Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Llythyr Gwleidyddol ---

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llythyr Gwleidyddol [GAN Y GWYLIWR]. O'r Twr, Westminster, Nos Fawrth, Gorff. 30, 1907. Yr "Aelod Newydd." Y DYDDIAU diweddaf, yn y Lobby islaw, telid gryn sylw i symudiadau yr aelod ieuengaf o Dy y Cyffredin. Nid yw y dyddordeb a deimlir mewn aelod newydd yn parhau yn hir yn Westminster, ac yn ami iawn fe dderfydd am byth gyda thraddodiad ei araith gyntaf Anodd proffwydo pa fath ddyfodol sydd yn aros y diweddaraf o'r newydd-ddyfodiaid, Mr. Victor Grayson, Gwr dewisedig dosbarth-nid y mwyafrif- o etholwyr Colne Valley yw efe. Dywedir nad ydyw eto yn llawn pump ar hugain oed, ond y mae mor ddidaro a Mr. Keir Hardie, ac mor tunan-ddigonol a Mr. Edward Hemmerde. Socialist o'r dosbarth eithafol ydyw fe ddigiai wrthyf os na chaniatawn ei fod felly. Clywais ddweyd mai yn Ancoats, Manchester, y ganwyd ef, ac y mae hynny, meddai fy liysbysydd, yn ddigon i gyfrif am holl syniadau gwyrdroawl ei feddwl a'i fywyd. Gan nad beth am wir- ionedd y sylw, y mae rhyw hynodrwydd yn perthyn i Mr. Victor Grayson, a synnwn i ronyn na bydd ei enw ar dafod y werin ac ar binnau yr ysgrifenyddion am ysbaid i ddyfod. Ondo'mcuddfa yn y Twr, yr wyf o dro idro wedi gweled ami i greadur hynod yn cael ei foldio gan Dy y Cyffredin a'i amgylchedd i'r un ffurf a'r chwe chan wr cyffredin a eisteddant o'i gwmpas ar y gwyrdd-feinciau ddiwrnod ei ddyfodiad. A ydyw yr aelod newydd diweddaraf o stamp wahanol, amser yn unig a ddengys. Dadsefydliad. IE, Dadsefydliad Y mae y cwestiwn yn parhau i aros er naa ymdrinir ag ef. Gan gofio, y mae'r Comisiwn yn fyw, er nad ydyw yn eistedd. Ni dderbynir tystiolaethau am ddeufis eto, y diwrnod cyntaf o Hydref yn wir yw yr adeg benodedig. Bwriada'r Arglwydd Farnwr Vaughan Williams ail agor y Comisiwn y dydd hwnnw, ac eistedd am bythefnos gyfan. Yna bydd y Llysoedd Cyfreithiol yn agor, a gelwir y Barnwr i gymeryd rhan yng ngwaith Llys Apel, ond disgwylia y bydd yn bosibl rhoddi pob yn ail wythnos at waith y Comisiwn hyd nes y deuir i ben a'r tystiolaethau. Nid wyf yn gwybod yn sicr, ond fe ddywedir fod rhyw led-addewid y penoda'r cadeirydd ddir- prwy ar y dyddiau hynny y bydd ef ei hun yn analluog i fod yn bresennol. Os digwydd hynny, bydd yn hawdd dwyn y gwaith i derfyn rhesymol o hyn i ddiwedd y flwyddyn. k Mr. Ellis Griffith. 'RWy'N ofni i ryw siawns ymadrodd o'm heiddo ychydig amser yn ol berswadio Mr. Ellis Griffith i ddal ati gyda'r cynhygiad Quixotaidd o ofyn i'r Blaid Gymreig fyned yr eildro at y Prifweinidog i erfyn am addewid gyflawnach ynghylch Mesur Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Dywedwyd mewn pryd nad ydoedd ei waith yn ddim amgen na churo pen yn erbyn y mur. Modd bynnag, curo ei ben a fynnai Mr. Griffith, ac nid ydwyf yn sicr fod yn edifar ganddo eto. Yng nghyfarfod y Blaid Gymreig ddydd Iau di- weddaf, ail gynhygiodd eu bod yn myned at Syr Henry Campbell Bannerman i ofyn am addewid bendant y dygid y Mesur i mewn yn y pedwerydd Senedd-dymor, h.y., yn 1909. Yr oedd Mr. Clement Edwards wedi myned drwy y seremoni o eilio'r cynhygiad mewn cyfarfod blaenorol, ond nid oedd yno y tro hwn i ategu. Felly, pan alwyd am vote-ac yr oedd y mwyafrif yn fwy parod i bleidleisio nag i siarad-un llaw—a honno yn llaw y cynhygydd ei hun-a godwyd dros y cynhygiad. Gwaeth na hynny, pan awgrym- oedd Mr. Griffith y gellid hwyrach ofyn i Syr Alfred Thomas dros y blaid ddatgan gobaith y gwelai Syr Henry ei ffordd yn glir i drin Dadsefydliad yn y pedwerydd tymor, nid oedd neb yn barod i'w eilio—ac yn y fan yna y gadawyd y mater. Yn awr am y Gwrthryfel

--0--LLANGOLLEN.

ADOLYGIAD.

O'R DE. ---.

Y WASG FELEN.

--0--Ffetan y Gol.

-0-NOD AC ESBONIAD.

LLITH OFFA.

--0--GLANNAU'R GLWYD.

Advertising