Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
NOW READY OFFICIAL LIST OF SUBJECTS Llangollen Royal National Eisteddfod, 1908. Price 6d. ø Post 7 td. EVANS, SONS FOULKES, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road, Liverpool. CYNRIC, Y TEILIWR ø CYMREIG. 14 SMARTNESS WITH ECONOMY RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS AT REASONABLE PRICES ø E. C. Kenrick, ø62 RlNSHAtV STREETS mRMFQRDS ■ RGA M RACKERS
pr..., I TREM 1 I TRWY Y DRYCH.…
pr. I TREM 1 I TRWY Y DRYCH. j HH—IB— 9 Syr John Gorst. ER nad yn iach yn y ffydd boliticaidd ar amryw gwestiynau, mae Syr John yn un o'r dynion cyhoeddus y mae yn werth troi y Drycli arno bob tro y saif i fyny i amierch cynulleidfa ar bwnc addysg. Yn Redham, ynglyn a Chartref Amddifaid, y llefarai y waith hon. Dywedai fod y Wladwriaeth yn rhwym o ofalu am gadwraeth ac addysg plant amddifaid, ond fod y fath amherffeith- rwydd yng ngweinyddiad y ddeddf, a thuedd i anwybyddu hawliau y plant yn gyfryw fel yr oedd llawer ohonynt yn -dioddef ar gam. Dywedai bethau llym- ion am yr arferiad o anfon gweddwon i'r tlotai, a'u plant, a garent, i sefydliadau He na ddanghosid fawr o gydymdeimlad a charedigrwydd tuag atynt. Cedwid hwynt mewn aw-yrgylch oerllyd felly hyd oni fyddent tuag 16eg oed. Mynnych y dywedid gan wleidyddwyr fod plant yn gyfoeth cenedlaethol gwerthfawr, ond rhyfedd mor barod oeddynt i wario y cyfoeth hwnnw yn ofer. Yr oedd yr Ellmyniaid yn fwy gofalus, ac yn Germani cydnabyddid yn briodol bwysigrwydd cenedlaetbol y plant. Mewn canlyniad, ofnai Syr John y byddai y wlad honno yn y genhedlaeth nesaf ymhell ar y blaen i Loegr, ac yn llawer mwy iach a dysged- ig. Geiriau y doeth yw y rhai hyn, a da pe byddai ychwaneg yn edrych ar y mater yn yr un goleu. Mae gan Loegr lawer i'w ddysgu gyda golwg ar ei dyled- swydd i'r gwan ieuanc, yn gystal a'r gwan hen. Ysbrydegaeth Nid ydym yn honni y gall craffter y Drych ganfod ysbrydion, er fod ami un digon tebyg i ysbryd o ran ei deneuwch wedi ei ddal gan ei drem. Ond y mae rhai a fynnant i ni gredu eu bod hwy mewn cymundeb ag ysbrydoedd y rhai ymadawedig yn ddigon eglur iddo. Mewn achos a wrandawid ym Mrawdlys Man- chester y dydd o'r blaen, haerai dyn ei fod mewn cymundeb ag ysbryd John pright," a'i fod yn cael ymgom ag ef pryd y mynnai. Ystwff fel hyn a gredir gan filoedd o bobl hygoelus. Yn y dyddiau gynt dywedid fod ysbrydion yn aflonyddu dynion byw; ond erbyn hyn. mae pethau wedi newid, a'r byw, os :v:r y stori, yn aflonyddu ar y meirw. A aniatau yr hyn a haerir am y posibl- rwydd o alw i fyny ysbrydion fel hyn, yrucdengys i ni yn beth pur ddi-fudd, He nad yw y rhai a aethant ymaith wedi emiiil dim mewn urddas na doethineb. Y raaent at alwad y mediums cywrain, ac yn lie esgyn o'r dyn i'r angel, yn disgyn o'r dyn i'r mwnci. Buasem yn disgwyl fod iddynt ryw waith gwell i'w wneud "tu hwnt i'r lien na bod at wasanaeth hwn a'r llall, i gario ystraeon dros ffin deufyd, symud byrddau, a lolian di- bwrpas mewn gwahanol ffyrdd. Y syn- iad fod yr hen John Bright ardderchog wedi colli arni fel hyn Ymddengys i ni fel y ffwlbri mwyaf gwrthun. Ond mae rhai pobl mor hoff o ymyryd a busnes pobl ereill fel nas gallant beidio ceisio eu hysbeilio o'u cyfrinachau yn y byd arall. Peth od na bai rhywrai—os nad ydynt hefyd-yn dweyd eu bod mewn ysgwrs a'r Apostolion. Yn wir, pe buasai budd o gael at rhywun o'r meirw anfarwol, yr Apostol. Paul fuasai hwnnw. Ond mae'n bosibl ei fod ef a'i frodyr wedi trafaelio yn rhy bell i'r byd anweledig erbyn hyn, fel nad oes modd dod o hyd iddynt. Gadawer llonydd i'r rhai sydd wedi ein gadael, ac os bydd iddynt genadwri o werth atom, diau yr anfonir hwynt heb i ni eu galw, os ydynt yn ysbrydion da ac am y lleill, y mae gennym lawer gormod ohonynt mewn cnawd yr ochr hon, heb gael ein blino ag ychwaneg. Eleazar a Marc. Yn anisgwyliadwy iawn cawsoin ein cydwladwr galluog, Mr. Eleazar Roberts, a'r digrifwr athrylithgar Mark Twain— y ddau o flaen y Drych yr un adeg. A oedd Meddyliwr yng nghwrdd croeso yr ymwelwr enwog o America, nis gwydd- om ond buasai yn ychwanegiad at fri meddwl ac ysbryd y cwmni, a dylasai fod yno gynrychiolaeth o. blith y Cymry llengar. Darllenasom ninnau anerchiad doniol, humorous, Mark Twain gydag awch, a'i ddisgrifiad o'r drafodaeth fu rhyngddo a'i gyfaill o fardd yn San Francis- co, ddeugain rnlynedd yn ol, gyda golwg ar y ffordd ddymunol i'r bardd gyflawni hunan-laddiad Ac yn llythyr nodwedd- iadol Mr. Eleazar Roberts yn y BRYTHON diweddar ar Senedd y Byd," sef Cyn- hadledd Heddwch yr Hague,darllenasom y frawddeg, Gwneud peth Sydd yn han- fodol farbaraidd ynddo ei hun yn llai barbaraidd yn ei weinyddiad." Ac ar y pwynt hwn y digwyddodd i'r Cymro a'r lanci cydgwrdd o flaen y Dry Oh. Yr hyn a wnai sylwadau y digrifwr yn chwerthin- llyd oedd y gwrthuni o geisio cynllunio y ffordd oreu i gyflawni yr hyn oedd ynddo ei hun yn ddrwg, ac yr oedd llawer o gydwybod yn y chwerthin fu. Yr un gwirionedd a ysgrifennodd Meddyliwr mewn sobrwydd yn ei lythyr. Ie, yn sicr, ychydig a welir yn yr Hague o gyd- ymdeimlad a'r amcan o newid Rhyfel am Gyflafareddiad, a Chledd am Reswrn. Mae cynrychiolwyr y gwahanol deyrn- asoedd yn siarad heddwch, ac yn meddwl rhyfel. Gwelsom gydgyfarfyddiad cyff- elyb o'r blaen, ac un o ormeswyr pennaf y byd yn swagro fwyaf o bawb. Cyn y ceir heddwch dwfn a pharhaol, bydd raid i'r egwyddorion a'i cynhyrchant gael eu lie yn argyhoeddiadau ac ysbryd y bobl. Mae gan hyd yn oed Gristion- ogion proffesedig lawer i'w ddysgu. Mae teyrnasoedd byd eu gyddfau dan arfogaeth yn wawdiaeth ar y Bregeth ar y Mynydd. Boddir hyfrydlais y Gwynfydau gan glinc y cledd a rhu y fagnel. Y felltith yw, fod rhyfel yn cael ei ddysgu, ac mae dysgu crefft yn magu ei hysbryd. Diolch am ambell un fel y diweddar Mr. Henry Richard; ac o'r ami wasanaeth a wnaeth Mr. Eleazer Roberts yn ei oes, nid y lleiaf yw ei ddadl gref a chyson, drwy wasg ac ar lwyfan, dros dangnefedd ar y ddaear." San Francisco. Dyma'r Drych ar borthladd 'Frisco, a gwelwn acw Japaniaid yn photograffu y cadarnfeydd. I ba beth, tybed ? Wel, mae rhywun wedi ei weled a'i ddrwgdybio, ac mewn canlyniad cymerwyd ef i'r ddalfa gan yr heddgeidwaid, ac i'r cwt ag ef yn y man. Dyma yr holl fyd gwareiddiedig yn clywed y newydd, ac inewn eyffro mawr o gwr i gwr Nid y Jap fu y cyntaf i gymeryd darlun o'r un golygfeydd, ond ni fu y fath helynt gydag ereill. Y mae yr esboniad yn eglur. I ddechreu, cafodd rhai J aps eu camdrin dro yn ol gan yr lancwys, a pharodd hynny gyffro. Gwelodd rhai yn y peth achlysur cweryl rhwng Jap a Jonathan, a dechreuodd y dychymyg nwydwyllt broffwydo drwg. Wedi hynny, cyhoeddodd Mr. Roosevelt y gorchymyn i'r Llynges Americanaidd gae ei chryfhau yn y Tawelfor, yr hyn, wrth gwrs, a gymerid ar unwaith fel arwydd fod y mor hwnnw i fod yn wahanol i'w enw tlws. A dyna ychwaneg o ddychmygion erchyll yn cael eu lledu drwy y wasg. At y cwbl, dyma y J'ap hwn wedi ei ddal yn yr act o dynnu llun porthladd a chadarnfeydd 'Frisco. Ac erbyn hyn, ymddengys nad oes le i amheuaeth gan bobl hygoelus a chreawd- wyr panicau nad oes ysbryd a chynllun rhyfel yn corddi y Japs dewr. Mae heb e brofi pan yr ydym yn dal y Drych ar y dyn byr-felyn pa un ai o gywreinrwydd neu amcan syml galwedigaeth onest, ynte fel yspiwr llechwraidd ar ran ei genedl, y gwnaeth efe hyn oil ond mae y daroganwyr drwg, proffwydi cyffro, yn sicrhau y gwaethaf. Gwir y gall fod drwg yn y peth, ond y mae yn syn mor barod yw meddyliau rhai pobl i ganfod unrhyw beth y gellir ei droi i ffafr cyffro a braw. Mae llawer o feio ar yr hen bregethwyr am geisio dychryn pobl, ond ymddengys i ni nad oes dim yn cymeryd cystal gyda'r cyhoedd yn gyffredinol-dim yn dweyd cymaint ar y bobl, beth bynnag- a newyddion cynnwrf ac erchylldra, gan nad pa mor ddisail fyddont. Rhyfedd, gymaint o awdurdod ar y byd a fedd dychymyg a nwyd, rhagor barn a rheswm Ond mae yr un ysbryd drwg ar waith ymhob cylch o gymdeithas, a miloedd o gwerylon cas yn tarddu o feddyliau drwg-dybus. Pierpont Morgan. Yr oeddym wedi ei golli ef er's tro bellach, ond o'r diwedd dyma lygad y Drych arno yntau, ac ofnem y torrai y gwydr wrth inni edrych arno drwyddo. Mewn cysylltiad crefyddol y daeth i'r golwg y tro hwn. Mae pobl ariannog iawn yn cael hawl ffordd i bob cylch ymysg dynion a wyneb miliwnydd yn tynnu ato bob gradd o bobl. Ac y mae Mr. J. Pierpont Morgan hefyd yn grefyddwr, ond yn perthyn i'r Esgobaethwyr. Un tro, anfonodd gweinidog Wesleaidd ato gais am rodd at adeiladu capel newydd, pryd yr atebodd y miliwnydd fel hyn Gan mai Esgobaethwr ydwyf, nis gallaf yn gydwyb- odol gyfrannu at godi adeilad i'r eglwys Fethodistaidd (Wesleaidd). Er hynny, cyn y bydd i chwi godi eich capel newydd, deallaf eich bod ar fedr tynnu yr hen un i lawr. I'r amcan hwnnw yr wyf gyda llawenydd yn amgau fy archeb am rodd o 250 o ddoleri." Nid ydym yn meddwl y gwelai yr un Ym- neilltuwr fai ar "gydwybod" Esgobaethol o'r fath yma, ond y tebygrwydd yw mai cydwybod am dro oedd hon, ac nad yw Mr. Morgan yn ei chadw bob amser. Ond mae'n anodd iawn gwrthod y pres yma at achosion crefyddol, gan nad o ba le y deuant, er mai dyma yr hyn yr oedd Sylfaenydd yr Eglwys Gristionogol yn meddu lleiaf ohono, ac yn dibynnu lleiaf arno. Englyn Sobr. Mae y Drych yn troi yma a thraw, yn chwilio am y gwalch a gyfansoddodd yr englyn canlynol, ond yn ein byw y gallwn ei ganfod. Nis gallwn ychwaith ond casglu beth all fod y testyn. Dyma'r pennill :— Boss y slums, i Bass a'i slops,a, broliwr Trwyth barilau Allsop's Awdwr hwyr gyda'r lolops, Yn byw ar gefn brag a hops. Pe byddai ar yr heddgeidwaid a'r meddygon eisieu ffordd anffaeledig i brofi graddau sobrwydd dyn, anodd meddwl am well yr englyn hwn. Unrhyw un allai ei ddarllen yn groew, dylai gael trwydded dyn sobr— yn enwedig y llinell gyntaf.
--0--Ffetan y Gol.
--0-- Ffetan y Gol. Pregethwyr Poblogaidd. Mlt. GOLYGYDD,—Gwaith pleserus iawn oedd myned tros enwau y gweinidogion poblogaidd. Dyma'r rhai mwyaf poblog- aidd, yn ol fy marn i Anibynwyr.-Parchn. -T. Thomas, Merthyr Peter Price, Dowlais H. Elfed Lewis, Llun- den J. O. Williams (Pedrog) O. R. Owen, Lerpwl W. J. Nicholson, Porthmadog. Met,ltodistiaid.Dr Cynddylan Jones, Caer- dydd Parchn. John Williams, Brynsiencyn John Hughes, M.A., Lerpwl W. M. Jones, Lerpwl S. T. Jones, Rhyl William Jones, Treforris. Bedyddwyr.—Parchn. Charles Davies, Caer- dydd Dr. Davies, Caernarfon Aaron Mor- gan, Blaenffos Pedr Hir, Bootle; Idwal Jones, Garn, Dolbenmaen. Wesl--aid.-Dr. Hugh Jones, Bangor Parchn. Thomas Hughes, Lerpwl D. Tecwyn Evans, B.A., Llanddulas W. 0. Evans, Rhyl Edward Humphreys, Birkenhead J. Cadvan Davies. NANTMOR. SYR,—Darllennais gyda dyddordeb wahan- ol restrau y Pregethwyr Poblogaidd yn rhifyn diweddaf y BRYTHON, a dymunaf ddatgan fy marn fod Clustfeiniwr" yr wyth- nos gynt yn nes i'w le o lawer na'r un ohonynt yn y gwaith o gael allan yr hanner dwsin mwyaf poblogaidd ymhob un o'r enwadau Ymneilltuol. Fel un sydd wedi cael cyfleuster- au neilltuol, ac wedi manteisio arnynt,i glywed prif ddoniau Cymru yn Lerpwl yn ystod y blynyddoedd diweddaf, carwn awgrymu y rhai canlynol fel y rhai mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd. Y Methodistiaid Calfinaidd.Parchn. John Williams, Brynsiencyn Prifathro Owen Prys M.A., Aberystwyth T. C. Williams, M.A., Porthaethwy W. E. Prytherch, Abertawe S. T. Jones, Rhyl Phylip Jones, Llanelli,. Yr Anihynwyr.—Parchn. H. Elfed Lewis, M.A., Llunden W. J. Nicholson, Porth- madog O. R. Owen, Lerpwl Ben Davies, Panteg D. Stanley Jones, Caernarfon R. Gwylfa Roberts, Llanelli. Y Wegleaid. -Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llanddulas Hugh Hughes (Cenhadwr), O. Madoc Roberts, Towyn W. 0. Evans, Rhyl Thomas Hughes, Lerpwl T. Isfryn Hughes, Ffestiniog. Y Bedyddwyr.—Parchn. E. T. Jones, Llanelli Charles Davies, Caerdydd Abel J. Parry, D.D., Rhyl T. Idwal Jones, Garn Moses Roberts, Ffestiniog; R. B. Jones, Porth. Yr Eglwys Sefydledig.-Parelin. T. Pritch- ard, Ficer y Rhos Canon E. T. Davies (Dyfrig), James Davies, M.A., Lerpwl Griffith Jones, Mostyn David Jones, Pen- maenmawr J. F. Reece, Llanfwrog. 0 berthynas i'r Methodistiaid Calfinaidd, ofnaf fod yr oil yr wythnos ddiweddaf wedi bod yn awyddus i gael rhywun i mewn fel yn cynrychioli Lerpwl yn y rhestrau pryd, mewn gwirionedd, nad oes gennym ar hyn 0 bryd yn Lerpwl yr un pregethwr poblog- aidd yn perthyn i'r Hen Gorff, er fod gennym un ieuanc ac addawol iawn yn prysur ddringo i fyny mewn poblogrwydd, a gair da iddo hefyd fel bugail ffyddlon a llwyddiannus ar un o eglwysi lliosocaf y ddinas. Maddeuwch i mi, Mr. Got., am gymeryd cymaint o'ch gofod gwerthfawr. Gyda dy- muniadau goreu i'r BRYTHoN,-Yr eiddoch, Waver tree. GWRANDAWR ASTUD. Cymry Lerpwl. SYR,—Mae eich sylwadau dan y penawd hwn yn eich rhifyn diweddaf yn dangos mwy o ddonioldeb na gwybodaeth, ac yn gwneud i mi feddwl am y gwr y soniai Cyn- ddelw am dano, ei fod yn dweyd mwy o lawer nag mae yn ei wybod." Ond ni iuasai hynny nag yma nac acw onibai eich bod wrth frolio rhai Cymdeithasau yn gwneud anghyfiawnder cywilyddus a Chymdeithasau sydd wedi bod o wasanaeth dirfawr ymhell cyn geni yr un o'r lleill. Nid ydyw bywyd cyhoeddus ein cydgenedl yn y cylchoedd hyn eto wedi cyrraedd cymaint perffeithrwydd fel y gall fforddio dirmygu un o'r offerynau fu yn meithrin gwladgarwch Cymreig pan nad oedd sefydliad arall na newyddiadur lleol ar gael i wneud hynny. Mae rhai pobl gweddol gall yn credu mai o'r ysbrydiaeth a roddodd y Gymdeithas Genedlaethol i fywyd Cymreig yn y ddinas y tyfodd y gwa- hanol Gymdeithasau a ffurfiwyd yn ystod y blynyddau diweddaf, a sicr yw fod llu mawr o aelodau blaenaf y Gymdeithas Genedlaethol ymhlith cefnogwyr mwyaf selog y Cymdeith- asau hynny. Gwnant oil wasanaeth ar- dderchog yn eu hamrywiol ffyrdd, a haeddant bob canmoliaeth. Mae angen am danynt, a digon o waith iddynt oil, ond cymwynas wael a wnewch chwi iddynt hwy ac i fuddiannau goreu ein cydwladwyr yn gyffredinol wrth geisio difrio unrhyw sefydliad sydd a'i amcan i ddyrchafu Cymru, Cymro, a Chym- raeg.—Yr eiddoch yn gywir, W. R. OWEN. Lerpwl, Gorff. 15, 1907. Llais o'r Mur. SYR,—Yn New Mills, tref weithfaol tua hanner y ffordd rhwng Stockport a Buxton, y mae maen tua 36 x 24, uwchlaw drws ty annedd, ac arno yn argraffedig y geiriau canlynol A DRUNKARD'S PVEFORM. A working man, a teetotaller for 10 years, who was formerly a notorious drinker and a notorious poacher, has recently invested his sober earnings in the purchase of the town prison, which he has converted into a comfortable dwelling house—fre- quently an inmate of the prison whilst a drunkard and a poacher, he is now the owner of the whole and occupier of the premises. "THOMAS HANDFORD. 1854." Nid oes amheuaeth am ddilysrwydd yr hanes. Y mae yr hen drigolion yn cofio Handford, yr hwn fu farw tua 15 mlynedd yn ol, ac y mae rhai o'i deulu yn y dref yn awr. Yr hen garchar (lockttp) yn cael ei droi yn gartref cysurus Gwnaeth i mi feddwl am yr adnodau yn Esaiah sydd yn son am droi y cleddyfau yn sychau a'r gwaewffyn yn bladuriau. Byddai'n werth i bobl ieuanc sy'n arfer llymeitian fynd yno i weld y garreg—gallai darllen yr ysgrif fod yn bregeth effeithiol iddynt, a rhoi help iddynt benderfynu cynilo eu harian i brynnu ty, yn hytrach na'u gwario am ddiod feddwol. Birkenhead. LD.
--0--Senedd y Byd.
--0-- Senedd y Byd. Ynfydrwydd cydymgais milwrol. DYWKIHK fod gwahanol aelodau Cynhadledd yr Hague yn ymosod ar eu gwaith fel rhai yn fwy o ddifrif nag oedd aelodau yr un yn 1899. Mae gwawr o oleuni, megis, wedi torri ar eu meddyliau fod yn bosibl, trwy gyfarfod fel hyn, wneud rhywbeth effeithiol wedi'r ewbl. Nid i ddiddymu rhyfel-mae'n wir-nid ydynt wedi codi i dir mor uchel a hyn—ond pwy a wyr, er hynny, trwy gyf- arfod fel hyn droion, na chanfyddir o'r diwedd fod rhyfel ynddi ei hurr yn beth an- waraidd, ac y dylid ei ymlid ymaith o fysg gwledydd gwaraidd y byd ? Rhaid ail ymosod o ddifrif ar y gorchwyl o hau egwydd- orion y Gymdeithas Heddwch ymysg pobl pob gwlad, ac ymysg gwyr hunandybus y Wasg yn arbennig. Pan soniodd rhai o bleidwyr Heddwch y dydd o'r blaen am y posiblrwydd o ffurflo gwledydd Ewrob yn fath o Unol Dalaethau fel rhai America, mor bell ag i wneud rhyfel rhyngddynt yn beth arnhosibl, codai bechgyn y wasg eu ffroenau, a datganent fod y syniad yn un ynfyd. Ni ddywedid pam, digon oedd arfer y gair swyngyfareddol "Utopia." Tybient fod y gair hwn ar unwaith yn lladd y fath freuddwyd ofer. Arfer rhai newydd- iaduron ydyw ysgrifennu i lawr at lefel y syniad cyffredin. Y mae cychwyn a dal i amddiffyn athrawiaeth amhoblogaidd yn beth dieithr iddynt. Tosturiant wrth y neb sydd yn ei awgrymu, a chwarddant ef i ddiddymdra os gallant, Tybed na fyddai yn ddoeth dechreu chwerthin am ben y dull presennol o ychwan egu darpariadau milwrol y naill flwyddyn ar 01 y llall, a'i wawdio fel eithafoedd ynfyd- rwydd ? Argyhoeddiad o'r ynfydrwydd hwn a arweiniodd i'r Gynhadledd yn 1899. Ac eto y mae dylanwad y blaid filwrol ymhob man wedi peri fod ein llywodraethwyr yn myned ymlaen yn eu hynfydrwydd yn fwy, nag erioed. Mae Mr. McDonald, A. S. ,.]n y Contemporary Review am fis Mai yn dangos fod amcangyfrifon y fyddin yn y wlad hon yn fwy o ddeng miliwn nag ydoedd yn 1893-4, a'r llynges yn fwy o ddwy ar bymtheg o filiynau. Ynfydrwydd, yn wir Dyma eith- afoedd ynfydrwydd, gan nad ydym ond yn cyffroi gwledydd ereill i ychwanegu yr un modd. Ac eto y mae dynion i'w cael sydd yn pregethu yn erbyn ceisio rhoddi terfyn ar yr ynfydrwydd hwn, a dywedant mai myned ymlaen yw ein hunig ddiogelwch. A chofier mai nid y costau uniongyrchol hyn yn unig sydd i'w cymeryd i'r cyfrif. Nid yw y miliynau milwyr segur sydd trwy'r byd yn ychwanegu dim at gyfoeth y gwledydd. Difa, ac nid cynhyrchu, y macnt. Onibai y bywydau a aberthid, ni fyddai yn waeth iddynt, o ran y cwestiwn o gost, fod yn rhyfela a'u gilydd yn barhaus. Cedwid hwynt felly rhag treulio eu hamser i ddych- rynnu ein gwrageddos trwy ysgrifennu byth a hefyd am oin cyflwr amharod a pheryglus ped ymosodid arnom. Pe dechreuem wneud lleihad cyfartal, caem flas ond odid ar y gorchwyl, ac aem ymlaen i leihau nes llwyr ddiddymu. Cry- bwyllai Mr. Cobden yn ei araith yn y Senedd yn 1851 ar y cwestiwn hwn, am engraifft dda o'r hyn y gellid ei ddisgwyl. Yr oedd cytundeb yn 1817 rhwng yr Unol Dalaethau a'r wlad hon gyda golwg ar nifer y llongau rhyfel oedd i fod ar y llynnoedd r|L]]. Canada ac America. Yr oedd y Due o ington wedi dadleu yn flaenorol, fel y "J. blaid filwrol bob amser, fod yn rhaid gael gallu llyngesol cryfach er di"ge|;lJ(„gI fordir Canada. Ar ol y rhyfel rhwng ac America, bu y ddwy wlad mor gall a P derfynu ar nifer y llongau ar bob tu. j fu y canlyniad ? Nid yn unig fe lelhad eu nifer, ond yn y diwedd gwnaethp heb un llong rhyfel ar y llynoedd o gw o A geir trafodaeth deg ar y cwesti () leihad cyfartal yn ail Senedd y Byd. ol gawn weld. A beth am gyflafareddi d Yr ydym yn disgwyl yn bryderus. f S. Hoylalce. ELEAZAR ROBERT'
adolygiad
adolygiad [Gan y Parch. O. EILIAN OWEK-J DAPEES FOR THINKING J- MEN, by A. W. Wade Evans, Off[ LONDON Henry Gray, East Act011' PRICE 1 NET. LLYFR liynod o ddyddorol ac a(ldys^ft[ ydyw hwn, gan un o weinidogion 111 dysgedig Eglwys Loegr yng Ngliyrnru. yV yn eithriad ymysg offeiriaid gan ei tocyii Gymro twymgalon, yn caru ei genedl, c yO gweithio yn ddyfal drosti. Mae'r lly (o gyfryw ag y byddai yn werth i bob yIJ ei ddarllen yn ofalus a meddwl dros f, fe ddylai argraffiad Cymraeg ohono gyhoeddi ar fyrder, gan ei fod yn cylchrediad helaethaf. Nid ydym yn ein bod yn cytuno a phob peth ddyw*edir>^fl( y mae'r rhan fwyaf o'r llyfr mor bur 0 gymhedrol fel mai gwell gennym ar W et bryd yw rhoddi byr olwg ar ei gynn^,f y mwyn ceisio denu pob un o ddarllen BRYTHON i'w brynnu. Mae yn cym rhagdraeth a saith o benodau. Rhagair i Wleidyddwyf Cymreig.,hyddfry Mae cenedlaetholwyr sydd yn „ej- wyr ac Anghydffurfwyr yn rhy barod yd yn ganiataol fod poI) eglwyswr cel yn Ddic-Shon-Dafydd. Pa fodd by y mae angen dweyd nad yw'r ffaith to yn Rhyddfrydwr ac yn Anghydfft yv oherwydd hynny o angenrheidrwyd- genedlaetholwr. Mae yn destyn cyson fod teuluoedd "mwyaf ljarC Anghydffurfiaetli a thuedd ynddynt eu cefn ar bethau Cymreig am bethau deog, ganddynt yn fwy ardderchog, yr hyn a d ys yn eglur nas gellir ystyried y cvfry^ y yn Genedlaetholwyr. Mewn ysgrif Llan, mentrais ddweyd ar draul bod j. perygl o golli mywyd, fod Cyfundeb y IVOtbo istiaid Calfinaidd yn genedlaethol ysbryd a chydymdeimlad. Atebodd S. fgii ydd fod y Cyfundeb hwnnw wedi da ^j,e ochr Seisnig adwaenir wrth yr enw Presbyterian Church of Wales." grifennydd yn gofyn Pwy sydd yn eYbopl soddi aelodau y Corff hwnnw? Orlid Y bO W- ymysg y Methodistiaid Calfinaidd sydd di, fodd wedi ychwanegu at bwysau eu P ac sy'n credu mai mwy anrhydedd11 addoli mewn Saesneg na Chymraeg • j,y- dau allan o bob tri o aelodau The 1 0p terian Church of Wales" yn Ddic^ Dafyddion. O'r ochr arall, y mae Ceidwadwyr wedi bod yn rhy barod i gredu fod 0$ aetholdeb yr un peth a Rad; cali»e Y mneillfeuaeth. Hanes Cymru yn Ysgolion Cymru. Treuliais un mlynedd ar bymtheg (* 1896) o'm bywyd mewn sefydliadau yii Cymreig, o ysgol elfennol i Goleg yr 01 ystod pa adeg ni dderbyniais unrhyW to, mewn hanes nac iaith na llenyddiaeth Bum yn byw mewn ysgol rarnadego, Ji Nghymru, nad ellid ei gwahaniaethu Oddio sefydliad cyffelyb yn Norfolk a Ke° yn unig ei bod wedi ei' sefydlu gaU yjj)> Cymreig. Mewn canlyniad i'r cynlh^^j,^ 0 addysgiaeth, mae ein gwybodaeth o Cymreig yn gy wilyddus o anghyfaf j r ein gwybodaeth o bethau Seisnig, fel fit, 0 y cyfangorff ohonom roddi iinrhyvv' ^$ am y ffydd sydd ynom. Y cwrs oy1^ if eglur ydyw dwyn hanes Cymru i n'e holl ysgolion a cholegau, canys cyn disgwyl iddynt godi fel un gwr i dday awydd i ddysgu Cymraeg, rhaid iddyn gydnabyddiaeth a'u hanes eu hunam paham y dylent hwy o bawb wne?fe(jdf' Nis gall yr anhawsterau ynglyn a d|V(' fflgl e1' iau llawer am Genedlaetholdeb ac iaith S y(> V clirio ymaith yn unig ond trwy eu^ fanylach holl gwrs ein datbiygiad fe| pan y daw dysgu Cymraeg yn raddoi i ^1' ar' iawn bwyll a gweddeidd-dra, nad yw miloedd o ddynion a mercn6 pyl^1 dymuno'n dda eto ddim yn ei weled. athrawon gael eu rhybuddio rhag lyfrau cyffredin Hanes Lloegr, yn llyfrau fel John Richard Green's of England and Short History of the ^jj^j People," ymha le y mae gwladgarwch e1 0 fe yr awdwr fel Sais wedi cael y goreu a hanesydd. Y Dic=Shon=Dafydd. Mae'r Dic-Shon-Dafydd i'w ganf° llawer ffurf ac ymhob dosbarth 0 d £ Cymreig. Weithiau gwelir ef lIlellbtJllof ieuanc (sydd wedi bod yn Affrica D ÐblwÝ; yn siarad mewn dull uwchraddol anj$$ oliaeth pethau Cymreig. Neu, geneth o forwyn yw newydd ar ol gwasanaethu am chwe mis yn y Q} ac sy'n ymddangos fel pe wedi colli e1 raeg. Neu wraig dda y persondy f'1', ofn rhag i'w phlant feithrin lledia^ gyflawn. Neu y mae yn troi i masnachwr hynod o barchus, yr c0,d^ d dyn ymarferol sydd yn methu dymer wrth feddwl am ffug-deiinla Cymreig. Yr wyf hyd yn oed wedi a gwr o Rydychen yn enwog roe^8f}r,f'lt yddiaeth," yr hwn gyda phlen i'g mwyaf diwylledig a haerai nad o eii>f 1 Hanes Cymru, neu o leiaf 'nal l(l lwythau ydoedd. ^jjll Nid oes dim yn anghyson 1 ?!,e c^1'11 v» I profiad yn y ffaith fod Cymry jynt' *e$ gwlad, ond y ceir Cymry nad y gwneud hyn—dyna sy'n rhyfedd. #1 deng milltir ysgwar yn holl dair sU" Cymru heb Ddic-Shon-Dafyddion CT eu hunain yn feunyddiol ym wyneh —dyna sy'n anghyson. Fod y ,rsg0 Dafydd yn y palas, a'r pulpud, a yjiy ie, ym mwthyn y gweithiwr '<A sarhau o'r Fainc Ynadol, ei fod }r^ yn dorsyth yn uchel-leoedd ein by^