Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PEN NOD XVIII.—Y WELEDIGAETH (Parhad). CLYWCDD C'eridwen'Rhvs'ryw swn yn siarnber ei merch, a gwaeddodd enw Tegwen ddwy waith neu dair, ond heb gael un ateb. Tyb- iodd fod rhywbeth o le, a goleuodd ei chanwyll frwyn, a ffwrdd a hi tuag yno. Er ei dychryn gwelai yr eneth yn gorwedd ar lawr yn ymyl y ffenestr ar ryw hanner ymddiosg. Aeth ei mam ati, a chododd hi yn ei breichiau, yna rhoddodd hi i orwedd ar ei gwely. Gwel- odd ei bod yn fyw, beth bynnag, i ddechreu felly gadawodd hi am foment ac aeth i alw ar Hywel Rhys. Ac yn fuan iawn yr oedd yntau hefyd yn y siamber fechan. Gan nad oedd yr un meddyg yn hen Ynys y Seintiau, meddai y gwragedd gryn lawer o gyfTyria.11 cartrefol, a chwareu teg iddynt, gwvddent yn lied dda hefyd sut i'w defnyddio. Ond rhywbeth newydd oedd gweled neb mewn llewyg yn Ynys Enlli. Er fod fmntio yn ffasiyriol iawn yrnysg merched o radd uchcl yr adeg honno, nis gwyddai merchod ffermydd Cymru ddim am y fath arferiad drwy dru- garecld, felly nid rhyfedd i Ceridwen Rhys ddychryn wrth weled ei mercli yn ddiym- adferth. Dychrynodd Hywel Rhys yn fwy fytli, ac ebe ef,- 'Roedd rhywbeth yn y mhricio i nad oedd Tegwen fel arfer pan oedd hi'n troi o gwmpas amscr swper. Rhaid i rhybuddio hi i beidio cario'r llaeth ar 'i phen o hyn allan. Weles i 'rioed fel mae plant yn rhoi gormod o bwysa ar 'n cyrff gwaetha dyn yn 'i ddannedd." Hist ebe ei wraig, mae hi'n agor 'i llygaid estynnwch y diferyn yna i mi, Hywel." Ychydig o win yr ysgaw neu rider, fel ei gelwid gan wragedd y ffermydd, oedd y diferyn y gofynnai Ceridwen Rhys am dano, a rhoddodd ychydig ar lwy do amryw weithiau ohono i'w merch. Edrychodd Tegwen o'i chwrnpas yn wyllt, fel pe yn chwilio am rywbeth nas gwelai, ac yna gofynnodd,— Lie mae'r tan a'r cwbwl, mam ? Aethon nhw i gyd i ffwrdd ? Oes yna ganu eto ?" Gan iia ddeallai Ceridwen 11a Hywel Rhys ddim yrighylch gweledigaeth Tegwen, tybias- ant yn naturiol iawn ei bod yn ddyryslyd ei synhwyrau, a cheisiasant ei thawelu goreti y gallent. Tynnodd ei thad y lien dros y ffenestr, gan yr ymddanghosai yr eneth yn syllu tua'r fan honno. Erbyn hyn codasai Elin y forwyn, wedi clywed y myned a'r dyfod o gwmpas y ty ac ymhen tipyn o amser daeth Tegwen yn weddol ati ei hun, cydrhwng effeithiau elder ei mam a'r teimlad o ddi- ogelwch roddai eu cwmni iddi. Rhaid i ti beidio cario'r gunog ar dy ben eto, Tegwen. Mi fyddai'n llai o lafur i bob un ohonoch chi o gryn lawer pe tae rhywun yn nol y gwartheg i'r fuches ucha yma, yn lie cario'r llaeth o'r fuches isa i fyny. Mi fydda'n fil amgenach. Mi fydda'n burion i chi drefnu felly, ddyliwn i." "Yn wir, Mistar, ynghred i ydi fod y lie yma wedi ei reibio byth er pan gollwyd y llong yma. Fuo dim sut 'run fath ar ddim. Mae pawb yn deyd fod yma ryw gatals o gwmpas o hyd. Dwn i ddim beth ydyn nhw, ond ma pobol yn meddwl bod nhw'n gwbod." Ddoi di byth i ben os ei di i wrando ar straeon pobol, Elin bach. Y peth gora i ni rwan wedi i Tegwen ddod ati hun ydi mynd i dreio cysgu tipyn eto. Well i ti [1,ros yn gwmpeini i Tegwen heno, Elin wedyn mi gei godi meistres pe tae hi yn cael rhyw d'rawiad tebyg eto, ynte ?" Ac felly fu. Ond ni chysgodd Elin yr un llygedyn, ebe hi dranoeth; Mynnai Tegwen roddi'r dillad dros ei phen, ac yna geisio hymian canu rhyw bennill nas gallai Elin wneud synnwyr ar y ddaear ohoni, ebe hi,- Rhyw godl am y trai a'r llanw a'r frenhines, a phetha felly. 'Roedd hi o betha'r byd fe pe tase hi wedi 'i witshio, a 'doedd arna i ddim llai nag ofn bod hefo hi. "Doedd dim posib i mi na neb arall gysgu yr un chwinciad, beth bynnag." Ac mae'n debyg mai dyna'r rheswm i'r ddwy godi pan ddaeth hi-yn ddydd, er ei bod yn fore iawn. U Gadawodd Tegwen cydrhwng Elin a goleuo y tan a pharatoi ar gyfer gwaith y dydd. Hwyrach y byddai'n fwy tebyg i mi fy hun, Elin, wedi bod allan am dipyn yn awel y bore." Ac ymaith a hi, gan gyfeirio ei chamrau tuag at adfeilion y fonachlog. Chwiliodd yn ddyfal am ryw fath o olion y gyfeddach a'r ddawns fu yno y noswaith gynt, ond ni ddaeth o hyd i un math o esboniad ar y dirgelwch a roddodd y fath fraw iddi, ac eithrio cylch crwn ac amryw gerrig gwynn-ion o'i ddeutu. Ac yng nghanol y cylch, gwelai fod y glaswellt wedi ei losgi hyd at y pridd. Syllai Tegwen arno fel pe o dan ddylanwad swyn gyfaredd a thra hi yn sefyll ac yn edrych ar y cylch crwn, gwelai rywbeth yn disgleirio yng nghysgod un o'r cerrig gwyn- ion. Penliniodd ar lawr, a chododd y garreg, ac er ei syndod gwelai fodrwy euraidd yn disgleirio. Cymerodd hi yn ei llaw,ac edrych- odd lawer arni. Gwelai ei henw ei hun wedi ei gerfio yn brydferth y tu fewn i gylch y fodrwy, ac oddi allan iddi yn berlau drud- fawr. Rhoddodd Tegwen y fodrwy ar ei bys, ac nid cynt y gwnaeth hi hynny nag y clywai sibrwd megis yn ei hymyl :— Eiddo fi ydwyt, Tegwen Rhys, Rhoddaist fy modrwyar dy fy(;" Tegwen, Tegwen, fy ngeneth dlos." Edrychodd Tegwen o'i chwrnpas, ond ni welii neb. Ceisiodd dynnu y fodrwy,Jond er ei braw ni ddeuai oddi am ei bys mor hwylus ag yr aeth am dano, ac er ceisio ei goreu, nid oedd dim yn tycio. Yno yr ymddanghosai y fodrwy wedi penderfynu aros, er yr oil a geisiai Tegwen druan wneud i'w symud. Clywai lais tyner yn chwerthin ac yn dweyd- Pan dynnir y fodrwy oddi am dy fys, Nis gelwir di mwyach yn Degwen Rhys. 0, beth a wnaf ? Beth sydd yn y lie yma Jiw dydd goleu fel hyn ?" ebe'r eneth yn llchel, a rhoddodd ei dwylaw ar ei hwyneb. Tra'r erys y fodrwy ar dy fys, Gwyn fydd dy fywyd di, Tegwen Rhys," ebe'r llais unwaith yn rhagor, ac ebe'r eneth Pwy sydd yna yn gwawdio geneth fel ti1" Y foment riesaf yr oedd rhywun yn ei chofleidio ac yn ei chusanu er ei gwaethaf. Gofynaist am danaf. Tegwen fy merch. A rhoddais it' gusan a ffarwel serch." Rhyddhaodd yr eneth ei hunan o'r breich- iau, oedd am dani a rhedodd tua'r Llety nerth ei thraed. Dydd neu nos, tybiai fod yr un drwg neu rai o'i weision o gwmpas. Ac ofnai droi ei phen yn ol rhag iddihithau, fel gwraig Lot gynt, gael ei throi yn rhyw- beth nas mynnai. Wedi cyrraedd y ty, ceisiai berswadio ei hun mai dychymyg oedd y cyfan, ond yr oedd y fodrwy ar ei 11 aw yn rhywbeth amgen na dychymyg, a chrynnai Tegwen gan ofn. (I barhau). --0--
Senedd y Byd.
Senedd y Byd. VII.—Araith A. J. King a Sylwadau Syr Edward Grey. CANIATAER i mi yr wythnos hon alw sylw at araith Mr. A. J. King, A.S., yn Senedd Prydain, nos Iau ddiweddaf, a'r eglurhad a roes Syr Edward Grey ar safle a gwaith Prydain yn yr Hague yr un noson. Hon oedd araith gyntaf Mr. King yn y Senedd, er y bu yno ddau dymor. Credaf ei fod wedi datgan teimlad corff y Cymry ar y mater hwn, ond nis gaUasai ddatgan y syniadau a amddiffynir yn y golofn hon yn fwy cywir nag y mae wedi gwneud. Dyrna dalfyriad o'i araith :— YR oedd dywediadau y Prifweinidog a'r Ysgrifeimydd Tramor wedi troi pob llygad at yr Hague, a pha beth bynnag fyddai can- lyniad ymarfeiol y Gynhadledd, credai na byddai eu datganiad wedi gwneud dim ond lies (cym.). Codasant holl gwestiwn Hedd- wch a HhyfeJ allan o gylch cyfyng Cymdeith- asauw Heddwch a Chyflafareddiad i gylch ehangach gwleidyddiaeth (cym.). Ond oher- wydd yr hyn a ddywedid yn y Wasg yn ystod y deng niwrnod diweddaf mown per- thynas i'r hyn a gymerodd 10 yn y Gynhadl- edd, yr oedd teimlad o siomedigaeth a di- galondid wedi dilyn y teimlad o obaith, a gwasgai ar yr Ysgrifennydd Tramor i wneud ryw hysbysrwydd, hyd yr oedd modd, i dawelu meddwl y lliaws (cym.). Yr oedd efe mor bryderus ynghylch y cynhygion o blaid heddwch, fel nad oedd yn malio fawr pa genedl ym rnarn y byd a gai y clod am danynt. Gwyddai fod llawer o'i gyfeillion yn edrych arno ef fel penboethyn ar y mater hwn (na, na). Addefai ei fod yn frwdfrydig. Lla.wen- ychai oherwydd y cynnydd a wnaeth y cwestiwn hwn yn y blynyddoedd diweddaf, a hyderai y gwelai y wlad hon y dydd pan y danfonai gynrychiolwyr i'r Gynhadledd gyda,'r genadwri hon: Yr ydym wedi dod i'r penderfyniad fod holl fusnes rhyfel yn beth o'i le ac yn groes i broffes gwlad Grist- nogol yr ydym wedi diddymu ein byddin a'n llynges, oddigerth i gadw heddwch, ac yr ydym yn bwriadu cyfeirio pob anghytun- deb i benderfyniad cyflafareddwyr.' Gall fod y fath gynhygiad yn Utopaidd, ond bu prawf ar y peth yn sefydliad Pennsylvania. Seiliwyd y Dalaeth honno heb arfau rhyfel o gwbl. Amgylchynnid hi gan lwythau creulon, ac eto am saith mlynedd-sef tra y bu y drefedigaeth o dan awdurdod William Penn a'i ganlynwyr-ni chollwyd bywyd un dyn ar unrhyw ochr (cym.)" Yn yr araith a draddododd Syr Edward Grey ar ol Mr. King, llongyfarchai ef am ei araith "ddyddorol a galluog, yr hon oedd o ran ton a dull yn dra boddhaol i'r Ty." Gyda golwg ar yr Hague, addefai fod llawer wedi eu siomi ar gwestiwn lleihad mewn arfau rhyfel. Nis gallai efe ddweyd pa ben- derfyniad a gynhygid yn y diwedd ar y cwestiwn hwn, ond os derbynid rhyw ben- derfyniad gan gynrychiolwyr y galluoedd ereill, byddai eynrychiolwyr Prydain yn barod i'w gynnyg. Ar ol y sylwadau a wnaed gan y Wasg yn Ewrob gyda golwg ar gynhygion Prydain ar arfau yr oedd Llywodraeth Prydain yn dra anewyllysgar i beri fod Cynhadledd gyfeillgar yn cael ei throi i fod yn un rhanedig a gwrthwynebol. Hyderai, pa fodd bynnag, y rhwystrent i'r cwestiwn syrthio yn ddisylw, ac y gallent ei helpu yn ei flaen. Pan feddyliem, ebe Syr Edward, gymaint a ellid ei wneud, ac eto mor lleied sydd wedi ei wneud, yr oedd yn naturiol fod un genedl yn cael ei gwasgu a ddod allan i roi esiampl i'r lleill, ond yr anhawster i wneud hynny oedd fod cyfleustra i ddiwygio'r byd trwy weithredu yn wrol fel hyn yn gwneud y posiblrwydd y buasai y genedl honno yn dioddef merthyrdod. Meddwl Syr Edward, yn ddiau, wrth wneud y sylw pert hwn-a'r hwn a dderbynicl, meddir, gyda chwerthiniad mawr—ydoedd, pe buasai Prydain yn dod allan gyntaf i leihau ei byddinoedd—ac y mae gwasg Ewrob yn dweyd yn eglur mai hi ddylai-y syrthiai i fod yn ferthyr dros ei ffydd. Gwyn fyd na fuasai gan Syr E. Grey a'r aelodau oedd yn chwerthin yr un ffydd ag oedd ga:1 William Penn. Addawai Syr Edward Grey y buasai Prydain yn gwneud a allai i wneud y Gyn- liadlodd yn Ilys cyflafareddiad sefydlog i amcanion neilltuol, ac yr oedd yn dda gennyf weled bod ein cynrychiolydd ni yn yr Hague ddycld Ian diweddaf wedi cefnogi cynhygiad i'r perwyl hwnnw. ) Mor wir, gan hynny, a bod carreg sylfaen Pal a; Heddwch, at yr hwn y cyfrannodd Mr. Carnegie y swm anrhydeddus o filiwn a hanner o ddoleri, wedi ei gosod i lawr ar y 30ain o'r mis diweddaf, y mae yr achos mawr, yn herwydd pa un y'i codwyd, yn siwr o lwyddo. ELEAZAR ROBERTS.
Advertising
CEINION CUDD. Adgofion.. Hiraethog AM £ Y PARCH. Michael Roberts, PWLLHELI. Is. 6ch Mewn Llian hardd. Is. 6ch Wedi eu rhanu fel y canJyn Axweiniad. l-Adgofion y Bach gen. 2-Adgoflon y LIane. 3—Yn y Gymdeithasfa. 4—Y Tymor Tywyll. 5 Y Diwedd. Gyda ChywyJd o waith yr awdwr, yn disgrifio'r Efen gylydd mwyn yn ei odfa fawr yng Nghymdeithasfa Llanrwst. Nid oes ond ychydig gopiau ar lawr, a dylai y rhai ddymuno gael copi, anfon ar unwaith. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS, 356-358a & 444 Stanley Road, LIVERPOOL. V
Colofn y Beirdd
Colofn y Beirdd [Y cvnhyrchion gogyfer a'r golofn hon, i'w cyf- eirio PEDROGR 30 Stanley Street, Fairfield.] Camir Gogleddwynt.—Da iawn y gan, er oered y testyn. Cof gennyf weled englyn lawer o flynyddoedd yn ol, yn diweddu fel hyn :— Boed i Ner, cyn ein fferu, Gloi'i ddor yn y Gogledd du." Cyhoeddir ar fyrder diolch. Murmur y Gragen.-Diolch. Englynion Priodas.—Gwall yn y cyrch,— unfryd ac unfarn a thrachefn yn yr ail englyn Maggie a Tom bwynt amod." Y Da.farn.-Englyn da a phwrpasol. Y Tymor Givlyb.—Doniol tu hwnt i bob peth, ond heb fod yn hanner digon difrifol i bapur fel y BRYTHON Treiwch eto. Wele un pennill, beth bynnag :— Ai f'anian neu'r oer wanwyn A berodd y petruster Siais hen ofnau gan ofyn, Oes son am Sion o'r Ner ? Ifiraeth.-Cyttieradii,y. Breuddwyd.—Mae rhywbeth tebyg i ddarn o hanes gwir yn ymwthio drwy yr englynion hyn, ond gadewir rhwng y rhai a wyddant yn well na mi both fu i wneud allan awgrym- iad-ati y bardd.
CANt,"It GOGLEDDWYNT.
CANt,"It GOGLEDDWYNT. (Lied gyheithiad o waith Charles Kingsley, Ode to the North-Easter.") HENFFYCH, wyllt Ogleddwynt, C'wilydd yw i ni Weld i bob gwynt gatblau, Byth un gair i ti. Croeso, ddu Ogleddwynt, Dros yr Almaen For, Dros hen rosydd Derunarc 0 dy gartref oer. Blino'r ym ar boethder, Blino ar yr haf, Ar dyner dwym gawodydd Ddont ar wyntoedd braf. Blino ar freuddwydio Drwy y syrthlyd ddydd Llonwych wynt y gaeaf Try ni maes yn rhydd. LlaIqa dros y corsydd, Sych y ddiog ffos Cod i wyllt gynddaredd Pob pysgodyn—dos Llanw'r llyn o adar Ar y dyfroedd clir, Tra'n y corsydd unig Clywn y gylfin hir. Drwy y goedwig dywyll Rhuthra, Ogledd wynt, Chwyth yr eira'n chwilfriw, Chwyrna ar dy hynt. Clyw, y dewr Ogleddwynt, Arnlwg yw y sawr, Heibio'r coed a'r pentir, Drwy y grug a gawr. Neidiwch, Ion frithliwiaid, Drwy yr eira glan Pwy all eich gor-yrru ? Awen rydd yw'ch can Llemwch, Ion frithliwiaid, Gyda'r gwynt a'i froch Cyn i'r awr fynd heibio Lleddir cadno coch. Ewch ac fory 'morffwys Gan freuddwydio'n chweg, Tra bo'm ninnau'n llithro Dros rew-lynoedd teg. Boed i'r tyner Ddewynt I gariadon fod, A hwy yn diogi, Dyna yw ei nod. Beth wna ond meddalu Bryd a chalon lawr ? Tywydd caled llwydliw A wna'r Cymro'n gawr. Gwynt y De-Orllewin, Gwynt y merched yw, Daw o'r mor a'u carwyr Adref i'ynt yn fyw. Ond y du Ogleddwynt, Chwyrna drwy y nyf, Sydd yn gyrru'r llongau Dros y cefnfor cryf. Tyrd fel daeth ein tadau, Ddaethant gyda thi, Teyrnedd tir a dyfroedd, Groesent dros y Hi. Tyrd, ac ynnom annog Waed hen riau'r mor Bywia gorff ac enaid, Chwyth, tiVynt yr lor ARTHUR HUGHES.
Y DAFARN.
Y DAFARN. HYFBYDLE rhai afradlon—yw'r dafarn, Er difa'u cysuron Gwanu'n hedd wna gwenwyn hon, I'r yfwyr gwell yw'r afon. Penmaenmawr. PEDR CENIN JONES.
BREUDDWYD.
BREUDDWYD. YN ddedwydd y breuddwydiais-rhes o Mynd dros for a welais [feirdd Hyd ei lenydd y dilynais Hwy a'u ladie8 hoff o wlad Sais. I ffwr' ttiog Eastharn Ferry—haul i'n All on board, be merry" [beirdd, 0 yr hwyl uwch yr heli, Fire away oedd—ffwr' a hi Tatws a llaeth titotal-oedd y bwyd, Wrth fodd beirdd pob ardal Ac yn wir cawd dwr canal I'w yfed,—'does rno'i hafal Llanerchydd yn llawn archwaeth-at y Bwyta o bob lluniaeth bwyd, A'r Alaw," bwytawr helaeth Diau y gwir, ni fu dau gwaeth. Areithiau gan wyr o Athen-y beirdd, Doethion byd yr awen, Yn rhodio bro Ceridwen, Fawrion byd,—" Trefor yn ben. Adwaenwn y bardd Rhydwenydd,"— iaith ddifyr, Mathafarn ddihysbydd A'r Ap gyda'i awen rydd, A'r cun awenwr Ceinydd." Fychan da ei fuchedd-" lago Helyg Hwylus ei gynghanedd :— Beirdd y wlad uwch bwrdd y wledd Yn gwenu mewn digonedd. 11 Wylva Road, Anfield. MEIRIONFAB.
Advertising
Telephone 1157 Royal. Established 1856 ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made. THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT & ACCOUNTANT, 2a Foley Street, KirKdale Rd., Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No. 1779. HENRY JONES, Estate Agent, Valuer 6 Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Rents Collected. Valuations made. Property sold by Publio Auction or Contract. Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. THOMAS 6 JONES, ESTATE AGENTS &VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS. 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No.-5586 Central. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made. Rents Collected. TEL. 42Y ANFIELD. ESTABLISHED 1872. STEPHEN ROBERTS & SON, ESTATE AGENTS A VALUERS, 137 Everton Road, Liverpool (Late 2 Stanfield Road). Properties carefully Managed. Rents personally Collected. Purchases and Sales Negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT AND VALUER, 30 Hamilton St., Birkenhead. RENTS COLLECTED. VALUATIONS MADE. PROPERTIES BOUGHT & SOLD. Telephon.223. R. E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor 6 Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone N 0.-56 B'head, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. Telephone 034 Central. WILLIAM WILLIAMS, LAND AND ESTATE AGENT, VALUER AND PROPERTY SALESMAN, 20 NORTH JOHN ST., Liverpool. YN AWR YN BAROD. LLOFFION GRAWNWIN. SEE Cyfrol Goffa y Parchn. WILLIAM ROBERTS, Lerpwl; WILLIAM NICHOL- SON; D. M. JENKINS; H. PARRY THOMAS,eto; HUGH JONES,Birkenhead; a DAVID JOHN, Manchester. Cynwysa y gyfrol ysgrif fywgraffyddol ar bob uu o r brodyr hyn, yngfcyda phregeth gan bob un a darluniau rhagorol, dan olygiaeth y Paroh O. L. ROBERTS, Lerpwl. Pris 2s., trwy y post 2s. 3c. Yr elw arferol i ddosbarthwyr. Pob archebion i'w hanion i'r awdwr, 7 Hampstead Road, Liverpool. Anfoner yr archebion ar unwaith, gan y cyhoeddir rhestr awn o'r Tanysgrifwyr ar ddiwedd y gyfrol. IF YOU HAVE A TALKING MACHINE. Then you want Records for same. We stock all the Latest and most Up-to-date Titles. Hear DAVID BRAZELL sing Ar hyd y no?," Nos Calan," etc., etc. We have also Records by the following Artistes:- Edward Davies, Gwladys Roberts, Henry Drew, Tom Owen, Ted and May Hopkins, and the Welsh Choir. If you have not got a Talking Machine, write us for Lists, etc, of Graphophones, Edison Phono- graphs, and all the Latest Machines. DIBBS, LTD- 7 RANELAGH PLACE, 4 doors from Lewis's. LIVERPOOL. T. WOOSNAM ROBERTS, Bootle Estate Office, 52 STANLEY RD., ROOTLE. (2 DOORS FROM BEDFORD RD.), Has for Sale Semi-detached Residence, Merton-road, Derby Leasehold from 999 years from Ground Rent £ 17 per annum. The «}0", contains :—Ground floor three entertaiD™ rooms, kitchen, pantry, etc. First 4 bedrooms, bath, lavatory, and w.c floor 4 bedrooms and store. Electric well cellared throughout, larder. Tltf stalled stable and coach-house with large s*0 and hay loft. M £ 300 Equity in well-built Freehold Pr0Pe^e (new) in Church-road, Seaforth. Each j contains Parlour, Kitchen, Scullery, S washhouse, 3 Bedrooms, Bath, Lav«t° and w.c. aød Detached Residence, corner of Trinity-road "-„ St. Albans-road, Bootle, containing « entertaining rooms, kitchen, scullery, etc., good cellars, large sunny garden, "\y side entrance from Trinity-road.. Leasehold. Convenient for electric cars J Semi-detached Residence, St. AlbanS*r° Bootle. Derby Leasehold. Five bedr09eg dressing-room, bath, and separate w.o > entertaining rooms, kitchen and scalle/g, ground floor, washhouse, larder, t0° Coal and wood store outside. Good Splendid greenhouse.. 0|<j Detacned Residence, Hawthorne Road—Le&sflO 999 years; ground rent £ 17 per Ground Floor, 3 entertaining rooms, kltc"~S) scullery and pantry first floor 6 bedro 4 bath, lavatory, and w.c. second bedrooms; large garden at rear, 2000 yards of land, two stall stables at side. Semi-detached Residence in Balliol Road hold for 75 years, 40 unexpired, rent £ 9 per annum large garden, c°. jj house and stable, with entrance back road. il Semi-detached Residence, Hawthorne-ro unJ leasehold for 75 years from 1884; } rent £ 5 per annum. The house conta1^ bedrooms, bath, lavatory and separate on 1st. floor, and 8 bedrooms above; 1 0j brick built washouse and store at reat øC level of kitchen good cellars garden b and front. 0js Bank-road, Bootle; leasehold for 75 500 1877 ground rent £ 4 5s. per annum i square yards of land. The house coD gj(i drawing and dining-rooms, kitchen scullery, large washouse. 4 bedr° bathroom and separate w-c. Queen's-road; leasehold for 75 years; and dining-rooms, kitchen, scullery, P^jl) 6 bedrooms, bath, lavatory and w.c., and coal cellar; close to station. Bootle Estate Officeg 52 Stanley Road, Bootie. ESTABLISHED 1884. TELEPHONE 205 BOOTLIJ O. JONES WILLIAM5, ESTATE AGENT & VALUED 24 SIR THOMAS STR]&]&T, LIVERPOOL. Personal supervision in every detail j general management of all kinds of fj1 Estate, Confidential Reports and Valua11 for Purchase, Sale, or Mortgage. Est. 1885. Telephone 1903 Collits Telephone: 279 Bootle. LINACRE BRICK S COMPANY 122 Marsh Lane, 000tic, Works: Canal Bank. Branch Office* 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL,$0°'* Telephone—216 Bootle.. AND 23 OLDHALL STREET, LlVBBp0 Telephone—1554 Central. Houses to Let, ELECTRIC LIGHT THROUGHOUT. RENTS FROM 5/- to 10/- PER W E E KJ. APPLY— WILLIAM JONES. 11J6 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, DAVID EVANS, Park Road J North Estate, BIRKENHEAD- J Pellseinyr 391 Birkenhead. gt T'LR A THAI ar werfcb oaoij ya rhaa^a-rth Uoinf3,0 cyfleus y dref. 3 Ý Ardreth o 6/6 yr wythnos i fyoy flwyddyn. Yn gwynebu'r Pare, ao yn ymyl Trams a Threns bob a gelllr cyrraedd t unrhyw uø o Tai hynjmewn 15 munud Liverpool. Ai&° Contract blwyddyn gyda'r tr6n> tua 2Jc. y dydd. tI j Ymofyner a Mr. David Evans, Mr. Wm. Edwards, Estate Agent, North, A ohonglJDuke Btrwi /A