Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XX.—DUN MUNRO. EISTEDDAI Mrs. Munro yn neuadd henafol Dun Munro a'i hwyneb tua'r ffencstr trwy vr hon y gwelai y mynyddoedd uchel yn eu dilad o borffor yn is i lawr y glynnoedd coediog, y dail amryliw, a'u gwyrddlesni yn anghymarol brydferth. Gwyddai Mrs. Munro am yr afon a redai ynghanol y coed nesaf ati, a'r llwybr cul ar hyd ochr yr afon lie y cerddai Capten Munro yn ol a blaen yn chwarae y bag-pipes a hoffir gymaint gan breswylwyr yr Ucheldiroedd. A pheidied neb a gwawdio yr offeryn cerdd henafol yma a gar yr Ysgotiaid, canys os na bu iddynt ei glywed yn swn yr afon yn y glyn ac ynghanol y coed a'r chwareuwr yn cerdded yn ol ac ymlaen, fel pe yn cadw amser i'r afon a'r offeryn ar unwaith, nis gwyr undyn ddim am swyn miwsig y bag- pipe. Mae'n bosibl i'r hen offeryn cenedl- aethol- Wneud trwy'r nant loew ramant byd Yr hafn glan, yn gan i gyd." Tra yn gwrando y swn, er nas gwelai hi ei mab, rhedai y dagrau gloewon ar hyd gruddiau yr hen wraig fonheddig. Teimlodd hithau i'r byw pan glywodd am fradychiad ei hanwyl Charlie gan y Sgweiar Cymreig, a bu am rai dyddiau yn methu yn lan a gweled llwybr ei dyledswydd. Yng ngwyllt- ineb y dyddiau cyntaf, mynnai Capten Munro fyned ymaith gyda'r milwyr oeddynt ar fin ymadael i'r Dwyrain, heb fynd yn agos i Blasllwyd na Chymru. Ond er i'r fam fod Uawn mor falch ag yntau o anrhydedd y Munro, nis gallai hi ddygymod a'r syniad o adael yr eneth ieuanc, na fu ond ychydig ddyddiau yn wraig, yn y dull yna, yn enw- edig gan fod Alys yn sicr wedi dioddef oddi- wrth yr un twyll. Am y Laird, ei mab hynaf, cynghorai ef ei frawd i wneud y goreu o'r gwaethaf. Felly, ni synnodd Mrs. Munro pan ddaeth i fewn i'r neuadd y bore hwnnw, ac y dywedodd wrthi :— Mam, nid ydyw ymddygiadau Charlie ond yn creu mwy o waith siarad i bawb. Gan fod Mr. Gwyn wedi gwneud popeth a all ef i gyfreithloni sefyllfa ei ferch a'i aeres, yn sicr ein dyledswydd ni ydyw ei berswadio i geisio dygymod a. phethau fel y maent. Os nad ydyw Charlie am roddi i fyny y pen- derfyniad o fyned gyda'r fyddin, ac nas gellir ei berswadio i ymweled a'r Gwyniaid cyn cychwyn, y peth goreu fydd i ni wahodd ei wraig yma atom ni cyn iddo fyned i ffwrdd. Gwelwch y llythyr yma ddaeth i mi oddiwrth rywun sy'n foneddwr doeth yn yr un ardal a'r Gwyniaid, a pheth a ddywed efe. Nid ydyw yn cyfiawnhau ymddygiad Sgweiar Gwyn, ond yn hytrach fel arall, ond mae'n siarad yn bur eglur ynghylch dyledswydd Charlie tuag at ei wraig, ac hefyd am bosiblderau bywyd defnyddiol iddo yn y rhan yna o'r wlad fel tir-feddianwr cyfoethog. Dylai Charlie ddeall nad ydyw priodi gwraig un diwrnod, a'i gadael yng ngofal ei rhieni ymhen ychydig ddyddiau wedi hynny, yn beth ellir ei wneud yn ein gwlad ni. A phwy o'r pen- defigion Cymreig fydd yn gymdogion iddo allant edrych yn isel ar un o'r Munros, tybed ? Onid dull ein gwlad ni ydyw fod dyn, er iddo briodi islaw iddo, yn codi ei wraig i'w sefyllfa ei hun ?" 0, ie, Roderic, mae hynny yn wir. Pe priodai Due forwyn cegin, byddai yr eneth ar unwaith yn Dduces yr ydych yn eich lie." Wei, mae cryn wahaniaeth cydrhwng Alys a geneth o radd isel. Mae wedi ei haddysgu a'i diwyllio ac am wn i wedi derbyn pob manteision posibl i ferch ieuanc o gyfoeth. Ni chwyd un ymddygiad o'i heiddo fyth wrid i wyneb Charlie. Yn sicr, mam, gallasai pethau fod yn llawer gwaeth. Pobl yr hen amser ydym ni, y Munros, ond mae yr amser hwnnw bron ar ben a chyn pen hir iawn y cwestiwn ym Mhrydain fydd, nid gwaed pwy fydd y puraf, ond poced pwy fydd drymaf. Mae'r arwyddion i'w gweled yn amlwg fod dylanwad cyfoeth yn dyfod fwy-fwy o ddydd i ddydd." Cyn i'r laird yn brin orffen llefaru, daeth Capten Munro i fewn, a'i fag-pipes o dan ei gesail. Taflodd Roderic Munro lythyr iddo, gan ddweyd:- Byddai'n burion i chwi gymeryd amser i ystyried cynnwys y llythyr yma, Charlie, cyn dweyd yn fyrbwyll ynghylch y mater. Mae'n bryd i ni feddwl fod ochr arall i'r cwestiwn yma nad oes a wnel a balchter diarhebol ein teulu ni." A ddarllenasoch chwi y llythyr yma, fy mam ?" Do, fy mab." Beth ydyw eich barn chwi ? Mae an- rhydedd enw Munro wedi bod er's llawer Uwyddyn yn ddiogel yn eich cadwraeth chwi," ac ymgrymodd y milwr ieuanc ei bsn yn foesgar i'r hen foneddiges. Edrych- odd hithau i fyny i wyneb ei mab ieuengaf, a ,-tywedodd Fel Cristion, Charlie fy mab, rhaid i. mi addef fod yr oil a ddywed y Mr. Pennant yma yn anatebadwy. Ac mae Alys yn ddiniwed, rhaid i ni gofio hynny eto mae'n gorfod dioddef un o'r gofidiau mwyaf allasai ddyfod i gyfarfod merch." Eisteddodd y Capten ar un o hen gadeiriau urddasol neuadd ei hynafiaid, a darllennodd y llythyr anfonasid gan Lewis Pennant i'w frawd, fel y byddai i bennaeth y teulu allu ymgynghori a'i frawd ynghylch yr helynt ddifrifol oedd yn peryglu holl gysuron byw- yd, os nad y bywyd ei hunan, i aeres y Plas- llwyd. Wedi darllen y llythyr ddwywaith drosodd, dywedodd y Capten "Mae'n rhaid cydnabod yn sicr, fy mam, fod yna ochr arall, fel y dywedodd Roderic fy mrawd. Ond myned i fyw yn wastad dan yr un gronglwyd a'r dyn yna, pa fodd y gallaf ? Byddai bywyd yn faich i mi. Nid wyf yn hynod hoff o foethau, ni chefais fel y gwyddoch, otlawnder cyfoeth o'm cwmpas erioed, ond bu absenoldeb digonedd o arian yn foddion effeithiol iawn i ddangos eu gwerth i mi, er hynny. Etc. mae mil o bethau nas gwnaethwn byth er mwyn cyfoeth." Beth, ynte, barodd i chwi briodi aeres Mr. Gwyn, Charlie ? Nid oeddych yn debyg i ddyn wedi colli ei galon i ferch o gwbl," ebe ei frawd. Goatyngodd y Capten ei ben am foment, yna dywedodd :— Feallai, Roderic, imi roddi gormod o le ijddylanwad yr aur a'r meddiannau pan fu i'w thad bron gynnyg Haw ei ferch i mi ond yn wir, Roderic, coeliwch fi, yr hyn barodd i mi gymeryd y peth i ystyriaeth ar y cyntaf oedd i Mr. Gwyn awgrymu fod ei ferch wedi syrthio mewn cariad a mi ac yng ngrym fy niolchgarwch a'm dyled i'r teulu, cymerais fy hudo gan yr hen sarff yn ffurf Sgweiar Gwyn. Druan ohonof, y fath ynfytyn fum yn nwylo y dyn dichellgar." Yna ychwanegodd :— A dyma fy holl fywyd wedi ei ddifetha am cyhyd ag y pery." Ni ddifethir eich bywyd, Charlie, oni bydd i chwi yn wirfoddol ei andwyo," ebe'r laird. Pe buaswn i yn eich He, gwnaethwn i fy ngoreu i unioni'r cam a wnaed a chwi ac a'r eneth ieuanc yna. Ac yr wyf fi yn bennaeth y clan Munro," ebe fe yn falch, a bron yn ymffrostgar. Yna aeth ymlaen i gynnyg ei gynllun o anfon am Alys i Dun Munro, ac os mynnai y Capten fyned i ber- yglu ei fywyd, byddai yn ffarwelio a'i wraig yn deilwng, ac yn ei gadael am beth amser o dan gronglwyd ei fam a'i frawd. Wedi hynny, gallai Mrs. Gwyn-Munro fyned yn ol at ei phobl ei hun, ac i'r cartref yr oedd yn aeres iddo." Dyma chwi, Charlie," ychwanegai, nid Munro yn unig mohonoch mwyach, ond Gwyn-Munro, trwy ddeddf a gweithredoedd yn ol y gyfraith." Och, ac mae'n rhaid i mi ddwyn enw y dyn a'm bradyeliodd arnaf. Yna goreu po gyntaf i mi fyned i rywie nas cofir am danaf. Gwnewch chwi fel y mynnoch ond rhaid i mi, yn awr, beth bynnag, fyned i geisio ennill nuu golli'm bywyd diwerth gyda'm byddin. Fy mam, erfyniaf eich maddeuant. Nid o'm gwirfodd y pechais yn erbyn anrhydedd fy hynafiaid." Canlyniad yr ymdrafodaeth modd bynnag, fu i ddau lythyr fyned o Dun Munro i ardal Tre Einion—un i Lewis Pennant oddiwrth y laird, a'r Hall i Mrs. Gwyn-Munro oddiwrth ei mab yng nghyfraith. (I barhau). --0--

Modiadau Cerddorol.

Colofn y Beirdd

EIDDUNIAD LLWYDD

MIS AWST.

Y CAR TRYDAN.

FY MAM.

ER COF

Advertising