Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Advertising

CENEDLYDDIAETH.

Cydwaedoliaeth.

Cydfrodoriaeth.

Unrhywiaeth Ymadrodd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Unrhywiaeth Ymadrodd. (3) Brydiau ereill, golygir wrth genedl yr holl bobl, ai llawer ai ychydig fyddont, ag ydynt yn siarad yr un iaith. Diau fod mesur helaeth o wirionedd yn hyn. Nid yw yn hawdd i unrhyw lwyth barliau yn hollol yn un llwytli heb siarad yr un iaith. Gallant fod yn deall ac yn arfer mwy nag un iaith, fel y mae nifer o genhedloedd yn medru Saesneg. Yr un pryd, wrth i adran o genedl newid ei hiaith, gan golli yr un wreiddiol, y mae pellter a dieithrwch, a mesur o oer- felgarwch, yn magu rhyngddynt a chorff y genedl. Cawn esiampl o hyn yn y rhannau Seisnig o Gymru: er fod y trigolion yn hannu o'r un llillach, yn gystal ag yn byw yn yr un wlad, a ninnau, nid oes mwyach nemor o gydnawsedd a brawdgarwch rhyngddynt a ni. Prin y gall pethau fod yn amgenach, oblegid wrth i bobl newid eu hiaith, newidiant eu dull o feddwl a theimlo, cenhedlant syniadau gwahanol a ffurfiant arferion newyddion. Er iddynt barhau am oes neu ddwy i amlygu hen dymherau eu eyff, collant liwynt yn raddol; cymer traws-sylweddiad le yn eu greddfau ac yn eu nodweddion, a thraidd anianawd ddieithr drwy eu holl gymeriad. Bydd i hyn ddilyn yn anocheladwy, oblegid yn gymaint ag mai drwy iaith y mae dynion yn meddwl, ac mai drwy yr un cyfrwng y trosglwyddant eu meddyliauj