Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Llythyr Gwleidyddol ----

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llythyr Gwleidyddol [GAN Y GWYLIWR]. O'r Tîvr, Westminster, fNos Fawrtli, Awst 6, 1907. Achos Sir Feirionydd Nm yw aelodau seneddol, mwy na phobl gyffredin, yn hofii cario eu busnes ymlaen ar y Bank Holiday ac i'r rhai hynny ohonom sydd o dan benyd i fod yn bresennol ar achlysuron o'r fath, y mae gwaith y dydd o angenrheidrwydd yn ddiflas yn gystal ag yn ddifudd. Fel rheol, diwrnod i'r cranks ydyw y diwrnod y bydd pawb ereill yn ceisio ymysgwyd oddiwrth helbulon bywyd i gael tipyn bach o seibiant gogyfor a'r hyn sy'n ol o waith y tyrnor. Fe ddigwyddodd fy rliati i mewn lie digon hyfryd yng nghwmni Un o is-ysgrifenyddion y Weinyddiaeth bresemio!, yr hwn, mewn hollol anymwybydd- iaetlio fwriadau Lord Robert Cecil, a ddifyrai ei hun yng nghanol awel mor a mynydd wrth chwareu golf. Oblegid hynny, stori ail law yn unig sydd germyf fi i'w dweyd yrighylcli yr hyn a gymerodd le yma ddoe. Fel y gwyr pawb, un o feibion y diweddar Brifweinidog Ardalydd Salisbury a brawd i'r un presennol ac i Lord Hugh ydyw y Lord Robert Cecil a gododd prydnawn ddoe i gwestiyno Mr. McKenna ynghylch y sefyllfa addysgol yn sir Feirionydd. Fe fyddai yn dda i Mr. McKenna pe dysgai oddiwrth ei hen ffrynd Mr. Lloyd George pa fodd i roddi yr ateb llariaicld a ddettry lid gwyr cyhoeddus Nid yw rywfodd yn deall y ffordd, ac yn ami fe ddwg ei hunan a'i blaid i drybini drwy roddi ateb byrbwyll, ac weithiau sarug, lie y gwnelai y gair mwyn a'r ateb esmwyth y tro lawer iawn gwell. A chaniatau fod dull a mater y Lord Robert yn gyfryw ag a godai wrychyn yr anifail mwyaf llonydd, fe gredwn er hynny y gallasai Llywydd y Bwrdd Addysg drin yr anhawster gyda mwy o ddeheurwydd nag y gwnaeth. Gallodd yr aelod Toriaiddjgyda chynhorthwy y Gwyddel- od Pabaidd, sicrhau dadl ar bwnc addysg ym Meirion fel mater o urgency. Y canlyniad ydoedd gwastraffu amryw oriau i wrando I ar gwyn Lord Roberts a Mr. Lane' Fox ac aelodau eyffelyb i'r rhai y-mae Eglwysydd- iaeth a Gwleidyddiaeth yn meddwl yn hollol yr un peth. Siaradodd Mr. Osmond Williams gyda nerth a dylanwad o blaid ei etholwyr, a thraddododd Mr. William Jones un o'r ureithiau hyawdl sydd yn dotio y Saeson fydd yn gwrando arno. Cafodd Mr. McKenna ,• leg led anesmwyth, ond daeth drwy yr suihawster gyda mwyafrif o 67,—nifer cym- Jurol fechan, ag ystyried y sefyllfa. Dywed gohebydd Seisnig fod yr aelodau Cymreig wedi ffromi wrth Gyngor Addysg Meirion. Yr ateb i hynny ydyw i gynnifer ag oedd yn bresennol bleidleisio gyda Mr. McKenna, ac nid gyda Lord Robert Cecil. --0--

Y diweddar Barch Lewis Hughes.

.The Eye Reviver

O'R DE.

Tro sal a Beirniaid.

Y Cwmwl Misol,

Eisteddfodau'r De.

Advertising

NOD AC ESBONIAD.

Mynegair i Salmau Can Edmwn…

Eisteddfod Llansannan.

Y Cadfridog Booth

Advertising

Unrhywiaeth Ymadrodd.