Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Yn Ynys Mon ac Arfon

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yn Ynys Mon ac Arfon [GANBETHMA.] Bangor. DYDD Mercher yr oedd Ysgol Sul Twrgwyn yn cael eu trip blynyddol. Rhosneigr oedd y lie y penderfynwyd arno eleni. Mae y He hwn yn dyfod yn boblogaidd. Yr oedd ftmgylchiadau wedi lluddias y Cynghorydd Wni. Eames i allu myned gyda'r ftren, a phenderfynodd fyned gyda'i ddeurod yn hwyrach ar y dydd, ond mae yn ofid calon gennyf hysbysu iddo gyfarfod a'i- ddiwedd yn y daith. Nid oedd yn gryf ei iechyd er's tro. Disgynnodd oddiar ei ddeurod a bu farw yn y fan, er braw mawr i'w gydym- alth, mab yr Athro J. M. Davies, M.A. Yr oedd Mrs. Eames yn Rhosneigr, a gellir dyehmygu ei theimladau hi a'r aelodau ereill pan wnaed yn hysbys am y digwyddiad prudd. Dygwyd y corff i Fangor, ac yr oedd yr angladd heddyw (Sadwrn), ym myn- Wet Glanadda, pryd y gweinyddid gan y rhai canlynol :—Parchn. Daniel Rowlands, M.A., W. Wynn Davies, Ellis James Jones, M.A., T. J. Wheldon, B.A., a Daniel D. Jones. Angladd i ddynion yn unig ydoedd. Yr oedd Mr. Eames yn ddiacon ffyddlon a defnyddiol yn Twrgwyn, yn aelod o'r Cyngor Dinesig, ac yr oedd aelodau'r Cyngor yn bresennol yn eu gwisgoedd swyddogol. Masnachwr llechi oedd Mr. Eames er's rhai blynyddoedd. Gadawodd briod a phedwar 0 blant ar ei ol, a mawr ydyw eu hiraeth. Mae Mrs. Eames yn chwaer i'r Parch. William Owen, Lerpwl, ac i Mrs. Ellis Jones Griffith. Nid oedd ond 55 mlwydd oed. Yr oedd yn fawr ei barch gan bawb a'i hadwaenai, ac y mae cydymdeimlad mawr a'r teulu oil yn galar.

Gwalchmai.

Nodion o Fanceinion.

Dafis, y Bellhanger.

Benjamin JenKins.

Gruffydd Owen.

Idris Fychan.

PULPUDAU MANCHESTER.

Nodiadau Cerddorol.

Dirywiad Cerddorol yr Eisteddfod.

GLANNAU'R GLWYD.

Advertising