Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Advertising

CENEDLYDDIAETH.

Cydwaedoliaeth.

Cydfrodoriaeth.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cydfrodoriaeth. (2) Defnyddir y gair cenedl weithiau i arwyddocau cyfanrif, neu, o leiaf, y corff mawr o drigolion unrhyw ynys neu wlad. Hynny ydyw meddwl y gair Cymry-cydfrodorion, neu bobl yn byw yn yr un fro. Tuedda cydfrodoriaeth i ymffurfio yn gydfrawdoliaeth iachus a ffyddlon ac ymweithiai cydfrodoriaeth, drwy gydfrawdoliaeth, yn fynnych yn yr hen amseroedd yn gydfradwriaeth tuag at ac yn erbyn pawb o ryw barth neu gyfandir arall. Credaf fod hyn yn elfen rymus, gynorthwyol dros ben, hanfodol yn wir, fel yr ymddengys i mi, yn ffurfiad a pharhad cenedl. Ni raid mynegi fod gwahaniaeth clir rhwng gwlad a theyrnas ceir yn y flaenaf fesur helaeth o unrhywiaeth ac unoliaeth, ac yn yr olaf lawer o amrywiaeth, ac hyd yn oed o elyniaeth. Cynhwysa ymher- odraeth fel Rwsia neu Germani nifer o genhedloedd nad oes, ar hyn o bryd, un arwydd eu bod yn eydymdoddi yn un genedl. Hyd yn oed ym Mhrydain, lie y mae mwyaf o gydnawsedd a chyd- ymdoddiad rhwng deiliaid y llywodraeth, y mae y Saeson, y Gwyddelod, yr Alban- iaid, a ninnau, yn parhau ar hyd y can- rifoedd, er pob dylanwad, yn genhedloedd gwahanol. Ar ol cryn feddwl, tueddir fi yn gryf i gredu fod trigias yn yr un wlad yn anhebgorol i dyfiant a llwyddiant cenedl. Gellir gwrthddadleu a gofyn, Onid yw y Saeson yn parhau yn Saeson yn yr Unol Dalaethau, ac onid yw y Cymry yn aros yn Gymry yn Lloegr ? Diau eu bod-am ba hyd ? Am oes, neu ddwy, neu dair, a dim ychwaneg. Myned y mae ymfudwyr o bob parth, yn raddol neu yn gyflym, yn ddieithriad yn gym- hlethedig a chyfunryw a thrigolion y dalaeth neu y deyrnas y preswyliant ynddi. Felly y gwna y Cymry yn eu plant, neu yn eu hwyrion, yn Lloegr ac yn America a dyfod yn Gymry a wna pawb, gan nad pwy, a ymsefydlant yn y rhannau mwyaf Cymreig o Walia. Nid yw y ffaith fod y Saeson yn parhau yn Saeson yn India a China yn profi dim, oblegid ymgadwant yn rhy bell oddiwrth y cynfrodorion i suddo o dan eu dylan- wad. Er ein bod ni a Llydawiaid Ffrainc yn ganghennau ynyr un pren, ac er eu bod hwy a ninnau yn ymdebygu cryn lawer, prin, oherwydd nad ydym yn trigo yn yr un wlad, y gellir ein hystyried yn un genedl. Yn yr agosrwydd ag y mae gwlad gymedrol mewn maintioli yn ei sicrhau i bobl, y maent yn raddol, gan nad o ba wreiddiau yr hannant, yn ddiarwybod £ iddynt eu hunain, yn meithrin yr un greddfau a thymherau, ac yn amlygu yr un nodweddion ac arfer- ion. Wrth fyw o dan yr un brenin ac o dan yr un cyfreithiau—wrth anadlu yr un awyr, a throi yn yr un gymdeithas ac yn yr un amgylchiadau—wrth gyd- fwynhau yr un breintiau a chydoddef yr un gorthrymderau—cyfarfod yr un rhwystrau a gwynebu yr un peryglon, collant yn araf eu neilltuolion, a deuant mewn teimlad a chwaeth, mewn ysbryd ac ymddygiad,* yn un genedl gydrywiol a chydnaws, a gwahanol i bob un arall.

Unrhywiaeth Ymadrodd.