Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Nodion o Fanceinion.

I MANCHESTER.

Advertising

II Y Bregeth ar y Mynydd."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

II Y Bregeth ar y Mynydd." CYFEIRIO yr ydwyf at Esboniad newydd ar y Bregeth gan y Parch. Richard Jones (Glan Alaw), Brynrefail, Cwm-y-glo. Llyfr diwin- yddol ydyw, wrth gwrs, ond y mae hefyd yn llenyddiaeth dda. A gwych yw cael ssboniwr a greddf y lienorAyn grefj ynddo. Un felly ydyw Glan Alaw, fel y gwyrdarllen- Wyr Cymru yn bur dda erbyn hyn.^Nid hawdd yw gwybod pa un ai fel bardd ai fel lienor, ai fel esboniwr, ai fel pregethwr, y mae yn fwyaf enwog, tae fater am hynny. Fel esboniwr y mae a wnelom ag ef yn awr. Ac ni byddai angen dweyd mwy na hyn am y llyfr bychan dan sylw wrth y rhai sydd wedi darllen ei Ddarlithiau Esboniadol, a'i esbon- iadau yn y Drysorfa-ei fod yn gyfuniad cryno a hapus o'i ddull yn y ddwy ffordd. Ond fe fyddai yn dda cael ychwaneg na hynny o ddeiliaid yr Ysgol Sabothol i bwrcasu a darllen y llyfr hwn. Prin y gellir meddwl Etm ddim mwy pwrpasol ar y Bregeth fawr ar gyfer athrawon a disgyblion. Y mae wedi ei ysgrifennu yn glir a thra darllenadwy, i'r pwynt yn syml ar bob peth, heb ormod na bychan ar ddim, ac yn addfed ffrwyth llawer o ddarllen a meddwl. Nid oes yma rhyw lawer o son am esbonwyr a dysgedigion wrth eu henwau yn y llyfr, ond fe ellir bod yn sicr na adawodd yr awdwr yr un gwaith o bwys ar y Bregeth heb ymofyn ag ef wrth barotoi. Y mae Glan Alaw yn wr o feddwl cyfoethog a phur anibynol, ond y mae yn gelfyddydwr na fyn weithio heb yr artau goreu at ei law. Nis gwn i am neb yn ei line wedi gofalu am fwy rhif na gwell arfau. Fe ellir bod yn bur sicr nad oes dim gwell i'w ddywedyd ar y Bregeth o fewn cyleh bychan llyfr swllt na'r hyn a ddywedir yn y ^Fe geir, i ddechreu, sylwadau cyffredinol, yn arweiniad rhagorol i'r holl faes ac yna sylwadau mwy uniongyrchol a bob rhan ac adran a brawddeg. Pe bud&ai ofod, mi fuaswn yn dyfynu engreifftiau. Ond 'rwy'n disgwyl y bydd brj^si° at y awdwr am y llyfr, a darllen da amo Y mae wedi ei wneud i fyny yn brydterth iawn, mewn amien lian, gan Gwmni y Cyhoeddwyi Cymreig.

44 Llwyn Hudol."

Nodiadau Cerddorol.

Cerddoriaeth 'Steddfod Llangollen.…

Canu Penillion gyda'r Tanau.

Y Cystadleuon Offerynol.

Advertising