Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
KEENORA
Advertising
HENRY MILES & COMPANY, Popular Milliners. Glovers and fV Fancy Drapers. $ 0 THE LARGEST AND MOST COMPLETE STOCK OF LADIES' AND CHILDREN'S LONG AND SHORT GLOVES IN ENGLAND. 0 Latest Novelties in all Departments. THE SIGN OF THE GLOVE," 25 & 25a Church St., LIVERPOOL. Telephone No. 7385.
Advertising
Self- Raising FLOUR. SELF- RAISING I FLOUR. TRY IT! TRY IT! TRY IT! You'll use no other. Sold Retail 2d., 3d., 6d. and Is. per packet From all Grocers and Dealers Sole Wholesale Agents: Morris & Jones, Liverpool. ROBERTS EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 KirKdale Rd., Liverpool. Telephone: 2193 Royal. AT Y CANTORION. DWY GAN NEWYDD RAGOROL "Y MAB AFRADLON" (The Prodigal Son). T. OSBORNE ROBERTS, (Llandudno) A "TELYNAU'R SAINT n (" The Harps of gold.") Gan \V. O. JONES, A.U.C.W. (Ffestiniog), Geniau Cymraeg Bryfdir' (Seisnig GIanceri.') A HEN NOD= Prt» 1 /= *ANT AR YR UN COPI *Ila» P iSylwer fod y ddwy gan mewn yweirnodau cyfacMas i bawb—SOPRANOS, TENORS, CONTRALTOS, BARITONE. Cofiwch enwi y llais wrth anfon am danynt. Catalogue Pianos I'w chael oddiwrth D. R. JONES (Alaw Madog), 103 HAMPSTEAD ROAD, LIVERPOOL. ask for IDRIS "Table Waters In Syphons and Bottles. ■* SODA WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE. Etc., etc. IORIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL. 1 0 TAILORING THE MATERIALS ON OFFER FOR THIS SEASON ARE EXCEPTIONALLY GOOD, BOTH IN VALUE 8 STYLE AND WELL WORTH INSPECTION. I ALL CAREFULLY FITTED 41 I pA TTERNS I On Application & Beaty # ..THE I CELEBRATED f TAILORS I LONDON ROAD 8 CHURCH ST. LIVERPOOL | JON S'S t*w*i T 1"% OILCLOTHS LINOLEUMS mannaL LAID FREE THIS MONTH. 'Bee Hive,' 59,61,63 Brunswick Road. mego ASK FOR I | KYDD & KYDD'S | NEW SEASON JAMS j I Pure and Delicious I J! Artificial Teeth GOOD PERFECT- FITTING TEETH are NEEDED BY EVERYONE To Keep the bloom of youth To Keep good looKs. To Keep health. Our Teeth are the results of personal experience and practical knowledge; the former has given us the precise knowledge of our Clients' requirements, the latter to meet those needs in a perfect and satisfactory way. They are both in fit and finish far superior to most Teeth made to-day. Advice and Estimates of Cost, FREE. Mr. HELY'S charges are always moderate. He does not go in for Guinea Sets ,I and such-like things. What he does he does well, and one can be certain of having the highest skill and finest materials at a reasonable outlay. —— H. W. HELY, 13 NORTON ST., London Rd. Corner 0 0 Liverpool. Tel. 0733 Royal. Established 1884 JOHN LLOYD, -HIGH-CLASS TAILOR- (From T. B. Johnston, Lord St.), 89 HOLT ROAD,
MOR, MOR I MI.
MOR, MOR I MI. TUA'R mor y rhed yr afon—tua'r mor, ac iddo yn y man, gobeithio. Er ymarafu'n y merddwr, er ewynnu ar ddannedd creigiau, er ymdroelli mewn llawer llyn tro a thorheulo ar wastadeddau, mor, mor i mi yw ei murmur parhaus. Nid ydym ni yma'n credu mewn miliwnydd- iaeth na landlordyddiaeth, ond mai'r wlad a biau bob eiddo mawr, ac mai hyhi, drwy ei chynrychiolwyr a'i llywodraeth, sydd i'w drin a'i drafod. Yr ydym yn mawrygu'r gyfundrefn bost-nid rhyw un Co. Ltd. sy'n miliwnydda arni a'r wlad yn dioddef o'r achos ond y Llywodraeth, wrth reoleiddiad cynrychiolwyr y bobl, sy'n ei gweithio a'r wlad yn cael manteision amhrisiadwy eu gwerth. Y mae'r anghyfleusterau blinderus i deithwyr ac i fasnach, a'r prisoedd anghyfartal a'r crog-brisoedd a ber- thyn i'r rheilffyrdd an ewmnioedd, yn dweyd yn bendant y dylai'r rheilffyrdd hefyd fod yn un gyfun- drefn debyg i gyfundrefn y post, a'i gweithio mewn ffordd gyftelyb gan adran o'r Llywodraeth. Fr cyfeiriad yna y try calon y wlad am ymwared, ond rhaid i'r afon ar ei thaith tua'r mor amgylchu ami i fynydd a rhuthro drwy lawer lie cyfyng, ac y mae hithau yn ymdroi cryn lawer ohoni ei hun ar y gwas- tadedd marw. Am y tir hefyd,—y cyfoeth mawr hwn, y cyfoeth mwyaf, a chyfoeth sy'n parhau o genhedl- aeth i genhedlaeth—y wlad a'i piau. Edrycher ar y pwnc, ac o edrych fe welir mai felly y mae. Y wlad hefyd a ddylai fod yn landlord, a doder y Llywodraeth yn stiward. Daeth y meddyliau hyn i'n meddwl wrth ganfod pasio drwy Dy'r Cyffredin yr English Small Holdings Bill. Ni chafodd nemor wrthwynebiad,— rhyw ferddwr a fu ei ymdaith drwy Dy'r Cyffredin ond ofnir mai lie cyfyng fydd iddo i ruthro drwodd yn Nhy'r Arglwyddi. Ofnir yn wir na fydd yno le o gwbl i basio drwodd ac mai rhaid fydd iddo, fel llawer afon arall, suddo i'r llawr a gyrru gyrfa danddaearol. Bydd perygl i hynny wanychu sylfeini Ty'r Ar- glwyddi er hynny, ni fydd mo'r help,—canu o hyd y mae'r afon Ion, Mor, mor i mi." Goganai Mr. Jesse Collings y Mesur am nad oedd yn darparu modd i'r ffermwr bychan brynnu tir ond nid ydym ni'n credu mewn tir-feddiant persdnol nac ychwaith mai am hynny yr ymawydda pobl sy'n trin y tir. Ond credwn mai'r hyn sydd eisieu yw sicrwydd na chyll y tenant mo'i dir ar ol iddo ei ddiwyllio ac na chodir dim rhent ar lafur y tenant ei hun, ond y bydd iddo sicrwydd na thollir arno yn yr hyn y bendithiodd Duw ef, ac hefyd credwn, fel y dywedodd Mr. George Nicholls, mewn ateb i Mr. Balfour. mai dyled Llywodraeth a Chyfraith yw sicrhau'r ffermwr bychan y bydd ei denantiaeth yn sicr iddo cyhyd ag y tal efe ei rent ac y trinia ei dir yn dda, ac y gall fynd i'r eglwys neu'r capel a fynno, ac os y bydd ef yn dewis y gall fynd hyd yn oed ar lwyfan Radicalaidd. Dywedir i Syr H. C. Bannerman areithio'n ardderchog o blaid y Mesur. Dywedai y lleshai'r Mesur y ffarmwr mewn dwy ffordd-trwy ddwyn dynion o'r dref yn ol i'r wlad i fyw yn y man dyddynod, ac felly ychwanegu llafurwyr at alwad y ffarmwr mawr, ac hefyd trwy alluogi'r ffarmwr i gael tir- oedd i'w feibion yntau ddechreu byw. Credai y Prifweinidog y rhoddai'r Mesur ben ar yr orfodaeth sydd ar lafurwyr tir i chwysu a llafurio ddyddiau eu hoes er elw dynion ereill. Dywedai hefyd y pair y Mesur hwn ymrafael rhwng dosbarth a dosbarth, ond fod pethau gwaeth nag ymrafaelio i'w cael. Diweddodd y Prifweinidog ei araith mewn ton benderfynol iawn. Y drwg mawr presennol yw fod Ty'r Arglwyddi yn dinystrio pob Mesur a enfyn y Llywodraeth Rydd- frydig i'w Ty hwy. Ymddygant fel pe baent hwy'n gynrychiolwyr y bobl, fel pe baent hwy'n llywodr- aethwyr awdurdodedig y wlad. Y mae yr Arglwydd Rosebery wedi addo fotio drosto, ond bygythir, er hynny, ddifetha'r Mesur dan sylw fel y gwnaed a'r lleill. A mwy blin bob dydd yr a'r ymrafael rhwng y ddau Dy. Er cymaint y mwyafrif Rhyddfrydig a ddychwelwyd yn yr etholiad cyffredinol, anwybyddant bob Mesur Rhyddfrydig, ac ni chym- erant sylw o'r etholiadau achlysurol a daigwyddodd yn ddiweddar. Er anfon cennad ar ol cennad, ni ddyry'r coeg-lafurwyr hyn-o ffrwyth y winllan i'w gwir berchenogion. Rhaid cymeryd y winllan oddi- arnynt neu fynnu trefn arnynt. Ymddengys y gellir gwneud hynny trwy fynnu ei wneud. Y mae'r wlad yn rhuo yn ei chorn, ac y mae Campbell Bannerman yn ei deall. Onid oes obaith i Gymru gael rhyw fath o Ymreolaeth neu fwrdd i drin materion tir Cymru ? Y mae Cymru o ran natur ei thir, dull ei hamaethyddiaeth, manteision ei masnach, a'r eyffelyb'A ethau, mor wahanol i Loegr ag yw hi o ran iaith a llenyddiaeth ac arferion cym- deithasol; ac y mae arni gymaint o angen bwrdd amaethyddol iddi ei hun ag o angen bwrdd addysg iddi ei hun. A geir hyn rywbryd nis gwyddis eto ond tua'r mor y Ilif yr afon—gobeithio y cyrhaeddir iddo.