Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Bara Brith.

--0---Nodion o Fanceinion.

PULPUDAU MANCHESTER.

--o - Senedd y Byd.

--0--Yng Nghwmni Natur.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0-- Yng Nghwmni Natur. CLYWIR llawer yn synnu, pan byddant ar ymweliad a'r wlad, fod cyn Ileied o fywyd adarol i'w weled a'i glywed, ac yn ami am- heuant fodolaeth cynnifer ag a fydd yn cael sylw yn y papurau a'r misolion. Dylai y cyfryw gofio mai adeg farwaidd ym myd yr adar ydyw y misoedd y byddant hwy yn dod am ychydig hamdden a gwyliau i'r wlad. Yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst, bydd y rhan fwyaf ohonynt wedi gorffen magu eu cywion, y tymor bwrw plu wedi eu gorddiwes a hwythau, yn llwyd eu gwedd a gwael eu cyflwr, yn llechu o'r golwg ymhlith y drain a'r dyrys lwyni. Bydd ereill wedi cychwyn yn hamddenol ar eu taith bell i'w cartref dros y gaeaf, yn araf y dychwelant, o'i gymharu a'r prysurdeb gyda pha un y dont yma atom ni yn y Gwan- wyn, gan nad oes yr un atdyniad iddynt yr ochr draw ag a fydd yma yn y Gwanwyn. Yn eu plith gellir rhestru y Gog, gan na chlywir ei dau nodyn hithau ond yn an- fynnych ym mis Gorffennaf, ond y mae y cywion yn aros o dan ofal y mamaethod gwelais amryw ohonynt yr wythnos ddiwedd- af, yr oeddynt yn gryfion ar yr aden, ac ymhob amgylchiad lie y gwelais hwynt y tro yma, yr Ehedydd Bach, sef Gwas y Gog, oedd yn gofalu am danynt. Swn digon tebyg i gywion adar ereill a wna cyw y Gog, ond ei fod dipyn yn gryfach, ac i'w glywed o gryn bellter ffordd. Nid yn ami y gwelir ef ar yr aden, erys yn ei unfan am oriau lawer, ac fe glywir ei swn o'r un cyfeiriad mewn congl cae am ddyddiau. Fe ymddengys i mi na fydd yn gwneud yr ymdrech leiaf i chwilota am damaid iddo ei hun tra gyda ni, ac y mae yn rhaid ei fod yn dreth drom ar yr adar i gario bwyd i greadur mor fawr am gymaint o amser. Dilyna y cyw yr hen adar, yn unol a'r reddf ryfedd sydd ynddo, i Affrig bell yn ystod misoedd Awst a Medi. Yr wythnos ddiweddaf clywais, lais y Soflieir am y tro cyntaf eleni. Aderyn tipyn yn llai na'r Petris, ac o'r un""rhywogaeth, ydyw. Ymwelydd achlysurollfa fGogledd Cymru, weithiau bydd nifer ohonynt^mewn ardal, ac fe glywn eu can drisill felodaidd ym min yr hwyr, bron mor ami ag eiddo Rhegan yr Yd, ond ambell flwyddyn ni chlywir yr un ohonynt. Yr oedd felly y llynedd, er i mi wylied a chwilio am danynt, methais ddod o hyd i un lie byddai amryw. Ystyrir hwy yn ddanteithfwyd o'r fath oreu, a delir hwy wrth y myrddiynau yn Ffrainc, Ital, Melita, ac ynysoedd Mor y Canoldir. Oddiyno danfonir llawer drosodd i'r wlad yma i farchnad Llunden. Yr aderyn hwn, nid oes dadl, oedd y Soflieir y cyfeirir atynt yn yr Hen Destament, a ddanfonwyd at wasanaeth plant Israel ar eu taith o'r Aifft i Ganaan. Y mae eu can mor debyg ag y gellir ei chyfleu ar lafar i'r tair sill clwc- lonc-linc, yn cael eu hadrodd yn gyflym gyflym. ;'h:jf, ""J'>F\ Daethum ar draws ffaith ddyddorol "ym myd yr adar ychydig wytbnosau7yn ol,"pan ar ymweliad ag un o drefydd glannau mor Bau Aberteifi. A mi allan yn weddol fere, gwelwn Farcud (Buzzard) ar ben corn un o'r tai. Pan ddaethum yn nes ato, ehedodd ymaith i gyfeiriad yr ardd tu cefn i'r ty aethum ar ei ol, a chefais mai un o bar ydoedd, a gedwid mewn caethiwed gan berchennog yr ardd. Bydd y gwryw yn cael rhyddid i fynd a dod ar adegau, er fod cwyno yn ei erbyn o ddwyn capiau brethyn oddiar ben pwy bynnag ddaw yn agos at y ardd. Gwyddis fod rhyw ysfa chwareus felly mewn llawer o'r adar rheibus, a rhai o dylwyth y brain, ac nid yw y Barcud yn eithriad. Er fod par ohonynt, nid yw y fenyw ar delerau da o gwbl a'r gwryw nid oes gyf- athrach rhyngddynt. Yn wir, gwnaeth gynnyg teg i'w ladd unwaith. Oblegid hynny nid yw yr wyau yn ffrwythlon, a chan fod y fenyw yn dodwy ac yn eistedd ar yr wyau, fe benderfynodd y percheng roddion wyau ieir cyffredin o dani, ac er ei syndod un bore yr oedd yno dri o gywion. Prof odd y Barcudan ei hun yn famaeth ragorol, a mag- odd dylwyth o gywion ieir am ddau, os nad tri, tymor dilynol. Ar y cychwyn yr oeddjyn methu a deali trefn y cywion ieir o fwyta. Cynhygia damaid iddynt, gan ddisgwyl iddynt agor eu pigau fel cywion y Barcud, ond pan welodd mai trwy chwilio a chrafu y byddai y cywion yn cael bwyd, arweiniodd hwynt allan, gan gadw ei llygaid yn ofalus arnynt, a malu tameidiau o'i bwyd ei hun yn fan fan iddynt. Magodd un ceiliog, yr hwn a yfodd yn helaeth o ysbryd y famaeth nid oedd bosibl gwneud dim ohono, gan mor ffyrnig oedd, a'r diwedd fu gorfod ei ladd. Gresyn oedd hyn hefyd, hyd nes gweled beth fyddai ei duedd ar oljcvrraedd ei lawn dwf.¡ GWAS Y GOG.

Advertising