Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Bara Brith.

--0---Nodion o Fanceinion.

PULPUDAU MANCHESTER.

--o - Senedd y Byd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--o Senedd y Byd. VI.-Ymladd yn ol Rheolau. TRA y mae Senedd yr Hague yn dal i ddadleu rheolau rhyfel, ac eto heb ddod o ddifrif i ystyried y modd i osgoi ymladd, goddefer i mi wasgu adref y gwirionedd nad yw y rheolau hyn, pan y mae rhyfel yn cymeryd lie, yn cael y sylw a ddylent. Pan y bo paffwyr proffesedig yn ymladd o fewn cylch gosodedig y prize-ring, y mae eu cefnogwyr yn gwylied na fyddont yn troseddu rheolau y gelfyddyd ardderchog "—y noble art, fel y'i gelwir. Ond pan y mae dwy genedl yn rhyfela-ac nid ydyw hynny ond yr un peth mewn cylch ehangach, cofier--riid oes neb y tu allan iddynt yn gofalu eu bod yn cadw at ddeddfau gosodedig civilized irar- iare. Pan bydd gwaed yn cael ei dywallt, a nwydau cynddeiriog yn cael eu cyffroi, mae yn anobeithiol disgwyl hynny. Rhyw bum mlynedd ar hugain yn ol yr oedd Ffrainc yn cweryla a China, ac aeth ei llynges i danbelennu Arfdy Foochow. Ys- grifennodd gohebydd y Times ar y pryd ddisgrifiad manwl o'r hyn a wnaed, ac yr oedd y disgrifiad yn gyfryw fel y torrodd golygydd y Times allan yn ffroenwyllt i gon- demnio y modd yr ymddygwyd gan lynges Ffrainc. Dywedai fod tanbelennu, suddo, a ffrwydro llongau oedd wedi rhoi i fyny ymladd, gorfodi y dwylaw i daflu eu hunain dros y bwrdd, llofruddio trwy danio ar y dynion clwyfedig yn boddi, a gomedd caniatau i'r dynion hyn, y rhai nad oeddynt yn forladron, ond yn filwyr a morwyr clwyf- edig, ddianc yn fyw, fel y gwnaed yn yr am- gylchiad hwnnw, yn rhywbeth tra gwahanol i "ryfelgyrch anrhydeddus "honourable warfare,-wfft i'r fath gyfuniad geiriau—ac nad oedd mewn gwirionedd yn ddim amgen na barbareidd-dra noeth. Yr oedd y Times fel yn cymeryd yn ganiataol na fuasai Prydain yn gallu gwneud dim oedd mor greulon. Yr wyf yn cofio fod yr Apostol Heddwch Cymreig yn ddigon gonest yn yr Herald of Peace i adgofio'r Times nad oedd hynny ond rhagrith noeth. Mewn rhyfel, fel y dywedodd Mr. Sidney Herbert unwaith, nid oedd dynion ond fel diafliaid wedi eu goilwng yn rhydd." Gofynna Mr. Richard i'r Times (yn 1884) os oedd ymddygiad y Ffrancod yn farbaraidd, onid yr un peth oedd lluchio pelennau poethion i dref fasnachol ddiamddiffyn fel Canton am bedair awr ar hugain, fel y gwnaeth Prydain yn rhyfel gwaradwyddus y Lorcha Arrow ? "A ydym wedi anghofio," gofynnai, yr hyn a wnaethom mor ddiweddar yn y Soudan ? A ydym wedi anghofio i ni ddanfon Colonel Graham i'r wlad honno i'r unig bwrpas o waredu amddiffynfeydd Tokar a Sinket, ac er fod yr amddiffynfeydd hyn wedi eu cymeryd neu wedi eu rhoi i fyny cyn iddo ddod yn agos atynt, ein bod wedi lladd pum neu chwe mil o Arabiaid yn rhyfeloedd El Tib a Tabanieb, heb un rheswm posibl ond hwn, sef ein bod wedi danfon byddin yno, ac o ganlyniad fod yn rhaid gwneud rhywbeth gyda hi cyn dychwelyd. Yr oedd y ddadl o blaid ei danfoniad allan wedi di- flannu cyn iddi gyrraedd yno, ac nid oedd y cigyddiad a ddilynodd ond gwastraff erchyll a diles ar fywydau dynol. Ond pam y rhaid i mi droiat yr hyn a wnaed mewn blynyddoedd a aethant heibio ? Pasiwyd rheolau rhyfel yng Nghynhadledd yr Hague yn 1889, ond yr wyf er hynny yn gofyn ai nid ydym yn cofio fod ein Prif- weinidog yn dweyd ein bod wedi cario rhyfel De Affrica ymlaen yn ol methods of barbar- ism ? Oni wnaed yr un cyhuddiad yn fyn- nych yn ein Senedd ni gan Mr. Lloyd George ac ereill ? Onid oedd ysgrifenwyr enwog ar y Cyfandir yn ein cyhuddo o greulonderau barbaraidd ? Oni ddarfu i Botha—ie, y Botha yr oeddid yn ei hanner addoli yn ddiweddar-gyhuddo Arglwydd Roberts o gario y rhyfel ymlaen yn groes i reolau rhyfeloedd gwaraidd ? A ydym wedi anghofio y modd y dielid ar y Boeriaid am fod y rheilffyrdd yn cael eu dryllio ? A ydym wedi anghofio y deng mil ar hugain o dai a losgwyd, heb arbed eglwysi, ysgold li, a llyfrgelloedd, y modd yr ysbeiliwyd ac y difawyd yr holl wlad fel y cyfaddefodd Arglwydd Milner ei hunan (Tachwedd, 1901), fod pob cyfalaf amaethyddol wedi ei ddinystrio yn lied Iwyr ? A ydym wedi anghofio y Concentration Camps a'r miloedd a gollasant eu bywydau ynddynt ? A ydym wedi anghofio cri a dagrau y gwragedd a'r plant hynny wrth weled eu tai a'u dodrefn yn cael eu llosgi o flaen eu wynebau ? Os ydyw y Boeriaid yn ceisio anghofio y creulon- derau hynny, yn wir nid da ydyw i ni beidio troi yn ol i edrych arnynt, "lest we forget," a rhag i ni dybied fod croesawu Botha yn gwneud iawn am hynny. Yr oeddem yn amser y rhyfel yn ceisio cyfiawnhau gweith- redoedd ein Cadfridog ceisiem gelu hanner newyniad y plant trwy adroddiadau anghywir yn y Senedd, a phan ddaeth y ffeithiau yn rhy amlwg i'w gwadu, nid oedd dim i'w ddweyd ond "war is war." Ie, cofiwn hyn, rhyfel ydyw rhyfel bob amser, peth barbar- aidd, creulon, ac anghristnogol ac nis gall rheolau o un math byth ei wneud yn ddim amgen. Os bydd brenhinoedd y ddaear yn danfon eu byddinoedd i'r prize ring, ofer ydyw disgwyl y byddant yn ceisio dyrnodio yn ysgafn a thyner, er gwaethaf pob rheolau. Na, eu cadw o'r ring sydd oreu o lawer. At hyn y dylai Senedd y Byd amcanu. ELEAZAR ROBERTS.

--0--Yng Nghwmni Natur.

Advertising