Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DYDDIADUK.

Glannau'r Mersey

Family Notices

---.-0 Canada.

Diweddaraf.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Diweddaraf. Y Cofnodydd E. J. Griffith A.S. CRYN syndod i liaws ydoedd agor eu papurau heddyw'r bore, a deall fod Mr. Ellis Jones Griffith wedi cydsynio i dderbyn swydd Cofnodydd (Recorder) Birkenhead—swydd ddigon bechan ei chydnabyddiaeth ariannol, a awchid yn fawr gan lawer o wyr y gyfraith, ond na thybiasem fod ynddi nemor swyn i wr o allu ac adnoddau yr aelod tros Fon. Da ydyw meddwl nad yw'r penodiad yn galw arno i ymneilltuo o'r Senedd ac er y rhaid mynd drwy ddefod ddianghenraid yr ail- etholiad, nid oes ddim sicrach nag yr ail- etholir Mr. Griffith gyda mwyafrif uwch nag o'r blaen, os ceir hyd i rywun a ddewisa wario'i arian i'w wrthwynebu. Bu iddo yrfa ddisglaer hynod yng Nghaer- grawnt, lie yr ydoedd yn gyntaf oil ar restr y first-class honours yn y Law Tripos, a lie y bu yn Llywydd yr Union. Bu ei yrfa Seneddol ac fel bargyfreithiwr hefyd yn un o'r rhai disgleiriaf a diau ei fod yn un o siaradwyr mwyaf arabus, cyrbaeddgar, a sylweddol Ty'r Cyffredin. A phan yn llawenhau am y penodiad presennol, gwell gennym fydd clywed yn y man ei fod wedi cael swydd fwy teilwng o'i alluoedd ac o'i wasanaeth, ac o'r hyn y gall ei gyflawni eto tros Gymru. Y mae'n siaradwr rhwydd a chyrhaeddgar, ac heb amgenach pwywr yn Nhy'r Cyffredin pan fo'n hynny eisieu. Da y cofir ei bwyth ynglyn a'r Kynoch Contracts adeg rhyfel De Affrica "While empires expand, Cham- berlains contract," I Gynrychioli Mon. BWRIAD Mr. Griffith, meddir, ydyw cynrych- ioli Mon fel cynt, os dyna ewyllys yr ethol- wyr a hynny'n ddiau a fydd ond pe buasai yn dewis ymneilltuo, yr enwau a sibrydid- fel ymgeiswyr tebygol ydoedd Mr. J. R. Davies, y Parch. John Williams (Brynsiencyn) a Mr. R. J. Thoinas (y llong-berchennog adnabyddus o Lerpwl). Proff. Newydd. Y PARCH. Morris Brynllwyn Owen, B.A., B.D. brodor o Abererch, ger Pwllheli, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr, sydd wedi ei ddewis yn Athro Athroniaeth yng Ngholeg Presby- teraidd Caerfyrddin, yn lie yr Athro Keri Evans, yr hwn a ymddiswyddodd er mwyn rhoi ei holl amser i fynd drwy'r wlad fel pregethwr diwygiadol.

Advertising