Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Llythyr Gwleidyddol¡

[No title]

Advertising

Lien a Chan.

COLOfN y GWEITHIWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOfN y GWEITHIWR. [GAN HESGIN.] Beth yw ystyr Jarrow ? MAIS Plaid Llafur wedi bod ar uchel fannau'r maes er pan gyhoeddwyd canlyniad etholiad Jarrow. Ac nid heb reswm digonnol. oblegid y mae yr etholiad uchod wedi bod yn agoriad llygad i'r hoil bleidiau. I gychwyn, dywedid wrthym gan Ryddfrydwyr a Thoriaid ar ol yr etholiad cyffredinol ddeunaw mis yn ol i ni fod yn lwcus anghyffredin i gael ein deng-wr ar hugain i'r Senedd-flukes, medde nhw, oedd yn cyfrif am ddychweliad dwy ran o dair ohonynt. Wnaiff hanner y rhai bleidloisiodd i'ch hymgeiswyr chwi y tro hwn byth wneud yr un peth eto," oedd byrdwn eu can. Jarroiv gives the lie direct to that, at any rate Fe boliodd Pete Curran yn 1906, pan nad oedd ond clan ymgeisydd, 5,093; a'r tro hwn fe bleidleisiodd 4,698 drosto. Fo welwch mai dim ond prin 400 llai oedd ei bleidwyr. O'r tu arall, fe boliodd Palmer, y Rhyddfrydwr, 8,047 yn 1906, ond methodd "Sub Rosa," druan, a pherswadio rhagor na 3,474 i dda.l i gredu ym "mhlaid yr egwydd- orion." Aeth 4 o bob 7 o Ryddfrydwyr" 1908 rhwng y cwn a'r brain yn 1907. Y gwir am dani yw pan ymuna un a Phlaid Llafur-- he's done for for good Wrth gwrs, fe gawn un 'rwan ac yn y man yn cael cwymp oddi- wrfch ras. A phan ddigwydd hynny, mae pawb—Arminiaid a Chalfiniaid-yn cytuno mai anobeithiol yw ei gyflwr: mae ym- adnewyddu drachefn i edifeirweh allan o'r cwestiwn. Beth oedd y prif reswm dros i ymgeisydd y Llywodraeth fynd dan y tonnau, mecldo chwi. Wel, fe gefais sgwrs ag un fu yno ar hyd y frwydr yn dcliweddar* A'i farn ef yw i dri pheth ddylanwadu i raddau pell iawn ar yr etliolwyr, sef yn gyntaf poth, y Gyllideb collodd y Rhydd- frydwyr gannoedd o bleidleisiau oherwydd gwaith Mr. Ascpiitli yn tynnu troth yr incwm i lawr, ac yn gwrthod tynnu dim oddiar do, siwgr, na thybaco. Ymddongys i Curran a Rose Innes wneud defnydd o'r ffaith hon with deadly effect. Danghosai y cyntaf, wrth gwrs, mai plaid y dosbarth canol a'r pluto- crats yw y Liberals, ac er fod Asquith wedi lied addo-a dim ond lied addo, cofier--y bydd iddo wneud cychwyniad gydag old age pensions y flwyddyn nesaf, y dosbarth gweithiol sydd yn mynd i dalu am danynt 'Roedd Rose Innes, y Tariff Reformer, o'r tu arall yn pwyntio yn ysgornllyd at y Free Trade Liberals sydd yn cymeryd arnynt fynd i ffitiau bron pan sonir am doll ar ymborth," ac ar yr un pryd yn cymeryd "gofal am gadw y trethi sydd mewn grym still on. A gwir a ddywedai. Pa wahaniaeth sydd rhwng talu treth o 5c. y pwys ar de, a d. y pwys ar siwgr, a thalu 1 y chwarter, 2 dyweder, ar wenith, a le. y pwys ar gig. Why, the laugh is on the side of the Tariff Reformer Rliagrith, syr, rhagrith noeth- lymun, ydyw ffiloreg y Free Trader a'r Tariff Reformer. Cyhyd ag y pery y gyfundrefn bresennol, sydd yn gorfodi dyn i geisio gael ei fasgal ar ei gyd-ddyn, dydi hi fawr o wahaniaeth p'run ai masnach rydd ai diffyn- dollaeth gawn ni. Y rheswm fy mod i yn Free Trader ydyw fod llai o fantais i'r mono- polist o dan Fasnach Rydd. 'Rydw i yn hollol o'r un farn a'r hen faledwr Sosialaidd hwnnw ganodd fel hyn Mae rhai mewn ffair a marchnad A'u hymgais yn ddiwad I werthu'n ddigon uchel A phrynnu'n rhemp o rad Mae'n anodd peidio diolch Pan welir ambell un, Am drin y byd fel yna Heb gael ei ffordd ei hun. Yr ail beth filwriodd yn erbyn S.L.H. ac o blaid Curran oedd difrawder y Llywodraeth ynghylch y rhai diwaith, ac yn arbennig agwedd y Gwir Anrhydeddus John Burns yng ngweinyddiad y Ddoddf brosennol. Nid oes gan y rank and file Liberal-yn enwedig yn y trefi bychain a'r pentrefi-yr un ddir- nadaoth am y siomedigaeth sydd ymhlith gweithwyr ein trefi a'n dinasoedd mawrion ar y cwestiwn hwn. Yr wyf fi yn gwybod drwy brofiad personol o'r newid oclir sydd wedi cymeryd lie. Pan wnelai un o siarad- wyr yr l.L.P. gyfeiriad at John Burns, ychydig wedi yr etholiad cyffredinol, bloedd- iai y crowd yn ei wyneb, You arc only jealous of him They don't do that now! Choelia'i fawr Why don't you go for John Burns" yw'r cri erbyn hyn Y trydydd cwestiwn oodd yn ddrag ar olwynion y Rhycldfrydwyr oodd sham-fig hi y Llywodraeth yn erbyn Ty'r Arglwyddi. Fe welodd yr etholwyr drwy'r cynllun ar iinwaitli.gwelsant mai ei effaith (os nad ei amcan) os byth y daw o i rym, fydd gwneud Ty'r Arglwyddi yu gadarnach nag erioeal, gan ei fod yn cymeryd yn ganiataol hawl yr arglwyddi etifeddo'l nad ydynt yn cynryeh- ioli neb na dim ond cwn a ceffylau, i ymyryd (X rnesurau basiwyd gan gynrychiolwyr y bobl. Short cut Plaid Liafur yw ei ddi- y bobl. Short cut Plaid Llafur yw ei ddi- ddymu, a chredaf mai dyna farn pob Rhydd- frydwr hefyd sydd yn werth ei halen. t;if.¡.,th Gofynnais i'm cymrawd, "Beth tarn yr Ymneilltuwyr a'r Dirwestwyr yn Jarrow y" 0, meddai, we did'nt trouble about them they can always be relied upon to lick the stick that beats them—and vote Liberal— just as their Welsh brethren do Beth am Colne Valley. Dyma etholiad ddyddorol J- arall. Gan nad beth fydd safle Victor Grayson y Sosiab ydd, mae un peth yn hollol sicr, sef mai nid y Rhyddfrydwr fydd i mown. c-" 'Rwy'n gweld fod fy ngofod yn mynd yn brin, felly terfynaf drwy ofyn cwestiwn i'm darllenwyr Beth ydyeh chwi yn feddwl o waith y Llywodraeth drwy Syr Edward Grey yn bwriadu gwneud cytundeb a Rwsia ? I b'le mae'r wlad yma yn clrifftio, deydwch ?"

[No title]

Advertising