Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Nodion o Fanceinion.

PljLpUDAu MANCHESTER.

Advertising

YMDDIDDAN

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YMDDIDDAN a'r Parch. David Evan Jones, y cenhadwr o Lushai, ynghylch y wlad a'i thrigolion, 6c. GAN i ni dreulio amryw oriau yng nghym- deithas y brawd anwyl ag y mae ei enw uchod yn ystod yr wythnos hon, meddyliasom y byddai yn dda gan eich darllenwyr gael ychydig o hanes y wlad y mae Mr. Jones wedi bod yn llafurio ynddi, ac felly rhoddwn i lawr rai o'r cwestiynau a ofynasom iddo, a'i atebion yntau iddynt. 1. Ymha le y mae Lushai, ac mewn pa faint o amser y gallwch deithio yno o Calcutta? Yn Neheudir Assam y mae Lushai, rhwng talaeth fawr Bengal a Burmah. Y ffordd gyntaf i fyned yno o Calcutta ydyw gyda r Eastern Bengal Railway i Silchar, sef yr orsaf genhadol berthynol i'r Methodistiaid agosaf atom, ac fe gymer hvn Ni ni ddau ddiwrnod a dwy noswaith o deithio, ac y mae y pellter oddeutu pedwar cant o filltiroedd; wedi hynny cerddwn am wyth niwrnod, gan godi yn raddol nes cyrraedd Aijal, sef prif orsaf filwrol y wlad. Gellir myned yno hefyd gydag agerlongau o Calcutta i Silchar, ac wedi hynny gyda chwch bychan hyd Sairang, yr hwn le sydd o fewn taith diwrnod i Aijal, ac yn y ffordd hon fe gymer i ni dair wythnos neu fis. Y mae Aijal mor uchel a phen y Wyddfa, ac oddiyno gallwn weled mynyddoedd o bum mil i wyth o droed- feddi o uchter. f 2. Beth ydyw maint y wlad, a pha fath wlad ydyw ? Oddeutu yr un faint a Chymru. Gwlad fynyddig ydyw, ond yn wahanol i Gymru am nad oes gwastadeddau ynddi, ac yn wahanol i Cassia am nad ydyw pennau y mynyddoedd yn wastad. Rhesi o fynydd- oedd cribog sydd acw yn rhedeg yn gyf- ochrog o'r gogledd i'r dehau. Gorchuddir yr holl wlad a choedwigoedd mawrion, a rhed rhai o'r afonydd o'r gogledd a'r lleill i'r dehau. 3. Pa fath ydyw hinsawdd y wlad at wahanol dymhorau y flwyddyn ? Yn y gaeaf, sef o Tachwedd hyd Chwefror, ceir sychter gydag ychydig lwydrew ar bennau y mynyddoedd uchaf. Yn y gwanwyn, sef o Chwefror hyd Mai, tyr allan ystormydd o fellt a tharanau o'r gogledd-orllewm, ac amlhant fel y cynhesa yr hin. Yn yr haf, sef o Mehefin hyd Medi, ceir gwlawogydd parhaus trwy gyfrwng y trafnidwynt (mon- soon) trwy yr hwn hefyd yceir yrhan fwyaf o'r gwlawogydd dros yr oil o India. Yn yr hydref, sef o Medi hyd Tachwedd, y mae y gwlawogydd yn lleihau, a'r cnydau yn add- feiu ac yn dechreu cael eu cynnull, yr hwn waith a orffennir yn Rhagfyr a Ionawr. Y mae yr hinsawdd yn gynhesach acw ar hyd y flwyddyn nac ydyw yn y wlad hon yn yr haf. Ni cheir dim rhew nac eira yn yr holl wlad. 4. Pa faint ydyw nifer y trigolion, a pha fath bobl ydynt Yr oedd rhif poblogaeth Lushai yn ol y cyfrif diweddaf yn 80,000, o ba rai y mae 50,000 yn y rhan ogleddol o'r wlad lie y^mae ein cenhadeath ni wedi ei sefydlu, a 30,000 yn rhan ddeheuol y wlad lie y mae cenhadaeth y Bedyddwyr yn gweithio. Hanant o'r Mongoliaid (ymhlith y rhai y bu James Gilmour yn llafurio) fel y rhan fwyaf o lwyth- au Bryniau Burmah Ogleddol ac Assam. Pobl fyr o gorffolaeth ydynt, gyda llygaid hirgrwn, tebyg i'r Burmese, bochgernau uchel, a thrwyn smwt. Nid ydyw y meibion na'r merched yn torri eu gwallt, ond rhannant ef yn y canol, a chylymant ef y tu ol I w pennau. Dadwreiddia y meibion y min- gudyn (moustache) o dan eu trwynau, gan ei adael yn y cornelau, ac ychydig iawn sydd yn gwisgo barf. Danghosant lawer o ddewr- der wrth hela bwystfilod rheibus ac ymladd ag elfennau natur, megis pan oddiweddir hwy gan ystormydd mawrion neu pan y llosgir pentrefi, ond y maent yn hynod fradwrus mewn rhyfeloedd, ac nis gellir ymddiried ond ychydig iddynt. Y maent yn hoff o blant, ac yn garedig wrth ddieithnaid a thlodion. Y maent yn bur arubynol, a rheol y wlad ydyw "y trechaf treisied ar gwanaf gwaedded." Yr wyf h yn bersonol wedfcael pob caredigrwydd oddiar■ eu llaw, ac ni bum mewn enbydrwydd am fy einioes o gwbl, er i mi dreulio misoedd mewn rhannau pellenig o'r wlad na fu dyn gwyn ynddynt erl5.6 Pa fodd y mae y bobl yn byw ? Cenedl o amaethwyr ydynt, a'r got ydyw yr grefftwr sydd yn eu plith ond y mae hyd vn oed ganddo ef, a'r offeiriad, a r pennaeth feusydd i'w llafurio. Torrir y «°^vigoedd 1 lawr yn Ionawr, llosgir hwy yn Ebnll nes yr ymddengys darn mawr o'r wlad ar dan, a chlywir fffwydriadau y bamboo fel ergydxon mewn rhyfel am ddwy neu dair milltir o bellter. Yna heuir rice mewn tyllau bychain troedfedd neu ddwy o bellter oddiwrth ei gflydd a'r Indian Corn rhywlathen neu ddwy §Sth eu gilydd yn yr un mae. Heblaw hynny, ceir cotwm, tybaco, ac annj f/siau yn wasgaredig yn yr bvdd yr amaethwr angen am danynt. Pian a^t ychydig o bytatws melus, a heuant mebls o gwmpas y ty- a godir yng nghanol y maes, a fwelir y blodyn cribceiliog yma ac acw ar hyd y maes, yr hwn ydyw eu noddfa i redeg i'w chysgod rhag yr ysbrydion drwg. Tyflr pys hefyd i ddringo boncyff uchel ambell i goeden fydd heb ei thorn i awr. Ceir y enwd cyntaf i mewn ym Medi, a chyda thywydd fiafriol bydd yr holl gynhaeaf I inJwn erbyn dechreu y flwyddyn. Cedwir STan helaeth o'r rice yn y ty sydd yn y maes neu mewn adeilad arall hanner y ffordd 11 nentref hvd nes y bydd ei eisieu. 6. Pa anifeiliaid a bwystfilod sydd yn y W'ctn, mooh duon, geifr, a y creaduriaid dof a gedwir gan y Oval y gelwir y gwartheg acw, ac y maent yn llawer mwy na'r gwartheg duon Cy™rei8- Ceir hwy yn wylltion hefyd. Y mae yr eliffant acw hefyd, y teigr, y llewpard, y rhinoceros, yr arth, cwn mawr gwylltion, cathod gwylltion, porcupine, ceins, y baeda gwyllt, geifr gwylltion, ac amryw fan gread- uriaid, megis y wiwer a llygod o bob math. Y mae y morgrug gwynnion yn flinder mawr i ni hefyd, a gelod, &c., &c. 7. Beth am adar y wlad ? Ceir acw yr eryr, y fwltwr, a'r rhai a ad- waenir yn y wlad hon wrth yr enwau pheasant, kingfisher, y parrot, dylluan, aderyn y tô, y fran, y wennol, y golomen, a llu o adar ereill, rhai yn brydferth iawn ac ereill yn swynol odiaeth eu can. 8. Beth am grefydd y Lusheaid ? Credant mewn rhyw fath o dduw, yr hwn sydd yn greawdwr pob peth, ond nid ydynt yn ei addoli oddieithr mewn un wyl yn flynyddol, pryd y rhoddant gadair wag iddo ar lwyfan. Ni wna y duw hwn niwed i neb. Credant fod ysbryd arall o'r enw Khuavang, yr hwn sydd yn preswylio y coedwigoedd, ac i hwn y priodolir pob galanastra mawr a ddigwydd yn y wlad. I'r ysbrydion drwg y priodolir afiechydon cyffredin, ac iddynt hwy yr aberthant eu hanifeiliaid, ac felly y tlodir llawer o deuluoedd yn y wlad. Credant fod yr ysbrydion drwg yn preswylio mewn amryw leoedd yn y goedwig, ac os ymwelir ag un o'r mannau hynny, bydd yn angen- rheidiol aberthu rhag i'r ysbryd drwg eu meddiannu. Credant hefyd fod acw lawer o bersonau yn y wlad yn meddu yr hyn a alwant yn lygad mall (evil eye), ac y gall y person hwn feddiannu person arall gorff ac enaid a'i gael i wneuthur pob peth fel y inynno, trwy edrych arno, neu rhyw foddion arall. 9. A oes acw aberthu yn y wlad 't Oes, aberthant ieir, cwn, moch, a gwartheg. Gwnant ddelwau bychain clai o ddynion a chreaduriaid y rhai a aberthant yn lie y byw. Ni ddifethir cig yr anifeiliaid, ond bwyteir ef gan yr offeiriad a'r teulu, a rhoddir darnau bychain o amryw rannau o gorff yr anifail ar yr allor i ddyhuddo yr ysbryd drwg, yr hwn a ddaw yn ystod y nos i'w bwyta (ond y gwirionedd yw mai y cwn a'r moch fydd yn gwledda arnynt). Gweddiant wrth aberthu, ac weithiau rhoddant ychydig o waed yr anifail ar amryw rannau o gorff y claf. 10. Beth sydd gennych i'w ddweyd am y genhadaeth ar ol bod yn llafurio yn y wlad am ddeng mlynedd ? Dechreuwyd y gwaith cenhadol acw gan Mri. Lorrain o Savidge, ond nid oedd un Cristion proffesedig yn y wlad pan aethum yno. Bedyddiwyd Khuma, y Cristion cyntaf yn y flwyddyn 1899, sef ymhen dwy flynedd ar ol i mi gyrraedd y wlad, ac y mae wedi dal ei dir yn dda hyd yma, ac yn un o'r pregethwyr goreu yn y wlad. Erbyn hyn, y mae gennym yn agos i ddau gant o gyflawn aelodau. Yr oeddwn yn bedyddio pym- theg a deugain y Saboth olaf cyn cychwyn adref, ac y mae gennym rai ugeiniau o ym- geiswyr am aelodaeth. Rhan bwysig o'r gwaith cenhadol yn India ydyw yr addysgol a'r llenyddol ac y mae llywodraeth Lushai wedi cyflwyno addysg y wlad i'r cenhadon, ac yn rhoddi symiau sylweddol o arian tuag at gario y gwaith ymlaen, ac y mae gennym oddeutu dau gant o blant yn dyfod i'r ysgol ddyddiol yn gyson. Cyfieithiwyd a chyfansoddwyd amryw lyfrau at wasanaeth yr ysgolion dyddiol, a rhai o lyfrau y Testament Newydd a llyfrau cre- fyddol ereill at wasanaeth yr eglwysi. Y mae misolyn yn cael ei argraffu gan y llywodraeth a'i arolygu gan y cenhadon er ys rhai blyn- yddoedd, amcan yr hwn ydyw cyfrannu gwybodaeth grefyddol a chyffredinol i'r trigolion. 11. Pa fath ydyw y bobl o ran eu ham- gylchiadau ? Tlodion iawn ydynt. Gwisgant ddillad carpiog, a phreswyliant mewn tai bregus. Ac eto y mae y Cristionogion yn cadw pedwar o efengylwyr teithiol, a cheisiwn eu dysgu oil i gyfrannu y ddegfed ran o'u henillion i'r Arglwydd, a gwna llawer ohonynt hynny. Nid oedd amser i holi ychwaneg ar Mr. Jones, gan fod yn rhaid iddo fyned ymaith i gynnal cvfarfod cenhadol i un o gapelau Penllyn. Amlwg ydyw fod gwaith mawr i'w wneuthur yn Lushai, a'r gweithwyr yn anaml. Meddyliwch am ddim ond dau gen- hadwr yn llafurio ymhlith 50,000 o bagan- iaid Beth ydyw hyn rhwng cynmfer ? Gan hynny, gweddiwn yn feunyddiol am i Arglwydd y Cynhaeaf i ddanfon allan weithwyr i'w gynhaeaf, a chyfrannwn hyd eithaf ein gallu at y gwaith. Llandderfel, Gorffennaf 12, 1907. I,.J.W. O.Y.—Dymunwn i'r holl newyddiaduron gyhoeddi yr ymddiddan uchod. I.J.W.

Advertising