Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
'Phone—017 Central. ¡;1 W. GRIFFITHS, f Tailor, 29 SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. 'Phon"17x Bootle. Lunt's Boots are A E F R ONE Y. Try P a ¡ l" Ladies' and Gent's in great variety. 11 PARADISE STREET, The only address telephone 51 Y Anfield. JOHN JONES, ø FUNERAL FURNISHER, '9 Preston Grove, LIVERPOOL. StYle, Quality, Economy, Attention. SUPERIOR WEDDING BROUGHAMS. E8timates including all c-harge-s on application. NODER-Nad oes unrhyw gysylltiad rhyngof ag arall o'r un enw. =:
Family Notices
j GENI, °^s—Awst 8fed, yn 26 Beechwood Avenue Wallasey, i Mr. a Mrs. Ernest Jones, ttierch. ^0pEs-W ILLIAMS--Yn' 'Annandale," Lockerby °ad, Fairfield, Awst 3ydd, 1907, priod w'en Jones-Williams (gen. Annie Jones), ar fab (gwel Marwolaethau). lr PRIODI. ILLIAAls-Yng nghapel y Wesleaid ymreig, Birkenhead, gan y Parch. Ed. j Urnphreys (cadeirydd Talaeth y Gogledd), saac Heys, 74 Hawthorne Road, Bootle, iiaura Williams, merch Mr. a, Mrs. W. "Uliains, 63 Raffles Road, Birkenhead. Jo MARW. Awst 14, yn 56 Paterson Street, VT^kenhead, Elizabeth Jones. Claddwyd j Alostyn, ddydd Sadwrn. 19, yn Annandale, J°ckerby Road, Fairfield, Owen Jones, ,aban Owen ac Annie Jones-Williams Gene,cligaet l van).
Advertising
Telephone—261 Bootle. P. LLOYD JONES, s F unerel Furnisher, attention given to removals to and •w, from Wales °KK BUILDINGS, 36 & 364 Stanley Rd., L'poo. (Near Bankhall). WF-DDINR, EQUIPAGES. SA.VE SS CASH OR HIRE. "• GRIFFITHS & SON, 221 BrecK Road, and bl.& 03 Wavertree Rd. Liverpool. 4 lpinos AND ORGANS m 8s- by Jfonth the <kin8 *«ts. KSggi Telephone—157y Birkenhead. J] j. ^lder ei gwsrneriaid,—yn siop HUGHES, An,8?'1 gant eu hangenraid ji newydd bydd, heb baid, 'hynwr i Frythoniaid. J F\ A A A UHN HUGHES 24 Tailor 0 Draper, XTON ROAD, BIRKENHEAD PKOCTER, F.B.P.S. 1 1 I I 1 .1. 1 Z- T"' J ) The City Phrenologist, Is a Fellow and Councillor of the British Phrenolog- ical Society (Incor- porated). Holds Six Certificates & Six Gold Medals for Pro- ficiency in Phrenolog and Hand-reading. Mr. Procter has had 35 years' Profession- al Experience in Liverpool,and is now giving Consultation. 58 I 1 PHRENOLOGY & HANDREADING at l,l*»e St. & 25 Mt. Pleasant
Eisteddfod Abertawe.
Eisteddfod Abertawe. YN Abertawe y cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bu yno o'r blaen yn 1891. Bu yr wyl y tro hwnnw yn nodedig ar gyfrif y gwynt a'r gwlaw, a disgyniad rhan o do'r babell, pryd y collodd un wraig ei bywyd. Mae lliaws o'r enwogion oeddynt amlwg yng Ngorsedd ac ar lwyfan yr Eistedd- fod honno erbyn hyn wedi mynd i gysgu, Clwydfardd, Hwfa Mon, Nathan Dyfed, Gwalchmai, Nathan Wyn, Watcyn Wvn, Gurnos, Llawdden, Alltud Eifion, Elis Wyn o Wyrfai, Llyfrbryf, Dr. Joseph Parry, Alaw Ddu, Tudno, Llew Llwyfo, Lleurwg, ac felly yn y blaen hyd at beri i hen eisteddfodwr deimlo yn brudd, ac fel pe bai'r Eisteddfod yn troi yn un angladd mawr o flaen ei fedd- wl Y mae yr hen do oedd y pryd hynny agos i gyd dan y dywarchen, a'r rhai oedd ieuainc yn penwynnu. Ond, er hynny, mae yr hen sefydliad yn parhau ac yn cynhyddu mewn poblogrwydd, a chenhedlaeth newydd o dalentau disglaer a diwylliedig yn codi. Eto, tra yn estyn llaw groesawol gynnes i'r ieuainc, nis gallwn lai na theimlo hiraeth am yr hen. Wrth edrych ar enwau y meirw cnwog ar furiau pabell yr Eisteddfod eleni- amryw wedi eu hychwanegu yn ddiweddar— nis gallwn lai na theimlo fel pe mewn mynwent, ac mai canu mewn cynhebrwng yw y beror- laeti-i o bob math sydd yma. Mae'n debyg y bydd rhyw nifer, beth bynnag, o bobl Lerpwl yn derbyn gwahoddiad cynnes Hesgin i fynd yr holl ffordd o Lerpwl i Abertawe ond bydd hynny yn dibynnu llawer ar pa fath wahoddiad fydd yr haul yn ei roddi. Mae gan yr haul hefyd ei babell i drigo ynddi," ac nid anfynnych y bydd y babell honno yn tywallt gwlaw am ben yr Eisteddfod ac i'w phabell. Go- beithio y ceir yr huan yn cadw ffordd glir rhwng ei wyneb a'r Eisteddfod, ac mai un wen fawr o hindda fydd dros Abertawe yr wythnos hon. Modd bynnag, dyma ni ar drothwy datguddiad cyfrinachau cystadleu- on amryfal a lliosog Eisteddfod 1907, ac erbyn diwedd yr wythnos bydd profiad llu wedi ei newid—gobaith wedi troi yn siom, a phryder wedi troi yn fwynhad i lawer. Bydd ychydig wedi ennill, a llawer wedi colli. Gwaith digon annodd yw ennill, ond anhawddach o lawer colli gall talent wneud y cyntaf,-rhaid wrth ras i wneud yr olaf Dydd Llun. Er na fydd yr Eisteddfod ei hun yn dechreu hyd agoriad Gorsedd y Beirdd bore v foru, mae lliaws o Eisteddfodwyr wedi cyrraedd erbyn heno. Mae llawer o sel yn y Gorseddogion, a gwnai ami un ohonynt wdd vn byw ymhell ymdrech ac aberth S m/yn prydlondeb i'r Orsedd gyntaf, a sicrhau eu hurddwisg am yr wythnos. Oher- wydd paham, deuant yma noson yng nghynt fel hyn. Heblaw hynny, heno y cyferfydd Pwyllgor yr Orsedd, y cymerir i ystyriaeth y ceisiadau am urddau, ac y penderfynir amryw faterion o bwys ynglyn a Gorsedd y Beirdd. Ac heblaw hynny hefyd, cynhelir rhai cyfarfodydd adrannol ydynt wedi tyfu mewn cysylltiad a'r Eisteddfod, ond heb fod yn rhan hanfodol o'i pliriod-raglon hi: er hynny, ceir ynddynt drafodaeth ar faterion o bwys, a chan bersonau o bwys hefyd, ar addysg a phethau ereill. Cofia y rhai oedd bresennol mewn cyfarfodydd felly yng Nghaer- narfon y llynedd am y drafodaeth ddysgedig fu yno, ac yn enwedig am eiriau hallt-iachus Syr Marchant Williams, ac araith hyawdl y Parch. Evan Jones, Moriah. Y mae'r pafiliwn yn ddigon eang, meddir, i cisteddu pymtheng mil o bobl; a'i ochrau wodi eu harddu tufewn a llumau i- saint cisteddfodol, Hwfa Mon, Islwyn, Clwydfardd, leuan Gwynedd, Caledfryn, &c.y lluniau oil yn waith Ap Caledfryn. Hyd y parwyd- vdd hefyd, coffheir am Dafydd Mor- gannwg, Alaw Ddu, Viriamu, Idriswyn, Eos Morlais, Llawdden, Cadwaladr, &c. Y Cymrodorion, che. Nos Lun, yn y Royal Institution, caed cyf- arfod o Gymdeithas y Cymrodorion, tan lywyddiaoth Arglwydd Glantawe. Dar- llenwyd papur gan Mr. Aneurin Will- iams, Y.H. wyr lolo Morgannwg ar Drefi Cymru fel y maent ac fel y dylent fod.^f Baich y papur gwerthfawr ydoedd dadieu dros gael tai iachach a lielaethach i'r gweithwyr cael y trefi wedi eu hadeiladu wrth gynllun a threfn ac er lies ac iechyd y bobl, &c. Da ydoedd tynnu slums i lawr ond rhaid oedd hefyd godi tai iach a chyin- odrol eu hardreth, a,c nid gadael y bobl heb anneddau i drigo ynddynt.Cyfeiriodd y cadeirydd at berthynas y dwdydd meddwol a'r pwnc a gallai ddweyd oddiar a welodd ofe ei hun fod rnwy o feddwon tua r Mumbles a'r ardaloedd ar hyn o bryd nag a welsai erioed o'r blaen. < j ] Yn Neuadd St. Gabriel, agorwyd Arddang- hosfa Celf a Chrefft gan Faeres Abertawe ac yn ystod yr agoriad, caed anerchiad yn y Lydaweg gan Mons. F. Vallee, yr hon a gyfieithiwyd i'r Gymraeg gan Mons. F. Jaffrenou (Taldir)-" O. M. Edwards Llyd- aw fel y gellid ei alw, oblegid ei lafur i gadw iaith ei whd yn fyw. Yr oedd yr orymdaith i'r Orsedd yn un o r rhai harddaf a'r hyn a dynnai fwyaf o sylw ydoedd cynrychiolwyr Llydaw, yn eu siacedi glas-oleu, llodrau gleision, a'u hetiau isel eu coryn a Ilydan eu cantal, a ruban melfed yn chwifio oddigwmpas pob un. Ac wedi i'r Orsedd ymffurfio, ac i'r Beirdd ac ereill gymeryd eu lie, yn y cylch nesaf yr oedd c6r o blant gobeithluoedd y dref, yn rhifo tua chwechant, ac wedi ymwisgo lawer ohonynt yn hen ddiwyg Cymru, yn canu n swynol odiaeth, tan arwemiad Mr. David Williams, L.T.C. Dyma'r cor a ganai o flaen y Brenin yng Nghaerdydd y dydd o r blaen.
YR ORSEDD.
YR ORSEDD. Dydd Mawrth. Cynhelid hi yn Cwmdoncin, i fyny ar lechwedd allan o'r dref. Bore gogoneddus, a thorfeydd aruthrol wedi ymgynnull. Yr Archdderwydd a'i gyd-Orseddogion yn cael gwenau haul ar eu hurdd-wisgoedd. Anodd merldwl am lecyn harddach i gynnal Gorsedd. Cafwyd areithiau gan yr Archdderwydd, Syr Marchant Williams, Pedrog, a llu o anerchiadau barddonol gan ereill. Dan haul dydd di-niwl y De-ym mro hedd Mae'r Wyl yn ei chartref I feirdd camp ar dramp o'r dre-gwledd yn A baratoir yn Abertawe. [wir Mor o gan yw Cymru i gyd "—ar ei draeth Crwydra hedd a gwynfyd Can dlysaf cenedl esyd Wyl Awen yn ben y byd. -Dyfed. HYD ein hoes newid y nen,—newid gwn, Newid gwedd daearen Ond i newid hoen awen Ymarhous yw Cymru Wen.-Elfyn. GWLEDD dawn i Ogledd a De,—yma sydd Mae saint Awen adre' :— I athrylith o rywle,-Ilon aelwyd A baratowyd yn Abertawe.-Pedrog. Y WAEDD uwch adwaedd huda—'n cenedl ni, Cawn delyn hedd weithian Ac ym mro Gwyr Cymru gan Nodau'i henaid ei hunan. Wsnos beirdd yw'n Swansea Bay-a mwynheir Y Gymraeg drwy'r fangre Loewed a hwyl Gwyl y De Yw tywydd Abertawo.-Machreth. Y Cyfarfod Cyntaf. Yr arweinydd ydoedd Llew Tegid ac i aros i'r dyrfa gyrraedd o'r Orsedd, eglurodd i'r lliaws Saeson ddaethent yno natur a neges yr Wyl Fawr, ac am iddynt beidio ffromi a phwdu os dygid hi ymlaen gymaiift ellid yng Nghymraeg. Danghosodd y Saeson hwythau drwy guro traed a dwylo, mai gore'n byd hynny ganddynt hwy, ac mai nid wedi dod yno 'roeddynt i weled a chlywed yr hyn a gaent mewn cyngerdd yn Lloegr. Yna trefnodd y Llew wledd amheuthyn i'r dyrfa deneu, sef cael cor plant y gobeith- luoedd i ganu hen alaw Hob y deri dando," yr hyn a fawr fwynhawyd, ac yn beth newydd na chaed ei debyg mewn Eisteddfod er's talm, os erioed. Daeth y Beirdd, yr Orsedd, a'u lliaws dilynwyr i mewn i'r Pafiliwn gryn dri- chwarter-awr wedi amser dechreu ac wedi anerchiadau barddonol gan yr Archdderwydd ac ereill, aed ymlaen at y rhaglen. Dyfyniadau, Detholiad gan Seindorf Cyngor Sirol Abertawe. Datganiad gan Gor Plant y Gobeithluoedd. Traddodi Awdl Fer gan yr Archdderwydd, a'i baieh i annog rhieni Cymru i ddysgu Cymraeg i'w plant. 'Can yr Eisteddfod, gyda chymeradwy- aeth mawr, gan Miss Gwladys Roberts. Anerchiad gan y llywydd—David Harris, Ysw., Maer Abertawe—yn Gymraeg a Saesneg. Cystadleuaeth Pedwarawd, S.A.T.B., (a) Quandum Corpus (Rossini) (b) Yea, though I walk (Sullivan). Gwobr, £4 4s. Buddugol, David Chubb a'i barti, Pontypridd. Mr. Rhys Thomas yn traddodi'r feirniad- aeth. Cystadleuaeth d6n a chaled. Cystadleuaeth ar y berdoneg, i rai tan 16eg. Gwobr, El Is. a'r buddugol o 63 ydoedd J. Morgan Nicholas, Pontypridd. Mr. Harry Evans, Lerpwl, yn traddodi'r feirniadaeth. Nid yw Nicholas ond crwt deuddeg oed, ond y mae eisoes wedi ennill 28 o wobrwyon cyntaf a phum ail wobr. Nos Fawrth fe'i galwyd i chwarae yng ngwyddfod Miss Talbot ym Margam Abbey, a'r tebyg yw y bydd hi yn cymeryd y crwt cerddgar mewn llaw a than ei nhawdd. Unawd Baritone, (a) "The Wanderer (Schubert), (b) "Repent ye" (Macfarren). £ 2 2s. Goreu, Josiah Thomas, Abertawe, yr hwn a gafodd gymeradwyaeth fyddarol gan yr Abertawiaid lliosog oedd yn y cyfar- fod. „ Canu penhillion gyda'r delyn ar ddull y Gogledd. Naw yn cystadlu, a'r gini gwobr yn cael ei rhannu rhwng Richard Morgan, Brynaman, a J. Devonald, Merthyr Vale Arwisgwyd y ddau gan Mrs. Evans, merch yr anfarwol Ceiriog Hughes. Cystadleuaeth a fawr fwynhawyd ydoedd hon gan y cyn- hulliad. Ymysg yr ymgeiswyr ceid pump o ferched (tair o enethod ieuainc), a phedwar mab a sylwai'r beirniad, Eos Dar, fod gobaith gweled yr hen ganu swynol diguro hwn yn dod i'w fri cyntefig eto. Unawd ar y Crwth, i rai dan 16. Gwobr, £ 1 Is. Goreu, Lionel Falkman, Abertileri. Daeth pump o Gorau Merched ymlaen i gystadlu am ganu (a) Snow (Elgar), (b) Newid Cywair (B. Trehearne). Rhif o 40 i 50 o leisiau, a'r wobr £20. Canodd Cor Bangor yng nghyntaf, Tredegar Newydd yn ail, yna Pontypridd, Abertawe, a Chynon. Dr. Walter Davies a draddodai y feirniad- aeth, a dyfarnodd Gor Pontypridd (tan arweiniad W. Morgan, A.C.), yn oreu. Yn yr ail gystadleuaeth gorawl (o 70 i 100 o leisiau) am ganu (a) Moonlight (Eaton Faning), (b) He saved them out of their distresses (D. Jenkins). laf, £ 40; 2il, Elo. Yr oedd un c6r ar ddeg wedi anfon eu henwau a dyfarnwyd y wobr gyntaf i Gor Pembroke Dock, a'r ail i Gor Undebol Treorci a'r Pentre. Am y casgliad o Len Gwerin Dyffryn Nedd, a rhwng Nedd a Thawe, gwobr, £ 5 5s, y goreu ydoedd Lewis Davies, ysgol- feistr, Cymmer. f' Traddododd Gwili y feirniadaetli-ar y testynau a ganlyn i Caneuon gwladgarol (ar ddull Macaulay s Lays of Ancient Rome ar unrhyw dri o'r testynau canlynol:- Y Cymro o Bencader a'r Brenin Harri'r Ail Ifor Bach yn cymeryd Castell Caerdydd Rhys ab Thomas a Harri Tudur; Owain Glyndwr a Syr Lawrens Berclos Gwilym Canoldref a Brwydr Olaf y Revenge Rorke s Drift. Gwobr, £ 7 7s. Dim ond un ymgeisydd, Iolo Goch," ac yn deilwng o'r wobr. Telynegion addas i'w canu gan Blant yr Ysgol yn chwarae i Fyfyrwyr Colegau Cwmni Priodas Medelwyr yn Noswyho Ymwelwyr ar lan y mor Cwmni mewn Picnic Ymwelwyr yn y Ffynhonau; Cyn- ulliadau ereill, megis ar Ddydd Gwyl Llafur. Gwobr S7 7s. 15 o ymgeiswyr, ond dim un yn deilwng.. Cerdd mewn tafodiaith leol, ar unrhyw destyn Cymreig, ac ar ddull y "Northern Cobbler Tennyson. E5. Tri ymgeisydd, a'r goreu Wil yr Halier. Emyn Priodas, 4 pennillj8-linell. Y,2 2s. Y Parch. J. Lloyd-Williams, Dinbyeh-y- Pysgod, yn oreu allan o 52. Cyfieithiad Mydryddol i'r Gymraeg, Blanco White's Sonnet "Night." E2 2s. Y Parch. W. Williams, Glyngarth, a chaplan preifat Esgob Bangor, yn oreu o 21. Am y Gadair Dderw oreu (i fod yn eiddo r Pwyllgor). f,10 10s. Goreu, D. Edwards, Aberdar ac un o'r cadeiriau harddaf, ebe'r beirniad, a welsai erioed. Englyn, Cyfarchiad Nadolig." £ 1 Is. "Neb yn deilwng," ebai Pedrog wrth feirniadu, o'r cant namyn un a ymgeis- iodd." Myfyrdraith (heb fod dros 300 llinell), Pygmalion a'r Cerflun," £ 5. Ben Davies, Panteg, yn oreu o 4. Traithawd Saesneg, Shakespeare's Welsh- men, their place in the Poet's Dramatic Scheme, their acurracy as portraits or types their speech and the Poet's opportu- nities of observing models." f.7 7s. Un ymgeisydd yn unig, a hwnnw yn deilwng, sef Wm. Walford Moore, un o newyddiadur- wyr y Western Mail, Caerdydd, Beirniad, Mr. Ernest Rhys. School Reader on the Commercial and Industrial Geography of Wales. £ 10. J. C. Evans, Caerdydd. Contribution to the Economic History of Wales. Dyfarnwyd E 12 i "Welsh Student," ond dim ond £ 8 i'w dalu iddo ar hyn o bryd, a'r 1:4 gweddill pan helaetho ac y perffeithio ragarweiniad ei draithawd i foddlonrwydd y beirniaid. Dyfarnwyd yr ail wobr, E8, i Mr. Howell T. Williams, B.A., Caerdydd (gynt o Gwmbwrla). Am y cynllun goreu o Barwydlen (Poster) Eisteddfod. Y,2 2s. Christopher Bevan, Manselton. Cynllun Clawr Rhaglen Eisteddfod Gen- edlaethol, arwyddocaol o Gymru a nodwedd- iadol o Abertawe. £ 3 3s. Miss Hackney, Aberystwyth. Cadair (wicker) i ymgeiswyr dall yn unig. George Gould. Carriage Basket (i ymgeiswyr dall). Geo. Gould. Gwobr, Tlws arian. Coir Yarn Mat (i ymgeiswyr dall), Tlws arian. 1, Deulyn 2, A. Bird, Abertawe. Basged lian (i ymgeiswyr dall). 1, Tlws arian, Rowland Owen, sir Fon 2, Tlws bronze, Philip Phillips, Abertawe. Basged ymenyn (i ymgeiswyr dall). 1, Tlws arian, Rowland Owen 2, P. Phillips. Set of Six Panels. £1 lis. 6ch. loan Carl. Waste-paper Basket. George Gould, Aber- tawe. Hir a Thoddaid am Athan Fardd. E2. Enoch Richards, Clydach, yn oreu o 32. Cywydd, Simon Pedr." £ 5. Parch. Aaron Morgan, Blaenyffos, ac Ap Jonah yn gydradd. Cyfieithu Merch y Brenin (Mrs. J. M. Saunders) i'r Saesneg. £ 3 3s. Parch. E. Jones, ficer Llanidloes, yn oreu o 22. Llyfr-rwymo. 1:2 2s. Goreu, Mr. Trem- ewan, Abertawe. Yng nghyfarfod prydnawn ddydd Mawrth, llywyddid gan Arglwydd Glantawe, yr hwn a siaradodd mewn rhan yng Nghymraeg- yr unig arglwydd Cymraeg, meddir, all wneud hynny. Ond oblegid ei fod yn an- hyglyw ond tua'r seddi blaen, gorfododd y dyrfa ef i dynnu i'r pen cyn darfod. Rhyw chwe mil a gyfrifid oedd yn bres- ennol y bore, a deng mil y prydnawn. Ceid cyngerdd o ganu godidog yn yr hwyr, tan lywyddiaeth T. Jeremiah Will- iams, Ysw. Y datgeiniad oedd Miss Evangel- ine Florence, Miss A. Gwen Davies, Miss Teify Davies, Miss Gwladys Roberts, Mr. Gwilym Richards, Mr. Edward Davies, Mr. Charles Tree, Mr. Emlyn Davies, a Mr. Charles Draper, ynghyda cherddorfa o 68, tan arweiniad Mr. W. Whitaker. Nid oedd gymaint ag un gan Gymreig ar y rhaglen ac fel math o fow sbeitlyd i Gymru a'i hiaith, dibenwyd gyda Hen Wlad fy Nhadau." Rhaid derbyn £5,000 i glirio traul yr Eisteddfod a lied wan ydoedd cyfanswm y dydd cyntaf tuag at hynny. Go lawdrwm ydoedd Dr. Cowen a'r beirn- iaid cerddorol ereill ar y darnau a ddewis- asid i gystadlu arnynt. Un cor Seisnig, sef o Portsmouth, ddaeth i'r ail gystadleuaeth gorawl, a go bell ar ol oeddynt. Nid oes gor Seisnig o gwbl yn y brif gystadleuaeth heddyw (ddydd Mercher), ac un cor merched oedd o'r Gogledd ddydd Mawrth. Eisteddfod y Sowth ydyw yn gyfan- gwbl bron. Didrefn ydoedd y cyfarfodydd ar y eyfan, a'r cynhulliad yn talu nemor sylw i'r arwein- yddion a'u dymuniadau. Brawd Mr. Ben Davies, y tenor gwiwglod, ydyw ysgrifennydd yr Eisteddfod.
Dydd Mercher. ----
Dydd Mercher. Damwain Gas. Tyrfa Anferth. Pan oedd Cor Cwmavon-y cyntaf i ddod ymlaen yn y brif gystadleuaeth gorawl-- digwyddodd anffod gas. Cwympodd y llwy- fan odditanynt bum troedfedd ac er i lawer gael braw, ni anafwyd neb yn dost iawn. I aros i bethau ddod i drefn, t'rawodd y cynhulliad lliosog i ganu Rhyfelgyrch Gwyr Harlech." Cyfrifid fod heddyw 25,000 o bobl ar faes yr Eisteddfod a bu raid cau'r mynedfeydd am ddau o'r gloch o ddiffyg lie i filoedd ych- waneg a dyrrent am yr wyl. Cystadleuaeth Unawd Soprano, (a) I will sing unto the Lord," (b) O fy hen Gymraeg E2 2s. Miss Squire, Caerdydd, allan o 39. Adroddiad i ferched dros 16, "Hon gadair freichiau fy mam," JE1 Is. Miss Daniels, Llanelli, allan a 20. Cystadleuaeth unawd ar y berdoneg (i rai dros 16). Gwobr £ 2 2s. Miss Owen, Aber- tawe, allan o 26. Unawd Contraito (a) As it fell upon a day"; (b) "Sapphic Ode." Y,2 2s. Miss Lewis, Senghenydd, allan o 33.
.--------Newyddion Cymreig.
Newyddion Cymreig. DDYDD Mawrth, boddwyd ymwelydd o'r enw Bolsover yn ymyl Ynys Seiriol, Beau- maris, drwy ddymchweliad eweh. Achub- wyd ei ddau gyfaill gan griw iot oedd ger- llaw. Twlciwyd John Jones,gwas Mr.Frank Lloyd, yr arwerthwr adnabyddus o fferm y Plassey, Gwrecsam, i farwolaeth gan darw ddydd Mawrth.1 Gwelwyd ef gan un o feibion Mr. Lloyd, yr hwn a ymosododd ar y tarw a phigfforch, ac a yrrodd Jones mewn cerbyd nerth yjcarnau i Ysbyty Gwrecsam ac er y gwnaed popeth a ellid i'r truan, marw a fu. Heddyw (ddydd Mercher) ail-etholwyd Mr. Ellis Jones Griffith yn aelod seneddol tros sir Fon, heb neb yn ei erbyn. Am droi ar ddau feili a ddanfonesid i'w ty gyda gwarant oddiwrth Gofrestrydd Cwrt Bach Gwrecsam, a'u dyrnu a'u liatal rhag dod i mewn yn ol y gyfraith, galwyd ar Mrs. Bishop a'i mab i dalu £2 4s. gan ynadon y dref honno ddydd Mawrth. Mor ddiddiolch swyddan y beili Yng Nghyfarfod Misol sir Fflint, yn y Rhos, ddydd Llun, derbynnid saith ym- geisydd am y weinidogaeth-y saith yn llwyr- ymwrthodwyr, a'r Parch. J. Smallwood, Cymau, yn traddodi'r Cyngor." Y mae Mr. John Jones, Grove Lodge (hyd yn ddiweddar perchen yr Island Green Brewery, Gwrecsam) wedi anrhegu y dref a darn o dir (13,270 acer) ger Rhosddu a; Y350 tuag at ei gyfaddasu yn faes adloniant y rhodd i gyd yn gyfartal i £ 2,000. Yr oedd y Cynghorydd J. Williams, Y.H., wedi cyhoeddi, ar sail Saesnes o ymwelydd a'r lie, fod cerbydwyr Prestatyn yn rhai meddw, ac nad oedd modd cael cab pan f'ai eisieu un; ond mewn cyfarfod o'r Cyngor ddydd Llun, bu raid i Williams addef ar g'oedd iddo gael ei gamarwain a chynghor- odd y cadeirydd (Mr. Scott) ef i beidio bod mor gegrwth efo'i enllib y tro nesaf. Anfonodd ynadon Abergele lythyr at Gyngor Trefol y lie yn awgrymu mai da fyddai i'r Rhyl, Abergele, a Cholwyn Bay ymuno i godi common lodging-house ond na, ebe'r Cyngor, Y mae gennym ddigon o weilch diog a chnafaidd heb swcro rhagor. Gwyr pawb oddiyma i Begwn y Gogledd am gyfarfodydd cynhenllyd Cyngor Tref Aberystwyth, a,c am yr ymadroddion gwarth- us a deifl yr aelodau y naill at y Hall pan yn methu cytuno ar y pwnc tan sylw. Bu ffrae boeth yno ddydd Mawrth ac un aelod yn sbeitio hyd trwyn y llall, a hwnnw'n talu'n ol gyda sylw urddasol am led ei safn yntati.1 --0--
Senedd y Byd
Senedd y Byd IX. MAE Mr. Stead yn y Review of Reviews am y mis hwn yn cwyno yn enbyd oherwydd diymadferthedd a difaterwch cynrychiolwyr Prydain yn yr Hague. Ni fum i yn coleddu gobeithion uchel iawn y gwneid gwaith pwys- ig yn yr ail Gynhadledd hon, gan fod Germani yn erbyn gwneud gostyngiad mewn darpar- iadau rhyfel yn rhan hanfodol o'r ymdrafod- aeth. Ond yr oedd datganiadau pendant ein Prifweinidog a Syr Edward Grey, a phen- derfyniad pendant Ty y Cyffredin, wedi creu disgwyliad cryf y buasai Prydain yn siarad yn eofn ar y cwestiwn ac yn paratoi y ffordd i wneud rhywbeth yn effeithiol yn y dyfodol agos. Yn ol tystiolaeth Mr. Stead, yr hwn, fel y gwyddis, sydd yn bresennol yn gwylied symudiadau Senedd y Byd, ac yn cymeryd dyddordeb mawr yn ei symudiadau, y mae cynrychiolwyr Prydain wedi eu siomi yn ddirfawr. Ei gwyn ydyw nad oedd gan ein cynrychiolwyr ni amcan na chyfarwyddiadau pendant, ac nad oedd eu calonnau yn y gwaith a'u bod wedi dangos hynny mewn amrywiol ffyrdd. Nid oeddynt yn dymuno presenol- deb y Wasg, a danghoswyd ganddynt yn eglur nad oeddynt yn awyddus i wneud geiriau addawol C.B." pan yn cymeryd swydd, yn actau pendant yn yr Hague. Mae yn rhaid i minnau gyfaddef fy mod yn teimlo yn dra siomedig, a bod can lleied o sylw yn cael ei dalu yn y Wasg i weithred- iadau y Senedd bwysig hon. Awgryma Stead fod ein cynrychiolwyr ni yn ormod o dan ddylanwad y blaid filwrol a swyddogion sefydlog y Swyddfa Filwrol gartref. Pa fodd bynnag, yn hytrach na siarad yn rhy benderfynol ar hyn yn awr, hwyrach mai doethach ydyw aros hyd nes y terfynno eisteddiad Senedd yr Hague i weled beth fydd y ffrwyth, oblegid y mae yn eglur ei fod yn rhy hwyr bellach i'r lliaws ddylanwadu nemor arni. Cawn ddysgu gwersi buddiol erbyn y dyfodol. Yn y lie cyntaf, y mae yn hawdd iawn deall nad oedd y cyfarwyddiadau a gafodd ein cynrychiolwyr yn rhai pendant iawn, a,c os nad oeddynt hwy eu hunain a'u calon- au yn y gwaith, nis gellid disgwyl llawer iawn oddiwrthynt. Rhaid cofio fod yn y Weinydd- iaeth wyr o syniadau gwahanol iawn i'w gilydd ar y cwestiwn o ddarpariadau rhyfel- gar. Mae'n hawdd meddwl fod C.B. Morley, a Lloyd George, afuont mor bendant yn eu datganiadau ar y rhyfel ynINe Affrica, yn debyg o anghytuno a Mr. Haldane, Mr. Asquith, a Syr E. Grey, a hawdd deall fod y cyfarwyddiadau a roed i'n cynrychiolwyr yn lied amhenodol mewn canlyniad. Ac os nad oeddynt hwythau o ddifrif yn eu gwaith, hawdd deall eu bod yn lied ysgafala wedi cyrraedd yr Hague. Pan aeth Cobden gynt i wneud cytundeb Masnachol a Ffrainc, yr oedd pethau yn lied debyg. Ni chafodd nemor yn y Weinyddiaeth o'i blaid ond Gladstone yr oedd yr hen Palmerston fel pe buasai a'i holl galon yn ei wrthwynebu a phe na buasai calon Cobden yn ei waith, a bod ganddo benderfyniad di-ildio, buasai wedi taflu y cwbl i fyny. Mae ei lythyrau at Gladstone ar y pryd yn dangos hynny yn eglur. Goddefer i mi ddweyd unwaith eto fod y pynciau mawr sydd o dan ymdriniaeth yn yr Hague yn rhai y dylai y bobl-y lliaws— ymhob gwlad gymeryd dyddordeb ynddynt, a gweithredu yn egniol o'u plaid, oblegid y mae ein swyddogion milwrol, a'n hen wladweinwyr, heb agor eu llygaid eto, ond i fesur bychan iawn i'r syniad gogoneddus am gyflafareddiad ac anfuddioldeb dar- pariadau milwrol. Yng Nghynhadledd ddi- weddaf yr Hague, pasiwyd penderfyniad unfrydol mai dymunol fyddai cwtogi y dar- pariadau hyn ac eto, er y pryd hwnnw- tuag wyth mlynedd yn ol-mae ychwaneg- iadau at gostau milwrol y byd yn gant ac ugain o filiwnau o bunnau. Fe welir, gan hynny, fod pwyo syniad newydd i bennau ein Llywodraeth yn orchwyl anodd iawn. Rhaid deffro y bobl i godi i'w deffro hwy. Mae yn rliaid i'n harweinwyr gymeryd y peth i fyny-nid digon ydyw pasio pender- fyniadau mewn cymanfa, nid digon offrymu gweddi ffurfiol o blaid Heddwch. Rhaid ysgrifennu, darlithio, ie, a phregethu o blaid Cynhadledd yr Hague-nid politics ydyw hyn, ond ethics Cristionogaeth. Ond ymroi ati o ddifrif, fe godir Teml Heddwch yn gynt nag y mae llawer yn ei ddychmygu. Na ddigalonwn, ond gweithiwn. ELEAZAR ROBERTS. O.Y.—Ysgrifenwyd y sylwadau uchod cy" gweled yr adroddiad sydd yn y papur v. heddyw o araith bwysig Syr Edwa; d Fry, cennad Prydain yn yr Hagre. Bydd gennym air i'w ddweyd ar yr araith yn y BRYTHON nesaf. E.P. Hoylake, Awst 19.