Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Llythyr Gwleidyddol ---

--0--LLANGOLLEN.

ADOLYGIAD.

O'R DE. ---.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O'R DE. [GAN HESGIN.] Alva." ENILLWYD cadair Eisteddfod Clydach, ger Abertawe (a gynhaliwyd ddydd Sadwrn diweddaf) gan Mr. W. Alva Richards. Dyma y bedwaredd gadair ar hugain iddo ennill. A feder yntau ddim eistedd mewn mwy nag un ar unwaith pe dae yn treio. 'Does bosibl na rydd o heibio gystadlu am fan wobrwyon bellach. Llai o gadeiriau a mwy o feirdd ydyw angen Cymru. Lloyd George a'r Parch.H. M. Hughes Y nos Sul ar ol iddo fod yn areithio ym Mhontypridd, ymwelodd Lloyd-George ag Ebenezer, Caerdydd, lie y mae y Parch. H. M. Hughes yn gweinidogaethu. Fel y gwyddoch, nid rhyw hywaeth iawn ydyw Mr. Hughes wedi bod yn ddiweddar am fod y Llywodraeth yn anwybyddu Datgysylltiad, ac wrth gwrs 'doedd dim byd mwy naturiol nag i Lloyd George fynd i edrych am dano, a thynnu ei law dros ei ben o, megis. Dywed yn deg wrth y ci a fratho," meddai'r hen ddihareb. R. J. Campbell a Chaerdydd. Cyn y bydd y llinellau hyn mewn argraff, bydd ymweliad y gwr parchedig uchod a Chaerdydd i draddodi darlith ar The Child and the State wedi myned heibio. Ni buaswn yn cyfeirio ato yr wythnos hon onibae i'r South Wales Daily News ychydig ddyddiau yn ol gyhoeddi ar goedd y byd fod Plaid Anibynol Llafur Caerdydd (o dan nawdd pa un y darlithiai) wedi penderfynu gofyn iddo sefyll fel ymgeisydd Llafur a Sosialaidd dros Gaerdydd yn yr etholiad nesaf. Fel un sydd mewn sefyllfa i wybod i'r blewyn beth y mae Plaid Anibynol Llafur Caerdydd wedi ac yn ei wneud, gallaf ddweyd yn ddibetrus nad oes, hyd yma o leiaf, air o wir yn y stori Mae'n ddigon tebyg y bydd ymgeisydd Llafur ar y maes-ond pwy a fydd 'does neb wyr. A pheidiwch chwi a synnu na fydd etholiad yng Nghaerdydd yn gynt nag a feddylir. Mae gennyf fi hefyd amcan go lew pwy fydd ymgeiswyr y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr. Yr ymgeisydd Torlaidd fydd Lord Ninian Stuart, brawd Ardalydd Bute, ac ymgeisydd y Rhyddfrydwyr fydd Capt. Frederick Guest, brawd yr aelod presennol. Mae Frederick wedi cael ei guro deirgwaith yn barod mewn gwahanol fannau, ac wedi colli dwy sedd i'r Rhyddfrydwyr yn y fargen. Caerdydd fydd y drydedd, mae'ri debyg. [Will the Cardiff papers please contradict the ab.ovo Corau Eisteddfod Abertawe. Dyma nifer y corau sydd wedi gyrru eu henwau i mewn ar gyfer Eisteddfod Aber- tawe :—Y Brif Gystadleuaeth Gorawl, 11 yr ail Gystadleuaeth Gorawl, 11 Cor Meib- ion, 13; Cor Plant, 26; Bechgyn, 8; Merched, 7 Seindorf Bres (a), 9 Eto (b) 7.

Y WASG FELEN.

--0--Ffetan y Gol.

-0-NOD AC ESBONIAD.

LLITH OFFA.

--0--GLANNAU'R GLWYD.

Advertising