Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HENRY MllESI & COMPANY, Popular Milliners. Glovers and J* Fancy Drapers. a THE LARGEST AND MOST COMPLETE STOCK OF LADIES' AND CHILDREN'S LONG AND SHORT GLOVES IN ENGLAND. 0 Latest Novelties in all Departments. THE SIGN OF THE GLOVE," 25 & 25a Church St., LIVERPOOL. Telephone No. 7385.
Advertising
"KEENORA Self- SELF- SELF- Raising RAISING I „ FLOUR. F t 0 U R. FLOUR. I TRY IT! TRY IT I TRY IT 11 You'll use no other. Sold Retail 2d., 3d., 6d. and Is. per packet From all Grocers and Dealers. Sole Wholesale Agents: Morris & Jones, Liverpool.
Advertising
ROBERTS EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 Kirlidale Rd., Liverpool. Telephone: 2193 Royal. AT Y CANTORION. DWY GAN NEWYDD ragorol "Y MAB AFRADLON" (The Prodigal Son). T. OSBQRNE ROBERTS, (I.laiicludno) A "TELYNAU'R saint (" The Harps of gold.") Uan W. 0. JONES, A.U.C.W. (Ffestiniog). Geiriau Cymraeg Bryfdir' (Seisnig Glauceri.') a hen nod- Pri«i 1 B 4ANT ar YR UN COPI ri Sylwer foci y dctwy gan mewn ywei,rnodau cyfac'das i bawb—SOPRANOS, TENORS, CONTRALTOS, BARITONE. Cofiwch enwi y llais wrth anfon am danynt. Catalogue Pianos &c. JP?5?PAGE^E I'w chael oddiwrth ». R. JONES (Alaw Madog), 103 HAMPSTEAD ROAD, LIVERPOOL. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE. Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL. 1 EATY TAILORING !CELEBRATED I I THE MATERIALS ON OFFER FOR • ■ • TAILORS THIS SEASON ARE EXCEPTIONALLY T A\I|\ All DA A 1\ 1 -C00D, BOTH IN VALUE 8 STYLE LUN1JUN KUAIl 1 AND WELL WORTH INSPECTION. „ .UIinr„ CT I 4 ALL CAREFULLY FITTED ($til UK VII 01. J PATTERNS LIVERPOOL ^*11 g On Application JONESS OILCLOTHS "r awnmu LINOLEUMS LAID FREE THIS MONTH. Bee Hive,' 59,61,63 Brunswick Road. ASK FOR Ago' YOD& K I* NEW SEASON JAMS j ¥; j Pure and Delicious I A 0 f • g GOOD Artificial ~s~ | TEETH are I I SL NEEDED BY I Vy I • • KVKRYONK To Keep the bloom of youth To Keep good looks. To Keep health. Our Teeth are the results of personal experience and practical knowledge; the former has given us the precise knowledge of our Clients requirements, the latter to meet those needBw a perfectand satisfactory way. They are both in fit and finish far superior to most Teeth made to-day. Advice and Estimates of Cost, FREE. Mr. H ELY'S charges are always moderate. He does not go in for Guinea Sets and such-like things. What he does he does well, and one can be certain of having the highest skill and finest materials at a reasonable outlay. —— H. W. HELY, 13 NORTON ST., London Rd. Corner 0 0 Liverpool. Tel. 0733 Royal. Established 1884 JOHN LLOYD, —HIGH-CLASS TAILOR- (From T. B. Johnston, Lord St.), 89 HOLT ROAD,
Ffrwgwd Belfast.
Ffrwgwd Belfast. MAE hi yn gynhyrfus iawn yn nhref Belfast. Nid oes gennym ddim cydymdeimlad a streics o r fath yma un amser, a chredwn nad oes dim yn cael ei ennill drwyddynt. Credwn fod llawer o orthrymu ar weithwyr a gwerin, a bod uniondeb yn ami yn y cri sydd o dan gyn- hyrfiadau fel hyn ond hyd y sylw- asom ni, nid yw y rhai sydd dan y cam yn ennill dim drwy y streic fel rheol, ond yn colli llawer mwy, a thrwy gynnwrf ac ymosod a thaflu cymdeithas i annhrefn, yn colli cyd- ymdeimlad llawer o'u cyfeillion gore. Nid drwy luchio cerrig, poteli gwydr, a barau haearn at heddgeidwaid a milwyr—dynion a geisiant wneud eu dyledswydd mor onest a chyd- wybodol ag unrhyw ddosbarth o weithwyr-yr enillir buddugoliaeth deg ac effeithiol ar drais ac mae yr ymgais yn y ffordd honno yn sicr o fethu. Mae Llywodraeth y wlad hon yn llaw y bobl ar hyn o bryd, ac os mynnant ymuno a'u gilydd gallant ennill eu hawliau drwy arf anrhydedduspleidlais. Y syndod yw fod cynnifer o weithwyr yn par- hau i gefnogi eu gormeswyr mewn etholiadau. Beth bynnag, nid oes gennym ni hoffter o ddadleu a cherrig, pa un bynnag ai penboeth- iaid Birmingham yn erbyn Lloyd George, ynte penboethiaid Belfast yn erbyn yr heddweis a'r meistri. -0-
Dyrchafiad Mr.Ellis Griffith
[GAN Y GWYLIWR]. O'r Tier, Westminster, Nos Fawrth, Awst 13, 1907. Dyrchafiad Mr.Ellis Griffith MAE yn dda iawn gennym nad yw yr ychydig ysbryd gwrthwynebol a ddanghoswyd yn ddiweddar gan yr aelod dros sir Fon wedi sefyll ar ffordd ei ddyrchafiad yn ei alw- edigaeth. Heddyw y prydnawn, yn Nhy'r Cyffredin, fe ganiatawyd writ i ethol cynrychiolydd dros Fon yn lie Mr. Ellis Griffith, yr hwn, meddid, er syndod i'r rhai nad oedd- yn yn y gyfrinach, a benodasid yn Recorder Birkenhead. Wrth gwrs, ym Mon nis gall ail-etholiad Mr. Griffith fod yn ddim amgen na walk-over, oblegid onid oedd ei fwy- afrif y tro diweddaf dros ddwy fil a hanner ? Yr un pryd, yn ol y rheolau hen ffasiwn sydd i'w cael ynglyn a phenodiadau swyddogol o dan y Goron, rhaid i bobl Mon ail-ethol eu cynrychiolydd am fod pobl Birkenhead yn galw am ran o'i wasanaeth. Llongyfarchwn Mr. Griffith yn galonnog ar ei ddyrchaf- iad-nid ydyw eto cyfuwch a'i gymhwysterau-a hyderwn fod dy- fodol mwy disglaer fyth yn ei aros. Nid am fod Recordership yn beth i'w ddibrisio. Fr gwrthwyneb yn hollol y mae pob cyfreithiwr yn hoffir swydd, ac fel rheol am y cyntaf yn rhedeg am dani. Yr oedd amryw yn dyheu am y swydd ynglyn a Birkenhead, a da gennym, fel y dywedasom, fod Mr. Ellis Griffith wedi ei chael.
Addysg yng Nghymru.
Addysg yng Nghymru. MAE'N ddrwg gennym orfod cyd- nabod fod amryw o bethau mewn cysylltiad ag addysg yng Nghymru fel pe yn myned o chwith. I ddcch- reu, y mae Mr. McKenna a swyddog- ion yr adran Gymreig o Fwrdd Addysg mewn cryn helbul hefo'r Regulations sy'n penderfynu y tal- iadau ynglyn ag efrydwyr yr ysgol- ion ail-raddol. Haera-gwr sydd yn un mor gyfarwydd gydag ysgolion ag ydyw gyda newyddiaduron, fod Mr. McKenna a Mr. A. T. Davies yn gwneud anghyfiawnder a r ysgol- ion Cymreig ac yn tolli buddiannau'r Cymro am ei fod yn fwy ymrodd- edig i Addysg na i gymydog y Sais. Trwy gyfrwng un o'n haelodau Seneddol, ceisiodd Mr. McKenna esbonio yr anghyfartaledd yn nal- ennau y Wasg. Yr ydoedd wedi methu gwneud ei feddwl yn eglur yn y Tý; ac er fod ei holydd, Mr. Llewelyn Williams, yn proffesu ei fod ef yn awr yn gweled ac yn deall y dyrysni, y mae lie i ofni nad ydyw llawer o addysgwyr Cymru (heb son am yr expert Cymro a gododd y peth i sylw) eto wedi cyrraedd yr un boddlonrwydd a'r aelod dros Fwrdeisdrefi Caerfyrddin.
Aelodau Cymru a'r Pwnc.
Aelodau Cymru a'r Pwnc. OND nid yr hyn a grybwyllwyd uchod yn unig a bar anesmwythyd. Fel mae'n wybyddus,disgwylir Mesur Addy g cyffredinol yn gynnar yn y Senedd-dymor nesaf, ac wrth gwr- Llywydd y Bwrdd Addysg, Mr. McKenna, fydd yn gyfrifol am dano. Y mae'n bwysig iawn i Gymru wybod ymha le y saif hi ynglyn a'r Mesur newydd. Yr oedd iddi le anrhydeddus ym Mesuf Alr. Birrell y tymor o'r blaen, a buasai llawer ohonom yn hoffi gweled y Cyngor Cenedlaethol hwnnw y sonid am dano yn cael amser i aeddfedu nef, i sylwedd bywyd feddiannu ei holl fanylion. Taflodd yr Ar- glwyddi y syniad o'r Cyngor heibio gyda dirmyg arbennig, oblegid nad oedd y manylion yn gweithio mor esmwyth ag y buasid yn dymuno. Fe allesid disgwyl i'r aelodau Cym- reig eistedd yn ymarferol a chyn- adleddu yn hir uwchben syniad mor ardderchog, a'i weithio allan in all its details, chwedl y Sais. Ond yn lie hynny, beth a ddigwydd- odd ? Yn un o gyfarfodydd Y Blaid Gymreig," fe benodwyd Is- Bwyllgor i dynnu allan Memorial a gorff orai syniadau 'Cymru ynglyn a'i Haddysg. Fe benododd yr Is- Bwyllgor ryw un neu ddau i baratoi y Memorial, ac fe dynwyd ryw frys-fras-gynllun allan o bender- fyniadau hen gynadleddau, ac fe'u gosodwyd mewn gorfrys o flaen y Blaid mewn cyfarfod llejyr oedd ryw hanner dwsin, ac un neu ddau yn ychwaneg feallai, yn bresennol. Oddiyno, yn anamserol ac heb un- rhyw ystyriaeth ymarferol, fe'u rhuthrwyd at Mr. McKenna fd dymunbeth Cymru Yr oedd cyl- arfod y Ddirprwyaeth a'u cydaelou o sir Fynwy yn un o'r pethau mwy;. i lledchwith a welwyd o dan y 1 wr n er's llawer o amser. Gwleidydda ar ffrwst i edifarhau ymlaen llaw