Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Glannau'r Mersey

--------LERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LERPWL. Dymunem gyfeirio sylw cerddorion ac Risteddfodwyr Lerpwl a'r wlad at lythyr Mr. Harry Evans, tudal. 7, ar Ddiwygiad Eisteddfodol; at ei sylwadau pwysfawr ar wendid a pherygl yr ias gystadlu; ac at ei apel am gynhorthwy y saw] a syniant yn gyffeiyb gyda golwg ar y mater pwysig hwn. .-Yn y Musical Times am y mis nesaf (Awst), vmddengys ysgrif ar Mr. Harry Evans, ynghyda darlun oliono. ,Q Cyflwynedig i'r sawl sy'n dwyn llyfre hymne beunydd a byth o seti ymyl y drws yn rhai o gapelau Lerpwl Na'm dwg, atolwg i ti,-aiiiliarelitts I'm mhorchen 'm colli; Mwy grasol it' ymgroesi- Dig a fydd o dygi fi. Eto :— Y dyn a'm dygo Tamaid a'i tago. "Gan ei bod hi'n adeg v byddlliaws mawr o Gymry'r Glannau liyn yn troi am eu seibiant blynyddol i'r wlad, dywedwch wrtliynt am beidio rhoi holidays i'r Deg Gorchymyn na'r Ysgol Sul—Yr eiddoch yu gywir, AROLYGWR." Bu farw yn Berkeley, ger Oakland, Cali- ffornia, Mellefin170g, yn ei 84ain mlwydd oed, ar ol eystucld byr, Mrs. Amelia Williams, gweddw y diweddar Mr. Evan Williams, a brawd i Mr. John Williams, Moss Bank gynt, a chladdwyd hi ym Mountain View Cemetery, Oakland, ar y 19eg gan adael pedair merch,— Hannah, Amelia, Eleanor, a Janc,-R. Jone8. Oakland, Gorffennaf 1. 1907. k, Dymunom longyfarch Mr. H. E. Rogers, o eglwys Anibynol Park Road, ar ei lwyddiant yn ennill gradd B.A. yng Nglioleg y Brif- ysgol, Bangor. Y mae Mr. Rogers ar hyd yr amser wedi dangos ei fedrusrwydd, nid yn unig mewn cysylltiad a'i ofrydiau, ond hefyd gyda phregethau. Gall ami i gynulleidfa ym Mon ac Arfon ddwyn tystiolaeth i hyn, yn ogystal a chyntilleidfaoedd Lerpwl. Sicr yw fod pawb yn dymuno llwyddiant mawr iddo yn y dyfodol disglaer sydd o'i flaen. K Ddydd Sadwrn bu aelodau Ysgol Sul eglwys Anibynol Kensington yn mwynhau eu gwibdaith flynyddol yn Barnston, sir Gaer. Cafwyd diwrnod braf, cynhulliad da, a mwynhad mawr. Yr oedd yn ddiweddar- ach nag arfer, ond teimlai pawb mai doeth fu yr oediad, yn liytracli na chael diwrnod gwlawog, yr hyn a brofodd y rhan fwyaf o ysgolion nad oeddynt yn deall yr hin yn ddim gwell na'r almanaciau k Ddydd Llun diweddaf, ym mynwent St. James, cleddid y diweddar Mr. Robert Cain, y bragwr adnabyddus, oedd yn berchen, efe a'i ffirm, dau gant o dafarnau yn Lerpwl, a'i enw'n ddigon bras ar dalcen rhai ohonynt fel y gellid ei ddarllen o ochr Birkenhead i'r afon. Yr oedd yn graff i ddarpar yr abwyd i ddal ei bysgod ac yr oedd ei dafarnau i gyd agos yn harddach a mwy deniadol i'r llygad nag odid i adeilad yn y ddinas, ac ambell un ohonynt yn werth banner dwsin o gapelau Ymneilltuol. Ac eto, oddiwrth y gwasanaeth claddu, gellid casgla mai yng nghanol y nefoedd y mae. Cafodd fyw i gyrraedd 82ain oed, a hynny am ei fod yn ddigon call i fod vn ddirwestwr ei hun. Ar ddymuniad arbennig, pregethodd y Parch. H. Elwyn Thomas, gweinidog eglwys Anibynol Seisnig Norwood, bregeth lem ar Greulonderau'r Congo nos Saboth ddi- weddaf. Ei destyn oedd, Pa hyd, Ar- glwydd ?" Dylasai'r pulpud Cymreig hefyd drwy'r ddinas dalu mwy o sylw i bynciau fel hyn, a dwyn y cynulleidfaoedd wyneb yn wyneb a'r ffeithiau. Mor gyfiym ydym i droi at y nefoedd am dywydd i gael ein cyn- haeaf a'n holidays ond mor ddidaro i alw arno i roi tro yng nghorn y Brenin Leopold a'i swyddogion sydd mor ellyllaidd wrth ein cyd-ddynion tywyll yn yr Affrig. k- Pwy na wyr am Ben y Geulan ? Yr oedd rhyddid yn argraffedig ar furiau yr hen dy. Yno yr elai yr hen bregethwyr i aros dros nos pan ar eu taith bregethu. Ym Mhen y Geulan y ganwyd ac y magwyd y diweddar Barch.Owen Edwards,Caernarfon-Awstralia wedi hynny. Chwaer iddo ef ydyw Miss M. J. Edwards. Aeth hi gyda'i brawd i Aws- tralia i edrych ar ei ol. Bu hi oddieartref am 18 mlynedd, Yr oeddwn yn falch iawn. o gael golwg arni y dydd or blaen yn y Nurses' Horne yn Bedford Street, ond gwell fuasai gennym ei gweled a'i thraed yn rhydd- ion fel yn y dyddiau gynt, pan oeddym blantos yn chwarae at' hyd lien tfyrdd anwyl y Llan a'r Pandy. Cymered gysur yr ydym yn creda yn sicr y gwna Dr. Robert Jones waith da arni y rheol ydyw na fydd iddo ef roddi i fyny hyd oni orffenno. Nid oes angen dweyd mai cyfnither ydyw Miss Edwards i Mr. 0. M. Edwards. Yn ol eu harfer flynyddol, y mae cyfeillion ystafell genhadol Bankhall (a ddygir ymlaen tan nawdd eglwys M.C. Stanley Road) wedi mynd a 30 o'r plant tlotaf am bythefnos o egwyl yn y wlad-eleni i ffermdy Ffynnon-y- berth, Llanferres, nid nepeat o'r Wyddgrug. Y mae traul yr hynt tua E30, ac yn ystod misoedd v gaeaf rhoddir cvfle i'r plant geinioca i fyny i 5 ond cesglir yr ariangan mwyaf ymysg aelodau a charedigion yr achos, ac eleni caed nwyddau ac yrnborth gwerthfawr yn rhoddion gan ffirms Cymreig Lerpwl. Llywydd y pwyllgor trefniadol ydyw Mr. R. Vaughan Jones trysorydd, Mr. Lewis Roberts a'r ysgrifenyddion, Mri. H. Barnard, Evans a H. C. Lewis. A chyda'r plant yn Llanferres, yn eu bwydo a'u gwarchod ar hyd y pythefnos, y mae'r ddwy chwaer ffyddlon, Mrs. Robert Evans a Mrs. Benjamin Evans. K Y Saboth diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod gyda'r plant yn Ysgoldy Glan'ralun, ac yn clywed fod yno obaith cael tipyn o Saesneg, tyrrodd y dieithriaid sydd ar ymweliad a Llanarmon yno i'w gwrando. Yn yr hwyr drachefn, 'doedd dim pregethu yng nghapel M.C. y lie—capel John Parry, Llanarmon, a chofgolofn yr hwn sydd o'i flaen-a galwyd ar y plant a'r gofalwyr i gymeryd y cyfarfod mewn Haw. Hynny wnaed. Llywyddid gan Mr. II, B. Evans, yr hwn a roes anerchiad eanodd y plant ddwywaith neu dair, a chaed anerch- iadau hynod fyw gan Mr. H. C. Lewis a Mr. P. Lloyd Jones. Mwynhaodd y trigolion y cyfarfod rhagorol a gawsont yn sgil tru- einiaid bach Lerpwl," fel y galwyd hwy gan un o'r gweddïwvr. v •5b Nos Fercher ddiweddaf, yn eglwys Ani- bynol Trinity Road, Bootle, cynhaliwyd cyfarfod i gyfiwyno gwobrwyon i'r plant am eu ffyddlondeb a'u gweithgarwch ynglyn a'r anniversary. Hefyd cyflwynwyd spoctol aur i organydd yr eglwys, Mr. W. W. Jones, fel cydnabyddiaeth fechan o'i ffyddlondeb mewn amryw gyfeiriadau ynglyn a'r achos yn y lie am flynyddoedd lawor.-J.Joncg, Ygy.

BIRKENHEAD.

Tysteb Emlyn Evans.

Pregethwyr Poblogaidd.

Advertising