Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Oiwygio'r Eisteddfod: APEL.

Yn Ynys Mon ac Arfon

Advertising

Diweddaraf.

--0--Cymry America.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0-- Cymry America. Y MAE John M. Jones, brodor o Lanidloes, a chychwynnydd y Drych dros 56 mlynedd yn ol, yn 91ain oed, ac mor debyg o gyrraedd ei gant a pheidio. Y mae'r Parch. W. D. Evans, Tacoma, yn hen wr ac yn teimlo'i gorff yn adfeilio, y mae wedi ysgrifennu erthygl ddwy golofn i'r Drych ar Gorff yr Adgyfodiad," a dyma engraifft o'i Gymraeg ac o'i ymresymu OND dywedir y bydd i gorff yr adgyfodiad fod yn gorff ysbrydol. Beth fydd hynny ? Y bydd i ryw gymaint o'r corff fu gennyf ar y ddaear gael ei awyreiddio, ei etlier- eiddio, ei electriffio, ei nwyfreiddio, a'i nefoleiddio, fel y gellir tynnu holl cssence yr afal mawr allan a'i ddodi mewn lie bychan mewn costrel, ac y bydd yn yr ysbrydoliad neu y didoliad hwnnw i bob enaid gael essence ysbrydol ei gorff ei hun wedi ei ddidoli oddiwrth yr holl gyrff ereill y bu yn cydymgymysgu a hwy." Y mae Henry Price, athro cerddorol ym Mount Vernon, Talaeth New York, yn honni ei fod wedi darganfod ffordd i dynnu llun yr enaid ar ei ymadawiad a r corff. Rhyfedd fod bobl mor smart a'r Iancwys mor druenus o hygoelus.

Advertising

Family Notices

Advertising