Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DYDDIADUR.

Glannau'r Mersey I

EBION.

Advertising

--0--Rhyddfrydwyr Mon.

Mawredd ym Miwmaris

----o - Efengyljar dywod y…

-.---..0-'---Galwadau.

--0---Y Meddyg-Genhadwr Davies.

Advertising

TECWYN.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TECWYN. Yn OaRfield Road. ADWAENWN ddau Dccwyn. Y cyntaf, y Parch. G. Tecwyn Parry, Llanberis, awdwr cyfrol werthfawr ar Lewis Edwards y Bala, bardd da a lienor addfed, a phregethwr—pe rhoisid mwy o fri ar faeth a llai ar feluster— a glywsid bob Sulgwyn yng Nghymanfa Methodistiaid Lerpwl. Ni ddacth efe i'w etifeddiaoth o lawer, ac yng ngodreu ei Wyddfa y treuliodd ofe ei alluocdd mown mwv nag un ystvr. ,) K Ond a'r ail Decwyn y mae a wnelof hoddyw —sef y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llanddulas, ac un o obeithion anwylaf Wesleaid Cymru. Y niae cartref cyntaf y ddau Decwyn o fewn hwb-cam-a-naid i'w gilydd bron a diolch i'r ddau am anfarwoli plwyf creigiog Llandecwyn drwy ddodi'r hen sant Llydewig rhwng eu henwau. *5.' Yr oedd dwy neu dair blynedd er pan y'i clywswn o'r blaen a phan welais ei fod i gymeryd rhan yng nghyfarfodydd agoriadol capel newydd Oakfield Road, mi af yno," meddwn wrthyf fy hun, i weled os ydyw'n dal i dyfu, ac os ydyw'n aros yr un Tecwyn, hoffus a chwbl naturiol, ag a fyddai cynt, er gwaethaf y galw am dano a'r meddwl sydd gan y cynulleidfaoedd ohono." Ac ni'm siomwyd. Nos Lun, sef yr olaf o'r eyrddau, agoriadol, y cefais gyfle, ac er fod y capel dan ei sang, a minnau'n boeth ac yn llesg gwedi diwrnod hirfaith o weithio, fe'm cadwyd ar ddihun, a chefais bregeth a gofiaf yn hir, ac a bar im' feddwl yn fawr o'm Ceidwad, a mwy nag erioed o'r cennad ieuanc a serchog a ddywedai mor dda am dano. Ei destyn ydoedd Dat. v., 9 :— A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng xvyt ti i gymeryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef oblegid ti a ladd- wyd, ac a'n prynnaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a ch,enedl. 'Does mo'r gofod i ddilyn y bregeth, yn unig goddefer rhai o'i brawddegau tlysion a chrvf:— v 1. Yr Oen fel agorydd y Llyfr ydoedd ei rhediad. Y llyfr ydoedd pwrpas Duw. Y gyfrol gyntaf ydoedd Llyfr Natur,-hen lyfr nid chwo mil oed fel y tyhiai'r- hen Usher wrth ddatWr Beibl, ond 'chwe mil o filiynau hwyrach ond llyfr nad oedd yn fel i gyd, ac ambell ddalen ddu, ddyrus, ynddo a'i boen a'i ymdrech—" yn goclij gan ddant ac ewin "—yn anodd eu hesbonio. Ond deddf y Groes, yn y pen draw, ydyw deddf y gread- igaeth ac y mae rhywbeth yn fendigedig o anwyl yn y cread pan gofid mai cysgod meddwl yr Iesu ydoedd. (2) Yn agor Llyfr Rhagluniaeth. Dywed- asai un o wyr mawr y Cyfandir, wrth edrych ar boen bywyd Pe bawn i yn lie Duw, buasai'r boen sydd yn y byd wedi torri nghal- on er's talm." Ond heb ddeall pwrpas Duw yr ydoedd, na gweled fod yr Oen yn agor hefyd Lyfr troiog Rhagluniaeth. Os ydym ni yn dioddef, y mae Duw hefyd yn dioddef yn ein dioddefiadau ni, ac yng Nghrist yn cynieryd pen trymaf y Groes ar ei ysgwydd friw ei hun. Yr oedd nofelwyr arwynebol yn son yn dragywydd am boen y byd ond nid poen, ond pechod, ydoedd problem fwyaf bywyd ac yr oedd awenau'r universe yn nwylo'r Croeshoeliedig Oen,- Oen oedd yn medru sefyll, nid er fod wedi ei ladd, and am ei fod wedi ei ladd. (3) Yn agor Llyfr Iachawdwri(teth.-Dyma lyfr hyn na Llyfr Natur. Llyfr bwriadau grasol Dnw, yr Hwn oedd wedi meddwl am achub cyn meddwl am greu. Yr onw dyfnaf oil ar ein Hiachawdwr ydyw Oen, nid Llew ac yr oedd yn rhaicJ i'r Oen farw cyn y gallai agor y Llyfr hwn. Pan yn suddo un tro mewn plwc o anobaith, ebe'r pregethwr, fe welais yr Oen yn dringo'r mynydd a baich fy mhechod ar ei gofii, a does gen i .ddim bellach i'w wneud ond mynd o gwmpas i waeddi Teilwng yw'r Oen." •52 Y mae i'r pregethwr wyneb ieuanc, gwridog, di-flew a di ddichell, pryd a gwedd Cymreig drwyddo, llais cloch aidd, hyfryd ac mor hyglyw yn y dechreu ag ydoedd yn y diwedd, yn Ib'i gybydda a'i ollwng yn un wawch gras, syfrdanol, wrth derfynu, megis y mae arfer rhai. Y rnae'n ofalus o'i Gymraeg, megis y gweddai i un a fagwyd yng ngwlad y Bardd Cwsg, Edmwnt Prys, a Wm. Wynn a hir y cadwo ef a'i debyg y nod hwn yn wastad gerbron eu llygaid cael Cymraeg y pulpld mor bur a Chymraeg y Beibl, ac uid ymollwr t; i arfer y glytiaith sydd mor ferwinol i gIn t gyni-ir, Q Y mae'n fachgen (ac yn ddigon clê" i faddeu i mi bob hyfdra) gafodd addysg d L ac y mae'n dilyn pob d-itblygiad o liwy ar feddwl ei ddydd a'i oes ond yn yr hen ddifinyddiaeth yr erys ei gred a'i hyfryd- wch ac wrth esgyn heno i un o'i funmlau hyotlaf wrth son am y Groes a'r M -vw, "diwinyddiaeth I lunden ydoedd y In') a'r label dyner a rocs efe i Gampbelliaetb ydd yn distewi mor gyflym, meddir. Nid pob pregethwr poblogaidd all fnd yn uniongred heb fod na chas na chul, ac wrth weled y mwynhad a gaiff rhai yn pwyo cyfeiliornwr er mwyn cael amen a bendith yr anghyfarwydd—" siarad i'r galeri," chwedl y Saoson-gresyn gweled ambell gennad yn dangos ysbryd anheilwng o'r capi' 1 Y. Ni syrthiwyd i'r demtasiwn honno lieno ond aed ymlaen i dynnu allan galon y tostyn ac i'w gwasgu adref gyda thanbeidrwj dd a difrifwch a argyhoeddai bob calon ac nOlbell i gadwyn o frawddegau hyawdl y brasai'n wiw gan yr Eglwysbach ei hun eu i. iddef a'u harddel. Caffed oes i ymagor ac.addfedu,ac i gyi-edd yr uchelderau mwy sy'n aros ei adnoil lau. Y mae'n Wesleaid cywir, ond yn gashawr scct- yddiaeth o'i galon, a phe clywsai anghenfil hwnnw, buasai'n falch o gael. ei gladdu heb ddimai o fee. H yn t y Seiri. Ddydd Sadwrn diweddaf, aeth aelodau a charedigion Cyfrinfa St. Dewi o Urdd y Seiri Rhyddion ar eu hynt flynyddol. Ymgynhullwyd yn Seacombe, ac er iddi wlawio trwy gydol y bore, cliriodd y eymyl adeg cychwyn, a chaed hindda weddill y daith a'r dydd. Gyrrwyd o Seacombe mewn waggonettes drwy Wirral, sef y llain o wlad brydferth a glas a orwedd rhwng y Ferswy o'r Ddyfrdwy a adwaenai yr hen Gymry tan yr enw Cilgwri, ac at yr hon a'i cheirw y cyfeiria Dafydd ab Gwilym :— Cywir fel y carw wyf fi, AnI gariad y' Nghilgwri." I Aed drwy Poulton, Bidston, Upton, Groasby, Frankby, Caldy, West Kirby, Hoylake, Moreton, hyd yn Leasowe, lie y disgynnwyd i gyfranogi o arlwy ragorol a ddarparesid yng ngwesty'r Castle. Llywyddid wrth fwrdd y wledd gan y Cynghorydd Henry Jones, Y.H., Worshipful Master y Gyfrinfa, ac wrth law iddo yr oedd y Brodyr John Jones, P,M. (a weithredai felMaster of Cere- monies), Griff. Jones Roberts (trysorydd), Henry Francis (ysgrifennydd), Harry Lloyd, S.W., Ellis Roberta, J.W,, Charles Williams, S.D., Robert Roberts, Artro Owen, Tom Jones (Stewards). Wm. Jones (Wavertree), Ernest Williams, Ben Charlton, Arthur Foulkes, White Williams, Llew Wynne, ac ereill Seiri, yn rhifo tua 40 rhwng bonedd- igesau a boneddigion. I- Gwedi te, aed ati i ymfwynhau mewn gwahanol ffyrdd-i weled y morglawdd sydd wedi ei godi ar hyd y glannau i arbed y tir rhag crafangau Dafydd Jones a chan gofio, dyma'r traeth, medd hanes, lie y bu ein hen elyn, y Brenin Canute, yn dysgu'r wers dlos i'w wenhieithwyr gyda go Iwg ar orchymyn i donnau'r aig," Hyd yma y dciiwch ac nid ymhellach." A cherllaw eto, ar yr un traeth, gwelir cannoedd o fon- cyffion yr hen goedwig a gyrhaeddai, yn y cyfnod pell, di-hanes, oddiyma ar draws lie y mae aber y Ddyfrdwy heddyw hyd i Brestatyn yng Nghymru. Ac os gwir yr hanes am y Morfa hwn, gellir dweyd am dano fel y dywcdwyd am Gantre'r Gwaelod E gaed, lie bu yd a gwin, Fawr grufiiau o for-gregin." Yn ddiwedd ar y mwynhad, cymerwyd ffoddgraff y parti dedwydd gan y cyfarwydd Llew Wynne ac yna dychwelwyd yn ol gyda'r ceir drwy Wallasey a Liscard. Pawb wedi mawr fwynhau'r daith, y golygfeydd, a'r pethau dyddorol a glywyd a phawb yn canmol y trefniadau rhagorol a wnaethid ar eu cvfer.

--0----Pwy bia'r Mynyddoedd.

EBION.