Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

NOD AC ESBONIAD.

Mynegair i Salmau Can EdmwndI…

--u--Argyfwng y Glo.

CRED A MOES.

Natur a'r Natur Ddynol.

Bywyd yr Unigolyn.

Bywyd Cymdeithasol.

Pistol Saethu Blaenoriaid,

* Y Wadd a'r Hedydd.

Advertising

-0-Llythyr Gwleidyddol ----

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

y Gwyddelod! Pan alwyd yr ayes, ni chymerodd neb y drafferth i ddweyd aye. Pan alwyd y noes,-No, meddai Mr. Redmond a'i fintai! The Noes have it," ebe Mr. Emmott yn ddifeddwl, a dyna'r gwelliant wedi ei gario yn erbyn y Weinyddiaeth ac yn erbyn y mwyafrif Ceisiodd y Cadeirydd dynnu'n ol, ac ail ofyn y cwestiwn, ond ni fynnai Mr. Redmond mo hynny. Rhaid aros yn awr hyd y report stage cyn y gellir unioni, y llacrwydd. Arfodir Cymru. Mae'n debyg fod darllenwyr y BRYTHON yn gwybod fod Comisiwn Brenhinol wedi ei benodi dro yn ol i archwilio effeithiau ysgwriad y mor ar arfordiroedd ein gwlad. Yn ystod y misoedd diweddaf, y mae aelodau y Comisiwn wedi bod yn ymweled ä gwahanol fannau ar yr ochr ddwyreiniol i'n hynys, o Newcastle-on-Tyne i lawr hyd at Bristol. Heddyw y mae is- bwyllgor o dan lywyddiaeth Syr W. Browne Foulkes yn gynwysedig o amryw aelodau seneddol a gwyr mwy profiadol fel Cap ten Frederick, cynrych- iolydd Bwrdd Masnach, a'r Proff. T. J. Jehu, gynt o'r Trallwm, yn cychwyn o Gasnewydd ar Wysg gyda'r bwriad o ymweled ag amryw leoedd ar yr arfordir Cymreig, yn eu plith Caerdydd, Llanellij a Chaerfyrddin, y Ceinewydd ac Aber- aeron, Aberystwyth, y Borth a'r Bermo, Criccieth, Nefyn, a Chaernarfon, Llanfair- fechan, Penmaenmawr, a'r Rhyl. Y mae yn dda gennyf ddeall fod y Pwyllgor yng ngofal ysgrifenyddol Mr. David R. Daniel, o'r Fourcrosses. Tebyg gennyf fod Mr. Daniel yn gwybod cymaint am effeithiau dwfr-boed hallt, boed groew- a neb sy'n fyw, ac eithrio, hwyrach, Plenydd. Mr. Ellis Griffith a Datgysylltiad. > Camgymeriad, 'rwy'n deall, ydyw deyd fod Mr. Ellis Griffith yn bwriadu gadael cwestiwn Datgysylltiad Cymreig y man lie mae. Dywedir ei fod yn galw am gyfarfod arall o'r Blaid Gymreig, ac y cynhelir un ar fyrder i roddi gwrandawiad iddo. Cawn weled beth ddigwydd.