Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

Nodiadau Cerddorol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau Cerddorol. [GAN HU GADARN]. {:8 Idl ld' :dl Iml Idl :-IS, j. Us :s iml :-I-:dl It :-It :t ri j. I I If It :s' Is :s Ife :-Is' I- :sl II Hanes Hen Gyfansoddiadau. DYDDOROL yw olrhain hanes ambell i ddernyn cerddorol sydd wedi ymweithio i ffafr y cyhoedd, ac yn parhau felly. Ymysg y cyfryw ceir y cyfansoddiad sydd yn dechreu gyda'r frawddeg uchod. Yr achlysur a roes fod i'r anthem boblogaidd hon— Teyrnasoedd y ddaear (J. A. Lloyd), ydoedd gwaith Cymreigyddion Bethesda yn Arfon (mawrygaf yr enw Bethesda !) yn cynnyg gwobr o dri gini a thlws am yr anthem oreu ar Salm lxviii., 32, 33, 35, ar gyfer Eisteddfod Bethesda, a gynhaliwyd lau Dyrchafael, Mai 20, 1852. Yr oedd deg o ymgeiswyr wedi anfon cyfansoddiad i mewn, ond eiddo J. A. Lloyd a orfu. Yr oedd rhai o'r anthemau, medd y beirniaid, yn dangos cryn allu. Am eiddo Chalcol dywed ei fod yn ymhyfrydu mewn cywrein- bethau,—cyfeiriad sydd yma at waith yr awdwr yn dangos ei wybodaeth mewn ysgrifennu ehedgan, gan ddwyn i fewn quadruple counterpoint, &c., yr hyn, fel y gwyr y cyfarwydd mewn cyfansoddiant, sy'n gofyn gallu tu hwnt i'r cyffredin. Os ydyw cywreinrwydd a chelfyddyd o werth, yna y mae yr anthem hon o werth." Ond ymddengys nad oedd yn y cyfansoddiad hwn y peth byw hwnnw-enaid y gan— ac felly rhaid oedd rhoddi ffordd i eiddo ymgeisydd arall, sef Jeduthun. Am hwn, dywedai y beirniad ei fod ymhell iawn yn ol i Chalcol mewn medrusrwydd celfyddydol-nid yw yn deilwng i ddatod carau ei esgidiau ond mewn cyfansoddiad da, defnyddiol, ac i bwrpas, nid yw Jeduth- un," meddai, yn ol fy marn i, yn ol i'r un o'r ymgeiswyr pennaf. Nid oes dim camp yn y byd, na choll yn y byd, yn y cychwyn. Solo Bass ardderchog sydd ar yr hwn a ferchyg nef y nefoedd," ond tybiwyf y buasai chorus yn fwy cymwys i fawredd y geiriau. Sylwir hefyd fod y pedwarawd, Rhodd- weh i Dduw gadernid," a'r triawd, Ei uchel- der," wedi ei ychwanegu gan yr ymgeisydd, ond nid oedd geiriad y testyn yn gofyn hyn. 0 ganlyniad, gofalodd am roddi nodiad i'r perwyl y gellir eu gadael allan er mwyn cadw at yr amodau. El y beirniad ymlaen, gan ganmol y symudiad Ofnadwy wyt, 0 Dduw," a'r symudiad ddiweddaf, sef y Fugue, ond teimlai ei fod yn darfod yn rhy ddiseremoni gyda'r geiriau Bendigedig fyddo Duw."—y dylasai fod wedi ymdroi mwy gyda'r frawddeg hon. I ddiweddu, dywed, Yr wyf yn meddwl nad yw cyfansoddiad Jeduthun yn un a'n swyna ar yr olwg gyntaf-gallai fod rhai ereill o'r cyfansoddiadau yn fwy dazzling nag ef, ond fel darn i'w ddefnyddio ymhob cynulleidfa, ac i'w ganu gan gantorion gwael a gwych, y mae yn sicr o weithio ei ffordd. Y mae rhywbeth ynddo i'r anghyfarwydd ac i'r cyfarwydd—' A'i swyn bydd yn synnu pawb.' Felly, wedi pwyso ac ail-bwyso Jeduthun' gyda'r ymgeiswyr ereill, efe sydd yn troi y fantol, er fod Carwr Cerddor iaeth' a 'Chalcol' bron yn cynnal y beam ag ef." Rhoisom yn y sylwadau uchod brif bwynt- iau y feirniadaeth ar ba un y safai ei thynged, ac y daeth allan yn fuddugoliaethus. Ar- graffwyd yr anthem yng ngweithrediadau Pwyllgor yr Eisteddfod gan R. Jones, ar- graffydd, Bethesda, yn 1852. Plyg yr anthem yw 7 modfedd wrth 6, llyfr hirgul, plyg anghyffredin, fel y gwelir. Daeth Teyrnasoedd y ddaear allan dair blynedd cyn ymddanghosiad Ystorom Tiberias (Tanymarian), a gellir dweyd fod cyfnod newydd wedi gwawrio yn hanes cerddoriaeth Gymreig yr adeg hon. Dy- ddorol fyddai trem ar y cynnydd a wnaed yng Nghymru o hynny hyd yn awr. Feallai y cawn hamdden i fwrw golwg ar hyn yn rhai o'n nodiadau nesaf.

Colofn y Beirdd

Y PAGEANT.

Y GATH.

Y LLWYNOG.

MURMUR Y GRAGEN.

Y DYN A'R ADERYN.

HIRAETH.

Advertising