Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
NOW READY OFFICIAL LIST OF SUBJECTS Llangollen Royal National Eisteddfod, 1908. Price 6d. 0 Post 7!d. 2 EVANS, SONS 6 FOULKES, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road, Liverpool. CYNRIC, Y TEILIWR CYM REI G. SMARTNESS WITH ECONOMY RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS T REASONABLE PRICES. ø E. C. Kenricil, ø62 RENSHAW STREET.* mRMFORDS ■ aeAM mRACKBRS
0 r~;—s \ TRWY Y DRYCH. j
0 r~;—s TRWY Y DRYCH. j C. IF. Aked. DYN rhyfedd iawn yw Mr. Aked, ac yn Chautauqua, America, y mae pan y syllwn arno trwy y Drych y tro hwn. A dweyd y lleiaf am dano, y mae yn enwog-yn llwyddo i dynnu sylw ato ei hun, gan nad pa un ai o edmygedd ynte dygasedd y gwneir sylw ohono. Rhaid fod ganddo ryw nerth, onide ni chymerai y byd arno ei weld na'i glywed. Yr oedd iddo enwogrwydd pan yn y wlad hon, llawer yn barod i roddi eu bywyd drosto, ereill yn barod i gymeryd ei fywyd ei hun oddiarno, a bu agos iddynt wneud hynny unwaith yn heolydd Lerpwl, ar nos Sul, pan oedd efe ar ei ffordd o'i bulpud i'w gartref. Nid oes eto fawr o amser er pan ymsefydlodd yn New York, mewn eglwys lie y dywedir fod amryw filiwn- wyr o flaen ei bulpud, a myntumiai rhai eu bod hefyd uwch ei ben, ac y cai Mr. Aked deimlo hynny. Nid ydym ni, hyd yn hyn, beth bynnag, yn credu yr ym- dawdd Mr. Aked i fold ewyllys unrhyw ddyn na chymdeithas fel ag i golli ei arbenigrwydd a'i gymeriad fel casawr gorthrwm gwladol a chrefyddol, a Phar- iseaeth ymhob ffurf arni. Mae y dyst- iolaeth hyd yma yn hollol groes i hynny. Y mae ar hyn o bryd yn taranu yn erbyn yr hen elynion, ac nid oes dim gwahan- iaeth yn ei don na'i safle fel diwygiwr. Dywedodd bethau cryfion a diamwys yn erbyn moethusrwydd a malldod rhai miliwnwyr Americanaidd. Ond beidd- iodd hefyd ddwyd geiriau angharedig am John Bull, ac wele dyma don o gyffro yn croesi'r Werydd i'r wlad hon, ac ami ohebydd yn ysgrifennu i'r wasg fel pe buasai yn eistedd ar frig daear- gryn. Yr Esgob Gore. DYMA y Drych ar Esgob Birmingham, ond y mae mor hylaw erbyn hyn fel y gallwn am funud ei chwareu ar Gore ac Aked bob yn ail. Nid ydym yn cyd- weled a phob peth a ddywed Mr. Aked, na'r dull y gwna rai pethau ond, er hynny, credwn ei fod fel rheol yn sefyll dros iawnderau naturiol dyn, ac yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau. Dim ond un pwynt yn awr, a dyma hwnnw- Beid ef am fychanu gwerth Rhydychen a Chaergrawnt fel sefydliadau addysg. Am hyn, yn un peth, cyhuddid ef o fod yn dirmygu ei fam-wlad, yn ei bradychu i estroniaid, ac yn gwenieithio i Jona- than." Ymhen diwrnod neu ddau wedi i Mr. Aked wneud ei ddatganiadau yn America, dyma yr Esgob Gore yn gwneud eu cyffelyb yn Nhy yr Arglwyddi yn Llunden; yn wir, braidd yn yr un geir- iau. Trosedd Mr. Aked oedd dweyd, yn un peth, nad oedd y Colegau a enwyd namyn ysgolion elfennol i snobyddion cyfoethog yn unig-" only for rich snobs. Ac mewn trafodaeth a gymerodd le ar y mater yn Nhy yr Arglwyddi y dydd o'r blaen, galwodd yr Esgob Gore sylw at y priodoldeb o benodi Dirprwyaeth Fren- hinol i chwilio i sefyllfa bresennol Prif- ysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, gyda golwg ar eu cyfaddasu yn fwy at anghenion addysg y dyddiau hyn, ac ymysg pethau ereill, dywedodd y Prelad dysgedig nad oedd le i amheuaeth nad oedd y prif- ysgolion ar hyn o bryd, i raddau nas dylid eu goddef, ond chwareule i feibion y dosbarth cyfoethocaf, ac nad oeddynt i lawer o'u hefrydwyr mewn unrhyw ystyr, yn lleoedd efrydu o gwbl." Mae cryn bellter rhwng New York a Birmingham, a phellter mwy fyth rhwng Aked a Gore ond mae y pellterau yn cydgyfarfod yn agos iawn ar un pwynt-nad yw Prif- ysgolion Rhydychen a Chaergrawnt ar hyn o bryd fawr amgen na chwareule i feibion cyfoethog y wlad. Fel rheol, nid yw sylwedd yr hyn a ddywed Mr. Aked yn wahanol i eiddo lliaws o ddynion ereill, ond fod ei iaith dipyn cryfach na'r cyffredin. Wedi'r cyfan, y mae efe yn gallu dweyd nes ybydd cyfandiroedd yn gwrando. Eglwys Matthew Henry. UNWAITH eto, dyma y Drych ar yr eglwys yng Nghaerlleon, a anfarwolwyd gan yr hen esboniwr. Deallwn fod amryw yn teimlo dyddordeb yn y nodiadau a wnaed ar yr un testyn o'r blaen. Llithr- odd gwall i'r nodiadau hynny, drwy alw y Parch. Richard Knill yn Mill." A chyda golwg ar y "broffwydoliaeth," am Mr. C. H. Spurgeon, waeth i ni ddi- fynu y canlynol allan o'r Cofiant A MORE remarkable interview occurred when he was on a visit to the Rev. James Spurgeon, the minister of an ancient chapel, formerly associated with Dr. Issac Watts, at Stanbourne, in Essex. His host had a grandson, then about ten years old, who very much interested him by his serious and enquiring turn. When walking and conversing with the boy in the garden, Mr. Knill became pervaded by a, deep concern for him, and turning aside into an arbour formed by an yew-tree, he placed his hands upon his head and invoked the Divine blessing upon him, saying, at the close, that lie believed that he- would live to love Jesus Christ, and preach His Gospel to the largest congregation in the world. Tystiolaeth Mr. Spurgeon. A CHAN i ni ddechreu gyda'r mater dyddorol hwn, credwn yr esgusodir ni, beth bynnag, am orffen hanesyn y "bro- wydoliaeth" drwy ychwanegu ddarfod i Mr. Knill, ymhen deuddeng mlynedd wedi ei ymgom a Spurgeon ieuanc, a darllen adroddiadau am y cynulleidfaoedd mawrion yn Exeter Hall a'r Surrey Music Hall, beri i Mrs. Knill ysgrifennu at y pregethwr ieuanc, gan ofyn ai efe oedd yr hwn a gyfarfuasai gynt dan y pren Yw, a derbyniodd atebiad cadarnhaol— y ddau yn cofio yn dda y digwyddiad. Yn y Metropolitan Pulpit, 1867, cyfeiria Mr. Spurgeon ei hun at yr un peth mewn dull chwaethus a llednais, ac i bwrpas da, fel hyn :— MR. Richard Knill, of happy and glorious memory, an earnest worker for Christ, felt moved, I know not why, to take me on his knee, at my grandfather's house, and to utter words like these, which were treasured up by the family, and myself especially :—' This child,' said he, will preach the Gospel, and he will preach it to the largest congregations of our times.' I believed his prophecy, and my standing here to-day is partly occasioned by such belief. It did not hinder me in my dili- gence in seeking to educate myself, because I believed I was destined to preach the Gospel to large congregations,—not at all, but the prophecy helped forward its own fulfilment and I prayed and sought and strove, always having this star of Bethle- hem before me, that the day would come when I should preach the Gospel." Bydd y dyfyniadau hyn yn cyflawni i ryw fesur yr hyn oedd ddiffygiol yn y Drem a gymerasom dro yn ol i'r cyfeiriad hwn, ac yn ddyddorol ac addysgiadol i lawer un. Mae Spurgeon fyth yn fyw, a gwyn fyd olynwyr Richard Knill-y rhai a deimlant ddyddordeb mewn ieu- enctyd, ac a feddant graffter, gan nad pa un ai proffwydoliaeth ai beth y gellir ei alw, i ganfod y dyn yn y plentyn.
Advertising
Testynau Eisteddfod Llangollen. RHESTR GYFLAWN Y TESTYNAU YN AWR YN BAROD, AC I'W CHAEL, PRIS 6ch., DRWY'R POST 7 ic., GAN EVANS, SONS & FOULKES, SWYDDFA'B "BBYTJION."
Y Parch. William Owen.
Y Parch. William Owen. DYMA'R Drych ar y Parch, William Owen, Webster Road, ac mae golwg bur dda arno newydd ddychwelyd yn Lion o'r Gorllewin araul, Ty'r hwyr, lie lletya'r haul "— ys canodd Nicander. Mae ein cydwlad- wyr y tu hwnt i'r mor yn dra hoff o groesawu ymwelydd o fath Mr. Owen, a theimlant fel pe byddai yn cludo yr Hen Wlad yn un pwn ar eu cyfer, i'w rhannu rhyngddynt. I ysgrifennu dipyn yn gallach, byddant yn disgwyl ganddo newyddion fyrdd a mwy, a phrin y gall fynd i unrhyw gapel na thy Cymreig na fydd ynddynt rywrai yn holi gydag awch, Ydach chi'n nabod V Bydd dyn yn dechreu synnu fod cynnifer o Gymry yn Lerpwl, heb son am Gymru, pan dynnir ef drwy arholiad y cyfeillion croesawus yng ngwlad Jonathan. Bydd hefyd yn bur debyg o gyfarfod ag ami hen gyfaill a adwaenai gynt, ond a gollasai o gymdeithas, ac feallai o gof, er's blyn- yddoedd. Mae yn America gewri o Gymry mewn gallu meddyliol a diwyll- iant, dewr o fryd, a disglaer eu cymeriad- au. Tra y mae'n wir ddarfod i rai gwaolion ffoi yno o bryd i bryd, y mae'n ffaith hefyd ddarfod i rai o ragorolion ein cenedl gefnu ar eu gwlad eu hunain am eu bod dan grafangau gorthrwm, ac yn rhy anibynol i'w oddef yn hwy. Anodd dweyd y da a wneir gan ymwelwyr pregethwrol. Da gan Lerpwl a Chymru am ddychweliad y pregethwr— bu agos i ni ddweyd poblogaidd," ond mae y gair hwnnw bellach wedi mynd yn chwerthinbeth cenedlaethol. Ond nid oes eisieu ansoddeiriau at ein brawd gwyr y neb a'i clywodd ei fod yn bregethwr. Coffa Gwraig Dda. GWRAIG nodedig oedd Mrs. Catherine Williams, gweddw y diweddar Mr. Wm. Williams, a mam Mr. Thomas Williams, Y.H., Llewesog Hall, Dinbych. Yr oedd hi yn wraig a gafodd gyfle i ddylanwadu ar nifer go fawr o fechgyn a ddeuent o Gymru i wasanaeth y teulu parchus yn eu masnachdai yng Nghaer a Lerpwl. Byddai rhai ohonynt yn lletya gyda'r teulu, a bu ei gofal hi a'i phriod drostynt o fantais anrhaethol iddynt ar adeg bwysig yn eu bywyd, ac mewn amgylch- oedd llawer o demtasiynau. Bu cystal a mam i lawer dyn ieuanc oddicartref. A gellir dweyd, i glod y teulu llwydd- iannus hwn, iddynt bob amser greu awyrgylch moesol a chrefyddol pur i'w gwasanaethyddion, ac yn eu masnach yn gyffredinol. Gwyr llawer o'n dar- llenwyr i'r diweddar Mr. William Williams -sylfaenycld y masnachdy helaeth yn Button Street, Lerpwl-fod yn flaenor yn eglwys Parkfield (M.C.), Birkenheadv ac iddo ar briodas ei fab symud i dreulio gweddill ei oes yn Llewesog Hall, lie y bu farw. Meddai Mrs. Williams ar feddwl cryf, a chafodd fyw i gyrraedd yr oedran addfed o 90 mlwydd. Cadw- odd ei chynheddfau yn fywiog i'r diwedd, gyda'r eithriad o'i chlyw. Cofiai ymhell iawn yn ol, a chanddi ystorfa helaeth o hanesion difyr. Cofiai iddi, y Sul cyn- taf wedi claddu perthynas agos, fynd gyda'r teulu a phenlinio o gwmpas y bedd i gyd-adrodd Gweddi'r Arglwydd— yn ol arferiad a ffynnai ar y pryd, yr hon, feallai, oedd yn weddillyn o weddi a offrymid unwaith dros y meirw. Mae'n hysbys fod y mab, Mr. Thomas Williams, Y.H., wedi bod yn Uchel Sirydd sir Ddinbych, a dyddorol gennym ddeall fod ei fab hynaf yntau yn dra addawol fel ysgolhaig, a newydd raddio gydag anrhydedd ym Mhrifysgol Caergrawnt.
--0--BWLCHGWYN A'R CYLCH.
--0-- BWLCHGWYN A'R CYLCH. Go laes eu gwep yw'r amaethwyr wrth weld cymaint o wlawalleied o haul. Hawdd i chwi bob] y trefi eu beio cofiwch mai or tir a'r fferm yr ydych yn cael eich cwbl agos ond eich Saesneg a' ch pechodau. Ig, Dyna daith ddifyr a gafodd athrawon Ysgol y Cyngor ac Ysgol Genedlaethol Mwnglawdd a Bwlchgwyn. Aed mewn ceir drwy Landegla, heibio Creigiau Eglwyseg a Phwll Uffern," fel y'i gelwir ar dafod gwlad, hyd i Langollen. Dychwelwyd drwy'r Rhos a Rhiwabon, a diolch i Mr. R. Lloyd a R. Williams am drefnu pethau mor ddethe. k Ddydd Mercher diweddaf, priodwyd y Parch. J. Garmon Owen, gweinidog M.C. Llanarmon-yn-Ial, a Miss L. Rogers, Bradford House, Bwlchgwyn. Daeth lliaws i gyfranogi o'r neithior, a chafodd y par ieuanc lu o bwyddion priodas. Nos Iau ddiweddaf dibenwyd tymor yr ysgol bob dydd gyda chyngerdd. Caed anerchiad gan Mr. Sauvage (pennaeth Cym- deithas Ryddfrydol Gwrecsam), gan ddadleu tros i'r athrawon gael seibiant oddiwrth eu galwedigaeth gaeth. Ategwyd ei araith gan y brawd Isaac Jones, Hen Ffarm, ond yn ychwanegu Pryd y mae dyn y caib a'r rhaw i gael ei wyliau heb orfod colli ei gyflog ? Wel, pan y ca gyfle i gynrychioli Cymdeithas yr Odyddion am wythnos neu ragor yng nghynhadledd y gymdeithas yn Newcastle a'u cyffelyb.Aed trwy rhaglen flasus, ond y canu ddim cystal ag arfer. Yr oedd ffordd y plant o fynd drwy eu drills yn dangos llafur mawr ar ran Miss Thomas. Dyma ddau o'n bechgyn, D. Rogers a John Roberts, wedi llwyddo'n anrhydeddus ym Matriculation Prifysgol Bangor. Dyma Thomas Carrington hefyd wedi derbyn urdd cerddor, a'i fedyddio i'r cerdd-enw Alaw Maelor.' Brawd difefl ydyw ef gyda chanu, ac ni fydd byth yn crio. Y mae yma gryn lawer o ddieithriaid, a mwy nag erioed o drueiniaid y dyciau yn dod yma ac yn cael gwared ohono. Pwy bynnag sydd wedi ei oddiweddyd gan yr anhwylder anfelus hwnnw, doed yma mewn pryd. YR ERYR.
Cymry a Moddion Gras.
Cymry a Moddion Gras. i. YR enw cyffredin ar y gwasanaoth cyhoeddus yng Nghymru yw Moddion Gras;" iiiyited i'r moddion yw myned i'r capel neu'r eglwys i addoli ond enw arferol y Saeson ar hyn yw service," gwasanaeth. Y mae priodol- deb mawr yn y ddau enw. Y cyntaf a awgryma yr hyn yw y cyfarfod i ni, sef moddion o ras awgryma yr ail yr hyn yw i Dduw, sef gwasanaeth. Credwn fod sail Ysgrythyrol i'r ddwy agwedd, ac fod y naill mor bwysig a'r llall. Elai y Salmydd i'r cysegr i edrycli ar brydferthwch yr Ar- glwydd, ac i ymofyn yn ei deml." Deuai hefyd o'i flaen Ef a chan, ac i'w gynteddau a mawl." "Rhoddwch i'r Arglwydd," medd- ai, ogoniant ei enw." "Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth." Y mae der- byn a rhoddi mewn gwir addoliad Yr ydys yn ''derbyn er mwyn "rhoddi.' Y mae adeiladaeth" y saint i fod er gogoniant i Dduw." Prif wasanaeth yr enw moddion gras yw ei fod yn ein hadgofio yn barhaus mai moddion, ac nid amcan, ddyla' ein cyfarfod- ydd crefyddol fod. Ofnwn weithiau fod llwyddiant y cyfarfod fel cyfarfod yn myned yn ddiben ynddo ei hun ond lie bynnag y digwydd hynny, try y cyfarfod o angen- rheidrwydd yn fethiant. Yr unig ffordd i gael cyrddau crefyddol bendithiol ydyw cadw ein llygaid yn gyson ar eu diben, sef adeiladaeth i ddyn a gogoniant i Dduw. Nid yw yn rhyfedd fod moddion gras yn angenrheidiol, oblegid trwy foddion y mae Duw yn gweithio ymhob cylch. Rhaid defnyddio moddion dyna drefn ordeinied- ig Duw. A chan fod moddion yn angen- rheidiol, ymdrechir ymhob cyfeiriad i sicrhau y moddion mwyaf eSeithiol i gyrraedd yr amcan mewn golwg. Y mae amcanion mewn bywyd rywbeth yn debyg o oes i oes. Yn ein moddion, ac nid yn ein dibenion, y mae y gwahaniaeth. Hanes datblygiad cymdeithas yw hanes perffeithiad moddion. Dyna y rheswm paham y gwneir y fath ymdrech i berffeithio moddion addysg, a moddion" adferiad iechyd ac am yr un rheswm dylem ninnau geisio diwygio a pherffeithio moddion gras." Ystyriai yr Apostol Paul y mater hwn yn ddigon pwysig i ysgrifennu yn helaeth arno yn ei epistol cyntaf at y Corinthiaid. Cymer hamdden yng nghanol ei brysurdeb i drafod manylion gweddeidd-dra a threfn fel pethau angenrheidiol er sicrhau adeiladaeth." Gwneler pob peth er adeiladaeth." Deallai Paul yn yr oes fore honno yr hyn nad ydym ni yng Nghymru eto wedi talu ond ychydig o sylw iddo doallai fod gweddeidd-dra ac urddas yn wasanaethgar i adeiladaeth. Fel y dywedwyd, wrth drafod hyn, sonia Paul am fanylion, megis gwisg a phryd- londeb. "Bernwch ynoch eich hunain ai hardd yw i wraig weddio yn bennoetli." Gyda golwg ar Swper yr Arglwydd, ysgrif- enna, Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch i fwyta, arhoswch eicli gilydd (1 Cor. xi. 33). Cred yr Apostol fod cyd-ddechreu a cliyd- ddiweddu yn angenrheidiol er effeithiol- rwydd y gwasanaoth. Condemnia hefyd anrhefn ac anweddaidd-dra yn y dull o ddwyn y gwasanaeth ymlaen, yn enwedig o berthynas i ddawn y tafodau a'r proffwydo. Siaradai mwy nag un yn ami ar unwaith llefarent y naill ar draws y llall, yr hyn nid oedd weddus nac adeiladol. Gan hynny, os daw yr eglwys oil ynghyd i'r un lie, a llefaru o bawb A, tliafodau dieitlir, a dyfod o rai anysgedig neu ddigred i mewn, oni ddy- wedant eich bod yn ynfydu ?" Prin y buasai yr Apostol yn. ffafrio yr hyn a welwyd weithiau yn adeg y diwygiad, sef degau yn eydweddyo ac yn cydorfoleddu yn gyhoeddus. Ofnwn mai y geiriau hyn ddywedasai wrth lawer o'r cyfryw Tydi yn ddiau ydwyt yn, diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu (1 Cor. xiv. 17). "A llefared y proffwydi ddau neu dri, a barned y lleill. Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf (adn. 29-30). Felly yr ysgrifennodd Paul at y Corinth- iaid, ac y mae angen dysgu yr un pethau eto yng Nghymru. Pwy a wad nad oes anrhefn ac anweddeidd-dra yn y gwasanaeth, ac fod amhrydlondeb a diffyg parchedigaeth yn anurddo yr addoliad mewn llawer eglwys ? Y cwestiwn y dymunwn geisio ei ateb yw Pa fodd y sicrheir gweddeidd-dra a defosiwn— defosiwn o'r iawn ryw, cymeradwy gerbron Duw a gweddaidd yng ngolwg dyn ? Ychydig o ffydd sydd gennym mewn man reolau caethion, er mai priodol yw rhoddi i'r ieuanc awgrymiadau yng ngoleuni profiad y gorffennol. Perygl gor-bwyslais ar fan reolau yw arwain i ddefodaeth a thynnu sylw oddiwrth yr ysbrydol at y materol. Rhaid i wir ddefosiwn godi o'r ysbryd, oddiar barchedig ofn," ac ymdeimlad fod y lie y byddwn ynddo yn lie cysegredig, a'r pethau yr ymnweir a hwy yn bethau cyesgredig. 1. Y mae gwir ddefosiwn yn codi oddiar ymdeimlad o gysegredigrwydd y lie. Yn ddiddadl, y mae associations crefyddol a lie neilltuol yn help i addoli. Credwn yn ddiysgog y dylai hyn fod ynglyn a'n haddoliad Hawdd fydd i rai waeddi Defodaeth," Pabyddiaeth," yn wyneb haeriad fel hwn ond credwn, er hynny, ei fod i'w gyfreith- loni. Creadur amser a lie yw dyn y mae o angenrheidrwydd o dan awdurdod deddfau lie ac amser. Y mae pob gweithred o'i eiddo yn gysylltiedig a lie ac amser. Perthyn associations neilltuol i lea dydd, ac nis gellir eu gwahanu y naill oddwrth y Ilall a'r associations hynny benderfynant ddylanwad y lle ar ein meddwl a'n calon. I ddangos hyn, cymerwn engraifft. "Hawdd i ni feddwl am ddyn fu unwaith yn gaethwas i'r ddiod feddwol, ond a adferwyd i bwyll a hunan- lywodraeth drwy adael ei hen ardal, a symud i ganol cyfeillion pur a dyrchafol. Yn yr awyrgylch newydd, ni theimla'r dyn unrhyw -anhawster i fyw yn sobr. Ond ymhen blynyddoedd gwelwn ef yn myned yn ol i'w ardal enedigol, ac y mae golwg ar ei hen gyfeillion,ac yn arbennig ar fan y' gyfeddach gynt, yn deffro yn ei fynwes y blys a'r chwant am y ddiod ac feallai y syrth yntau eto yn aberth i'w hen elyn. Digwydd peth fel hyn yn ami, ac nis gellir gwadu mai dylan- wad lie a'i associations sydd i raddau helaeth yn cyfrif am dano. Nid yw hyn i ryfeddu ato, oblegid y mae dyn wrth natur yn greadur "lie," ac nis gall beidio cysylltu ynei feddwl bethau neilltuol a mannau neilltuol. Cymer y diafol fantais helaeth ar y ffaith naturiol hon. Llwydda i ddwyn ei cleyrna3 ymlaen drwy wyrdroi greddfau naturiol dyn a'u defnyddio i amcanion anaturiol. Paha111 na chawn ninnau ddefnyddio yr un greddfa11 i amcanion ysbrydol ? Megis y mae golwg ) ar y dafarn yn deffro blys y meddwyn, pahaIn, na ddylai golwg ar addoldy fod yn help f ddeffro ysbryd addolgar mewn dyn ? Dylal hyd yn oed ein dynesiad at y capel fod yn foddion i ddwyn Duw a'r byd ysbrydol yn fyw o flaen ein meddwl. Rhaid cael hyn er mwyn sicrhau gweddeidd-dra a defosiwn cyson a pharhaus. I'r diben hwnnw, cadwer pob associate011 arall oddiwrth ein haddoldai. Y mae yn hen bryd rhoddi terfyn ar gynnal cyfarfodydd politicaidd yn ein capelau. Yn sicr, nid yw berw etholiad a chwerwder ysbryd plaId, chwiban a chrechwen a churo traed, weddus yng nghysegr y Goruchaf. Diau fod agwedd gysegredig ar bolitics, ac. fod egwydd- orion pwysig weithiau yn y glorian ond eye y mae yn briodol cynnal cyfarfod gwleidyddol mewn addoldy, rhaid wrth rywbeth invy nag egwyddor neu ddwy o bwys i ddadle^ o'u plaid. Dylid dadleu gydag o bresenoldeb Duw ac o gysegredigrwydd Y lie, a gwneud hynny oddiar y dibenioj1 uchaf, ac nid er mwyn gwneud fine speech a chracio jokes yn unig er ennill cymerad- wyaeth y lliaws. Ychydig iawn, os dim, yn well, yw ej^ cyfarfodydd llenyddol, er eu bod gwneud gwasanaeth rhagorol i'r wlad mewn amser a fu. Dewisir yn arweinydd y cyfaf' fod yn ami, nid y dyn goreu, ond rhyw fr»w ffraeth a doniol, oblegid ni chyfrifid cyfaff0 o'r fath yn llwyddiant heb fod ynddo rhy^ gymaint o ch wer thin—boed gall, boed angl)a Er eu holl rinweddau, gwnaeth y cyrdda^ hyn eu rhan yn dda i ladd defosiwrn crefyddo yn ein gwlad, ac i fagu hyfdra a diffyg Parj*T edigaeth yn yr addoliad. Trwy drugareddi cynhelir hwy erbyn hyn yn yr ysgoldaj* Felly, gwella y mae pethau yn y cyfeiria hwn ond eto y mae lie. Ni chawn yr ieuenctyd i ymddwyn yn briodol-yn wed- aidd ac mewn trefn "—hyd nes y cyfyOg1?' yr addoldy yn unig i wasanaeth crefydd0 ac y megir ynddynt ymdeimlad o gysegr- edigrwydd lie addoliad. 2. Y mae gwir ddefosiwn yn codi oddiar ymdeimlad o gysegredigrwydd y gwasanaetl" Ni raid dweyd ond gair ar hyn. Pe yn deilwng am natur addoliad, ni cymaint o gysgu a lled-orwedd diogljd; Yn yr addoliad bydd Duw yn ymwneud d dyn, a dyn yn ymwneud a Duw. Byd buddiannau ysbrydol yn y fantol, a phendei" fynir materion mawrion yr enaid. Y ystyriaeth briodol o bwysigrwydd y gwa1^ a chysegredigrwydd y gwasanaeth yn hanf° £ 01 i sicrhau gwyleidd-dra ysbryd a phai'Ci*' edigaeth. 3. Rhaid hefyd wrth ymdeimlad o gysegl" edigrwydd fel rhan o'r gwasanaeth. DiffY o hyn yw un achos o'r amhrydlondeb Y cwynir cymaint o'i blegid. Y mae achosioi1 ereill iddo. Dechreuwyd edrych ar amhryd' londeb fel peth dibwys mewn adeg pan y arferid cynnal y gwasanaeth yn amlatl1 ddwy awr, ac weithiau yn hwy na ilynily. Blinai y bobl ar gyfarfodydd ineithion felly' ac aethant yn hwyrfrydig i gychwyn iddynt. Feallai fod meithter y gwasanaeth eto mewn rhai mannau yn achlysuro'r un diffyg' Dylid cofio fod mwyafrif yr Ymneilltuvvy yn mynychu dau neu dri o gyfarfodydd ar Y Saboth. Nid ydynt i'w cymharu yn hyn 0 beth a'r Eglwyswyr, sydd fel rheol yn Y tad foddloni ar un gwasanaeth. Canlyniad hyl yw fod y Saboth yn myned yn feichus yn &n\' ac y mae'r bobl yn anfoddlon i gychwyn y brydlon, yn arbennig os bydd y gwasanae yn debyg o fod yn faith. Credwn ei bod y ffaith mai yn y lleoedd y mae y gwasana-et yn faith y gwelir fwyaf o amhrydlondeb. Ond y mae achos arall o'r diffyg hW11, fel yr awgrymwyd eisoes, sef yr arferiad ,0 ystyried y rhannau dechrenol yn llai pwysg a chysegredig na'r bregeth. I lawer yn 6 cynulleidfaoedd, peth dibwys yw colli 3^ emyn cyntaf, ac yn wir colli y darlleni hefyd. Os cyrhaeddir cyn y weddi, ysty^ hynny yn burion gweddus a respectable. raid dweyd fod dyfodiad y cyfryw rai 1", addoldy yn peri mawr boen i'r rhai ddaw yno yn brydlon. Torrant ar dawelwch f I cysegr, ac yn ami gyrrant y golomen nofo i ffoi. ■ Pa fodd y gwellheir hyn ? Credaf 1J18>1 trwy wneud y rhannau dechreuol mor effei iol a'r rhannau dilynol, trwy baratoi y clar, lleniad a'r weddi mor gydwybodol ag y P & atoir y bregeth. Y mae darlleniad gweddi ystrydebol yn ddigon i argyhoed unrhyw un nad yw y pregethwr ei hun y^ gosod pwys mawr ar y rhannau hyn, ac nl oes bendith i'w chael drwyddynt. Nid folly yr arferai pregethwyr goreu Cymru wne Gwyddom yn dda yr urddas a osodai Hen Rees ar ddarlleniad y gair a'r weddi. som Thomas Charles Edwards yn gwed yn dawel ac yn syml, nes y teimlem m»J weddi oedd y rhan ardderchocaf o'r n wasanaeth. Arferai ymbaratoi ar gyfyt y weddi, ac anogai y myfyrwyr i wneud J un modd. f vier Heblaw ymbaratoad manylach ar g tJ11 y darlleniad a'r weddi, credwn y byddai peth arall yn help i ddyrchafu y rhanO dechreuol. Oni fyddai cael gweddi X j gynarach yn y gwasanaeth yn foddion ddwyn y pregethwr a'r gynulleidfa i addoli, ac oni fyddai hynny yn help i ymdeimlad gysegredigrwydd y daeeg a'r canu ? Hyn oedd arferiad Henry ym mlynyddoedd olaf ei oes, ac y ijg rhyfedd na chafodd esiampl gwr mor mewn duwiolfrydedd a dawn pregethn dilyn yn fwy cyffredinol. Llwyr gr.e -ggo byddai yr arferiad hwn yn foddion i y rhannau cyntaf ag urddas dyladwy, j fagu yn y cynvilleidfaoedd yr ymdei10 fod pob rhan o'r gwasanaeth yr un mor g>'s egredig a'u gilydd. Clywem felly fwy 0 jj am y- "gwasanaeth bendithiol," ac hwyr lai am y bregeth ragorol." Nid ydyn-1 meddwl wrth hyn y byddai y bregeth llai rhagorol, ond yn unig na chai øO bY polisio yr holl sylw, fel y gwna yn, fynnych. Cyfnewidiad er gwell Lfi oblegid nid ar bregethau yn unig y bydd dyn. i rl fod Canlyniad hyn oil fyddai ymdeinnau yr holl wasanaeth yn gysegredig, ac sanctaidd i neb feiddio torri ar ei da^e drwy amhrydlondeb gwirfoddol. Gwneler pob peth yn weddaidd ac jwr trefn." Canys nid yw Duw awdwr 11 bóll hydfod (anrhefn), ond tangnefedd, fel YJ ø. eglwysi y saint."