Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

0 r~;—s \ TRWY Y DRYCH. j

Advertising

Y Parch. William Owen.

--0--BWLCHGWYN A'R CYLCH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0-- BWLCHGWYN A'R CYLCH. Go laes eu gwep yw'r amaethwyr wrth weld cymaint o wlawalleied o haul. Hawdd i chwi bob] y trefi eu beio cofiwch mai or tir a'r fferm yr ydych yn cael eich cwbl agos ond eich Saesneg a' ch pechodau. Ig, Dyna daith ddifyr a gafodd athrawon Ysgol y Cyngor ac Ysgol Genedlaethol Mwnglawdd a Bwlchgwyn. Aed mewn ceir drwy Landegla, heibio Creigiau Eglwyseg a Phwll Uffern," fel y'i gelwir ar dafod gwlad, hyd i Langollen. Dychwelwyd drwy'r Rhos a Rhiwabon, a diolch i Mr. R. Lloyd a R. Williams am drefnu pethau mor ddethe. k Ddydd Mercher diweddaf, priodwyd y Parch. J. Garmon Owen, gweinidog M.C. Llanarmon-yn-Ial, a Miss L. Rogers, Bradford House, Bwlchgwyn. Daeth lliaws i gyfranogi o'r neithior, a chafodd y par ieuanc lu o bwyddion priodas. Nos Iau ddiweddaf dibenwyd tymor yr ysgol bob dydd gyda chyngerdd. Caed anerchiad gan Mr. Sauvage (pennaeth Cym- deithas Ryddfrydol Gwrecsam), gan ddadleu tros i'r athrawon gael seibiant oddiwrth eu galwedigaeth gaeth. Ategwyd ei araith gan y brawd Isaac Jones, Hen Ffarm, ond yn ychwanegu Pryd y mae dyn y caib a'r rhaw i gael ei wyliau heb orfod colli ei gyflog ? Wel, pan y ca gyfle i gynrychioli Cymdeithas yr Odyddion am wythnos neu ragor yng nghynhadledd y gymdeithas yn Newcastle a'u cyffelyb.Aed trwy rhaglen flasus, ond y canu ddim cystal ag arfer. Yr oedd ffordd y plant o fynd drwy eu drills yn dangos llafur mawr ar ran Miss Thomas. Dyma ddau o'n bechgyn, D. Rogers a John Roberts, wedi llwyddo'n anrhydeddus ym Matriculation Prifysgol Bangor. Dyma Thomas Carrington hefyd wedi derbyn urdd cerddor, a'i fedyddio i'r cerdd-enw Alaw Maelor.' Brawd difefl ydyw ef gyda chanu, ac ni fydd byth yn crio. Y mae yma gryn lawer o ddieithriaid, a mwy nag erioed o drueiniaid y dyciau yn dod yma ac yn cael gwared ohono. Pwy bynnag sydd wedi ei oddiweddyd gan yr anhwylder anfelus hwnnw, doed yma mewn pryd. YR ERYR.

Cymry a Moddion Gras.