyn am gyfnewidiad yn' y tywydd I an gyhoeddid hyn y Saboth, nid ychydiydoedd nifer y rhai a'i hystyrient dipyngyn^hen ffasiwn, ac a ysgydwent ben, cystal a dweyd nad oedd ddiben yn y byd gwneud y fath beth. Da i'r cyfryw fyddai darllen darlith y Parch. Griffith Williams ar William Ellis, Maen- twrog. Nos Saboth ddiweddaf, cafodd eglwys Anibynol y Tabernacl, Belmont Road, yr hyfrydwch o wrando'r Parch. Griffith Ellis, M.A. ac eglwys M.C. Stanley Road yr hyfrydwch o wrando'r Parch. O. L. Roberts. Da iawn ydyw ambell newid pulpud fel hyn, gan roddi cyfle i'r cynulleidfaoedd glywed arweinwyr y naill enwad a'r llall. Cafodd y ddau frawd wrandawiad astud, a serchog a Brysiwcli newid ill dau eto," ydoedd y teimlad cyffredinol, Gwelwn yn y Dysgedydd am Orffennaf y papur a ddarllennodd y Parch. 0. Evans, D.D., i gyfarfod y gweinidogion yn Birken- head ar y Weinidogaeth, lie y cyferbyna yr hen bregethwyr a'r to presennol mewn modd tra dyddorol. Y mae ganddo air a chyngor doeth ac addfed iawn ar yr hwyl Gymreig," a gallem feddwl nad oes dim salach na mwy dirmygus yn ei olwg na'r hwyl gwneud a'r gwag-frygawtha a glywir pan fo'r meddwl yn brin a'r rhag- baratoad yn fychan. Mewn Dysgedydd blaenorol, gwelsom ysgrif gan y Parch. Griffith Ellis, M.A., yn adolygu llyfr diwinyddol; a chofiasom sylw un brawd, wrth son am ysgrifell ddiball Mr. Ellis —a gynhygiai wobr am y cyhoeddiad Cymraeg perthynol i unrhyw enwad heb ysgrif ynddo o waith y Parch. Griffith Ellis, Bootle. Mab y Parch. Owen Evans, Colwyn Bay (Minneapolis gynt) ydyw Mr. O. Arnold lrl Evans, B.A., sy'n dod i fugeilio eglwys M.C. Garston. Dyma raglen Eisteddfod New Brighton i law, ac ynddi ddewis campus o gystadleuon cerddorol, &c. Ceir cystadleuaeth c6r cym- ysg, c6r meibion, c6r plant, pedwarodau, triawd, deuawd, ac unawdau i bob llais. Y mae'r gwobrwyon am y canu a'r adrodd yn rhai uchel; ac y mae'r rhaglen, at ei gilydd, mor ddeniadol i gystadleuwyr a'r un o'r chwech Eisteddfod a'i blaenorodd yn y Twr. k Y mae Cyngor Eglwysi Rhyddion Bootle yn effro, ac wedi sicrhau y Parch. F. B. Meyer, Llunden, i annerch ei Gyfarfod Mawr,' Ionawr 14, 1908. Y mae Cymru Fydd Bootle hwythau'n effro, ac wedi trefnu rhaglen amrywiol a chyfoethog tuhwnt at y gaeaf nesaf. Ymysg pethau ffres y rhaglen,ceir anerchiad gan un o lenorion blaenaf yr Ynys Werdd, sy'n gweithio gyda'r mudiad i adfer hen iaith y Werddon, ac un arall gan hanesydd mwyaf gofalus a sicr Cymru-y Proff. J. E. Lloyd, M.A., Bangor. •5b" Cyfarfod Misol Lerpwl. Crosshall Street, nos Fercher, y 3ydd cyf. Cydymdeimlwyd a Mr. Twiss, un o swydd- ogion Huyton, ar farwolaeth ei frawd a Mr. Wm. Jones, Elm House, Birkenhead, ar farwolaeth ei dad, am yr hwn y caed sylwadau coffadwriaethol gan Mr. Robert Roberts, Parchn. Griffith Ellis, M.A., ac O. Owens, a Mr. W. Jones (Tyrol) ac a Mr. William Evans, Newsham Drive, oblegid cystudd ei briod, gan hyderu y caffai hi adferiad buan a llwyr. Yna rhoes y llywydd—y Parch. J. D. Evans Garston—ei gadair i fyny mewn geiriau hapus ac arabus iawn i'w olynydd am y chwe mis nesaf, sef Mr. John Morris, Y.H., David Street. Diolchwyd i'r cyn-lywydd yn gynnes am ei waith tra yn y swydd, a theimlid yn sicr y llenwid y gadair gyda thegwch a bonedd- igeiddrwydd gan y llywydd nesaf. Caed mwyafrif mawr yr eglwysi yn ffafr i Mr. H. R. Jones, M.A. (Douglas Road), a Mr. T. H. Williams (Parkfield) gael myned ymlaen am y weinidogaeth, ac i gael sefyll arholiad Awst am fynediad i Ysgol Ragbara- toawl y Bala. Dewiswyd y Parch. R. Humphreys a Mri. Thos. Parry, a N. Bebb ar y Pwyllgor Enwi a Mr. Thomas Jones, Douglas Road, yn gynrychiolydd i Gymanfa Ddirwestol Gwynedd. Oherwydd miri'r Pageant, pasiwyd i gynnal y Cyfarfod Misol nesaf ar y nos Fercher olaf o Orffennaf. Y Parch. Griffith Ellis, M.A., wrth ddwyn cyfrol y Parch. J. H. Morris ar y Genhadaeth i sylw'r cyfarfod, a ddywedai ei bod yn un o'r cyfrolau mwyaf gwir ddyddorol a ddaethai i'w law er's blynyddau:; ac ofnai weithiau nad oedd neb yn darllen llai o lenyddiaeth eu Cyfundeb na swyddogion Methodistiaid Ler- pwl. Prifysgol Lerpwl. Mynych y danodwyd i Lerpwl mai Mamon a Masnach ydyw ei duwiesau, ac mai ychydig a falia ei phobl at eu gilydd am addysg a phethau cain ond y mae'r enllib yn anheg ac anghywir, fel y dengys hanes yr ymdrech- ion ynglyn a'i Phrifysgol. Yr wythnos hon- o heddyw (ddydd Mercher) hydy Sadwrn- dethlir ei phumed flwydd ar hugain mewn amrywiol ffyrdd; ac ymysg y rhai sydd i'w hanrhydeddu, y mae'r Pro-Chancellor E. K. Muspratt a'r Pro-Chancellor Syr E. Law- rence—y ddau i gael gradd Ll.D. a Syr H. E. Roscoe a Syr Oliver Lodge i gael gradd D.Sc. Y mae'r Prifathro, fel y cofir, yn fab yr Ymneilltuwr pybyr, a'r diwinydd meddylgraff, Dr. Dale, Birmingham. 13= Colled fa,wr i eglwys Seisnig Everton Brow ydoedd marwolaeth Mr. R. H. Hughes yr hwn a fu farw ym mhreswyl ei dad, Isfryn, Stoneby dr. ,New Brighton. Yn y cynhebrwng, ddydd Sadwrn, cymerid rhan gan y Parch. Wynn Davies (cyn-fugail Everton Brow), a'r Parch. D. W. Morgan,B.A. ac yn osgordd o ddeutu'r arch cerddai bechgyn y Boys' Brigade sydd ynglyn" a'r eglwys. Yr oedd Mr. Hughes yn Rhyddfrydwr pybyr, ac yn fedrus ryfeddol fel society entertainer chwaeth- us.

Advertising

.--0---BIRKENHEAD. --