Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Advertising

-----""--_..-----,-..-----.-Ein…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ein Hymneilltuaeth. Cyngrair Llandrindod. YR wythnos ddiweddaf cyfarfu nifer o gynrychiolwyr y gwahanol enw- adau Ymneilituol yn Llandrindod i ffurfio Cyngrair i hyrwyddo Dat- gysylltiad yr Eglwys yng Nghymru a Mesurau ereill. Yr oedd Undeb yr Anibynwyr yn y cyfarfod blynyddol yn Nghastell- nedd wedi pasio penderfyniad yn ffafr ffurfio Cyngrair o'r fath. Gweith- redwyd yn uniongyrchol i gario y penderfyniad i weithrediad. Teimlir gan lawer, os yw Cymru i gael ei hiawnderau, fod yn rhaid i'r enwad- au Ymneilltuol ddyfod i gwbl gyd- ddealltwriaeth a'u gilydd parthed yr hyn a hawlir gennym fel cenedl, a'r modd goreu i'w sicrhau. Mewn undeb y mae nerth pob plaid yn y byd gwleidyddol. Yn Senedd ein teyrnas y mae yna nifer liosog o fuddiannau yn perthyn i wahanol genhedloedd yn crochlefain am eu hawliau. Fel rheol, i'r llais uchaf a thaeraf y rhoddir gwrandawiad gyntaf. Gweithreda pob gweinydd- iaeth ymron oddiar yr un cymhell- iad a'r barnwr hwnnw a boenid gan ryw wraig weddw, Rhag iddi yn y diwedd ddyfod a'm syfrdanu i." Nid y tecaf ei hawliau ond y taeraf ei ymbiliau a gaiff ei sylw. Ni wran- dewir yn fuan ar nerth rhesymau, os yr erys y rhesymwr yn dawel ac amyneddgar. Ond os bydd dwrn bygythiad yn ategu gwendid hawliau a rhesymau, llwydda yn gynt o lawer. Rhyw ymdeimlad o'r fath yma, bid gam bid gymwys, yw prif ysgogydd Cynghreiriau Gwleidydd- ol. Y mae'n amlwg fod pob Plaid yn fwy awyddus am ei hawliau tyb- iedig nag y bu erioed. Cyfnod dadleu ac ymladd am hawliau yw ein dyddiau ni. Nid ydym yn cwyno o'r herwydd. Mae rhwymau caeth- iwed, lawer ohonynt, yn aros eto. Rhaid yw eu datod. Rhaid dryllio hualau trais sydd yn cloffrwymo bywyd cymdeithas. Yr arfau i'r neb fedr eu defnyddio ddylai fod y rheol i bawb ymhob cylch yn ddiwahaniaeth. Yn gyffelyb gyda Chyngrair Ym- neilltuol Cymru. Bydd ei werth yn dibynnu ar y defnydd a wna o'r nerth ychwanegol a enilla drwy undeb yr holl enwadau. Sonir llawer gan rai am yr angenrheidrwydd i ni fabwysiadu cynlluniau y Blaid Wydd- elig. Canmolwn;,y Gwyddelod am eu gwladgarwch pybyr. Cydym- deimlwn yn ddwfn a hwy yn eu hawydd i daflu iau gorthrwm y Sais trahaus oddiar eu hysgwyddau. Ond prin ylgallwn gyfreithloni eith- afedd chwyldroadol llawer o'u cyn- lluniau oddieithr ar egwyddor y ddihareb honno, Nidtwyll twyllo twyllwr." Yn y Werddon, yr offeiriad sydd y tu ol i'r llenni yn symud peirianwaith gwleidyddiaeth yr ael- odau Seneddol. Yn naturiol iawn, petrusir rhoddi hawliau i genedl pan ragwelir y camddefnydd a wneir ohonynt gan yr offeiriad. Hyder- wn mai nid ar y llinellau clerigol hyn y bydd i nerth Ymneilltuaeth Cymru deithio. Ai peirianwaith yw y Cyngrair i ddwyn mwy o ddylan- wad i arweddu ar yr aelodau Cym- reig ? Cwynir gan lawer eu bod yn rhy wasaidd i'r Weinyddiaeth. Aw- grymir eu bod yn aberthu budd- iannau y genedl er mwyn sicrhau manteision personol iddynt eu hun- ain. Ond os troir hwy i fod yn ddim ond offerynau yn llaw y Cyngrair, oni fydd i hyn barhau y gwaseidd- dra er newid y meistr ? Parcher hawliau a rhyddid barn yr aelodau Seneddol a'r Weinyddiaeth hefyd, hyd nes y ceir profion diamheuol o'u hanffyddlondeb. Y mae pob Ymneilltuwr teilwng o'r enw yn cydymdeimlo a'r cri am Ddatgysylltiad a Dadwadd- oliad yr Eglwys yng Nghymru. Ond rhaid i ni wrthdystio yn erbyn yr ensyniad mai bradwr yw pob cynrychiolydd Seneddol o'r eiddom os yn anghytuno a ni parthed yr amser a'r moddion tebycaf i'w sicrhau. Mae brwdfrydedd heb farn a chydbwysedd ynddi yn berthynas agos i gulni erlidgar {bigotry). Y mae clerigwyr Y mneilItuol o'r nod- wedd yma i'w hofni yn llawn ey- maint a chlerigwyr unrhyw eglwys, bydded Brotestanaidd neu Babydd- ol. Carther yr ysbryd yma allan o'r Cyngrair ar unwaith os yn bosibl. Caffed egwyddor, synnwyr, profiad, a syniad cywir am ysbrydolrwydd cre- fydd, le amlwg yng ngweithrediadau y Cyngrair, ac yna gall Cymru longyfarch ei hun ar ei sefydliad. Os yw Ymneilltuaeth i lwyddo, rhaid i'w phroffeswyr ddal ei hegwyddorion gyda mwy o ffydd ynddynt a mwy o gysondeb. Mor wrthun clywed clerigwyr Y mneilltuol yn crochlefain am Ddadwaddoliad un diwrnod, ac ar y diwrnod canlynol yn pasio penderfyniad i waddoli addysg gre- fyddol yn ein hysgolion elfennol a sirol. Os yw yr egwyddor wirfodd- ol yn anigonol i ddarparu addysg grefyddol, ac fod yn rhaid wrth drethi gorfodol i'w chynorthwyo, bydded felly. Ond o barch i gysondeb, dylai y cyfryw fod yn ddistaw ynglyn a'r cri am Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad. Hyderwn y bydd i'r Cyngrair gymeryd y cwestiynau hyn i ystyriaeth yn fuan. Dylid, ar bob cyfrif, ymgymeryd a'r gwaith o drefnu llawlyfrau a chynnal dos- barthiadau i addysgu ein pobl ieu- ainc yn hanes ac egwyddorion Ym- neilltuol. Os na wneir hyn, gwanha Ymneilltuaeth i fod yn ddim ond sentiment neu ddylanwad arferiad yn unig. Ar bob cyfrif, cadwer pob eiddigedd enwadol allan o'r Cyng- rair. Dyma felltith fwyaf Crist- ionogaeth y dyddiau hyn. Nid oes gan un enwad fawr o esgus drop daflu carreg at y llall. Os bydd y Cyngrair yn fwy awyddus am lesoli Ymneilltuaeth, a moes ac addysg Cymru, nag am fuddiannau enwad- aeth, diau y gall fod o fantais am- hrisiadwy i'n cenedl.