Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
NOD AC ESBONIAD.
NOD AC ESBONIAD. [Pob gohebiaeth ynglyn a'r golofn hon i'w danfon i'r Parch. O. EILIAN OWEN, 16 Argyle Road, Anfield Road, Liverpool]. Llyfr Du Caerfyrddin. Mor Truan genhyf, mor truan a deryv am keduyv a chaduan. AM. Before V. y amvin ae elin terwin guinet 29a5 and defend from its enemy the frontiers of Gwynedd Ar traethev trvwruid in amvin a garvluid 48al0 On the strands of Trywruid contending with Garwlwyd Before W. Ac arall amwall am dwylan gwy 24al5 Before Y. Ac vei gyuerkinan am y gylchin huan 9b4 And should there be a language all com- plete about the sun Am yscud ar wy isguit 25a9 With mv shield on my shoulder a myned y loegruis diSuis trewi 27b9 and that there will be to the Lloegrians the falling of cities A myneich a obrin beich o bechodev 28bl3 and monks who will compensate for loads Piev y bet pedrival ae pedwar mein amtyal 35a4 Whose is the quadrangular grave, with its 4 stones around the front Ny gvnaho dowit duypoen ar din amydic ae awar 35b4 May not the Lord inflict severe pain on man for his anger and passion Amykywrev ymelis 51a8 and for the sweet strains
Mynegair i Salmau Can EdmwndI…
Mynegair i Salmau Can Edmwnd Prys, 1621. AKGHYPIAWN. i'r beilch anghyflawn tanbaid Siss oddiwrth anghyfiawn ddynion 11915,) AKQHYFIIWR. echrysaint, ac anghyflwr 91 mwy goflo eu anghyflwr 109];) ANGO'. a thy dy dad yn ango' 45io ANGOF. a'i byth yr wyf mewn angof 131 f DuWn tarian nad fl'n angof 849 a'i taflu 'nglhadd mewn angof 885 a'th iowndeb yngwlad angof 8812 na.'i ddoniau ef yn angof 1032 ANGOK. nid ofnaf f'angor deilwng 462 ANGYLION. ychydig is Angylion 85 angylion Duw mewn cerbyd 6817 sef bara yr Angylion 7825 anfonodd ddrwg angylion 7849 ymysg Angylion pwy mal Ion 896 cans archawdd iw Angylion 9111 angylion, ai holl gedyrn 10320 Yngwydd holl Angylion y net 1381 Molwch hwn holl Angylion nef 1482 AIL. Chwiliais, a cheisiais yr ail tro 37&> Gwna honynt hwythau laddfa ail 8310 Hid yw dyn ond fel hun, neu ail 906 A phe meddyliwn, yr ail tro 13911
--u--Argyfwng y Glo.
--u-- Argyfwng y Glo. lVIEWN cynhadledd yng Ngwrecsam ddydd Sadwrn o gynrychiolwyr y meistriaid a'r gweithwyr i geisio dod i gyd-ddealljfgyda golwg ar restr y prisiau a chyflogau'r bechgyn, uiethwyd yii. lan a chytuno, ac ymwasgarwyd hyd na wyr neb pa bryd. Gyndyned ydyw'r ddwy ochr i osod y pwnci gyflafareddiad, fel nad oes ond streic a chlem o flaen yr ardal.
CRED A MOES.
CRED A MOES. ^YESUS CHRIST AND THE ICIVIL- J IZATION OF TODAY, by JOSEPH ALEXANDER LEIGHTON, Ph.D., Professor of Philosophy and Psychology in Hobart College. London MACMILLAN & Co., LTD. ^1907. MAE'r llyfr hwn yn ymwneud- a rhai o'r materion pwysicaf a ddichon i ddyn feddwl am danynt. Mae yn ymdrechu darganfod anghenion moesol sylfaenol ein dyddiau ni, penderfynu wrth ba egwyddorion ymddygiad y gellir cadw a meithrill cymeriad ysbrydol dyn a gwareiddiad. Ac y mae yn ceisio dod o hyd i berthynas dysgeidiaeth foesol yr lesu ar fywyd ysbrydol ein dyddiau ni. Nid penderfynu holl fan gwestiynau cydwybod yn ddeddfol, nid rhwydwaith o gyfarwyddiad • au manwl a chaeth yw'r efengyl. Mae lesu Grist yn darparu y lefain fywiocaol ond y mae yn nodwedd hanfodol o'i ddysgeidiaeth foesol Ef fod pob unigolyn, ymhob amgylch- iad neilltuol a ddaw i'w gyfarfod, yn pen- derfynu ei ymddygiad drwy sefyll yn rhydd ac ymwybodol i weithredu yn unol a goleuni yr egwyddorion roddwyd i lawr ganddo. Os yw hyn yn wir, gwelir fod y llyfr hwn yn dysgu yn hollol wahanol i'r llyfr poblogaidd hwnnw YNG NGHAMRAU'B, 1ESU." Ac o'n rhan ein hunain, credwn mai Dr. Leighton sy'n gywir. Fe geir ugeiniau o gwestiynau yn hanes pob dyn bron bob dydd, nad ellir meddwl gofyn pa beth a fuasai yr lesu yn ei wneud mewn cyffelyb amgylchiadau. Nid yw bywyd dyn cyifredin i'w benderfynu yn 01 deddfau bywyd dyn o athrylith. Mae moeseg draddodiadol gwareiddiad Cristnogol ar ei phrawf heddyw. Ac wrth ddweyd hyn yr ydym ar yr un pryd yn dweyd fod yr elfennau mwyaf ysbrydol ym mywyd personol a chymdeithasol ein gwareiddiad hefyd ar brawf. Ac yn y cyfwng pwysig hwn, rhaid i ni fyned tu draw i foeseg dra- ddodiadol Cristionogaeth, sydd wedi ei chym- ysgu ag elfennau estronol, hyd at foeseg y Sylfaenydd er mwyn penderfynu o'r newydd beth sy'n arhosol a hanfodol mewn Crist- ionogaeth. Pan awn yn ol hyd at y cofnodion ysgrifenedig boreuaf i gael gafael ar fanylion ei fywyd neu egwyddorion ei ddysgeidiaeth, rhaid i ni beidio anghofio ein bod yn ymwneud a phersonoliaeth fyw-gydag achos ysbrydol unigol.
Natur a'r Natur Ddynol.
Natur a'r Natur Ddynol. Mae dyn gwareiddiedig yn sefyll ar un llaw yn nes at natur ac ar y llaw arall ymhellach oddiwrthi nag oedd Ewropead yn sefyll yn y canol oesoedd. Ar un llaw, y mae yn llai darostyngedig i natur, llai yn greadur ei nwydau, llai yn ilport galluoedd natur, llai yn ysglyfaeth dychmygion cymysgedig ynghylch natur, yn awr nag yn y canol oes- oedd. Mae dyn yn ein dyddiau ni wedi dysgu dar- ostwng a llywodraethu natur. Mae yn teimlo ei hun oherwydd ei fedrusrwydd arbennig yn feistr ami. Ond ar y llaw arall, mae yn meddu ymwybyddiaeth gliriach o'r cortynau lliosog sydd yn ei gylymu a natur. Mae dyn yn ymwybodol o drefn ac unoliaeth gyfundrefnol natur na wyddai Ewropead y canol oesoedd ddim am dano, Mae dyn yn ein dyddiau ni, gan hynny, yn teimlo fod yn rhaid iddo ddod i delerau a natur. Rhaid i natur ddarparu ar gyfer datblygiad yr enaid. Rhaid i'r bywyd ysbrydol dyfu allan o'r naturiol. Ymddengys nas dichon fod unrhyw ymrafael anghymodlon rhyngddynt. Os nad ellir eysoni natur ag ysbryd, yna nid oes na chartref na sylfaen gweithrediad i ysbryd yn ein byd ni. Ac eto, mor bell y mae natur a'r natur ddynol o ddatguddio i'r meddwl gwyddonol amcan terfynol mewn cyd- weithrediad dedwydd, fel ag i beri arweinydd enwog mewn gwyddoniaeth natur- iol ddatgan fod gwrth-ymdrech hanfodol cydrhwng tueddiadau a chyfeiriada.u natur ag agweddau moesol a chymdeithasol neilltuol bywyd dynol. Beth sydd gan yr lesu i'w ddweyd ar y mater yrria ? Mae, ar yr olwg gyntaf, fel pe ba'i yn tueddu at gadarnhau difrawder y drefn naturiol i ystyriaethau moesol, canys y mae efe yn peri i'r haul godi ar y drwg a'r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn (Matthew v. 45). Ond, mewn gwirionedd, mae'r dywediad hwn yn datgan syniad am natur fel datguddiad o ddaioni dwyfol sydd yn sefyll ymhell uwchlaw moesoldeb deddfol cyffredin. Am fod Duw yn cyfrannu o'i roddion gyda llawnder digyffelyb, y mae'r haul yn tywynnu ar y drwg fel ar y da, a'r gwlaw yn disgyn yn gyfartal ar y cyfiawn a'r anghyfiawn. Nid yw natur yn ol dysg- eidiaeth yr lesu yn wrthwynebol i'r natur ddynol.
Bywyd yr Unigolyn.
Bywyd yr Unigolyn. Awn heibio i bennod sydd yn ymdroi a chalon dyn gydag un frawddeg sydd yn dweyd mai yr hyn y mae'r lesu yn ei gynnyg yw ystyr hanfodol bywyd a'r amcan mewn golwg, ynghyda'r cyfeiriad i gerdded er cyrraedd yr amcan hwnnw; ac awn ymlaen at y bennod sy'n ymwneud a bywyd yr unig- olyn. Fe ddywed yr lesu fod yna fywyd tragwyddol a'i egin mewn dyn. A phrif nod dyn ydyw dwyn i addfedrwydd y bywyd ysbrydol yma oddimewn iddo. Teyrnas Nefoedd neu Deyrnas Dduw ydyw'r Bywyd Ysbrydol yma. Mae'r deyrnas hon wedi ei sefydlu, ac fe ddichon i ddynion fyned i mewn iddi ar unrhyw adeg yn wir, y maent yn ddibaid yn myned i mewn iddi yn y bywyd daearol hwn. Gallwn yn awr nodi prif elfennau y bywyd hwn fel y mae yn datguddio ei hun yn yr unigolyn. 1. Mae dyn yn dechreu meddiannu y gwir fywyd a thyfu ynddo yn unig i'r graddau y mae yn cyfarfod goruchwyliaethau a dyled- swyddau, dyrys bynciau a chyfleusterau bodolaeth dyddiol yn ysbryd awydd meddwl agored i wneud, i wybod ac i fod yr hyn sydd well. Pan mae Crist yn dweyd y rhaid i ni fod fel plant bychain, y meddwl yw fod yn rhaid i ni fod fel plentyn yn ein parodrwydd i fod yn feddwl agored, a gweithredu heb gael ein rhwystro gan ofn y canlyniadau na syniad- au y byd am danom. 2. Mae yn canlyn fod gweithredoedd dyn- ion yn dda mewn gwirionedd yn unig i'r graddau y maent yn cael eu penderfynu o'r tu mewn gan gymhellion y mae ef wedi eu pwyso, a'u eymeradwyo, a'u datgan gan ei ewyllys ymwybodol ei hun. 3. Rhaid i ddyn beidio gweithredu am ganmoliaeth neu wobr, ond yn syml er mwyn y nod a llawenydd o weithio, llawenydd o gymundeb a chymdeithas a'r Meistr Weithiwr Mae'r egwyddor hon yn dal mewn grym pa un bynnag a fydd yn gynhorthwy ymarferoj i'n cymydog, dweyd y gwir, gweddi ar Dduw, neu unrhyw beth. 4. Ni edy'r dyn ymha un y mae'r egwyddor ysbrydol hon yn teyrnasu i'w gywirdeb rnewnol, rhyddid, a thangnefedd ei berson- oliaeth gael ei ddinystrio gan ofn oddiwrth ffawd allanol neu anghymeradwyaeth y dynion sydd yn byw ac yn barnu yn unig yn ol safonau traddodiadol ac arferol. Ni wnaiff hwn wario ei holl ymadferthoedd mewn canlyn yn wallgof ar ol buddiant neu bleser neu gymeradwyaeth neu gondemniad cyf- lafareddwyr cymdeithas. 5. Gwnaiff y dyn sy'n dilyn egwyddorion Crist ymdrech i ddefnyddio ei alluoedd ei hun, oherwydd eu gwerth mewnol fel priod- oleddau ysbryd personol ac oherwydd eu gwerth i helpu dynion ereill ymlaen. 6. Ni wnaiff y dyn sy'n derbyn egwyddor- ion Crist am fywyd farnu llwyddiant neu aflwyddiant bywyd dynion ereill wrth safonau ei fywyd ef ei hun. 7. Fe dyf yn y dyn hwn gywirdeb neu gyfanrwydd bywyd moesol, gan y bydd iddo bob amser wasanaethu yr hyn sydd yn wir, ac y bydd bob amser yn elyn i bob twyll a geudeb. 8. Gan edrych bob amser am gyfle i hyrwyddo mewn ereill yr un ddynoliaeth resymol, rhydd ac ysbrydol ag a geisid ei feithrin ynddo ef ei hun, y mae'r cyfryw ddyn yn datgan ymhob gweithred foesol awdurdod a gwirioneddolrwydd y ddynoliaeth ddel- weddol sydd yn tyfu yn gyson yn y byd drwy ddewisiad yr unigolyn o wirionedd., cyfiawnder, maddeuant, cariad ymarferol, anibyniaeth enaid a chywirdeb meddwl.
Bywyd Cymdeithasol.
Bywyd Cymdeithasol. Ni chawn bellach ond cyfeirio yn unig at un bennod arall o'r llyfr, gan gymell pob un i ddarllen y gweddill drosto ei hun, sef y bennod sy'n ymwneud ag ymddygiad Bywyd Cym- deithasol. 1. Bywyd o wasanaeth ydyw'r bywyd yn y Deyrnas Nefol newydd sydd i wawrio ar fyd. A'r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi. A phwy bynnag a'i dyrchafo ei hun a ostyngir a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a ddyrchefir." (Matt. xxiii. 11-12). Canys ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu ond i wasanaethu (Marc x. 45). 2. Mae'r gwasanaeth yma i fod, nid yn ol haeddiant, ond yn ol angen. Pan wnelych wledd, galw y tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion (Luc xiv. 13). "A dyro i bob un a geisio gennyt (Marc vi. 30) cym. Matt. v. 42, xix. 21, &c.). Nid yw'r lesu yn cymell dyngarwch amhenodol, cydym- deimlad cymysg a dynoliaeth sy'n diflannu mewn niwl gan deimlad. Mae yn nodi gwasanaeth penodol i bersonau anghenus penodol. Nid yw ef yn meddwl llawer o frwdfrydedd am droedigaeth paganiaid fil- oedd o filltiroedd draw, tra yn ddall neu yn ddifraw o anghenion neu deimladau trigolion y stryd nesaf, ac yn ddidaro am ddiodd- efiadau a drygau llafur y plant, tai afiach a gorlawn, &c. Ac ar y llaw arall, y mae hanesyn y y Samaritan trugarog a lefarwyd mewn atebiad i'r cwestiwn. Pwy yw fy nghymydog? yn dysgu nid yn unig ein bod yn gweinyddu ar achosion a ddaw yn syth o dan ein sylw. Mae yn golygu hefyd, ymha le bynnag y mae yna angen, fod dyledswydd yn cael ei chreu. 3. Y cymhelliad at roddi gwasanaeth yw cariad personol, hynny yw, parch at a gofal am bob enaid dynol. Car dy gymydog fel-ti dy hun." 4. Tystiolaeth a chanlyniad amlycaf o rym mewnol y cymhelliad yma o gariad ydyw maddeuant diwarafun, teimlad da sy'n gorchfygu ac yn erlid ymaith bob Hid a digofaint, ac nad yw yn cael ei flino a'i arwain gan haeddiant personol. Maddeu hyd ddengwaith a thrigain seithwaitli (Matt. xviii. 22). Cerwch eich gelynion, &c. (Matt. v. 44-45). 5. Bywyd cymdeithasol ydyw'r unig wir fywyd moesol ac ysbrydol. yli Credwn ein bod wedi dyfynnu digon i ddang- os fod y llyfr hwn yn ymwneud a chalon yr efengyl. r.J!
Pistol Saethu Blaenoriaid,
Pistol Saethu Blaenoriaid, Yr ydoedd ynglyn ag un o gapelau Cymraeg Lerpwl, amser yn ol, wr blin a chneclyd, na fyddai byth yn fwy ddiddig na phan yn saethu at y blaenoriaid am rywbeth neu gilydd. Sut bynnag, o ffawd neu anffod, fe'i dewis- wydyntau o'r diwedd yn flaenor, adranoeth wedi noson y dewisiad, galwodd un o aelodau'r eglwys gydag ef, ac ebra fo John E- wedi galw yma 'rydw i ofyn am y pistol hwnnw fydde gynnoch chi i saethu at y blaenoriaid, achos newch chi ddim byd a fo bellach, newch chi ?
* Y Wadd a'r Hedydd.
Y Wadd a'r Hedydd. Y Wadd, ar un bore teg o Fai tesog, ys- blenydd, a welai'r Hedydd yn entrych awyr ,yn canu goslef gorfoledd. Gwae fy nhyng- ed," ebe hi, na buaswn Hedydd ac nid Gwadd cawn esgyn ehangder dirwystr y wybren, Ile ni chawn a'm lluddiai ar fy nhaith ac yn ngoleuni'r nwyfre cawn ganu fy ngwala gan lawenydd bodd calon lie yr wyf yn awr yn gorfod ymdrafferthu yn cloddio'r ffordd yr af drwy'r ddaear galed garegog heb fymryn o ryddid y ffordd y cerddwyf, lie nid oes na goleu na dim ond llwyrdeb tywyllwch i mi ymbalfalu yn galedgamp drwyddo." Gyda bod y gair o'i phen, gwelai Walch yn gafaelu ar yr Hedydd, ac yn ei ladd a'i fwyta. Yna, gan feddwl gwell, y dywedai y Wadd, Clod i Dduw fy mod yn Wadd mewn diogelwch, er maint fy nhrafferth a'm helbul, a'm bod ynghudd dan ddaear a thywyllwch, lie nid oes na Gwalch nag arall o reipus a'm gwel." Nid gwynfyd heb ddiogelwch, nid diogel- wch heb wynfyd. Boddloned pawb i'r cyflwr y'i rhodded ynddo gan Dduw, a wyddai yn well na dyn beth oedd oreu, ac a wnaeth o wir gariad a welodd yn oreu i bob byw a bod.
Advertising
Mewn Llian Hardd, 414 o Dudalennau, Hanes y Diwygiad a'r Diwygwyr: < Yn cynnwys hanes Mr. Evan Roberts, ei rieni, ei ddygiad i fyny, ei alwad i'r gwaith, &c., &c., gan y Parch. Thomas Frances, Gorseinion. Hanes cychwyniad a lledaen- iad y Diwygia drwy Gymru, wedi ei ysgrifennu gan lenorion adnabyddus. Hanes Mr. Dan Roberts a Mr. Sydney Evans, a chargliad o farddoniaeth y Diwyg- iad, Cynhwysa y gyfrol liaws o ddarluniau, y rhai a gyhoeddir am y waith gyntaf, megis darluniau o rieni Mr. Evan Roberts, Capel Casllwchwr, ac Ysgoldy Pisgah, &c., &c. PR1S HANNER CORON, nett. E. W. EVANS, Swyddfa'r Goleuad," Dolgellau. I LLYFR AR RAI 0 BYNCIAU PWYSICAF Y DYDD.. Ymneillduaeth Eglwys ø Loegr, el yn cynnwys Adolygiad ar y Ddadl rhwng Canon Will- iams, B.D., a Glanystwyth ar 11 Ffurflo Eglwys." Gan y Parch. THOS. HUGHES (Lerpwl). Ymdrinir ynddo ag honiadau Uchel Eglwyswyr, Pabyddiaeth yn Eglwys Loegr, &c., &c., a cheir ynddo Restr o Offefriaid Cymreig sydd yn Aelodau o'r 'English Church Union < a Chymdeithasau Gwrth=Brotestan= aidd ereill. Gan fod Dadwaddoliad a Datgysylltiad yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru yn bwnc y dydd, mae perchenogion y Brython wedi gwueud trefniadau gyda'r Parch. THOMAS HUGHES i gynnyg y llyfr uchod am brisiau gostyngol. Amlen 1/- am 9c. Trwy y post 10c. Llian Cryf, 1/6 am 1/- Trwy y post am 1/1 BARN Y Gwir Anrhyd. D. LLOYD GEORGE A.S. am y llyfr 'Rwyf yn falch iawn o hanes Y Ddadl Fawr. Y mae ymddygiad tral^aus a dallbleidiol yr offeir- iadaeth yn y dyddiau presennol yn prysur wthio hawliau Eglwys Loegr yng Nghymru a honiadau ei chlerigwyr i fysg cwestiynau ymarferol y dydd un waith eto. Ac nis gwn am ddim tebycach i oleuo deall ac i addfedujbarn y werin Gymreig ar y pynciau pwysig hyn na'ch ymdriniaeth feistr- olgar chwi o honiadau Canon Williams yn y ddadl hon." Anfoner archebion i Swyddfa'r BRYTHON' 1 Don Chambers, 8 Paradise St., Liverpool COFIANT a PHREGETHAU Y DIWBDDAU Barch. ROBERT OWEN I (Ty Draw), gan y Parch. JOHN OWEN, Wyddgrug. Telerau arferol i Isyfrwerthwyr, Archebion i'w hanfon i'r Argraffydd- HUGH EVANS, 356-8a Stanley Road, Neu y Parch. WM. OWEN, 11 Greenbank Road, I LIVERPOOL "Y MAB AFRADLON" (The Prodigal Son). Gan T. OSBORNE ROBERTS^ Can Newydd Ddesgrifiadol, i Denor neu Soprano yn E. Flat, Baritone a Contralto yn C. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Y ddau nodiant ar yr un copi, Pris Swllt. TYvvy'r post, 1/1. "0 NEFOL AMEN" (Cân). Can syml dda. Cyfaddas i bob llais. 6c. Quartett, "Y GWLITHYN," S.A.T.B. Yn cymeryd yn dda mewn Cyngherddau a Chystadl- euaeth. Hen Nodiant, 4c., Sol-fla, 2g. CATALOGUE NEWYDD 1907. Yn rhoddi y telerau goreu am Pianos, Organs ac Harmoniums I'w cael gan D. R. JONES (Alaw Madog), BRYN CERDD, 103 HAMPSTEAD ROAD, LIVERPOOL. I make Boots That's my business. You buy Boots That's your business. If you place any value on your feet Come and let me build you a pair, don' orget. An easy Shoe is equivalent to an easy conscience GUTTERIDGE, -BESPOKE BOOT MAKER,— 291 West Derby Rd. (My O ily Mdrens Gwolio Home & Registry for Welsh Servants, HOPE PLACE, LIVERPOOL. Dan arolygiaeth pwyllgor o gynrychiolwyr Cymreig. Lletty cysurus i forwynion yn ceisio lleoedd,—Ymofyner a Miss DAVIES, Lady Superintendent. General Printing of every kind, Commercial and Artistic, at Evans, Sons, & Foulkes, Brython Office, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street (Telephone 1112 Central), and 356A & 358A Stanley Road, Liverpool (Tele- phone 591 Bootle). "R Vsfrc „ ID tipclidy CYMRATG f2/J 0 YW y Vf GORt." < I. WAR\O 'H OOO, ACt FARGEIIiIO AM STOC VWR, VR\S\AU \f P, -V t4 KWAP TftWYTL POCSf ^Otow Crooti f,38 Russell's Chronograph. Massive 18 carat Keyless fluilter. MAGNIFICENT PRESENTATION WAl^J (quite new 6 months ago with proof), in Pe condition This HIGHEST GRADE f Pg? ENGLISH FULL HUNTING HEAVY K&* LESS CHRONOMETER LEVER, by Tb< Russell & Son, Makers to the Queen, Church • Liverpool, with full compensating gold spin, balance, COMPENSATED TO ALL TEMP^ ATURES, adjusted to all positions, j within 5 seconds per month, very latest 8^ perfected class A movement (JEWELLED ENDS), 19 FULL VISIBLE SELECT^ RUBIES, PATENT OVERCOIL BREQUi-^ SPRING, patent Keyless UNBREAKAB^ MAINSPRING, Chronograph Centre SecoD«» and outside, STOP ACTION. A most SciJ ifically accurate instrument,of sensitive ""JSg metic capacity, suitable for EXPLORl^ J NAVIGATING AND ASTRONOMIC" OBSERVATIONS, Late property of a captain (4oz.) HEAVY SOLID 18ct- ENGU^ HALL MARKED GOLD THROUGHOU^ without mark or scratch. Russell's and our years' guarantee accompanies the °tag MONTH'S TRIAL, Security advance guaran^ given with above of £ 15. Exchanges f°rwa £ n{{ to any part of the Kingdom. DAVIES' HIGH-CLASS GOLD HUNTING WATCBT ONE HALF BELOW COST. LOWHH^' LIVERPOOL. Telephone 0777 Royal. Davies's Price fl(illol- w Watches safely despatched to all parts of th f,21 Gents Gold Keyless tfullter, SECONDHAND Gents Solid 18ct High-grade Keyless f-plate English High-gr. ? Full Jewelled Chronometer Lever HUNTER* v0. this noted London maker, with all recent iiyPr0aIjd ments, being of the very finest mechaniso workmanship of this reputed maker, too known to need comment. Warranted a li>e and perfect in all detail. Also one simi^ (gxsfi Russell and Son, Church street, Liverpool (sa price). New six months ago. Davies's Price, £ 6/18/6^ 10 Guinea Russell's Ladies' KeyleSS Just like new, very Strong Keyless Lever for lady, full Jewelled Chronometer BalanCe, Brequet Spring, and latest improvements, onjj 8 months old heavy Solid Gold StafflPj thick Cases, damp and dust proof, nlC0o5 chased makers and our guarantee for years. Wonderful bargain, call to see 1 Month's trial. Cash back if not as represeD ed. Sent on approval. /6 Davies's Price, £ 3/7/6 Every Watch Offered is a Timekeeper 7 Guinea Gents Russell's Solid Silver English Lever. £ 1/18/6 Very strong, heavy I Solid Silver Capped Lever, -j Russell and Son, Church-street, Liverpo of (makers to the Queen) new this year (prer to show). High Grade full plate Chronome balance, ruby jewelled, Brequet Spring & latest improvements (the kind that won't 8 out of order easily. Makers' and our g°1 i antes, 25 years, perfect time-keeper, solij»g in every respect, month's trial. Also Russe secondhand 7 Guinea Silver Hunter, now 3 sent on approval. Stamped Solid Gold Chains- FASHIONABLE GOLD STAMPjP £ 1 Graduated Curb Albert and ,T^ITT stamped every link, revolvingrJLiv. NOW Hall-marked and GOVERNME^, 62/5/- STAMPED another 4± guinea 1 1 uated Curb, now £ 2/9/! BIG JfX, ECTION. EVERY CHAIN WA^ RANTED AT SPECIALLY DUCED PRICES. p SOLID HEAVY GRADUATf CURB AND SEAL (best vai" £ C in the trade). ^overnl?r8ll- stamped every link, and J, NOW marked; also Double p ,^g/. Jb 2/19/6 £2/14/; Double Long Linlk, also a massive Heavy Dou Curb £ 11; now £ 5/12/6. p SOLID HEAVY GRADUA^ QJ CURB ALBERT. Govern^e „ stamped every link: also 8-gu 1g0 NOW Double Curb, now, £ 3 8/6? p3 £ 3/5/= Double Open Curb, £ 9, n°^ l0ed 10/ Double Fetter Link, red j0 from £ 8 8/ to £ 3 9/; u&17j0, Massive Graduated Curb, now £ 4 10/- O QUINEA QOLD WEDDING Il WIDEST AND HEAVIEST 22-CABAT PURE GOLD REDUCED 7/6 IN POUND. FINGER-SIZE CARD 27/6 RINGS NOW 20s. 35/- RINGS NOW 25s. 3;8. PRESENT OF SUGAR TONGS AND HALF-DOZEN TEA DivlS 30 Low
-0-Llythyr Gwleidyddol ----
y Gwyddelod! Pan alwyd yr ayes, ni chymerodd neb y drafferth i ddweyd aye. Pan alwyd y noes,-No, meddai Mr. Redmond a'i fintai! The Noes have it," ebe Mr. Emmott yn ddifeddwl, a dyna'r gwelliant wedi ei gario yn erbyn y Weinyddiaeth ac yn erbyn y mwyafrif Ceisiodd y Cadeirydd dynnu'n ol, ac ail ofyn y cwestiwn, ond ni fynnai Mr. Redmond mo hynny. Rhaid aros yn awr hyd y report stage cyn y gellir unioni, y llacrwydd. Arfodir Cymru. Mae'n debyg fod darllenwyr y BRYTHON yn gwybod fod Comisiwn Brenhinol wedi ei benodi dro yn ol i archwilio effeithiau ysgwriad y mor ar arfordiroedd ein gwlad. Yn ystod y misoedd diweddaf, y mae aelodau y Comisiwn wedi bod yn ymweled ä gwahanol fannau ar yr ochr ddwyreiniol i'n hynys, o Newcastle-on-Tyne i lawr hyd at Bristol. Heddyw y mae is- bwyllgor o dan lywyddiaeth Syr W. Browne Foulkes yn gynwysedig o amryw aelodau seneddol a gwyr mwy profiadol fel Cap ten Frederick, cynrych- iolydd Bwrdd Masnach, a'r Proff. T. J. Jehu, gynt o'r Trallwm, yn cychwyn o Gasnewydd ar Wysg gyda'r bwriad o ymweled ag amryw leoedd ar yr arfordir Cymreig, yn eu plith Caerdydd, Llanellij a Chaerfyrddin, y Ceinewydd ac Aber- aeron, Aberystwyth, y Borth a'r Bermo, Criccieth, Nefyn, a Chaernarfon, Llanfair- fechan, Penmaenmawr, a'r Rhyl. Y mae yn dda gennyf ddeall fod y Pwyllgor yng ngofal ysgrifenyddol Mr. David R. Daniel, o'r Fourcrosses. Tebyg gennyf fod Mr. Daniel yn gwybod cymaint am effeithiau dwfr-boed hallt, boed groew- a neb sy'n fyw, ac eithrio, hwyrach, Plenydd. Mr. Ellis Griffith a Datgysylltiad. > Camgymeriad, 'rwy'n deall, ydyw deyd fod Mr. Ellis Griffith yn bwriadu gadael cwestiwn Datgysylltiad Cymreig y man lie mae. Dywedir ei fod yn galw am gyfarfod arall o'r Blaid Gymreig, ac y cynhelir un ar fyrder i roddi gwrandawiad iddo. Cawn weled beth ddigwydd.