Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

----== Yn Ynys Mon ac Arfon

<9iT,MRY caer-

AP MADOC. I

--0--Mrs. Lloyd Roberts, y…

Helynt Mynwent.

*52 . Edrych y Corff.

NOD AC ESBONIAD.

AM.

LLANGOLLEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANGOLLEN. LLAWENYDD gennyf wrth gymeryd fy ysgnf- ell yw gallu dweyd fod yr Haf unwaith eto wedi gwneud ei ymddanghosiad. Yr oeddym wedi bod yn cerdded dyffryn anobaith er's amser, ond ffyddlon yw yr hwn a addawodd. Pryd hau a medi, haf a gaeaf, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear. Arwydd symud adfywiol sydd i'w weled ar bob llaw, a llu o ddieithriaid yn dechreu cyrchu yma fel arfer. Y mae yr Eisteddfod Genedlaethol yn argoeli llwyddiant yn barod, er fod cyflawnder o amser, ac y mae swn y paratoi, nid yn unig yn ein gwlad ein hunain, ond hefyd yng ngwlad yr Iancwys tros y Werydd. •5b Derbyniodd yr ysgrifennydd cyffredinol y newydd, a bu y mater o flaen y pwyllgor gweithiol, a mawr oedd eu hawydd am ategu y syniad. Y mae Cymdeithas y Derwyddon yn Scranton, Pa., Unol Dalaethau America (ymha le y mae tros 40,000 o Gymry) wedi cyflogi agerlong fawr i ddod a chymaint ellir trosodd, a dywedir ganddynt fod llu o enwau eisoes wedi dod i law yr ysgrifennydd yno. Hefyd bwriadant ffurfio cor mawr o 200 o leisiau i ddod trosodd i gystadlu. Gwelir felly y bydd yn rhaid i gorau ein gwlad ein hunain dynnu gwinedd o'r blew, a hogi arfau, fel y dywedir, rhag digwydd i Gymry America gario y llawryf. Nos Sadwrn a'r Sul diweddaf, yr oedd eglwys y Bedyddwyr, Heol y Castell, yn cyn- nal eu cyfarfod pregethu blynyddol a digwyddodd, er mor ffafriol ydynt i oruchwyl- iaeth y dwr, iddynt gael tywydd hynod o ffafriol. Yr oedd y cynulliadau yn lliosog, a'r genadwri yn hynod dda ac effeithiol. k Gwasanaethwyd gan y Parchn. Aaron Morgan a Moses Roberts, gweinidog dyfodol yr eglwys. Yn sicr, dylai yr eglwys fod yn falch eu bod wedi sicrhau gweinidog mor rhagorol. Y mae Mr. Roberts yn bregethwr da a phoblogaidd.

Advertising

Family Notices

Advertising