Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
fflpr Yr Unig Bapur Cymroeg a Argreffir yn Lerpwl. m SW-YN RHIFYN HEDDYW: Gwiddon ar Absennu a'i dafod." Abwydyn ar Sasiwn Llanerchymedd. Treni trwy'r Dryeb. Llythyr o'r Senedd. ørYN EIN NESAF. Adolygiad y Parch. O. Eilian Owen ar Papers for Thinking Welshmen (A. W. Wade-Evans) Trem y Drych ar Bersonau a Phethau, &o., &c. DYDDIADUR. fl^p^Yr vdys yn awyddus i gael y Dydd- iadur yn gyflawn; a bvddvvn yn ddiolchgar am hysbysrwydd dioed o unrhyw gyfarfod a fo'n cael ei drefnu. Dodir pob cyhoeddiad yn y Dydd- iadur yn rhad ac am ddim. Lerpwl a'r Cylch. Gor 13-15-Agor Capel newydd Oakfleld Road Awst 3-6-Dathlu Seithcant Oed Lerpwl (Pageant) Medi 11—Cor Plant Rhyl St (B.) yn Assembly Hall, Medi 21—Eisteddfod New Brighton Hyd. 15.-16-Cyfat,fodydd Blynyddol Oynianfa Ddir- westol Gwynedd ac Undeb Dirw^stol Morched Gogledd Cymru, yn Princes rd Hyd. 22-Te Parti a Chyngerdd Grove Street Hyd. 29-Cyf. Cystadleuol Unedig Fitzclarence St, Edge Lane, Douglas Rd., a N, ewsham Park Hyd. :30-Tè a Chyngerdd Gt, Mersey Street Tach. 5-8,-Nodachfa Cymru Fydd Anfield ac Everton yn St. George's Hall. Tach. 16—Cyngerddy Welsh Choral yn y Philhar- monic Hall Tach. 26-Cyf. Cystadleuol Anfield Road. Rhag. 7 a 8-Cyfarfod Pregethu Chatham Street, Rhag. 8-Cyfarfod Pregethu Bedyddwyr Edge Lane Rhag. 15-Elfed y.i Gt. Mersey St. Rhag. 21-Plant y Pentre yn y Central Hall. Rhagfyr 25-Cyngerdd Blynyddol Crosshall Street Rhagfyr 26-Eiateddfod y Teralwyr Da. Rhag. 28—Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall 1908 Ion. li-Parch. F. B. Meyer yn Bootle Chwef.—Bazaar Eglwys Anibynol Martin's Lane, Liscaid, Maw. 28—Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall Manceinion. Medi 14 a 15-Cymanfa Bregethu Booth Street. Medi 20 a 21-Cynhadledd y Bobl leuainc. Hyd. 12-Cym. Ganu Methodisti ud yn Moss Side. Cymru. Awst 5-Eisteddfod Corwen. Awst 5-Eisteddfod Newmarket
GlannauV Mersey
GlannauV Mersey Y Methodistiaid Calfinaidd. PRINCES RD—10, Griffith Hughes, 6, L. Lewis DAVID ST.—10-30, L. Lewis, 6, Griffith Hughes FITZCLARENCE ST.—10 a 6, R. Williams, Tywyn DOUGLAS RD,-lO a 6, O. Owens CHATHAM ST.-10-30 a 6, R R. Hughes, Caergybi CROSSHALL STREET—10 a 6, L. Williams, Colwyn ANFIELD RD—10-30 a 6, H. Jones NEWSHAM PARK—10 a 6, R. Aethwy Jones BOOTLE-10 a 6, PARKEIELD—10-30 a 6, J. H. Williams, Llangefni SEA COMBE—10-15 a 6, R. W. Roberts GARSTON—10-30 a 6, T. Rees Jones ROCK FERRY—10-30 a 6, O. J. Owen WALTON—10-30 a 6, J. Lewis, Dublin WATERLOO—10-30 a 6, H. Roberts PEEL RD—10-30 a 6, R. Ernest Jones EDGE LANE—10-30 a 6, J. Roberts WEBSTER ROAD—10-30 a 6, R. Humphreys LAIRD STREET—10-30 a 6, J. Williams, Carno WOODCHURCH RD—10-30 a 6, H. Jones, Trevor NEW BRIGHTON—10-30 a 6-30,W.Thomas,Llanrwst WEST KIRBY-ll a 6, D. R. Jones, Newmarket HUYTON QUARRY—10-30 a 6, R. C. Owen SOUTHPORT—10-30 a 6-30, J. Williams, Huyton WARRINGTON- 10-30 a 6, W. J Roberts WILLIAM MOULT ST—6, J. Evans, B'head ELLESMERE PORT—10 30 a 6-30, BANKHALL—6-15, Yr Achosion Seisnig OAKFIELD RD—10.-45 a 6-30, T. G. Owen EVERTON BROW-10-45 a 6-30,R. Williams,St.David's CATHERINE ST—10-30 a 6-30, J. Roberts,Gwrecsam EGREMONT—10-30 a'6-30, R. G. Jones WILLMER RD-10-45 a 6-30, J. Calvin Thomas Yr Anibynwyr. TABERNACL, BELMONT RD—10-45, J. L Williams, 6-30, Cynwyd Williams, Llanrwst PARK ROAD—10-30, T. Williams, 6, H E Rogers GROVE ST—10-30, R. Williams, 6, D. Adams (LIFTON RD -10-30,D.Adams,6,R.Williams,Dyffryn GT. MERSEY ST-10-30,C.Williams, 6, J. L. Williams MARSH LANE—10-30, H. E. Rogers, 6; T. Williams KENSINGTON-10-30, R.R.Owen, 6, D.W.Owen.Bangor TRINITY RD-1O-30,D. W. Owen,6, R.R. Owen, M oe1 fre [;ISOARD-10-45,G J Williams,6-15,R P Jones Bangor VITTORIA ST—10-30, R.P.Jones, 6. G. J. Williams BALMORAL RD—10-30 a 6, J. Glyn Davies, P'aethwy SOUTHPORT-ll a 6-30, J. Evans PRESCOT—10-30 a 6, Cyfarfod Ysgol Y Wesleaid. MYNYDD SEION-IO-30, E. Humphreys, 6, J. Felix BIRKENHEAD—10-30, W.M.Jones, 6, E. Humphreys WIDNES—10-30 a 6. R. J. Rowlands GARSTON-2-30, W. M. Jones, 6, W. Evans EGREMONT1—10-30, J Felix, 6, W. M. Jones ROCK FERRY- 2-30 a 6, R. J. Williams OAKFIELD—10-30 a 6, Gwel Hysbysiad SHERLOCK ST,-10-30, D. Jones, 6, T. Hughes TRINITY RD.—10-30, D. Davies. 6, D. Jones EDGE HILL-H)-30, H. Tudor, 6, D, Davies KNOWSLEY RD-10-30, Brodyr o Sherlock Street, 6, H. Tudor Y Bedyddwyr WINDSOR ST.—10-30, M. Griffith, 6, O. M Owen BOUSFIELD ST.—10-30, O. M. Owen, 6, M. Griffith EDGE LANE—10-30 a 6, Cyfarfod Gweddi BALLIOL RD.—10-30 a 6, P. Williams EVERTON VIL.-10-30, J. Davies, 6, D Powell WOODLANDS—10-30, D. Powell, 6, J. Davies SEACOMBE—2-30, J. Davies. B'head, 6, D. Davies KNOWSLEY RD.—10-30 a 6, L. W. Lewis Eglwys Rydd y Cymry CANNING ST-10-30, T. Jones, 6-30, H. Jones HIGH PARK ST.—10-30, W. A. Lewis, 6, T. Jones BOOTLE—10-30 a 6, D. Aubrey, Caerfyrddin BIRKENHEAD—10-30, W. O. Jones, 6, D. Davies GARMOYLE ROAD—10-30, 6, W. A. Lewis DONALDSON ST- 0-30, D. Davies, 6, E. Evanb EGREMONT—10-45, E. Evans, 6-30, W. O. Jones Yr Eglwys Sefydledig SANT DEWI—10-30 a 6-30, J. Davies SANT ASAPH—10-45 a 6-30, E. Williams. SANT DEINIOL—11 a 6-30, J. D. Thomas ST WIKIFRSD, B'HBAD—10-45 a 6-30, J. Hughes
Advertising
imr At Eisteddfodwyr a Chystadleuwyr. MR. GOL.,—I brofi mor gyffredinol ydyw cylchrediad y BRYTHON, ac fel y mae'n cyrraedd i gilfachau pellaf y Dywysogaeth, dyma i chwi rai o'r mannau y daeth ymholiad am raglen testynau Eisteddfod Temlwyr Da Lerpwl, a hysbysir ynddo Clwtybont, Chwilog, Abercrave, Cross Inn, Llanfyrnach, Caernarfon, Mon, Dowlais, ac yn y blaen, o Dde a Gogledd. Drwg gennyf nad ydyw'r testynau yn llawn barod, ond fe'u danfonir i'r lliaws a'u gofynant gynted ag y b'ont o'r wasg. I gael at gystadleuwyr Eisteddfodol, eerddorol a llenyddol, diau nad oes hafal i'ch newyddiadur clodwiw. Yr eiddoch yn gywir, R. VAUGHAN JONES. Regent Road, Bootle.
EBION,
EBION, Neilltuid cyfarfodydd gweddiau Methodist- iaid Lerpwl yr wythnos hon i erfyn am gyfnewidiad yn' y tywydd I an gyhoeddid hyn y Saboth, nid ychydiydoedd nifer y rhai a'i hystyrient dipyngyn^hen ffasiwn, ac a ysgydwent ben, cystal a dweyd nad oedd ddiben yn y byd gwneud y fath beth. Da i'r cyfryw fyddai darllen darlith y Parch. Griffith Williams ar William Ellis, Maen- twrog. Nos Saboth ddiweddaf, cafodd eglwys Anibynol y Tabernacl, Belmont Road, yr hyfrydwch o wrando'r Parch. Griffith Ellis, M.A. ac eglwys M.C. Stanley Road yr hyfrydwch o wrando'r Parch. O. L. Roberts. Da iawn ydyw ambell newid pulpud fel hyn, gan roddi cyfle i'r cynulleidfaoedd glywed arweinwyr y naill enwad a'r llall. Cafodd y ddau frawd wrandawiad astud, a serchog a Brysiwcli newid ill dau eto," ydoedd y teimlad cyffredinol, Gwelwn yn y Dysgedydd am Orffennaf y papur a ddarllennodd y Parch. 0. Evans, D.D., i gyfarfod y gweinidogion yn Birken- head ar y Weinidogaeth, lie y cyferbyna yr hen bregethwyr a'r to presennol mewn modd tra dyddorol. Y mae ganddo air a chyngor doeth ac addfed iawn ar yr hwyl Gymreig," a gallem feddwl nad oes dim salach na mwy dirmygus yn ei olwg na'r hwyl gwneud a'r gwag-frygawtha a glywir pan fo'r meddwl yn brin a'r rhag- baratoad yn fychan. Mewn Dysgedydd blaenorol, gwelsom ysgrif gan y Parch. Griffith Ellis, M.A., yn adolygu llyfr diwinyddol; a chofiasom sylw un brawd, wrth son am ysgrifell ddiball Mr. Ellis —a gynhygiai wobr am y cyhoeddiad Cymraeg perthynol i unrhyw enwad heb ysgrif ynddo o waith y Parch. Griffith Ellis, Bootle. Mab y Parch. Owen Evans, Colwyn Bay (Minneapolis gynt) ydyw Mr. O. Arnold lrl Evans, B.A., sy'n dod i fugeilio eglwys M.C. Garston. Dyma raglen Eisteddfod New Brighton i law, ac ynddi ddewis campus o gystadleuon cerddorol, &c. Ceir cystadleuaeth c6r cym- ysg, c6r meibion, c6r plant, pedwarodau, triawd, deuawd, ac unawdau i bob llais. Y mae'r gwobrwyon am y canu a'r adrodd yn rhai uchel; ac y mae'r rhaglen, at ei gilydd, mor ddeniadol i gystadleuwyr a'r un o'r chwech Eisteddfod a'i blaenorodd yn y Twr. k Y mae Cyngor Eglwysi Rhyddion Bootle yn effro, ac wedi sicrhau y Parch. F. B. Meyer, Llunden, i annerch ei Gyfarfod Mawr,' Ionawr 14, 1908. Y mae Cymru Fydd Bootle hwythau'n effro, ac wedi trefnu rhaglen amrywiol a chyfoethog tuhwnt at y gaeaf nesaf. Ymysg pethau ffres y rhaglen,ceir anerchiad gan un o lenorion blaenaf yr Ynys Werdd, sy'n gweithio gyda'r mudiad i adfer hen iaith y Werddon, ac un arall gan hanesydd mwyaf gofalus a sicr Cymru-y Proff. J. E. Lloyd, M.A., Bangor. •5b" Cyfarfod Misol Lerpwl. Crosshall Street, nos Fercher, y 3ydd cyf. Cydymdeimlwyd a Mr. Twiss, un o swydd- ogion Huyton, ar farwolaeth ei frawd a Mr. Wm. Jones, Elm House, Birkenhead, ar farwolaeth ei dad, am yr hwn y caed sylwadau coffadwriaethol gan Mr. Robert Roberts, Parchn. Griffith Ellis, M.A., ac O. Owens, a Mr. W. Jones (Tyrol) ac a Mr. William Evans, Newsham Drive, oblegid cystudd ei briod, gan hyderu y caffai hi adferiad buan a llwyr. Yna rhoes y llywydd—y Parch. J. D. Evans Garston—ei gadair i fyny mewn geiriau hapus ac arabus iawn i'w olynydd am y chwe mis nesaf, sef Mr. John Morris, Y.H., David Street. Diolchwyd i'r cyn-lywydd yn gynnes am ei waith tra yn y swydd, a theimlid yn sicr y llenwid y gadair gyda thegwch a bonedd- igeiddrwydd gan y llywydd nesaf. Caed mwyafrif mawr yr eglwysi yn ffafr i Mr. H. R. Jones, M.A. (Douglas Road), a Mr. T. H. Williams (Parkfield) gael myned ymlaen am y weinidogaeth, ac i gael sefyll arholiad Awst am fynediad i Ysgol Ragbara- toawl y Bala. Dewiswyd y Parch. R. Humphreys a Mri. Thos. Parry, a N. Bebb ar y Pwyllgor Enwi a Mr. Thomas Jones, Douglas Road, yn gynrychiolydd i Gymanfa Ddirwestol Gwynedd. Oherwydd miri'r Pageant, pasiwyd i gynnal y Cyfarfod Misol nesaf ar y nos Fercher olaf o Orffennaf. Y Parch. Griffith Ellis, M.A., wrth ddwyn cyfrol y Parch. J. H. Morris ar y Genhadaeth i sylw'r cyfarfod, a ddywedai ei bod yn un o'r cyfrolau mwyaf gwir ddyddorol a ddaethai i'w law er's blynyddau:; ac ofnai weithiau nad oedd neb yn darllen llai o lenyddiaeth eu Cyfundeb na swyddogion Methodistiaid Ler- pwl. Prifysgol Lerpwl. Mynych y danodwyd i Lerpwl mai Mamon a Masnach ydyw ei duwiesau, ac mai ychydig a falia ei phobl at eu gilydd am addysg a phethau cain ond y mae'r enllib yn anheg ac anghywir, fel y dengys hanes yr ymdrech- ion ynglyn a'i Phrifysgol. Yr wythnos hon- o heddyw (ddydd Mercher) hydy Sadwrn- dethlir ei phumed flwydd ar hugain mewn amrywiol ffyrdd; ac ymysg y rhai sydd i'w hanrhydeddu, y mae'r Pro-Chancellor E. K. Muspratt a'r Pro-Chancellor Syr E. Law- rence—y ddau i gael gradd Ll.D. a Syr H. E. Roscoe a Syr Oliver Lodge i gael gradd D.Sc. Y mae'r Prifathro, fel y cofir, yn fab yr Ymneilltuwr pybyr, a'r diwinydd meddylgraff, Dr. Dale, Birmingham. 13= Colled fa,wr i eglwys Seisnig Everton Brow ydoedd marwolaeth Mr. R. H. Hughes yr hwn a fu farw ym mhreswyl ei dad, Isfryn, Stoneby dr. ,New Brighton. Yn y cynhebrwng, ddydd Sadwrn, cymerid rhan gan y Parch. Wynn Davies (cyn-fugail Everton Brow), a'r Parch. D. W. Morgan,B.A. ac yn osgordd o ddeutu'r arch cerddai bechgyn y Boys' Brigade sydd ynglyn" a'r eglwys. Yr oedd Mr. Hughes yn Rhyddfrydwr pybyr, ac yn fedrus ryfeddol fel society entertainer chwaeth- us.
Advertising
Neuadd y Twr, New Brighton CYNHELIR Y SEITHFED EISTEDDFOD GERDDOROI FLYNYDDOL, Ddydd Sadwrn, Medi 21, 1907. Beirni,aid Cei-ddoi,ol:- HENRY COWARD,Ysw.,Mus.Doc.(Oxon.), DAN PRICE, Ysw.(Llund» a HARRI EVANS, Ysw. Rhaglen gyflawn i'w chael ond anfon stamp i'r Ysgrifennydd j LLEW WYNNE. 1 Hamilton Square, Birhen CAPEL NEWYDD WESLEYAID11 OAKFIELD ROAD. PARHAD Cyfarfodydd AgoriodOI. Pregethir gan y PARCH. D. TECWYN EVANS, B.A NOS SADWRN, GORFFENNAF 13eg, am 7; SABOTH, GORFFENNAF am 2-30 a 6; a'r NOS LUN ddilynol am 7-30. Rhoddir gwahoddiad cynnes i bawb, a gwneir Casgliadau tuag at y Newydd yn yr oil o'r Cyfarfodydd. An ENGLISH SERVICE WILL BE HELD ON r Sunday, July 14th, at 10-30 a.m., WHEN THE Rev. A. H. WALKER, B A. (Secretary of the Liverpool District), will preach. Friends are cordially invited, and a Collection will be made in aid of the Building r Beib! Gymdeithas Gymreig LIVERPOOL. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas, yn HOPL HALL, LIVERPOOL. Nos Fercher, Hyd. 2il, 1907. MANYLION ETC. Liverpool & North Wales Regular Daily Sailings (Sundays Included). From Prince's Landing Stage (weather and cir- cumstances permitting), Every day by La Marguerite (Fridays, "St. Tudno"). 10-45 a.m., for Llandudno, Beaumaris, Bangor and Menai Bridge, allowing 4 hours ashore at Llandudno, and due back about 7-30 p.m. 2-30 p.m. Fridays, Saturdays and Mondays. Early boat on following Monday, due Liverpool 10-15 a.m. Returning at 2-30 p.m. Anglesey Trips 9-15 a m., Tuesdays, 16th and 30th, calling at Llandudno, due back at 8-15 p.m Holyhead Trips at 9-15 a.m., Mondays and Wed- nesdays, allowing 6 hours ashore at Llandudno, due back 8-0 p.m. Through Bookings from Principal Stations. For Fares, &c., apply to the Liverpool and North Wales Steamship Company, Ltd., T. G. Brew, Secretary, 40 Chapel Street, Liverpool. Tel. 6366. Official Guide, post free 3d. IF YOU HAVE A TALKING MACHINE. Then you want Records for same. We stock all the Latest and most Up-to-date Titles. Hear DAVID BRAZELL sing" Ar hyd y nos," Nos Calan," etc., ctc. We have also Records by the following Artistes Edward Davies, Gwladys Koberts, Henry Drew, Tom Owen, Ted and May Hopkins, and the Welsh Choir. If yott have not got a Talking Machine, write us for Lists, etc. of Graphophones, Edison Phono- graphs, and all the Latest Machines. DIBBS, LTl) • 7 RANELAGH PLACE, 4 doors from Lewis's. LIVERPOOL. # CEINION CUDD. F Adgofion.. Hiraethog AM Y PARCH. Michael Roberts, PWLLHELI. Is. 6ch Mewn Llian hardd. Is. 6ch Wedi eu rhanu fel y canlyn Arweiniad. l-Adgofion y Bachgen. 2-Adgofioia y LIane. 3—Yn y Gymdeithasfa. 4—Y Tymor Tywyll. 5-Y Diwedd. Gyda Chywydd o waith yr awdwr, yn disgrifio'r Efcn- gylydd mwyn yn ei odfa fawr yng Nghymdeithasfa Llanrwst. Nid oes ond ychydig gopiau ar lawr, a dylai y rhai ddymuno gael oopi, anfon ar unwaith. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS, 356-358a & 444 Stanley Road, LIVERPOOL. A Ddarllenno, Ystyried. t The Nationalist, A Non-Political Magazine for Wa-IeS, Contents of the July Nuøbet., Our Point of View. Bishop Thirlwall (with Portrait). Strange Coincidences. The Gorsedd of the Bards, .ft Her Majesty the late Queen Victor the Welsh Language. Cymra Fa. Musings of a London Welshman. nd Review of Books. Poetry. Notes Correspondence. -Cft3* To be obtained of all booksellers & bookstall*. Channel Cruises* FARE 6d. Two Hours' Channel C'p The Favourite Saloon Steamer PAT I eng,e other Steamers, specially fitted up for i having: every convenience on board, lea Prince's Landing-stage [weather and otne stances permitting] Week days 3.15 P Sunday 11 15 a.m. [short trip], arriving "a 1-2.45,3.30, 4.30, 6.30. and 7.30 p.m, ANGLESEY.-Near Lia getol, SALE OF FREEHOLD FAB^* MESSRS. E. H. OWEN & SOrroØ Sell bv Public Auction, at to jgfcti Hall, Llangefni, on THURSDAY, 1907,at 2-30 prompt, the Desirable I1 # Farm GLAN'RAFON," Tregaian, border of Llanbedrgoch Parish, about 18 acres, with new House and Outbuildings, &c. Further particulars of Messrs. & ^$ Davies and Evan Jones, Solicitors* Auctioneers-all of Carnarvon. tl¡ COMFORTABLY FURNISHED Oofyfi Cottage TO LET in Anglesey* Dining Room, Kitchen, Pantry, Fo*1 t fo lovely scenery, bracing. ConVeni pgr Shops, Post, Station, Church and Terms moderate.—Apply 25X BrO to t. WANTED—Mother's Help, age able to speak Welsh. r)$c&/ ences and wages.Apply 23 Brython T LANRHAIADR-YN-MOCHNANT.WJ from September 1st, Modern Farro po Furnished, containing large Kitchen. Four Bedrooms, Bathro g'jto#V &c. Croquet Lawn Beautiful^ gy .ijjj J Distance I mile from Station. Within !JløJJfýJ tance to Lake Vyrnwy Waterworks and 01 For terms, apply to J W. JONES r,i^el2» 17 HallviHe Telephone-2270. Richard oweJ" PRACTICAL TAILOR and d COSTUME MAi 152 Dale st" LIVERPOOL. LIVERPOOL. n Printed and Published for 1 -Jit etors, EVANS, SONS & FOULI^^erp^ Chambers, 8 Paradise Street, Kt TPI 1112 Central, by HUGH 358a Stanley Road, Livefl?00' M County of Lancaster. 358;¡ Stanley Road. Liverpool, M County of Lancaster.
.--0---BIRKENHEAD. --
--0- BIRKENHEAD. Angladd Mr. Wm. Jones. Cymerodd angladd Mr. William Jones, Elm House, le ym mynwent Flaybrick Hill ddydd Mercher, a daeth tyrfa liosog ynghyd— lliaws o weinidogion a blaenoriaid dau tu'r afon, ac o Gymry'r dref yn gyffredinol, Darllennwyd yn y ty gan y Parch. O. Owens, Anfield, a gweddiwyd gan y Parch. R. Ernest Jones. Yng nghapel y fynwent drachefn, darllennwyd gan y Parch. Simon G. Evans. B.A., Laird Street caed anerchiad Saesneg gan y Parch. Griffith Ellis, M.A., yn bwrw golwg dros yrfa yr amadawedig, ac yn datgan y parch mawr a deimlai tuag ato bob amser, ac yn cyfeirio'n dyner at y nawn- ddydd oes addfed a dedwydd a dreuliodd ar aelwyd ei fab a'r teulu yn Elm House. Gweddiwyd yn Gymraeg gan y Parch. O. Owens, yn hynod o ddwys ac wrth gyferio at deulu galarus Elm House, sylwai nas gallai weddio am ddim gwell iddynt na chael ohonynt hwythau yr un grefydd a taid." Cludid y corff at y bedd ar ysgwyddau Mri. Wm. Wynne, J. Roberts (Woodlands), Robt. Davies, a Gomer Roberts ac ar fin y bedd, caed anerchiad gan y Parch. O. J. Owen, M.A. gweddiwyd gan y Parch. O. Lloyd Owen (A.), Clifton Road ac wedi canu'r emyn Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd," &c., ymwasgarwyd, gan adael yn y pridd un o'r saint mwyaf siriol a didwyll a aeth erioed i bridd. Yr oedd holl drefn- iadau'r cynhebrwng yn nwylo Mr. Edward Jones, Albert Huuse. Yn y Seiat, nos Iau, caed sylwadau coff- haol am dano gan y Parch. Richard Hum- phreys a nos Saboth, caed pregeth goffa deilwng o'r ddau gan y Parch. O. Owens, Anfield, ac anerchiad cynhwysfawr gan Dr. R. O. Morris yn y seiat ar ol. Fe englynwyd hon am William arall, ond eithaf gwir ydyw am ein hen gydnabod :— :"1" 0 chariwyd i bridd a cherrig—William, Na wyler ond 'chydig, Oherwydd draw ca'dd hardd drig- Lliw a gwrid anllygredig." Woodchurch Road. Ddydd Iau diweddaf, aeth ysgol Sul Woodchurch Road, yn gant ac wyth o nifer, am eu hafdaith i Gaergwrle, tan arweiniad y ddau arolygwr, Mri. Wm.Williams a Robert Evans. Caed taith hyfryd yno ac yn ol, trefniadau bwyd rhagorol a phan y daeth cawod drom o law ar ol te, aed i'r neuadd fwyta i gynnal cyfarfod adloniadol. Caed can swynolfgan Miss Minnie Jones, adroddiad doniol gan Mr. Ifan Thomas, un arall gan ei ferch, Jennie Thomas, a chan Mr. Herbert Roberts. Dis- gynnwyd yn Upton wrth ddychwelyd, a chludwyd y cyfan—ac eithrio'r cyplau ieuainc ieuainc a gyfrifent mai gwell dau nac un ac na llawer-mewn wagonets. Mawr ac angerddol oedd y disgwyl am y lluniau-y cyntaf o'r plant, a'r ail o'r rhai mewn oed—a dynnwyd gan y chwaer fedrus Miss Ferguson y ddau lun yn dda, ac yn gwerthu'n ffluwch. Pawb yn naturiol yn y llun, ac yn gwisgo'i wep ei hun. Un iawn am ddweyd y gwir ydyw camera. Ysgol y Wesleaid. Yr un dydd ymwelodd Ysgol Sabothol Claughton Road a Burton. Er i'r elfennau ymddangos yn fygythiol amser cychwyn, daeth nifer liosog ynghyd i'r Park Station. Cyrhaeddwyd Burton Point Station am 2.45, ac wedi cerdded rhyw ugain munud drwy ddarn o wlad braf, yr oeddym yn y Friends' Hall Farm. Yr oeddym yn bwyta mewn ystafell fu gynt yn addoldy gan y Crynwyr-yr hwn sydd yn dyddio ymhell yn ol. Aeth amryw o'r cyfeillion i ymweled a phalasdy y Sosialydd enwog, A. K. Bulley,— gerddi yr hwn sydd yn agored i bawb. Gresyn gorfod cofnodi i'r mwyniant gael ei wlychu yn enbyd oddeutu 6 o'r gloch bedyddiwyd ni a chawod o wlaw a chenllysg—cyfeillion Woodchurch Road wedi meth eu dal yng Nghaergwrle. Ar y cyfan, er hynny, mwyn- haodd 150 ohonom ein hunain yn rhagorol. Vittoria Street. Nos Iau ddiweddaf, bu Pedrog yng nghapel yr Anibynwyr, Vittoria Street, yn darlithio ei ddarlith fawr ar Hwfa Mon. Yr oedd dwy o Ysgolion Sul y dref yn y wlad y dydd hwnnw, a chollodd lliaws y cyfle a garasent i glywed prifardd ar brifardd. Prin y caiff neb adgyfodiad llwyrach na Hwfa yn y ddar- lith hon. Adgyfodid ei lais—o'r wich fain hyd at y gawrfloedd eisteddfodol adgyfodid ystum ei gorff, adroddid ei ddarnau godidocaf a'i linellau mwyaf ftarawiadol brithid y darlun ag ami storHa yrai'r cynhulliad i'w ddyble a chyn y diwedd gosodid yr Hwfa yn daclus yn ei le ar astell anfarwolion bardd- ol ei ddydd a'i oes. Cadeirid gan Mr. Wm. Jones, Penrhos, Lerpwl a diau, rhyngddo ef a'r cynhulliad, y caed elw da at yr achos. Nos Sadwrn a'r Saboth, cynhelid y cyfarfod pregethu, y Parchn. James Charles, Dinbych, ac O. M. Owen (B.), Windsor'Street, Lerpwl, yn gweinyddu. Eglwys Anibynol Martin's Lane. Y Saboth diweddaf, caed gwasanaeth blodeu tlws anarferol yn y capel uchod. Anrhegwyd amryw o'r plant a Thestamentau red-letter am gysondeb yn dod i'r ysgol a rhannwyd y gwobrwyon ar ran arolygwr yr ysgol (y Cynghorydd David Hughes) gan y gweinidog (y Parch. T. P. Davies). Caed gair o anogaeth hefyd i'r plant gan Mr. E. Jones,%Y.H., Trallwm. Ar ddiwedd y gwas- anaeth, aeth y plant a'r blodeu i'r Central Hospital, er mwyn pereiddio'r ystafelloedd a sirioli'r cleifion.