Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Llythyr Gwleidyddol ---

--0--LLANGOLLEN.

ADOLYGIAD.

O'R DE. ---.

Y WASG FELEN.

--0--Ffetan y Gol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0-- Ffetan y Gol. "Lien a Chan." ANWYL OLYGYDD,—Caniatewch air ar adolygiad Alafon ar lyfr Myrddin. Gofynna onid oes berthynas rhwng bragaldio a to brag crimpen" a crimp rhwng hornio" a horn? Heb aros am ateb Myrddin, beiddiaf faentumio fod cysylltiad agos rhyngddynt. Y mae y geiriaduron Seisnig sydd gennyf fi yn deillio brag o'r ieithoedd Celtig, a crimp o'r Gymraeg crimpio." Gyda golwg ar hornio," ty- bygaf mai dull ar y gair cornio ydyw ef, a horn yn ffurf arall o corn. Horn y geilw y Seison gorn buwch, ond corn am gorn ar droed. Cornucopia (gair Lladin yn ei gryn- swth) y galwant y peth a eglurir ganddynt yn horn of plenty." Cymharer hefyd cornet, cornetcy, corner, cornicle, Cornwall, capricorn ac unicorn, yr oil, gyda'r gair Cymraeg cornel," mi dybiaf, a chysyllt- iad agos rhyngddynt a'r gair Lladin cornu a'r Cymraeg corn." Goddefer i mi sylwi hefyd fod tuedd ormod- olynom ni y Cymry, pan fo gair Cymraeg yn debyg i air Saesneg, i neidio i'r casgliad mai benthyg o'r iaith honno ydyw. Nid felly y mae bob amser, ond fel arall yn:aml. Y mae geiriaduron Seisnig yn hoff iawn o olrhain tras eu geiriau i'r Ffrancaeg tra y byddai'n well iddynt chwilio am gyff yn nes adref, e.g., dyma un ohonynt yn dodi (Fr.) ar ol y gair bran, ond edrychaf i eiriadur Ffrengig a gesyd hwnnw (Gael) ar ei ol. Dyna hwynt wedi croesi dau for pan fuasai croesi'r Hafren yn ddigon. Gyda Haw, y mae gennyf ddiolch yn fawr i chwi am N6d ac Esboniad" Eilian, a'r Cymraeg Cymreig geir yn eich papur drwyddo draw.—Yr eiddoch, JOHN MILES. (Athro Cymraeg yn Ysgol Isathrawon Caerdydd)

-0-NOD AC ESBONIAD.

LLITH OFFA.

--0--GLANNAU'R GLWYD.

Advertising