Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XVII.—Y GWARCHAU. TRA y cynhyrfid preswylwyr Bro Einion gan helyntion teulu'r Plasllwyd, cododd Sidi Wood a'i thylwyth eu hychydig fedd- iannau ynghyd ar gefn yr hen greaduriaid ffyddlon oeddynt wedi arfer cario y cyfan er's llawer blwyddyn. Diameu, pe gallasai y ddau geffyl siarad, y buasent yn canmol llawer ar eu hawddfyd tra y trigai eu meistres ym Meudy'r Foel. Pur anaml yr arhpsai Sidi cyhyd yn unman ag yn yr hen feudy tawel, ac nid rhyfedd hynny chwaith, canys ni chaffai hi a'i phobl gystal llonyddwch ymysg preswylwyr nemor i ardal ag oedd yn eiddo iddynt trwy garedigrwydd teulu Llys Gwenllian. Ac nid oeddynt hwythau yn ymddwyn banner cystal mewn ardaloedd ereill, rhaid addef. Y Bedlernod fyddai eu henw yn un man, a gwaeddai'r plant,a rhedent am eu hoedl rhag i'r bobl felynddu eu witshio. Y sipsiwn a theulu Abram, y Iladron digywilydd, y galwai ereill hwynt, a diau eu bod yn haeddu yr enw olaf fel y rhai cyntaf. Ond ni fu i'r un o deulu Sidi feddwl am ladrata eiddo y Llys erioed, ac oblegid y teimladau da fodolai cydrhwng y sipsiwn a Lewis Pennant, arferai yr hen greadures a'i phobl alw heibio i'r Llys pan ar gychwyn i'w siwrnai, i ganu ffarwel, ac i ddiolch am y llety a gawsent ym Meudy'r Foel. Felly, yn ol eu harfer, aethant tuag yno yr adeg yr wyf yn ysgrifennu am dani. Arhosodd yr osgordd yn y ffordd tuallan i lidiart y lawnt, ac aeth Sidi tua'r drws i gyflwyno ei chenadwri. Tra bu hi yn moes- grymu ac yn bendithio, yn ol fel yr arweinid hi gan y planedau, aeth Margaret Pennant i estyn darn o gosyn a hanner torth o fara i gynnal y teithwyr ar eu taith, a phan ddaeth yn ol, a Gwenllian yn rhyw ddawnsio cerdded gyda hi, rhaid oedd diolch a dymuno mil a mwy o ddaioni i'r oil ohonynt. Cyn i Sidi orffen dadlenu dyfodol disglaer y Llys, wele Judy yn gadael ei phobl ac yn rhedeg at y drws yn wylo, ac yn bendithio Missie fach un bob yn ail. Ust, taw, Judy, taw," ebe ei nain. Yn y Plasllwyd mae'r crio i fod. Sut mae'r Sgweiar, tybed, erbyn hyn, Mistres Pennant ?" Mae Judy yn misio gadael Missie fach, nain Sidi. 0, mae Missie fach yn ffeind wrth Judy. 0 0 0 Aeth Gwenllian ati, a sibrydodd yn ei chlust y deuai gwanwyn arall, ac y byddent eto ym Meudy'r Foel, ond anodd oedd per- swadio yr eneth grwydrol fod yn bosibl iddi hi fyw heb weled Missie fach am fisoedd lawer. Camgymeriad ydyw i ni feddwl na fedd y sipsiwn crwydrol galonnau i'w cyff- wrdd. Y gwir yw, ceir fod eu cariad a'u cas yn dueddol i gyrraedd eithafion yn fyn- nych. Tynnodd Judy rywbeth o'i mynwes, a gwasgodd ef i law Gwenllian, ac ebe hi,- yn ddistaw "I goflo am dana i, Missie fach, a neb byth medru gneud drwg i Missie fach ond iddi hi gadw hwna." Ac ymaith a'r nain a'r wyres, ac ymhen ychydig funudau collodd Gwenllian hwynt o'r golwg yn y pellter. Agorodd ei dwrn, a gwelai garreg fechan dlos wedi ei gosod mewn aur pur, a dolen yn un gongl iddi. Nis gwyddai Gwenllian ddim am werth gemau, ac ni chyfleai yr aur melyn fawr o syniad i'w meddwl ynghylch anrheg bryd- ferth Judy. Tybiai yr eneth ei fod yn dlws, ac aeth i'w ddangos i'w thad a'i mam. Welwch," ebe hi, gan ei ddal ar gledr ei Haw. 0 b'le cefaist ti hwna, Gwenllian," gofynnai ei thad, ond gafaelodd ei mam ynddo,'ac ebe hi,- "Gwenllian, lie buost ti i gael peth fel hyn ?" "Judy, mam, rhoth o i mi. Y'n dydi o'n glws, a ma eisio peidio i golli o. Judy," ebe Margaret Pennant, beth ellir wneud, Lewis ? Mae'r" gem yma yn werthfawr iawn,-ruby ydyw, yn sicr. 0 ba le y cafodd Judy y fath beth, tybed ? Ni ddylasai roddi y fath anrheg werthfawr heb yn wybod i mi. Ofnaf mai eiddo lladrad yw." Does dim posib, mam. Mi ddeydodd Judy na fedra dim. byd neud dim drwg i mi --y byddai hwn yn hel petha drwg i gyd i ffwrdd. 0, mam, gaf fi bresent Judy ? Fydd petha lladrad yn gneud dim da i bobol." Wedi peth siarad am dano, o'r diwedd cytunwyd fod yn well cadw'r anrheg mewn bocs bychan o dan glo yn ystafell Gwenllian, ac fod yr eneth i gael golwg arno yn awr ac yn y man, yna os byw ac iach a fyddent hyd nes y deuai'r crwydriaid yn ol, yna rhaid holi Judy yn ei gylch. Tybiai Lewis Pennant fod hynny yn well na clieisio chwilio am y sipsiwn, ac feallai dynnu mwy na mwy o ddigllonedd y llwyth ar Judy druan. Hefyd penderfynasant gadw eu clustiau yn agored rhag y byddai i rywun wneud yn hysbys eu bod wedi colli y maen gwerthfawr, neu ei fod wedi ei ladrata. Rhyhuddiwyd Gwen- llian i beidio son un gair am dano wrth neb,C- ni hoffai ei rhieni i'r si fyned allan fod gem gwerthfawr felly yn y ty. Gallasai fod ryw dro yn berygl bywyd iddynt, pan oedd cymaint o ladron yn y wlad i geisio rhyw eiddo a'u cadwai hwy heb weithio fel dynion gonest ereill. Gwyddai Margaret Pennant mai'r unig ffordd ddidrafferth i ddal tafodau pobl ereill ydyw dal ein tafodau ein hunain i ddechreu. Pe gwybuasai undyn am y rhodd ryfedd i'r eneth, ni fuasai Sara fach Ty'r Capel yn hir heb ddyfod i wybod, ac nid oedd hynny amgen na gyrru'r criwr trwy'r dref i ddweyd yr hanes. Chwareu teg i Gwenllian, cadwodd y gyfrinach i ber- ffeithrwydd. Ni wybu neb fod yno drysor cuddiedig yn gorwedd mewn gwely melfedaidd yn ystafell Gwenllian oedd yn fwy ei werth o lawer iawn na'r Llys a'i diroedd eang bras, er lleied peth oedd i edrych arno. Dranoeth wedi ymadawiad y sipsiwn, daeth y Sgweiar Gwyn am dro tua'r Llys, ac ymddanghosai yn llonni pan glywoddeu bod wedi ymadael, ond buan y deallodd Lewis Pennant fod y Marchog mewn gofid blin, er y ceisiai ymddangos fel arfer. O'r diwedd, wedi codi odditsr y gadair, a pharatoi ei hun i gychwyn tuag adref, trodd yn sydyn at Lewis Pennant, ac ebe ef :— "Digon prin yr hidiwch i mi ddeyd, mae'n debyg, mod i bob amser yn meddwl amdanoch chi fel cyfaill i mi, Lewis Pennant, ond felly rydw i, beth bynnag a mi ellwch chitha foddloni i mi ddeyd bod chi wedi arfer fotio i mi er's pan 'rydw'n farchog y sir yma." Mae'n wir, Sgweiar, mod i wedi fotio er mwyn yr egwyddorion a gynrychiolir gennych wedi yr eloch i'r Senedd, mae'n rhaid i mi gydnabod. Ond y gwir gonest yw, wn i ar y ddaear sut i fotio i ddyn sydd yn ymddwyn mor anheilwng yn ei fywyd eto. Mewn gwirionedd, lie mae eich cyd- wybod ? Plygodd y Marchog ei ben. Wel, Lewis Pennant, y peth goreu i mi mi ydyw dweyd y gwir, ynte ? Mae'm cydwybod i er's blynyddau bellaclx o dan draed pethau ereill gwaeth na hi. Peth ofnadwy, Lewis Pennant, ydyw mynnu ein ffordd ein hunain, ynte, ar draws cydwybod a phob peth. Ond mae gweld fy merch yn diodde o achos fy nryga i yn peri i mi regi a phoeni, un bob yn ail." Eisteddodd i lawr drachefn, ac heb gelu dim rhoddodd fraslun i Lewis Pennant o'r hyn fu ei fywyd er's blynyddau. Synnwni ddim nad ydw' i'n ddigon o Jona i sincio memo'' war, Lewis Pennant, ond wyrach medrweh chi roi cyngor i mi sut i geisio troi'r Hi yma ydw i wedi gychwyn yn 'i ol. Rydw i am ofyn i chi eiriol tros Alys hefo'i phriod. Wrendy o ddim gair arna i, ond mae pawb yn gorfod gwrando arnoch chi. Fydd ddim yn 'difar i chi na neb arall, Lewis Pennant, dosturio, os ydych crefydd chi'n iawn. A mae Alys yn ddiniwed. Rydw i am i'r gwr ifanc pen galed yna ddeall y peth gora ar 'i les o a phawb. Os daw o i gartrefu i Blasllwyd heb ryw helynt fawr, fel tae dyn yn gneud melin ac eglwys, rydw i'n barod i fod yn anrhydeddus iawn,*Lewis Pennant." Gallasai y ffarmwr ddweyd wrth y Sgweiar mai gwaith anodd fuasai i'r boneddwr ieuanc gredu mewn anrhydedd dyn oedd wedi ym- ddwyn mor anheilwng, ond ni wnaeth. Yn hytrach, bu iddo addo gwneud yr oil yn ei allu i gyfanu y rhwyg cydrhwng Capten Qwyn-Munro a'i dad yng nghyfraith. Gwen- odd Margaret Pennant yn serchog arno pan ddywedai yr hanes wrthi, ac ebe hi,- Yn wir, Lewis, 'y nghred i ydi y medrech chi gael rhyw esgus dros roddi help Haw i'r gwr drwg pe deuai ar eich gofyn. (I barhau).
0 Colofn y Beirdd
0 Colofn y Beirdd [Y cynhyrchion gogyfer a'r golofn hon, i'w cyf- eirio :—PEDROG, 30 Stanley Street, Fairfield.] Colofn y Beirdd.-Diolch am y cais, ond drwg gennyf nad oes yr un-dim cymaint ag un-linell gywir yn yr holl ddarn. Mae rhywbeth tebyg i swn dadebriad yr Awen yma, ond rhaid i chwi wrth well gwisg gyng- haneddol iddi, onide ni fydd yn hardd ei gwedd Na ddigalonwch yn wael fel hyn y bydd pawb yn dechreu ar y grefft fel rheol. Y Tes.-Diolch am dano hefyd, oblegid yr oedd gwir angen am dano, a hynny i rywbeth pwysicach hyd yn oed na phicnicydda Ond, yn sicr ddigon, ni chawsoch hwyl ar ganu y tro hwn. Rhwng dau frawd, 'does dim byd ond odl a chodl mewn peth fel hyn Wedi'r gwlaw fe ddaeth y tes, Ac mae'r ddaear yn cael lies Mae pob boreu'n glir uwchben, Nes y taena'r nos ei lien." Tybed fod y bardd o ddifrif ? Ni fuasai waeth gan ddyn mor llawer ddarllen pennill fel hwn Mi af, mi wn, mi wn, mi af, Mi wn, mi af, mi af, mi wn, Mi wn, mi af, mi wn, mi af, Mi af, mi af, mi wn, mi wn." Tynnu'n Groes, Y Corwynt, Rhuad y Mor, Y Storm.-Darnau rhagorol, a diolch i'w hawdwyr am danynt.
AWELON BOREU'R HAFDDYDD.
AWELON BOREU'R HAFDDYDD. AWELON boreu'r hafddydd Chwareuant ar y ffridd, Nes deffro'r blodau heirdd o'u cwsg, A'r gwlithos ar eu grudd,— Chwibanant gerddi engyl Wrth ddod o'r nef i'n ewrdd, Gwnawn ninnau ddysgu'u nodau mwyn Cyn iddynt fynd i ffwrdd. Awelon boreu'r hafddydd Sy'n tonni'r rhoswair draw, Gan adrodd wrth y grug a'r brwyn Hen brvddest fawr y gwlaw A'r niwl a'r caddug llwydwyn, Hen blant yr hirnos brudd, Ddihangant fel ellyllon blin I'w taith o flaen y dydd. Awelon boreu'r hafddydd A ddont i'r fynwent gu, A chrwydrant drwy'r briallu aur Sy'n hulio beddau'n llu Ac o ganghenau'r ywen Gosodant wlith y nos I orwedd ar y glaswellt ir, Fel mantell arian dlos. Awelon boreu'r hafddydd A ddwedant ar y ddol Eu bod yn dyfod ac yn mynd, Na ddeuant byth yn ol, A chyda yr awelon 'R y'm ninnau'n mynd i gyd, Ac awel ar ol awel sy'n Ein gyrru i ffwrdd o'r byd. Dolgellau. EDNANT.
----TYNNU'N GROES.
TYNNU'N GROES. Os metha gweithwyr a chyd-dynnu'n deg Ni waeth pa mor galed gweithiant, Mewn ymdrech ddiraen nid a'r gwaith Er cymaint o nerth wastraffant; [ymlaen Da fyddai pe cofient am helynt flin Yr Alarch, y Crane, a'r Penhwiad,— 'Roedd llwyth ar y Hi, ac i'w llusgo'n ffri Arwyddodd y tri gydsyniad. Yr Alarch, y Crane, a'r Penhwiad chwim, Ar ol gwneud trefniadau golygus, Fachasant eu llwyth, gan ddisgwyl am ffrwyth A bendith ar ymdrech drefnus Fe dynnai y triawd eu goreu glas— Bu nerthu a baeddu dirfawr Gwnaeth pob un ei ran, ond gwelwyd o'r lan Fod y llwyth 'run fan mhen dwyawr. Fe dynnai yr Alarch i fyny'n syth, Mynnai lusgo'r llwyth i'r nefoedd Ond y pysgodyn tew dynnai fel llew Yn syth ar ei ben i'r dyfroedd Mr. Crane ar y tywod dynnai'n ol, Gan wawdio'i ddau gymrawd rhyfedd, Ar ol brwydr ddiffrwyth am saith awr neu wyth, Ni syflodd y llwyth 'run fodfedd. Pa un oedd i'w feio'n fwyaf, nis gwn, 'Ae ni wyr neb arall, mae'n debyg Wrth groes-dynnu'n ffri, ac ymladd am fri, Cydsyrthiodd y tri mewn llewyg Ni welwyd gwell tynnu-rhaid addef bod Y tri'n gydwybodol benrhydd, Syrthiasant mewn loes yn wawd i bob oes Wrth dynnu'n groes i'w gilydd. Mae gwyr cydwybodol, call, meddant hwy, 'Run ffunud yng Nghymru eto, Gwnant lawer o stwr, a llwydant y dwr, Wrth dynnu yn groes a ffraeo Ystranciau Penhwiad, Alarch, a Chranc, Yw'r hanes ddua'n gorffennol, Hyd heddyw, fy ngwlad, cawn hunan fawrhad Yn llunio dy frad cenedlaethol. GWAENFAB.
. RHUAD Y MOR.
RHUAD Y MOR. CATHLAU yr uchder a ganai'r ehedydd Rhwng glesni wybrennau a glesni y dolydd, Tra cerddwn y draethell bryd gosteg y cyf- Dan aden yr lor [ddydd Cathlau y dyfnder furmurai y llanw, Wrth ddod yn fuddugol o erw i erw, A'm grudd oedd fel aden y wylan yn welw Yn rhuad y mor. Cerddai y cyffro fel ysbryd di-gartref, Rhuthrai fel corwynt drwy grinddail yr Hydref, Deffroai'r gwylanod i gyfarch y faesdref Gyfagos yn gor Ond gwenu yn llygad yr haul wnai y dolydd A chanu ac esgyn o hyd wnai'r ehedydd, Nid oedd ond fy hunan fel ysbryd dan ger- Yn rhuad y mor. [ydd Yn llewyrch ystyriaeth mor drist oedd ymado, Gan adael y draethell yng nghanol y cyffro, Ond gwyddwn fod aig Cyfrifoldeb yn curo Ar riniog fy nor Cododd y llanw yng nghynnydd y borau, Llamodd Pryderon ymlaen hyd y traethau, Teimlais fy ysbryd fel llong ar y creigiau Yn rhuad y mor. Cofiais am adnod yn rhuad yr eigion, Cofiais am wlad sydd a'i hedd fel yr afon, Cofiais fod deddf y llifeiriant yn ffyddlon I gariad yr lor Teimlais ryw osteg addolgar, bendigaid, Yn llifo i mewn i gilfachau fy enaid, Dros enyd, anghofiais fodolaeth ochenaid A rhuad y mor. BRYFDIR.
Y CORWYNT
Y CORWYNT GWALCH mewn gwg, ar gylch mae'n gwau-a 0 chwithig ar brydiau chwytha Un drwg ei hwyl, a lleidr gau,— A'i natur yw dwyn hetiau. CAROS.
--0--Senedd y Byd.
--0-- Senedd y Byd. V.—Cam Ymlaen. MAE un cam bychan wedi ei gymeryd yn yr Hague o'r diwedd, mewn cyfeiriad mwy gobeithiol na'r camrau a gymerwyd eisioes. Ymddengys fod Syr Edward Fry, cynrychiol- ydd Prydain, wedi bod yn ymddiddan a M.^de Nelidoff, y llywydd, ac wedi hysbysu bwriad y dirprwywyr Prydeinig i ddwyn i mewn i'r Gynhadledd benderfyniad gyda golwg ar leihad arfau rhyfel, a chyflwynodd iddo ffurf y penderfyniad hwnnw, ac y mae M. de Nelidoff wedi hysbysu y ffaith i gyn- rychiolwyr y Galluoedd mawrion. Dywed yr hysbysiad hwnnw fod y rhai sydd yn cyn- rychioli Prydain wedi cael gorchymyn i ddwyn y cwestiwn pwysig hwn o flaen y Gynhadledd os na wneid hynny gyntaf gan un o'r Galluoedd ereill. Ond dywedir nad oes dim tebygolrwydd y gwneir hynny gan un Gallu arall, a bydd Prydain gan hynny yn dwyn y mater hwn i sylw. Bydd y cynhygiad Prydeinig yn gofyn i'r Gynhadledd basio ei bod yn cadarnhau y penderfyniad y daeth- pwyd iddo yn y Gynhadledd gyntaf. Fe gofia y darllennydd yn ddiau mai sylwedd y penderfyniad hwnnw ydoedd fod lleihad mewn darpariadau milwrol gan y gwahanol wledydd yn beth y dylid amcanu ato, a bod y modd i wneud hynny i gael ei ystyried gan y gwahanol Alluoedd ac i fod dan sylw yn y Gynhadledd nesaf, sef hon. Dywed Prydain yn y penderfyniad a gynhygir fod y mater yn gofyn am sylw buan arno. Gyda chydsyniad Syr Edward Fry, y mae M. de Nelidoff wedi hysbysu geiriad y penderfyniad a gynhygir i'r dirprwywyr ereill er mwyn 3 dynt gael amser i ymgynghori a'u llywodr- aethau gartref. Wel, dyma, meddaf, gam yn yr iawn gyfeiriad, ac mor bell a hynny y mae y Llywodraeth Brydeinig wedi cyflawni yr addewid a wnaed gan C.B." Ond beth fydd y canlyniad ? Dywedir fod Barwn Marschall yn deall nad oedd Germani yn gweled fod dim yn galw am benderfyniad buan ar y ewestiwn, ac ystyried y sefyllfa boliticaidd presennol. Credir hefyd y bydd Itali yn cydolygu a Germani ac Awstria. Dywedir fod M. Bourgois yn bersonol yn ffafriol i gynhygiad Prydain, ond er hynny yr edrychai Ffrainc ar y cwestiwn fel un purion fel pwnc i'w ddadleu, ond nid yn un i'w gario allan ar hyn o bryd. A bod Rwsia yr un modd yn teimlo, ar ol y rhyfel rhyngddi a Japan, nad oedd yn barod i gymeryd un cam ymarferol. Rhyfedd, onide, fel y mae pechod yn dinystrio synnwyr moesol pobl. Am yr Unol Dalaethau, dywedir na fydd iddi wrthwynebu cynhygiad Prydain. Dy- wedir mai barn aelodau y Gynhadledd yw y pesir rhyw fath o gynhygiad, ond y bydd i'r perwyl fod y Gynhadledd yn gofidio nad yw yr amser wedi dod eto i wneud mwy na datgan fod y peth yn ddymunol. Wel, os na cheir ond hyn, na ddigalonner. Mae pob symudiad mawr yn cymeryd amser. Mae yr ymdrechfa fawr rhwng achos Rhyfel a Heddwch yn myned ymlaen, ac ond i gyfeillion Heddwch fod o ddifrif, gallant ennill y dydd yn gynt nag a feddylir. Eto, nid rhyw obeithiol iawn oedd geiriau ein Prifweinidog ni y dydd o'r blaen, pan aeth yr Aelodau Seneddol, pleidiol i heddwch, ato i gwyno am nad oedd Prydain yn symud ymlaen yn fwy cyflym gyda'r achos yn yr Hague. Dywedai Syr H. Campbell-Banner- man fod presenoldeb cynrychiolwyr nifer mor fawr o deyrnasoedd yn ei wneud yn anodd symud yn gyflym iawn. Yr oedd yr anhawsterau yn yr amgylchiadau yn hytrach nag yn y mater ei hun, a dywedai ymhellach y dichon mai y cwbl a wneid fyddai ail gadarnhau penderfyniad y Gynhadledd gyntaf Wel, os felly, meddaf eto na ddigalonwn. Mae yr had da a hauwyd yn sicr o ddwyn ffrwyth. Cafodd H. Richard ac ereill drafferth fawr i gael y penderfyniad o blaid Cyflafar- eddiadjyn y cytundeb a wnaed ar ol rhyfel fawr y Crimea, a phan geisiwyd ei gadarnhau yn Berlin ar ol rhyfel Ffrainc a Germani, ni wnaed dim ond cadarnhau yr un blaenorol, ac nid heb drafferth y caed hynny. Os nad ellir cymeryd cam effeithiol ymlaen y mae yn dda fod byddin Heddweh yn gallu dal ei thir. Y pwnc mawr, wedi y cyfan, fel y sylwodd Syr Edward Grey wrth siarad ar ol y Prifweinidog, ydyw addfedu barn y lliaws a pharatoi y ffordd i gael safle mwy diogel yn y Gynhadledd nesaf. Ie, argyhoeddi y bobloedd ydyw y peth mawr. Yr oeddwn yn darllen un o areithiau John Bright y dydd o'r blaen, yn rhoi hanes y rhyfeloedd yr oedd efe yn eu cofio, a theimlwn pe deallai y bobl mor ddiachos a diles, ie, a drygionus oedd y rhyfeloedd hynny, y codent yn eu nerth ac yr ysgubent ymaith yn bur fuan y giwed ddrygionus sydd dda ganddynt ryfel." Mae y rhai hyn, fel y tlodion, gyda ni bob amser. 0 ran hynny, yr aristocrats sydd yn byw ar ein darpariadau milwrol ydyw y rhai y mae yn llawn bryd eu troi i ennill eu bara mewn ryw ffordd well nag y maent yn awr. ELEAZAR ROBERTS.
Advertising
— Telephone 1157 Royal. Established 1856 ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made. THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT & ACCOUNTANT, 2a Foley Street, Kirkdale Rd., Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No. 1779. HENRY JONES, Estate Agent, Valuer 0 Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Rents Collected. Valuations made. Property sold by Public Auction or Contract. J Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. THOMAS 6* JONES, ESTATE AGENTS &VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS. 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No.-5586 Central. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made. Rents Collected. TBL. 42Y ANFIELD. ESTABLISHED 1872. STEPHEN ROBERTS & SON, ESTATE AGENTS & VALUERS, 137 Everton Road, Liverpool (Late 2 Stanfield Road). Properties carefully Managed. Baits personally Collected. Puronaaes and Sales Negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT AND VALUER, 30 Hamilton St., Birkenhead. RBNrS COLLECTED. VALUATIONS MADE. PROPERTIES BOUGHT & SOLD. Telephone-223. R. E. HUGHES. Estate Agent, Surveyor & Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone N 0.-56 B'head, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. Telephone 034 Central. WILLIAM WILLIAMS, LAND AND ESTATE AGENT, VALUER AND PROPERTY SALESMAN, 20 NORTH JOHN ST., Liverpool. T. WOOSNAM ROBERTS, Bootle Estate Office, 52 STANLEY RD., 110OTLEe (2 DOORS FROM BEDFORD RD.), Has for Sale Semi-detached Residence, Morningside-R°J^ Bootle.—Derby Lease. Ground rent, £ <> per annum. The house contains:- ground floor, 2 entertaining rooms, scullery, pantry. On first floor, four Q, rooms, dressing and bath rooms, 2 rooms,* and boxroom above. Good CEL'*L P-300 Equity in well-built Freehold Prop1 (new) in Church-road, Seaforth. Each contains Parlour, Kitchen, Scullery, washhouse, 3 Bedrooms, Bath, LavaTOR'' and w.c. J Detached Residence, corner of Trinity-road St. Albans-road, Bootle, containing entertaining rooms, kitchen, scullery, IT|) etc., good cellars, large sunny garden, side entrance from Trinity-ro d POr Leasehold. Convenient for electric TRAILS ears J Semi-detached Residence, St. Albans-f° S Bootle. Derby Leasehold. Five dressing-room, bath, and separate W,O ™ OI entertaining rooms, kitchen and SCULLED ground floor, washhouse, larder, TOOLB°" Coal and wood store outside. Good EEL18 Splendid greenhouse..A Detached Residence, Hawthorne Road—LEASOB, 999 years; ground rent £ 17 per 0| Ground Floor, 3 entertaining rooms, scullery and pantry first floor 6 BEDROO J bath, lavatory, and W.c. second ^°OT'A[T bedrooms; large garden at rear, 2000 SIP" yards of land, two stall stables at side. Semi-detached Residence in Balliol Boad hold for 75 years, 40 unexpired, 8R° J,. rent £ 9 per annum large garden, house and stable, with entrance 11 back road. J Semi-detached Residence, Hawthorne-,tlo i leasehold for 75 years from 1884; 4 rent £ 5 per annum. The house bedrooms, bath, lavatory and separate U on 1st. floor, and 8 bedrooms above; 1 O5 brick built washouse and store at rellor level of kitchen; good cellars; garden bo and front. froo Bank-road, Bootle leasehold for 75 years fr500 1877 ground rent £ 4 5s. per annum i square yards of land. The house COW* A drawing and dining-rooms, kitchen scullery, large washouse. 4 bedr £ >° bathroom and separate w-c. Queen's-road; leasehold for 75 years; SLL(JI and dining-rooms, kitchen, scullery, 6 bedrooms, bath, lavatory and w.c., and coal cellar; close to station. Bootle Estate Office 52 Stanley Road, Bootie. ESTABLISHED 1884. TELEPHONE 205 BOOTLIS. O. JONES WILLIAM5, ESTATE AGENT & VALUER 24 SIR THOMAS S Tp,]&Flr, LIVERPOOL. Personal supervision in every detail j general management of all kinds of Estate, Confidential Reports and Valuatl for Purchas,6, Sale, or MortgagO- .t' I Est. 1885. Telephone 1903 Celt Telephone: 279 Bootle. LINACRE BRICK COMPANY 122 Marsh Lane, Bootie. Works: Canal Bank. Branch Office* -<5 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, BOO* Telephone—216 Bootle. < AND 2S OLDHALL STREET, LIV Telephone—1554 Central. Houses to Leto ELECTRIC LIGHT THROUGHOUT. RENTS FROM 5/- to 10/- PER WEEKI. APPLY— WILLIAM JONES. K 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, DAVID [VANS, Park Road I North Estate,, BIRKENHEAD. Pellseinyr 391 Birkenbead. øt TIR A THAI ar werth ( JL osod yn rhanbarkh cyfleus y dref. 1 Ardreth o 6/6 yr wythnos i fyny flwyddyn. Yn gwynebu'r Pare, ac yn ymyl Grorfl Trams a Threns bob chwe a gellir cyrraedd funrhyw 0 Tal hynjmewn 15 munud neu Liverpool. Ai&° Contract blwyddyn gyda'r trên, tua 2ic. y dydd. tØ Ymofyner a Mr. David Evans, £ { Mr. Wm. Edwards, Estate Agent, North, chongLDuke Street,