Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

NOD AC ESBONIAD.

Mynegair i Salmau Can EdmwndI…

--u--Argyfwng y Glo.

CRED A MOES.

Natur a'r Natur Ddynol.

Bywyd yr Unigolyn.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Bywyd yr Unigolyn. Awn heibio i bennod sydd yn ymdroi a chalon dyn gydag un frawddeg sydd yn dweyd mai yr hyn y mae'r lesu yn ei gynnyg yw ystyr hanfodol bywyd a'r amcan mewn golwg, ynghyda'r cyfeiriad i gerdded er cyrraedd yr amcan hwnnw; ac awn ymlaen at y bennod sy'n ymwneud a bywyd yr unig- olyn. Fe ddywed yr lesu fod yna fywyd tragwyddol a'i egin mewn dyn. A phrif nod dyn ydyw dwyn i addfedrwydd y bywyd ysbrydol yma oddimewn iddo. Teyrnas Nefoedd neu Deyrnas Dduw ydyw'r Bywyd Ysbrydol yma. Mae'r deyrnas hon wedi ei sefydlu, ac fe ddichon i ddynion fyned i mewn iddi ar unrhyw adeg yn wir, y maent yn ddibaid yn myned i mewn iddi yn y bywyd daearol hwn. Gallwn yn awr nodi prif elfennau y bywyd hwn fel y mae yn datguddio ei hun yn yr unigolyn. 1. Mae dyn yn dechreu meddiannu y gwir fywyd a thyfu ynddo yn unig i'r graddau y mae yn cyfarfod goruchwyliaethau a dyled- swyddau, dyrys bynciau a chyfleusterau bodolaeth dyddiol yn ysbryd awydd meddwl agored i wneud, i wybod ac i fod yr hyn sydd well. Pan mae Crist yn dweyd y rhaid i ni fod fel plant bychain, y meddwl yw fod yn rhaid i ni fod fel plentyn yn ein parodrwydd i fod yn feddwl agored, a gweithredu heb gael ein rhwystro gan ofn y canlyniadau na syniad- au y byd am danom. 2. Mae yn canlyn fod gweithredoedd dyn- ion yn dda mewn gwirionedd yn unig i'r graddau y maent yn cael eu penderfynu o'r tu mewn gan gymhellion y mae ef wedi eu pwyso, a'u eymeradwyo, a'u datgan gan ei ewyllys ymwybodol ei hun. 3. Rhaid i ddyn beidio gweithredu am ganmoliaeth neu wobr, ond yn syml er mwyn y nod a llawenydd o weithio, llawenydd o gymundeb a chymdeithas a'r Meistr Weithiwr Mae'r egwyddor hon yn dal mewn grym pa un bynnag a fydd yn gynhorthwy ymarferoj i'n cymydog, dweyd y gwir, gweddi ar Dduw, neu unrhyw beth. 4. Ni edy'r dyn ymha un y mae'r egwyddor ysbrydol hon yn teyrnasu i'w gywirdeb rnewnol, rhyddid, a thangnefedd ei berson- oliaeth gael ei ddinystrio gan ofn oddiwrth ffawd allanol neu anghymeradwyaeth y dynion sydd yn byw ac yn barnu yn unig yn ol safonau traddodiadol ac arferol. Ni wnaiff hwn wario ei holl ymadferthoedd mewn canlyn yn wallgof ar ol buddiant neu bleser neu gymeradwyaeth neu gondemniad cyf- lafareddwyr cymdeithas. 5. Gwnaiff y dyn sy'n dilyn egwyddorion Crist ymdrech i ddefnyddio ei alluoedd ei hun, oherwydd eu gwerth mewnol fel priod- oleddau ysbryd personol ac oherwydd eu gwerth i helpu dynion ereill ymlaen. 6. Ni wnaiff y dyn sy'n derbyn egwyddor- ion Crist am fywyd farnu llwyddiant neu aflwyddiant bywyd dynion ereill wrth safonau ei fywyd ef ei hun. 7. Fe dyf yn y dyn hwn gywirdeb neu gyfanrwydd bywyd moesol, gan y bydd iddo bob amser wasanaethu yr hyn sydd yn wir, ac y bydd bob amser yn elyn i bob twyll a geudeb. 8. Gan edrych bob amser am gyfle i hyrwyddo mewn ereill yr un ddynoliaeth resymol, rhydd ac ysbrydol ag a geisid ei feithrin ynddo ef ei hun, y mae'r cyfryw ddyn yn datgan ymhob gweithred foesol awdurdod a gwirioneddolrwydd y ddynoliaeth ddel- weddol sydd yn tyfu yn gyson yn y byd drwy ddewisiad yr unigolyn o wirionedd., cyfiawnder, maddeuant, cariad ymarferol, anibyniaeth enaid a chywirdeb meddwl.

Bywyd Cymdeithasol.

Pistol Saethu Blaenoriaid,

* Y Wadd a'r Hedydd.

Advertising

-0-Llythyr Gwleidyddol ----