Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

pr..., I TREM 1 I TRWY Y DRYCH.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

pr. I TREM 1 I TRWY Y DRYCH. j HH—IB— 9 Syr John Gorst. ER nad yn iach yn y ffydd boliticaidd ar amryw gwestiynau, mae Syr John yn un o'r dynion cyhoeddus y mae yn werth troi y Drycli arno bob tro y saif i fyny i amierch cynulleidfa ar bwnc addysg. Yn Redham, ynglyn a Chartref Amddifaid, y llefarai y waith hon. Dywedai fod y Wladwriaeth yn rhwym o ofalu am gadwraeth ac addysg plant amddifaid, ond fod y fath amherffeith- rwydd yng ngweinyddiad y ddeddf, a thuedd i anwybyddu hawliau y plant yn gyfryw fel yr oedd llawer ohonynt yn -dioddef ar gam. Dywedai bethau llym- ion am yr arferiad o anfon gweddwon i'r tlotai, a'u plant, a garent, i sefydliadau He na ddanghosid fawr o gydymdeimlad a charedigrwydd tuag atynt. Cedwid hwynt mewn aw-yrgylch oerllyd felly hyd oni fyddent tuag 16eg oed. Mynnych y dywedid gan wleidyddwyr fod plant yn gyfoeth cenedlaethol gwerthfawr, ond rhyfedd mor barod oeddynt i wario y cyfoeth hwnnw yn ofer. Yr oedd yr Ellmyniaid yn fwy gofalus, ac yn Germani cydnabyddid yn briodol bwysigrwydd cenedlaetbol y plant. Mewn canlyniad, ofnai Syr John y byddai y wlad honno yn y genhedlaeth nesaf ymhell ar y blaen i Loegr, ac yn llawer mwy iach a dysged- ig. Geiriau y doeth yw y rhai hyn, a da pe byddai ychwaneg yn edrych ar y mater yn yr un goleu. Mae gan Loegr lawer i'w ddysgu gyda golwg ar ei dyled- swydd i'r gwan ieuanc, yn gystal a'r gwan hen. Ysbrydegaeth Nid ydym yn honni y gall craffter y Drych ganfod ysbrydion, er fod ami un digon tebyg i ysbryd o ran ei deneuwch wedi ei ddal gan ei drem. Ond y mae rhai a fynnant i ni gredu eu bod hwy mewn cymundeb ag ysbrydoedd y rhai ymadawedig yn ddigon eglur iddo. Mewn achos a wrandawid ym Mrawdlys Man- chester y dydd o'r blaen, haerai dyn ei fod mewn cymundeb ag ysbryd John pright," a'i fod yn cael ymgom ag ef pryd y mynnai. Ystwff fel hyn a gredir gan filoedd o bobl hygoelus. Yn y dyddiau gynt dywedid fod ysbrydion yn aflonyddu dynion byw; ond erbyn hyn. mae pethau wedi newid, a'r byw, os :v:r y stori, yn aflonyddu ar y meirw. A aniatau yr hyn a haerir am y posibl- rwydd o alw i fyny ysbrydion fel hyn, yrucdengys i ni yn beth pur ddi-fudd, He nad yw y rhai a aethant ymaith wedi emiiil dim mewn urddas na doethineb. Y raaent at alwad y mediums cywrain, ac yn lie esgyn o'r dyn i'r angel, yn disgyn o'r dyn i'r mwnci. Buasem yn disgwyl fod iddynt ryw waith gwell i'w wneud "tu hwnt i'r lien na bod at wasanaeth hwn a'r llall, i gario ystraeon dros ffin deufyd, symud byrddau, a lolian di- bwrpas mewn gwahanol ffyrdd. Y syn- iad fod yr hen John Bright ardderchog wedi colli arni fel hyn Ymddengys i ni fel y ffwlbri mwyaf gwrthun. Ond mae rhai pobl mor hoff o ymyryd a busnes pobl ereill fel nas gallant beidio ceisio eu hysbeilio o'u cyfrinachau yn y byd arall. Peth od na bai rhywrai—os nad ydynt hefyd-yn dweyd eu bod mewn ysgwrs a'r Apostolion. Yn wir, pe buasai budd o gael at rhywun o'r meirw anfarwol, yr Apostol. Paul fuasai hwnnw. Ond mae'n bosibl ei fod ef a'i frodyr wedi trafaelio yn rhy bell i'r byd anweledig erbyn hyn, fel nad oes modd dod o hyd iddynt. Gadawer llonydd i'r rhai sydd wedi ein gadael, ac os bydd iddynt genadwri o werth atom, diau yr anfonir hwynt heb i ni eu galw, os ydynt yn ysbrydion da ac am y lleill, y mae gennym lawer gormod ohonynt mewn cnawd yr ochr hon, heb gael ein blino ag ychwaneg. Eleazar a Marc. Yn anisgwyliadwy iawn cawsoin ein cydwladwr galluog, Mr. Eleazar Roberts, a'r digrifwr athrylithgar Mark Twain— y ddau o flaen y Drych yr un adeg. A oedd Meddyliwr yng nghwrdd croeso yr ymwelwr enwog o America, nis gwydd- om ond buasai yn ychwanegiad at fri meddwl ac ysbryd y cwmni, a dylasai fod yno gynrychiolaeth o. blith y Cymry llengar. Darllenasom ninnau anerchiad doniol, humorous, Mark Twain gydag awch, a'i ddisgrifiad o'r drafodaeth fu rhyngddo a'i gyfaill o fardd yn San Francis- co, ddeugain rnlynedd yn ol, gyda golwg ar y ffordd ddymunol i'r bardd gyflawni hunan-laddiad Ac yn llythyr nodwedd- iadol Mr. Eleazar Roberts yn y BRYTHON diweddar ar Senedd y Byd," sef Cyn- hadledd Heddwch yr Hague,darllenasom y frawddeg, Gwneud peth Sydd yn han- fodol farbaraidd ynddo ei hun yn llai barbaraidd yn ei weinyddiad." Ac ar y pwynt hwn y digwyddodd i'r Cymro a'r lanci cydgwrdd o flaen y Dry Oh. Yr hyn a wnai sylwadau y digrifwr yn chwerthin- llyd oedd y gwrthuni o geisio cynllunio y ffordd oreu i gyflawni yr hyn oedd ynddo ei hun yn ddrwg, ac yr oedd llawer o gydwybod yn y chwerthin fu. Yr un gwirionedd a ysgrifennodd Meddyliwr mewn sobrwydd yn ei lythyr. Ie, yn sicr, ychydig a welir yn yr Hague o gyd- ymdeimlad a'r amcan o newid Rhyfel am Gyflafareddiad, a Chledd am Reswrn. Mae cynrychiolwyr y gwahanol deyrn- asoedd yn siarad heddwch, ac yn meddwl rhyfel. Gwelsom gydgyfarfyddiad cyff- elyb o'r blaen, ac un o ormeswyr pennaf y byd yn swagro fwyaf o bawb. Cyn y ceir heddwch dwfn a pharhaol, bydd raid i'r egwyddorion a'i cynhyrchant gael eu lie yn argyhoeddiadau ac ysbryd y bobl. Mae gan hyd yn oed Gristion- ogion proffesedig lawer i'w ddysgu. Mae teyrnasoedd byd eu gyddfau dan arfogaeth yn wawdiaeth ar y Bregeth ar y Mynydd. Boddir hyfrydlais y Gwynfydau gan glinc y cledd a rhu y fagnel. Y felltith yw, fod rhyfel yn cael ei ddysgu, ac mae dysgu crefft yn magu ei hysbryd. Diolch am ambell un fel y diweddar Mr. Henry Richard; ac o'r ami wasanaeth a wnaeth Mr. Eleazer Roberts yn ei oes, nid y lleiaf yw ei ddadl gref a chyson, drwy wasg ac ar lwyfan, dros dangnefedd ar y ddaear." San Francisco. Dyma'r Drych ar borthladd 'Frisco, a gwelwn acw Japaniaid yn photograffu y cadarnfeydd. I ba beth, tybed ? Wel, mae rhywun wedi ei weled a'i ddrwgdybio, ac mewn canlyniad cymerwyd ef i'r ddalfa gan yr heddgeidwaid, ac i'r cwt ag ef yn y man. Dyma yr holl fyd gwareiddiedig yn clywed y newydd, ac inewn eyffro mawr o gwr i gwr Nid y Jap fu y cyntaf i gymeryd darlun o'r un golygfeydd, ond ni fu y fath helynt gydag ereill. Y mae yr esboniad yn eglur. I ddechreu, cafodd rhai J aps eu camdrin dro yn ol gan yr lancwys, a pharodd hynny gyffro. Gwelodd rhai yn y peth achlysur cweryl rhwng Jap a Jonathan, a dechreuodd y dychymyg nwydwyllt broffwydo drwg. Wedi hynny, cyhoeddodd Mr. Roosevelt y gorchymyn i'r Llynges Americanaidd gae ei chryfhau yn y Tawelfor, yr hyn, wrth gwrs, a gymerid ar unwaith fel arwydd fod y mor hwnnw i fod yn wahanol i'w enw tlws. A dyna ychwaneg o ddychmygion erchyll yn cael eu lledu drwy y wasg. At y cwbl, dyma y J'ap hwn wedi ei ddal yn yr act o dynnu llun porthladd a chadarnfeydd 'Frisco. Ac erbyn hyn, ymddengys nad oes le i amheuaeth gan bobl hygoelus a chreawd- wyr panicau nad oes ysbryd a chynllun rhyfel yn corddi y Japs dewr. Mae heb e brofi pan yr ydym yn dal y Drych ar y dyn byr-felyn pa un ai o gywreinrwydd neu amcan syml galwedigaeth onest, ynte fel yspiwr llechwraidd ar ran ei genedl, y gwnaeth efe hyn oil ond mae y daroganwyr drwg, proffwydi cyffro, yn sicrhau y gwaethaf. Gwir y gall fod drwg yn y peth, ond y mae yn syn mor barod yw meddyliau rhai pobl i ganfod unrhyw beth y gellir ei droi i ffafr cyffro a braw. Mae llawer o feio ar yr hen bregethwyr am geisio dychryn pobl, ond ymddengys i ni nad oes dim yn cymeryd cystal gyda'r cyhoedd yn gyffredinol-dim yn dweyd cymaint ar y bobl, beth bynnag- a newyddion cynnwrf ac erchylldra, gan nad pa mor ddisail fyddont. Rhyfedd, gymaint o awdurdod ar y byd a fedd dychymyg a nwyd, rhagor barn a rheswm Ond mae yr un ysbryd drwg ar waith ymhob cylch o gymdeithas, a miloedd o gwerylon cas yn tarddu o feddyliau drwg-dybus. Pierpont Morgan. Yr oeddym wedi ei golli ef er's tro bellach, ond o'r diwedd dyma lygad y Drych arno yntau, ac ofnem y torrai y gwydr wrth inni edrych arno drwyddo. Mewn cysylltiad crefyddol y daeth i'r golwg y tro hwn. Mae pobl ariannog iawn yn cael hawl ffordd i bob cylch ymysg dynion a wyneb miliwnydd yn tynnu ato bob gradd o bobl. Ac y mae Mr. J. Pierpont Morgan hefyd yn grefyddwr, ond yn perthyn i'r Esgobaethwyr. Un tro, anfonodd gweinidog Wesleaidd ato gais am rodd at adeiladu capel newydd, pryd yr atebodd y miliwnydd fel hyn Gan mai Esgobaethwr ydwyf, nis gallaf yn gydwyb- odol gyfrannu at godi adeilad i'r eglwys Fethodistaidd (Wesleaidd). Er hynny, cyn y bydd i chwi godi eich capel newydd, deallaf eich bod ar fedr tynnu yr hen un i lawr. I'r amcan hwnnw yr wyf gyda llawenydd yn amgau fy archeb am rodd o 250 o ddoleri." Nid ydym yn meddwl y gwelai yr un Ym- neilltuwr fai ar "gydwybod" Esgobaethol o'r fath yma, ond y tebygrwydd yw mai cydwybod am dro oedd hon, ac nad yw Mr. Morgan yn ei chadw bob amser. Ond mae'n anodd iawn gwrthod y pres yma at achosion crefyddol, gan nad o ba le y deuant, er mai dyma yr hyn yr oedd Sylfaenydd yr Eglwys Gristionogol yn meddu lleiaf ohono, ac yn dibynnu lleiaf arno. Englyn Sobr. Mae y Drych yn troi yma a thraw, yn chwilio am y gwalch a gyfansoddodd yr englyn canlynol, ond yn ein byw y gallwn ei ganfod. Nis gallwn ychwaith ond casglu beth all fod y testyn. Dyma'r pennill :— Boss y slums, i Bass a'i slops,a, broliwr Trwyth barilau Allsop's Awdwr hwyr gyda'r lolops, Yn byw ar gefn brag a hops. Pe byddai ar yr heddgeidwaid a'r meddygon eisieu ffordd anffaeledig i brofi graddau sobrwydd dyn, anodd meddwl am well yr englyn hwn. Unrhyw un allai ei ddarllen yn groew, dylai gael trwydded dyn sobr— yn enwedig y llinell gyntaf.

--0--Ffetan y Gol.

--0--Senedd y Byd.

adolygiad