Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Bara Brith.
Bara Brith. MAE llawer math o gablau, Ond trwy yr holl oernadau, Nid oes yr un mor gas ei nad A chablwr gwlad ei dadau. Syddai'n arfer gan olygydd un o bapurau eisnig Cymru fynd allan i'r meusydd i aratoi ei feddwl gyda golwg ar ysgrif ar- i'w bapur—i hel ideas fel y dywed- ^>an yn rhodio'n ddwfn-fyfyriol felly yddai ei enau'n wastad yn llydan agored i un tro dacw globyn o gacwn ar ei eaj i'w safn. That was the warrn- 8 idea that ever entered my head," ebe'r 611 Austin druan, wrth adrodd y tro. o' ^V'Ua yn inynd drwy'r post y dydd r blaen ar bostcard, wedi ei gyfeirio at berson eglwys Drwg i'r degwm gael ei wrthod, Gwaeth ei dderbyn heb deilyngdod Taler pawb 'nol chwys eu gwyneb, Dyma ddechreu pob moesoldeb." N' k IS gwyddom pwy bia'r mynydd heddyw, ond yn 1890 fe brynwyd Mynydd yr Olewydd bJ1 f .Gray Hill, un o gyfreithwyr Lerpwl, gan ^Wl'iadu codi ty iddo'i hun ar y llecyn nc^aidd. Mwy gweddus, ebe rhyw walch SetK honno, a fuasai i offeiriad neu bre- eyf •r ^rynriu'r Olewydd, a gadael i'r renthiwr godi ei annedd ar Fynydd Sinai. j Adwaenwn hen wr ddeugain mlynedd yn v„ a ^dywedai iddo, pan yn ieuanc, gerdded rjaiif10^ ffordd o Kent i Ddyffryn Clwyd, y d H °- milltir, mown tridiau. Ychydig a yddiau hyn allai droedio trigain milltir dndiau'n olynol, ar hyd ffyrdd anwastad geir-on. Ond tystiai'r hen wr iddo ef, ereill ran hynny, wneud felly droion. Alihygoell" ebe rhywun, y mae pedair j. iU bum milltir yn codi cliwysigod ar fy raed i, ac yn fy mlino'n arswydus." D" (i. 18°n gwir—y mae'r oes ymron colli y -n gerdded yn gwbl oil. Os eisieu mynd ne § ffordd, ymholir yn union am dren, 0r!\ ynte gyda'r car, y beic, neu y motor. 0 -? yr oedd cerdded beunyddiol bellteroedd P„ wedi gwneud traed yr hen bobl fel Cftfnau ceffylau Pr j>w rynnu gwartheg yng Nghymru, a'u gyrru yr 8werthu yn Llunden, oedd bywoliaeth ac n .Wr ysgafndroed a chydnerth uchod y ?8 cai bris da am dano,mynnych y gwerthai bed n y merlyn a farchogai. Yna, ar ,War o'r gloch bore dranoeth, cychwynnai 15 i'w daith yn ol, gan anelu at westy, o ffordd, am foreubryd ciniawai ar I* Vwyty arall, a chymerai gyntun byr Cw}0/ cimo a chan ail gychwyn yn sionc, °'r l 6* am y dydd erbyn tuag wyth Ha i? yr hwyr. Ni fyddai byth yn hwy ami „mynud rhwng dwy garreg filltir,—gan ]r' munud ar ddeg, ac ar ffordd dda 12 ud oedd fel rheol. Rhad arnom, onide 8^2 YInl)deugain mlynedd yn ol a mwy yr oedd ail Yag Ymneilltuwyr Cymru weddiwyr di- byddai eu clywed a;r eu gliniau cystal yr if11 We^ nag oedfa gymanfa. Yr oedd gan bell ? Sor^ ddefosiynol yma emynau ynt rhw Wedi cilio o'r llyfrau hymnau a wreiddioldeb yr emyn a gwres y weddi, y cv v?'r ^en gyfarfo^ydd gweddi diolch am y^haeaf yn foddion gras mewn difrif. r> ''yunyla UU °'r einynau °d a phoblogaidd Awn gyda Ruth i loffa I feusydd Boaz fry, Cawn yno dwysau broision 0 addewidion llawn, A chroesaw cryf iaros O'r bore hyd brydnawn." fMd^r y canu, yr ail-ganu, a'r treblu a oh,ai ,ai' yr hen bennill liwn a'i fath a (j0j'^Va'8 am un hen gredadyn yn ardal aUa ^n> a arferai fanylu arno ar ol ei roi l0fr trWy ofyn yn ei weddi am gymorth i fyni grawn goreu, a thafl Dithau," er- y ai' dipyn o s]ieldrem ini." Sheldrem" grybinion yn y wlad honno. llw, ar ben yr hen weddiiwyr Mor y diflannodd eu hil
--0---Nodion o Fanceinion.
--0- Nodion o Fanceinion. [GAN CYFRIN] b \.t'chu llwch y Bedd. hoirf mI^edd yn ol bu farw y Parch, John eth H"8' Tyldesley. Bugeiliodd yr eglwys Cyjj ^distaidd yno am bedair blwyddyn. b.adw hynny bu ym Mryriiau Cassia yn gen- r iTOS y Oyfundeb, ac afiechyd oedd yr °6dd °S r°ddi i fyny y gwaith hwnnw ^oed/rtll fodd ei galon. Gwr anwyl ^a»a 4,' a ^ariaidd ei gymeriad, efengylydd y chaethwas i ddyledswydd. <^iSjr awr> o dan nawdd y Cyfarfod Misol, ^eilwn ^Wne,,d casgliad i dalu am garreg ei § o goffadwriaeth ar ei fedd. Dylai haeji °d yn ddigon o ddeiseb i gyfraniadau ftc nu8, Ond, atolwg, dyma ddyngarwr *?&ylydd aberthodd ei iechyd ar y maes °1» heb i'r Gymdeithas Genhadol roddi 4tyS(^„ar ei fedd. A ddyry ei hatling i'r a hon, nis gwn ond credaf fod y ^yQiH 1ilcasgIu ° law i law yn gywilydd i ^ydd S Genbadol Dramor yr Hen Gorff. yr fod y pwrs ar ei oreu yn diwallu I iad v.nion blynyddol, ond cawsai y Casgl- W °' fwy o gydymdeimlad a chefn- o H °yboedd, ped anrhydeddai feddrod §°Wol nt ac^os gyda'i' swm bychan tagl eto. Cy^n a bazaar ddyfodol Moss Side, mae ei fabw Saei arian sydd yn werth i bawb ^ad ysiadu mewn achosion o'r fath. Os k Wre'ddiol, mae yn newydd i'r cylch- yawl '^efydlir math o fane, a chaiff 1 W gyfranno nodyn yn rhoi hawl iddo ^6rth U nwyddau yn y bazzar fyddant yn ar-cyfanswm ei roddion. Gwerir swm fc^ytit am ddefnydd nwyddau, gwneir ^ar rllad i'w gwerthu, felly rnanleisia'r ^yr, r y eyfraniadau heb golledu'r cyfran- 'tIll 0' Jg^ra.r dyddiau diweddaf clywais hen wr x? can^ f°d nepell o'r capel Cymraeg 3daJ, ar yr heolydd, Hen Wlad fy ^088 g., Tybed, meddwn, fod rhywrai I ide wedi hunan-ymwadu fel aelodau Byddin yr Tachawdwriaeth,-gan gymeryd y cynllun hwn i gasglu arian at y bazaar ? Na, nid felly, ond dau drempyn Cymreig oeddynt, a thra bum i yn gwrando a syllu arnynt, cawsant geiniog am bob llinell a ganent o'n halaw genedlaethol. Yr oedd y Gymraeg yn talu. Y Pulpudau Ni flinwn er's dros flwyddyn gyhoeddi rhywbeth yn barhaus am weinidogion crefydd Y tro hwn achosir symudiadau yn ol trefn y rhod Wesleaidd. Gwr parchus gennym yw y Parch. J. Maelor Hughes, a gofidiwn ei golli mor fuan o'n plith. Aiff oddiyma i Flaenau Ffestiniog ymhen ychydig wythnos- au. Hefyd mae Cupid bach yn gyfryngwr prysur i Mr. Hughes i'w alluogi yn ei le newydd i bregethu dau ystyr i eiriau Paul, "ond pan aethum yn wr." Bydd salm briodas yn cael ei chanu yn y man, ac mae'r seiniau melus bron tori ar ein clyw. Llenwir y bwlch yn y gylchdaith hon gan y pregethwr ieuanc, Daniel Williams, Penisa'rwaen, Caer- narfon. Llwydd i'w ddyfodiad. Tystiolaeth gampus i lwyddiant gweinidog newydd ydyw gallu codi awydd pulpud yn rhai o wyr ieuainc yr eglwys. Er pan ddaeth y Parch. Morgan Llewelyn i Booth Street, mae dau aelod yno wedi dechreu pregethu. Dyna fath o compound interest i eglwys am gadw bugail. Mae yn Booth Street yn awr bedwar o bregethwyr cynorth- wyol, a'r eglwys yn datblygu mewn rhif a gwerth. Idea benigamp oedd rhoddi darlun o Mr. Llewelyn ar ddalen yn adroddiad yr eglwys. Gwaith cyhoeddwyr y BRYTHON ydoedd y block, ac un rhagorol yw. Dylai pob eglwys sy'n cael gweinidog newydd roddi darlun ohono yn eu hadroddiad eglwysig unwaith o leiaf. Mae yr adroddiadau- trwy gymaint o symudiadau trefol-megis y dail a ddarganfu Columbus, gwasgarant yma a thraw gan fynegi hanes eu cartrefi i ddieithriaid.
PULPUDAU MANCHESTER.
PULPUDAU MANCHESTER. SABOTH, AWST 4, 1907. Y Methodistiaid Calfinaidd. Moss SIDE-IO-30 a 6-30, Hugh Jones, Tyldesley PENDLETON-IO-30, R. J. Jones, 6, J.F.Griiffth,Bala HBYWOOD ST—10-30. J.F.Griffith, 6, T.J.Williams, Rock Ferry H. ARDWIOK-IO-30, T. J. Williams, 6, R. J. Jones Y Bedyddwyr. UP. MEDLOCK ST—10-30 a 6, J.H.Hughes LONGSIQHT—10-30A 6, ROBINS LANE, SUTTON—10-30 a 5-30, Yr Anibynwyr. BOOTH ST—10-30, R. Roberts, 6-15, M. Llewelyn CHORLTON RD—10-30 M. Llewelyn, 6, R. Roberts SALFORD—10-30,6, W. W. Jones QUEEN'S RD—10-30 a 6, G. Evans F AILSWORTH-IO-30 a 6, EOCLEs-IO-30 a 6, Yr Eglwys Sefydledig DEWI SANT—11 a 6-30, H. R. Hughes
--o - Senedd y Byd.
--o Senedd y Byd. VI.-Ymladd yn ol Rheolau. TRA y mae Senedd yr Hague yn dal i ddadleu rheolau rhyfel, ac eto heb ddod o ddifrif i ystyried y modd i osgoi ymladd, goddefer i mi wasgu adref y gwirionedd nad yw y rheolau hyn, pan y mae rhyfel yn cymeryd lie, yn cael y sylw a ddylent. Pan y bo paffwyr proffesedig yn ymladd o fewn cylch gosodedig y prize-ring, y mae eu cefnogwyr yn gwylied na fyddont yn troseddu rheolau y gelfyddyd ardderchog "—y noble art, fel y'i gelwir. Ond pan y mae dwy genedl yn rhyfela-ac nid ydyw hynny ond yr un peth mewn cylch ehangach, cofier--riid oes neb y tu allan iddynt yn gofalu eu bod yn cadw at ddeddfau gosodedig civilized irar- iare. Pan bydd gwaed yn cael ei dywallt, a nwydau cynddeiriog yn cael eu cyffroi, mae yn anobeithiol disgwyl hynny. Rhyw bum mlynedd ar hugain yn ol yr oedd Ffrainc yn cweryla a China, ac aeth ei llynges i danbelennu Arfdy Foochow. Ys- grifennodd gohebydd y Times ar y pryd ddisgrifiad manwl o'r hyn a wnaed, ac yr oedd y disgrifiad yn gyfryw fel y torrodd golygydd y Times allan yn ffroenwyllt i gon- demnio y modd yr ymddygwyd gan lynges Ffrainc. Dywedai fod tanbelennu, suddo, a ffrwydro llongau oedd wedi rhoi i fyny ymladd, gorfodi y dwylaw i daflu eu hunain dros y bwrdd, llofruddio trwy danio ar y dynion clwyfedig yn boddi, a gomedd caniatau i'r dynion hyn, y rhai nad oeddynt yn forladron, ond yn filwyr a morwyr clwyf- edig, ddianc yn fyw, fel y gwnaed yn yr am- gylchiad hwnnw, yn rhywbeth tra gwahanol i "ryfelgyrch anrhydeddus "honourable warfare,-wfft i'r fath gyfuniad geiriau—ac nad oedd mewn gwirionedd yn ddim amgen na barbareidd-dra noeth. Yr oedd y Times fel yn cymeryd yn ganiataol na fuasai Prydain yn gallu gwneud dim oedd mor greulon. Yr wyf yn cofio fod yr Apostol Heddwch Cymreig yn ddigon gonest yn yr Herald of Peace i adgofio'r Times nad oedd hynny ond rhagrith noeth. Mewn rhyfel, fel y dywedodd Mr. Sidney Herbert unwaith, nid oedd dynion ond fel diafliaid wedi eu goilwng yn rhydd." Gofynna Mr. Richard i'r Times (yn 1884) os oedd ymddygiad y Ffrancod yn farbaraidd, onid yr un peth oedd lluchio pelennau poethion i dref fasnachol ddiamddiffyn fel Canton am bedair awr ar hugain, fel y gwnaeth Prydain yn rhyfel gwaradwyddus y Lorcha Arrow ? "A ydym wedi anghofio," gofynnai, yr hyn a wnaethom mor ddiweddar yn y Soudan ? A ydym wedi anghofio i ni ddanfon Colonel Graham i'r wlad honno i'r unig bwrpas o waredu amddiffynfeydd Tokar a Sinket, ac er fod yr amddiffynfeydd hyn wedi eu cymeryd neu wedi eu rhoi i fyny cyn iddo ddod yn agos atynt, ein bod wedi lladd pum neu chwe mil o Arabiaid yn rhyfeloedd El Tib a Tabanieb, heb un rheswm posibl ond hwn, sef ein bod wedi danfon byddin yno, ac o ganlyniad fod yn rhaid gwneud rhywbeth gyda hi cyn dychwelyd. Yr oedd y ddadl o blaid ei danfoniad allan wedi di- flannu cyn iddi gyrraedd yno, ac nid oedd y cigyddiad a ddilynodd ond gwastraff erchyll a diles ar fywydau dynol. Ond pam y rhaid i mi droiat yr hyn a wnaed mewn blynyddoedd a aethant heibio ? Pasiwyd rheolau rhyfel yng Nghynhadledd yr Hague yn 1889, ond yr wyf er hynny yn gofyn ai nid ydym yn cofio fod ein Prif- weinidog yn dweyd ein bod wedi cario rhyfel De Affrica ymlaen yn ol methods of barbar- ism ? Oni wnaed yr un cyhuddiad yn fyn- nych yn ein Senedd ni gan Mr. Lloyd George ac ereill ? Onid oedd ysgrifenwyr enwog ar y Cyfandir yn ein cyhuddo o greulonderau barbaraidd ? Oni ddarfu i Botha—ie, y Botha yr oeddid yn ei hanner addoli yn ddiweddar-gyhuddo Arglwydd Roberts o gario y rhyfel ymlaen yn groes i reolau rhyfeloedd gwaraidd ? A ydym wedi anghofio y modd y dielid ar y Boeriaid am fod y rheilffyrdd yn cael eu dryllio ? A ydym wedi anghofio y deng mil ar hugain o dai a losgwyd, heb arbed eglwysi, ysgold li, a llyfrgelloedd, y modd yr ysbeiliwyd ac y difawyd yr holl wlad fel y cyfaddefodd Arglwydd Milner ei hunan (Tachwedd, 1901), fod pob cyfalaf amaethyddol wedi ei ddinystrio yn lied Iwyr ? A ydym wedi anghofio y Concentration Camps a'r miloedd a gollasant eu bywydau ynddynt ? A ydym wedi anghofio cri a dagrau y gwragedd a'r plant hynny wrth weled eu tai a'u dodrefn yn cael eu llosgi o flaen eu wynebau ? Os ydyw y Boeriaid yn ceisio anghofio y creulon- derau hynny, yn wir nid da ydyw i ni beidio troi yn ol i edrych arnynt, "lest we forget," a rhag i ni dybied fod croesawu Botha yn gwneud iawn am hynny. Yr oeddem yn amser y rhyfel yn ceisio cyfiawnhau gweith- redoedd ein Cadfridog ceisiem gelu hanner newyniad y plant trwy adroddiadau anghywir yn y Senedd, a phan ddaeth y ffeithiau yn rhy amlwg i'w gwadu, nid oedd dim i'w ddweyd ond "war is war." Ie, cofiwn hyn, rhyfel ydyw rhyfel bob amser, peth barbar- aidd, creulon, ac anghristnogol ac nis gall rheolau o un math byth ei wneud yn ddim amgen. Os bydd brenhinoedd y ddaear yn danfon eu byddinoedd i'r prize ring, ofer ydyw disgwyl y byddant yn ceisio dyrnodio yn ysgafn a thyner, er gwaethaf pob rheolau. Na, eu cadw o'r ring sydd oreu o lawer. At hyn y dylai Senedd y Byd amcanu. ELEAZAR ROBERTS.
--0--Yng Nghwmni Natur.
--0-- Yng Nghwmni Natur. CLYWIR llawer yn synnu, pan byddant ar ymweliad a'r wlad, fod cyn Ileied o fywyd adarol i'w weled a'i glywed, ac yn ami am- heuant fodolaeth cynnifer ag a fydd yn cael sylw yn y papurau a'r misolion. Dylai y cyfryw gofio mai adeg farwaidd ym myd yr adar ydyw y misoedd y byddant hwy yn dod am ychydig hamdden a gwyliau i'r wlad. Yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst, bydd y rhan fwyaf ohonynt wedi gorffen magu eu cywion, y tymor bwrw plu wedi eu gorddiwes a hwythau, yn llwyd eu gwedd a gwael eu cyflwr, yn llechu o'r golwg ymhlith y drain a'r dyrys lwyni. Bydd ereill wedi cychwyn yn hamddenol ar eu taith bell i'w cartref dros y gaeaf, yn araf y dychwelant, o'i gymharu a'r prysurdeb gyda pha un y dont yma atom ni yn y Gwan- wyn, gan nad oes yr un atdyniad iddynt yr ochr draw ag a fydd yma yn y Gwanwyn. Yn eu plith gellir rhestru y Gog, gan na chlywir ei dau nodyn hithau ond yn an- fynnych ym mis Gorffennaf, ond y mae y cywion yn aros o dan ofal y mamaethod gwelais amryw ohonynt yr wythnos ddiwedd- af, yr oeddynt yn gryfion ar yr aden, ac ymhob amgylchiad lie y gwelais hwynt y tro yma, yr Ehedydd Bach, sef Gwas y Gog, oedd yn gofalu am danynt. Swn digon tebyg i gywion adar ereill a wna cyw y Gog, ond ei fod dipyn yn gryfach, ac i'w glywed o gryn bellter ffordd. Nid yn ami y gwelir ef ar yr aden, erys yn ei unfan am oriau lawer, ac fe glywir ei swn o'r un cyfeiriad mewn congl cae am ddyddiau. Fe ymddengys i mi na fydd yn gwneud yr ymdrech leiaf i chwilota am damaid iddo ei hun tra gyda ni, ac y mae yn rhaid ei fod yn dreth drom ar yr adar i gario bwyd i greadur mor fawr am gymaint o amser. Dilyna y cyw yr hen adar, yn unol a'r reddf ryfedd sydd ynddo, i Affrig bell yn ystod misoedd Awst a Medi. Yr wythnos ddiweddaf clywais, lais y Soflieir am y tro cyntaf eleni. Aderyn tipyn yn llai na'r Petris, ac o'r un""rhywogaeth, ydyw. Ymwelydd achlysurollfa fGogledd Cymru, weithiau bydd nifer ohonynt^mewn ardal, ac fe glywn eu can drisill felodaidd ym min yr hwyr, bron mor ami ag eiddo Rhegan yr Yd, ond ambell flwyddyn ni chlywir yr un ohonynt. Yr oedd felly y llynedd, er i mi wylied a chwilio am danynt, methais ddod o hyd i un lie byddai amryw. Ystyrir hwy yn ddanteithfwyd o'r fath oreu, a delir hwy wrth y myrddiynau yn Ffrainc, Ital, Melita, ac ynysoedd Mor y Canoldir. Oddiyno danfonir llawer drosodd i'r wlad yma i farchnad Llunden. Yr aderyn hwn, nid oes dadl, oedd y Soflieir y cyfeirir atynt yn yr Hen Destament, a ddanfonwyd at wasanaeth plant Israel ar eu taith o'r Aifft i Ganaan. Y mae eu can mor debyg ag y gellir ei chyfleu ar lafar i'r tair sill clwc- lonc-linc, yn cael eu hadrodd yn gyflym gyflym. ;'h:jf, ""J'>F\ Daethum ar draws ffaith ddyddorol "ym myd yr adar ychydig wytbnosau7yn ol,"pan ar ymweliad ag un o drefydd glannau mor Bau Aberteifi. A mi allan yn weddol fere, gwelwn Farcud (Buzzard) ar ben corn un o'r tai. Pan ddaethum yn nes ato, ehedodd ymaith i gyfeiriad yr ardd tu cefn i'r ty aethum ar ei ol, a chefais mai un o bar ydoedd, a gedwid mewn caethiwed gan berchennog yr ardd. Bydd y gwryw yn cael rhyddid i fynd a dod ar adegau, er fod cwyno yn ei erbyn o ddwyn capiau brethyn oddiar ben pwy bynnag ddaw yn agos at y ardd. Gwyddis fod rhyw ysfa chwareus felly mewn llawer o'r adar rheibus, a rhai o dylwyth y brain, ac nid yw y Barcud yn eithriad. Er fod par ohonynt, nid yw y fenyw ar delerau da o gwbl a'r gwryw nid oes gyf- athrach rhyngddynt. Yn wir, gwnaeth gynnyg teg i'w ladd unwaith. Oblegid hynny nid yw yr wyau yn ffrwythlon, a chan fod y fenyw yn dodwy ac yn eistedd ar yr wyau, fe benderfynodd y percheng roddion wyau ieir cyffredin o dani, ac er ei syndod un bore yr oedd yno dri o gywion. Prof odd y Barcudan ei hun yn famaeth ragorol, a mag- odd dylwyth o gywion ieir am ddau, os nad tri, tymor dilynol. Ar y cychwyn yr oeddjyn methu a deali trefn y cywion ieir o fwyta. Cynhygia damaid iddynt, gan ddisgwyl iddynt agor eu pigau fel cywion y Barcud, ond pan welodd mai trwy chwilio a chrafu y byddai y cywion yn cael bwyd, arweiniodd hwynt allan, gan gadw ei llygaid yn ofalus arnynt, a malu tameidiau o'i bwyd ei hun yn fan fan iddynt. Magodd un ceiliog, yr hwn a yfodd yn helaeth o ysbryd y famaeth nid oedd bosibl gwneud dim ohono, gan mor ffyrnig oedd, a'r diwedd fu gorfod ei ladd. Gresyn oedd hyn hefyd, hyd nes gweled beth fyddai ei duedd ar oljcvrraedd ei lawn dwf.¡ GWAS Y GOG.
Advertising
IF YOU WANT SEASONED Oak, Mahogany, Birch, Black Walnut. Ash. White Wood, Pitchpine, Yellow Pine, Doors or Mouldings WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Undeb Ysgolion M.C. CARDIAU SAFONAU, RHAGBAROTOAWL HYD SAFON Y 9fed, I'w rhoddi yn nwylaw y plant, yn dangos iddynt y Alacs Llafur, Darllen a Dysgn Allan am y flwyddyn. Pris (assorted) 3/6 y Cant. I'w cael gan HUGH EVANS, 444 Stanley Road, Liverpool. Maes Llafur Undebj Ysgolion M.C I rai dros 21 oed Llawlyfrar Efengyl, Matt. 1-15 gan y Parch.W. Williams, Hirwaen. Pris, 1/3 I rai dan 21 oed-Gwerslyfr ar Efengyl Matt., 1-15. gan y Parch. W. Williams, Rhostryfan. Pris, 2c. Ar werth gan HUGH EVANS, Llyfrwerthwr, 444 Stanley Road, ESTABLISHED 1876. WILLIAMS & HUGHES, LADIES' & GENTS' TAILORS, 21 Brunswick Road, Tel. 0778 Royal. LIVERPOOL. Est. OWFNm A f ft Telephone 1885. « tU., 404y Royal Office & Shop Fitters, DECORATING, PLUMBING, GASFITTING, &c And all kinds of Jobbing, 24 Hart St., London Road, LIVERPOOL. 0 IC .0' C' a'" C.lQ.t £ 1 ? L- P. Neil Campbell, 84 DURNING RD. (Yn agos i Goleg Hyfforddiadol Edge Hill), LIVERPOOL. TYNNU DANNEDD YM DDIBOEN. A'u llenwl ag Aur, Arian M yn y blaen. Khoddir Cyfarwyddyd a phriiiam yn rhad. Ortau: 9 y bore hyd 8 yr h GweinyMet at Foneddigesau. Pellaelnyr s 445 Royal. Y DULL AMBrtlCANAIDD 0 Goroni a Phontio Dannedd. Jones' Hotel (Established over 100 years). Suffolk St., Poll Mall, London, (Adjoining Trafalgar Square.) Succ essors to Mr. Roberts, Thanet Place. Telegraphic Address—' Pleasant,' London. Proprietor-H. R. JONES. The Well=known Remedy 0 from Wales for 41 RHEUMATISM, LUMBAGO, SO I ATI C A BAOK-AGHE, WEAK CHEST, SORE THROAT, BURNS, CUTS, BRUISES, &c., is MORRIS EVANS9 HOUSEHOLD OIL. Sold in Bottles, 1/1A, & 2/6, by Grocers and Chemists, or from the undermentioned Lancashire Representative— EDWARD R. HUGHES, 13 St. Michael's Road, Liverpool, S. Agent- LEWIS JOB LEWIS, 20 Verulam St., Lpool. Book of Testimonials, &c., sent Post Free on Application to the Manufacturers- Morris Evans & Co., FESTINIOG, N. WALES Testynau Eisteddfod Llangollen.- RHESTR GYFLAWN Y TESTYNAU YN AWR YN BAROD, AC I'W CHAEL, PRIS 6ch., DRWY'R POST 71c., GAN EVANS, SONS & FOULKES, SWYDDFA'B BBYTHON." CERDDOROL, 6c. The Cambrian School of Music, Liverpool Principal MR. John Henry Roberts Mus. Bac. (Cantab.), A.R.A.M., F.T.S.C. (London). ASSISTED BY QJU A L I F I E D a PROFESSORS a 4/t ,The Branches taught include- Pianoforte, Organ, Violin and all Orchestral Instruments. Theory of Music, Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition. ø pi Solo Singing 6 Voice "Production. b Students :Specially Prepared for, Local Examinations. POSTAL LESSONS In Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition, Accoustics, in all Tonic Sol-Fa College Subjects. MUSICAL COMPOSITIONS REVISED AND CORRECTED. Full Particulars from- J. H; ROBERTS. 149GROVE ST., L'POQL; Mr. HARRY EVANS (Fellow of the Royal College of Organists) Conductor of the Liverpool Welsh Choral Union Teacher of Singing ALSO ORGAN PIANOFORTE (ADVANCED). Students prepared for Degrees and Diplomas ADDRESS]: 26 Princes Avenue, LIVERPOOL THE LATEST SUCCESS. ROBERTS' WATCH METRONOME A combined Watch and Metronome. All tempos seen at a glance. No adjustment re- quired. Nothing to get out of order. Every musician, whether Student, Singer, Teacher, Organist or Conductor, should possess one. TESTIMONIALS- A great acquisition to musicians." Simple,' useful, and portable." "Most ingenious and handy.' Veryjgood idea, the best I have seen." "Most useful on account of its simplicity and portability." A most valuable little thing, quite unique, ex- cellent." PRICE 15/- [postage extra] To be had from the inventor and patentee Dr. R. D. GLYN ROBERTS. 0 59 Crawford Avenue. Liverpool. o OS OES GENNYCH Swllt DciacAnwyd Drwg Gellwch gael ymadael a'r ddau drwy brynnufpotel o Prysor-Jones' LUNG IBALSAM, Y Feddyginiaeth at ANWYD, PESWCH CRYGNI, DOLUR GWDDF, &c. Os cymerir dogn gydag ychydig o ddwfr cynnes cyn myned i orffwys, fe gynhesa y frest a sicrheir NOSON DDA. Parotoedig yn unig gan D. PRYSOR-JONES (Olynydd i S. K. Drew), Fferyllydd, 291 Park Road, LIVERPOOL. Moses O'R CAWELL A'R MOR COCH, Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd, &c. Gan PEDR HIR. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS, Swyddfa'r Brython, Lerpwl. 0 Pris, 3c. 0