Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HENRY MILES I & COMPANY, t Popular Milliners. Glovers and .0 ;Jt Fancy Drapers. (Popular Milliners* rpi,^ i; STnn^ARGEST AND mOST COMPLETE LOlVn °F SADIES' AND CHILDREN'S AND SHORT GLOVES IN ENGLAND. 4 Latest Novelties in all Departments. II THE SIGN OF THE GLOVE," 25 & 25a Church St., LIVERPOOL. 7385.
Advertising
KEENORA Self- SELF- Raising RAISING I r-t t FLOUR. TRY IT! TRY IT! TRY IT 11 You'll use no other. Sold Retail 2d., 3d., 6d. and Is. per packet From all Grocers and Dealers, Sole Wholesale Agents: Morris & Jones, Liverpool.
Advertising
^°BERTS <5 EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 Kirkdaie Rd., Liverpool. Telephone: 2193 Royal. Waiter Rotierls & Go" 4 Oldhall St., LIVERPOOL. ^OI-ESALE Coal Exporters & Timber Merchants teje °ne 3581 Central, Liverpool. Erams Inauire," Liverpool. volt R IDRIS ^ble Waters In Syphons and Bottles. ()b WATEP,. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. 1)1\ Y GINGER ALE. Etc., etc. II) 1DRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL. 1, I, m L 0 TAILORING I THE MATERIALS ON OFFER FOR THIS SEASON ARE EXCEPTIONALLY GOOD, BOTH IN VALUE 8 STYLE AND WELL WORTH INSPECTION. .1 ALL CAREFULLY FITTED 'PATTERNS.. On Application ,BEATY I EATY 991 THE I CELEBRATED I TAILORS 1 LONDON ROAD II CHURCH ST. LIVERPOOL *lj in ■■■I 'Á.A t Summer Bargains! 500 Cases Elbow=length LACE GLOVES. 6|dv 8-|-d.» 10od. 100 Doz. NEW SUMMER BLOUSES. Beautifully Trimmed !• 211' 3/1 50 Doz. Ladies' WASHING SKIRTS. New Zepher Plaids and Stripes, 2/11, 3/11, 4/11. TJT TWEED DRESS MATERIALS. 250 pieces NEW 1 2 Lovely assortment. t/ 1/6, A/AA2 25 pieces NEW BLOUSE SILK. Choice Designs. 4 2 2- I/O!, l/4i. 1/6t. a Jones's Bee Hive, ø 59, 61, <3 63 BrunswicK Road. 71 "t N N I Remember to use I ,ROL CROSSLEY'S ) ) DRY SOAP, j I IT IS THE BEST. I A A • 9 I GOOD Artificial —T" T ad TEETH are 1 |3K|3K"I" |1 NEEDED BY 1 EVERYONE: To Keep the bloom of youth To Keep good looks. To keep health. Our Teeth are the results of personal experience and practical knowledge; the former lias given us the precise knowledge of our CI ients-i requirements, the latter to meet those needs m a periect and satisfactory way. They are botil in. fit and finish far superior to most Teeth made to-day. Advice and Estimates of Cost, FREE. Mr. HELY'S charges are always moderate. He does not go in for Guinea Sets and such-like things. What he does he does well, and one can be certain of having the highest skill and finest materials at a reasonable outlay. —— H. W. HELY, 13 NORTON ST., London Rd. Corner ø 0 Liverpool. Tel. 0733 Royal. Established 1884 JOHN LLOYD, -HIGH-CLASS TAILOR- (From T. B. Johnston, Lord St.), 89 HOLT ROAD,
Trachwant yr Eglwys.
Trachwant yr Eglwys. YN ddiweddar anfonnodd Mr. McKenna, Gweinidog Addysg, gylchlythyr yn cyn- nwys "Rheolau Newyddion o barthed i Golegau Athrawol (Training Colleges) yr Eglwys Sefydledig. Trefnid fod eu drysau i gael eu taflu yn agored i Ym- neilltuwyr os byddent wedi pasio yr arholiadau, ac yn meddu ar gymhwysterau i fanteisio ar yr addysg a gyfrennid ynddynt. Mewn geiriau ereill, darbodai y Rheolau Newyddion fod y prawflwon (tests) crefyddol ac enwadol i gael eu dileu. Rhaid edrych arnynt o hyn allan nid fel sefydliadau at wasanaeth yr Eglwys Sefydledig ond fel eiddo y cyhoedd, ac o ganlyniad i wasanaethu y rhai sydd yn eu cynnal. Fel gweithwyr Ephesus yn llawn sel dros y dduwies Diana 'gynt pan welsant fod gobaith eu helw hwynt mewn perygl, dyma'r Eglwys yn ymffurfio yn fyddin o ddirprwywyr yn cael eu har- wain i'r gad dan lywyddiaeth Archesgob Caergaint i alw ar y Prifweinidog a McKenna i dynnu'n ol y rheolau, neu ynte ybyddai i'r Eglwys godi mewn gwrthryfel yn erbyn eu hawdurdod Sylwer ar'rai o'r rhesymau a ddefnyddid gan y ddirprwyaeth i geisio cyfiawnhau eu gwrthwynebiad :— Bydd i'r rheolau newyddion ddinystrio cymeriad crefyddol y sefydliadau hyn.- Yr ystyr yw y bydd i'r Ymneilltuwyr a dderbynir iddynt lygru a gwenwyno crefyddolder ysbryd y myfyrwyr Eglwys- ig! Y fath honniad o uwchafiaeth ere-fyddol 1 Y fath sarhauster Pharise- aidd Yn wyneb hanes Colegau Athraw- ol anenwadol yn Lloegr a Chymru, y mae'r awgrym yn brawf o gulni eithafol neu o anwybodaeth anesgusodol, Beth pe cymherid, o ran moesoldeb a chrefydd- older, athrawon Coleg Normalaidd Bangor a'r rhai a addysgwyd yng Ngholegau Athrawol yr Eglwys yng Nghymru Oes rhywun yn ei synnwyr a dybiai am foment fod y rhai a drowyd allan o'r Colegau Anenwadol yn israddol eu buch- edd a'u moes i'r athrawon Eglwysig ? Dylai yr Archesgob wrido am wneud y fath ensyniad enllibus. Yn deilwng ohono'i hun ac o draddodiadau ei deulu, aeth yr Arglwydd Hugh Cecil ymhellach fyth. Barnai ef fod addysg grefyddol anenwadol, neu ddarllen y Beibl a dysgu dim ond y gwirioneddau sydd yn gyffredin i Gristionogion o bob enwad a phlaid, yn niweidiol ac yn wenwyn ysol." Yn ei dyb ef a Lord Halifax, hanfod Crist- ionogaeth yw y gallu a fedd yr offeiriaid i ail eni yn y Bedydd, ac i borthi'r bywyd ysbrydol yn y Cymun! Dywedodd Esgob Manchester, un o wrthwynebwyr casaf y Mesur Addysg diweddaf, ei fod ef yn gwrthdystio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn dangos ffafr i addysg gref- yddol anenwadol. Mor anodd argyhoeddi y clerigwyr hyn mai nid addysg grefyddol anenwadol yw delfryd yr Ymneilltuwyr. Maent yn dysgu eu neilltuolion enwadol. Dysgant athrawiaethau lawer ond cyf- addawd yw addysg anenwadol. Ni fynn- ant i Addysg Enwadol gael ei chyfiwyno ar draul y Wladwriaeth. Ceisiant chwilio am ryw dir cyffredin lie y gall y Pabydd, yr Eglwyswr Seisnig, a'r Ymneilltuwr gydgyfarfod. Ond, hyd yn hyn, nid ydys wedi llwyddo. Ac nid oes un arwydd y gellir llwyddo tra bo clerxg..v v fel Hugh Cecil yn llywio polisi yr Eglwys Wladol. Ac yn wyneb hyn oil, prin y gall neb sydd yn dadleu dros yr egwyddor wirfoddol ynglyn a chynnal crefydd deimlo gofid mawr o achos y methiant. Rhwymir y Weinyddiaeth a'r Senedd i ganfod nad oes dim yn aros ondjysgariad yr Addysg Fydol a'r Addysg Grefyddol. Dy- lai y sefyllfa ddeffroi Cristionogion o bob plaid i ymgymeryd o ddifrif a'r gorchwyl a ymddiriedwyd iddynt gan [Sylfaenydd ein crefydd. Dydd o ofwy blin i Eglwys Loegr fu y dydd y mynasant daflu cyn- haliaeth eu hysgolion elfennol a'u Coleg- au Athrawol ar y trethi cyhoeddus. Rhybuddiwyd hwy gan yr Archesgob Temple, ond ni fynnent wrando. Rhag- welodd ef yn gywir y collent, yn hwyr neu yn hwyrach, lywodraethiad y cyfryw. Yn awr, dyma Mr. McKenna yn trefnu fod i nifer o lywodraethwyr y Colegau Athrawol i gael eu penodi gan y Cyngor Plwy a Bwrdd y Gwareheidwaid! Y fath dro ar fyd! Teflir y cedym, yu yswain ac offeiriad, o'u heisteddfau, a dyrchefir y rhai iselradd i lanw eu seddau O Eglwys Loegr ti a'th ddinystriaist dy hun drwy dy wane aniwall am dra- arglwyddiaeth a gorfaeliaeth, a hynny ar draul y tretlii cyhoeddus. Mor ddall y buost
--0,--Adran Gymreig y Bwrdd…
--0, Adran Gymreig y Bwrdd Addysg. DA gennyai weled arwyddion fod penodiad Mr. Alfred T. Davies a Mr. O. M. Edwards yn dechreu dylanwadu ar safle yr iaith Gymraeg yn ein hysgolion elfennol, ac yn ein Colegau Athrawol. Mae y Code cyntaf o'u heiddo newydd ymddangos. Ynddi gelwir sylw yr ath- rawon a'r llywodraethwyr at werth y Gymraeg fel moddion diwylliant y plant. Addewir gwneud paratoadau i'w haddysgu yn fwy effeithiol yn y Colegau Athrawol. Gelwir sylw at yr Ysgolion Haf a gynhelir at wasanaeth y rhai sydd yn barod yn athrawon. Ofnwyd yn ddiweddar fod adran Cowper Temple mewn perygl o fyned yn ddirym. Ond ceir yn y Code newydd rybudd fod troseddu yn erbyn yr adran bwysig honno yn peryglu y Grant. Rhwng popeth, dylem longyfarch Mr. McKenna a'r Adran Gymreig am eu bod yn talu cymaint o sylw i hawliau eyfiawn Ymneilltuwyr y deyrnas. Mae'n amlwg na oddefir yn hwy i'r Eglwys Wladol broselytio ein pupil teachers ar draul trethi y deyrnas. Bydded i bawb wneud eu goreu dros eu hegwyddorion ond ar eu traul eu hunain. I lawr a pliob gorfaeliaeth yw arwyddair ein hoes, a diolch am hynny.
-0-Llythyr Gwleidyddol ----
-0- Llythyr Gwleidyddol [GAN Y GWYLIWR]. O'r Tibr, Westminster, Nos Fawrth, Gorff. 23, 1907. Effeithiau Llacrwydd. PAN fo'r Llefarydd yn absennol, a phan fo'r cynhulliad ym Mhwyllgor fel y byddis yn dweyd, y mae Ty y Cyffredin o dan reolaeth ac arweiniad Mr. Alfred Emmott, yr aelod seneddoi dros' Oldham. Nid oes neb eto wedi deall yri iawn paliani y gosodwyd Mr. Emmott yn y swydd bwysig hon; i'r sylwodydd cyffredin y mae'n cyfateb i'r round peg in a square hole. Perthyna i'r dosbarth o ffyddlon- iaid y dywed pawb yn dda am danynt, yn bennaf ar gyfrif eu meddiant o fwyn- eidd-dra a chwrteisrwydd sydd yn ymylu ar lacrwydd. (Rhwng cromfachau, y mae lnwy nag un ohonynt hwyrach i'w cael yn y Blaid Seneddoi Gymreig). Nodweddion i gyfarfod tywydd teg ydyw y pethau a. nodais yng nghanol y storm- ydd sy'n chwythu ar Gadair y Llefarydd. Y mae mwy 0 "Kv am north a ph ender- fyniad nag am gwrteisrwydd a mwyneidd- dra. Y me Mr. Lowther, fel Lord Peel o'i flaen, yn gw ybod hynny yn burion, ac or nad ydyw un amser yn angliofio '■»ners, y mae ganddo rywbeth amgen- ach i drin fý y Cyffredin na'r soft answer sydd weithiau yn ddigon i droi ymaith ddigofaint. Wel, p'am 'rwy'n son ? WeI, dyma'r paham Neithiwr fe welais a'm llygaid fy hun Mr. Emmott yn cwympo yn un o'r maglau a osododd ef ei hun. Cynhygiodd Mr. Clancy, un or aolodau Gwyddelig, ryw welliant dibwys i'r Evicted Tenants Bill. Gwrthododd Mr. Birrell y gwelliant, ac wrth gwrs nid oedd gobaith iddo basio. Ond yr oedd y Ty yn ddifraw a Mr. Emmott yn llac. Nid felly (Parhad ar tudal 2).