Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

= Yn Ynys Mon ac Arfon

--0--Ap Madoc.

--0--Nodiadau Cerddorol.

Cyngerddau'r Hwyr, Eisteddfod…

Y GantawdlGyntaf yng Nghymru.

-0--ARHOLIAD GORSEDD Y BEIRDD

PAGEANT LERPWL.

o--EBION LERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

o EBION LERPWL. Sylwed ein darllenwyr ar ysgrif "J.H." ar Foddion Gras." Y mae ynddi liaws o awgrymiadau a mawr eu hangen arnom ni Gymry, ym fwy dibris o drefn a gweddeidd- dra yn nhy Dduw na chenedl yn y byd. Dilynir hi ag ail ysgr if yn y rhifyn nesaf am "Weddi Gyhoedd," a'n da a'n drwg efo hynny hefyd. Galwodd y llenor-adroddwr hysbys Deiniol Fychan heibio swyddfa'r BRYTHON heddyw, ac yn lie bod yn slamwr hirgefn, y mae bellach wedi magu rhumen a thor addas i'w wneud yn aldramon unrhyw ddiwrnod. Eifionydd, bytwch yr un blawd a fo, da chwi, er mwyn i chwi edrych yn urddasol a rhadlon fel yntau. I5e Y Parch. Robert Jones, y Rhos, sydd newydd ddychwelyd o'r America, a bregethai fore a hwyr y Saboth diweddaf yng nghapel Stanley Road, Bootle. k Mawr yw rhifedi'r Eisteddfodwyr, yn Lerpwl a'r wlad, sy'n darllen y BRYTHON ac yn rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Mon, sydd newydd ddod i law, dyma goflaid tan gamp o destynau i wyr lien, barddas, a chan. Rhaglen ddestlus, del ei ddiwyg, a'i geiriad drwyddi yn gryno a digwmpas,—yn batrwm i lawer o'r cyfryw a ollyngir drwy'r wasg yn fratiog eu hiaith a'u papur. Gwelwn ynddi lu o destynau i'r dim o addas i gystadleu- wyr Glannau'r Mersey. k Dyma rybudd rhyfedd a ddanfones ,.o athro i'w ddosbarth yn un o ysgolion Sul Glannau'r Mersey y dydd o'r blaen Gan nad wyf hyddysg mewn cricet, cicio r bel droed, rasus ceffylau, a gwyddorau ereill, yr wyf yn teimlo fy hun yn gwbl anghymwys i fod yn athro teilwng arnoch mwy,a gobeithiaf y bydd fy ymddiswyddiad yn gyfle i chwi daro ar wr mwy cyfaddas i'ch chwaeth a'cli ymgom." Crafog, onide ? k Dyma gyfrif o Gymry Lerpwl a wnaed yn 1 07 A J.U'X Dros Dan Y 15. 15. Cyfan Cymry yn mynychu addoldai Cymraeg 12960 3815 16775 Cymry yn mynychu addoldai Seisnig 4877 1666 6543 17837 5481 23318 Cyrmy nad oeddynt yn myned i d^ addoliad 2242 743 2985 20079 6224 26303 Cymry mewn sefydliadau cyhoeddus 537 26840 Pwy all roddi eu nifer erbyn heddyw ? Yr wythnos ddiweddaf, yn y Walton College, Stuart Road, cynhelid cyngerdd tan nawdd y Walton Choral Society—cor newydd sydd wedi ei ffurfio tan arweiniad Dr. Glyn Roberts. Yn y gadair ceid yr Archddiacon Madden ac ar derfyn anerchiad clodfawr i'r cor, ac o obeithion yr enillai safle uchel yn y ddinas a'r cylch, galwodd y cadeirydd parchedig ar Dr. Glyn Roberts ymlaen i dderbyn arweinffon arian hardd a gwerth- fawr a roddid iddo yn gydnabyddiaeth o'i fedr a'i lafur ymhlaid y cor. Yn arholiad diweddar y London Trinity College of Music, profodd Miss Bertha Lester (tan hyfforddiant Mr. Harry Evans, arwein- ydd yr Undeb Corawl Cymreig) yn llwydd- iannus am fyseddu'r berdoneg. k Gyda'r Agerlong i Gymru.-Sylwed ein darllenwyr ar y trefniadau a welir yn hysbys- iad Cwmni Agerlongau Lerpwl a Gogledd Cymru parth hwylio i'r Hen Wlad yn ystod yr wythnos hon a'r nesaf. k Marwolaeth Miss Kate Jones, Ullet road. Bydd yn chwith gan liaws o Gymry y ddinas ddeall am farwolaeth sydyn y chwaer adnabyddus uchod. Brodor o'r Bala ydoedd, ond a dreuliodd yn agos i ddeugain mlynedd o'i hoes yn Lerpwl, ac a adnabyddid yn well, feallai, fel Miss Jones, Gambier Terrace. Am lawer o flynyddoedd bu yn aelod ffyddlon ac yn uchel ei pharch yn Chatham Street, ac wedi hynny o Eglwys Rydd y Cymry yn Canning Street, lie y teimlir colled fawr ar ei hoi. Bu farw bore ddydd Iau diweddaf,ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, a chyn i lawer o'i chyfeillion a'i pherthynasau wybod am ei gwaeledd. Cymerwyd ei gweddillion i'r Bala, ddydd Sadwrn, a rhoddwyd hwynt i orffwys ym mynwent Llanfor-lle beddrod ei rhieni. Ymgynullodd nifer o gyfeillion fore Sadwrn ar Lanfa Lerpwl, yn eu plith y Parchn. W. Powell, W. A. Lewis, ac ereill, a hebryngasant y cwmni galarus dros yr afon i orsaf Woodside. Cyfarfuwyd hwy yng ngorsaf y Bala gan gwmni lliosog, lie hefyd yr oedd elor-gerbyd, &c., i'w cludo i Lanfor. Gweinyddwyd yn yr eglwys gan yr Hybarch R. Owen, periglor y plwyf, a thrwy ei ganiatad caredig, wrth y bedd, darllennodd y Parch. W. Powell, gweinidog Anibynol Neyland, Penfro, rannau o'r Ysgrythyr, a rhoddodd anerchiad byr ar fywyd y^cliwaer ymadaw- edig, a siaradai fel un fu yn adnabyddus ohoni dros chwarter canrif. Talodd deyrnged uchel i'w chymeriad glan a'i bywyd diar- gyhoedd. Wedi yr anerchiad, gollyngwyd y cynhulliad yn swn gweddi dyner a thaer am nawdd Duw a'i fendith ar y teulu a'i gysylltiadau. Derbyniwyd blodeu-dyrch prydferth oddiwrth Mr. a Miss Hartly a Miss Bertha Shaw, Ullet Road y Misses Ellen, Jennie, ac Edith Hughes (cyfeillion) ei hathraw a'r dosbarth yn yr Ysgol Sul Misses Jones a'r teulu, 81 Holt Road Mrs. Jones (chwaer), Llandderfel, a'r teulu a Mr. Robert Jones (brawd), Tyn-y-bont. Un o heddychol ffyddloniaid Israel ydoedd y chwaer, a bu farw, fel y bu fyw,— mewn heddwch a thangnefedd.-L.

Advertising

Family Notices

Advertising