Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Ffetan y Gol. ----

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ffetan y Gol. Beirniadaethau Barddoniaeth Rydd Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906. SYR-Mae Rhan I.o gyfansoddiadau buddugol yr;Eisteddfod uchod ger fy mron. Cynhwysa yr oil o'r cyfansoddiadau barddonol gwobr- wyedig ynghyda'r beirniadaethau arnynt. Nid wyf yn bwriadu yn hyn o ysgrif ddweyd dim am y farddoniaeth gaeth "na'i beirn- iaid ond hyn y mae'r tri beirniad, sef yr Athro J. Mo ris Jones, M.A., Machreth, a Berw wedi bod yn unfryd unfarn bob tro. Yr oeddynt yn cytuno hyd yn oed mewn cys- tadleuaeth mor den a'r un ar yr Hir a Thoddaid i'r Rhaiadr pan y rhanwyd y wobr rhwng Gweledydd (bardd cadeiriol Corwen bythefnos yn ol) a'r Parch Nicholson Jones. Ond beth am y farddoniaeth rydd ? Y beirniaid oedd Elphin, Gwili, a Silyn. Yr wyf yn eu rhoddi mewn trefn ABC-ol, rhag i rywun feddwl fy mod yn rhoi mwy o bwys ar farn un na'r llall. 'Rwy'n credu y bydd yn syn gan y mwyafrif o ddarllenwyr y BRYTHON glywed na ddarfu i'r tri gytuno &'u gilydd ond unwaith. Gofynnid iddynt feirniadau cyfansoddiadau ar y testynau a ganlyn :—Pryddest y Goron, Branwen Ferch Llyr," Pryddest Goffa am Hirlas, Llew Llwyfo, Llawdden, Tafolog, Gwyneddon, a Phencerdd America Caneuon—Cadeirio a Choroni Myfyrdraith, "Yn y Goedwig;" Bugeilgerdd Chwe Telyneg, Bywyd yn y Wlad;" Soned, Dafydd ab Gwilym i Forfydd." Yr unig un o'r saith testyn y caed cydwelediad rhwng y tri ynghylch y gore oedd y Fugeilgerdd cytunai'r tri i roddi'r wobr i Brynfab. Bravo, Brynfab Am bob un o'r lleill yr oedd gwahaniaeth barn. Fel rheol,'ceid Gwili a Silyn yn cytuno ac Elphin yn anghytuno. Ond yng nghys- tadleuaeth y Soned yr oedd pob un o'r tri wedi ffansio un gwahanol i'r llall a bu raid galw i mewn ganolwr i dorri'r ddadl. Nid yn unig anghytunent ynghylch pwy oedd y gore, ond gwahaniaethent yn ddybryd yn eu barn am deilyngdod y goreuon. Nid cwestiwn o gyntaf ac ail oedd hi fel rheol ond ceid Elphin yn tywallt pliiolau ei ddigofaint ar ben ffefryn y lleill, gan ei gyfrif simply not in it. Er rhoi rhyw ddirnadaeth i chwi am sefyllfa pethau, beth pe bawn i yn cymeryd y gwahanol gystadleuon y naill ar ol y llall. 1. Pryddest y Goron, Branwen Ferch Llyr." Buddugol, Mr. H. Emyr Davies, Pwllheli. Ymgeisiodd pump. Dyd Silyn hwy yn y drefn a ganlyn :—1, Gwyn ab Nudd 2, Gwledig 3, Peredur 4, Drudwy 5, Carreg Hilyn Dyd Gwili hwy yn yr un drefn ond daw Elphin ymlaenJa dyma ei drefniad ef :—1, Peredur 2, T Gwyn ab Nudd 3, Gweledig 4, Drudwy 5, Carreg Hilyn. Gwelir fod yr un farna Elphin yn oreu yn cael ei gosod yn drydydd gan y lleill. Dyma i chwi ddyfyniad neu ddau i ddangos beth yw barn y naill am ddewisddyn y llall. Dyma farn Silyn am Peredur :— Ond os cyffredin y rhaniadau, mwy cyffredin fyth y canu arnynt. Nid yw Peredur yn gweled nac yn deall lledrith awynol a phell ei destyn. nac ychwaith yn meddu'r ceinder iaith a fedr draethu'n deilwng chwerthin a dagrau'r Mabinogion. Ni cheir nemor o dudalen nad yw'n frith o frychau. Amddifad hollol yw gwaith Peredur o hud a lledrith y Mabinogion ac nid ymddengys oddiwrth y bryddest hon iddo erioed deimlo'u swyn na gweled eu gwir brydferthwch." Ar y mesur byr y mae Gwili yn beirniadu. Dyma ddywed ef am Peredur DYMA ymgais i ganu'r stori, a dim arall. Nid yw'r farddoniaeth ond cymedrol, a phell yw'r iaith a'r gystrawen o foddio. Nis gellir gwadu nad oes yma gryn lawer o fywiogrwydd. Gresyn na fuasai'r byw- iogrwydd hwnnw yn fwy awenyddol." Ond gwrandawer ar Elphin.— O'R diwedd dyma ni wedi cael rhywbeth tebyg i'r hen ramant fyth-newydd ei hun. Cerdd brydferth a swynol yw hon. i$ Mae ef wedi teimlo hudoliaeth y Fabinogi ac yn llwyddo i'w gyflwyno i'r darllennydd. Mae ei fydryddiaeth yn llyfn a'i symudiad- au yn hoew. Nid yw yn hollol lan oddiwrth feiau. Heb os, y mae wedi gwneud mwy o gyfiawnder a'r chwedl na neb ohonynt. Hon yw'r unig un o'r pryddestau a bair imi anghofio beirniadu, a wna imi anwylo coffadwriaeth Branwen Ferch Llyr, ac eneinio ei henw a dagrau tosturi. Ni phetrusaf ddatgan fy marn mai Peredur yw y goreu." Beth am Gwyn ab Nudd ? Dyma ddywed Elphin "YMDDENGYS i mi fod yr awdwr wedi gwneuthur ymgais i drawsblannu i len Cymru ddulliau y dosbarth o feirdd a elwir The Mystic School Yn lie dilyn rhawd y Fabinogi, ni wnaeth ond prin gyffwrdd ei phrif helyntion. Pan fo Gwyn ab Nudd yn canu oreu, teimlwn mai nid i'w destyn y can, ond i rywbeth arall tuhwnt neu tuallan iddo." Ac ar ol tudalen neu ddau o ddyfyniadau, ceir y frawddeg fachog a ganlyn :— YR wyf wedi manylu ar y meflau hyn yng ngwisg y gerdd am mai ei harddull yn hytrach na'i chynnwys sydd yn hawlio sylw." Meddai Silyn :— CEIR yn y bryddest hon lawer o bur farddoniaeth y chwedl, a llawer o wir swyn a hud y Mabinogion. Cys- tadleuaeth sal iawn ydyw cystadleuaeth y Goron eleni. Ac eithrio pryddest Gwyn ab Nudd, ni theimlaf fod neb yn agos i'r safon." Gwili eto :— DYMA bryddest brydferth ar y cyfan. Swynir ni o dudalen i dudalen gan benhill- ion melus a thwf, a daw'r ystori i'r meddwl gyda chymaint o gyfanrwydd feallai ag a ellid. Dyma'r bryddest oreu o ddigon, a gallaf ddweyd ei bod, yn fy marn i, yn deilwng o'r wobr a'r anrhydedd." There you are Yr wyf wedi gadael y dyfyniadau heb italeiddio dim, nac ychwaith hau rhyfeddnodau-gadawaf i'r darllennydd wneud y diffyg i fyny. Gyda chaniatad y Golygydd, dywedaf air ar y cystadleuon ereill yn eu tro. HESGIN.

NOD AC ESBONIAD.

Adolygiad.

Advertising