Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Yr Unig Bapor Cymraeg a Argreffir yn Lerpwl. I WDalier Sylw GWLADFA GYMREIG PATAGONIA.- Gwelir gohebiaeth ddyddorol gan TRYFAN o Lannau'r Camwy ar tudal. 5 ac mewn llythyr eyfrinachol dywed :— I'B sawl o'ch darllenwyr a ddigwydd ymholi am berthynasau neu gyfeillion coll a allont fod yn y wlad hon, gallwch eu hysbysu drwy gyfrwng eich newyddyr y gallant gael fy nghyfeiriad o'r swyddfa yna, a bydd yn dda gennyf wneud a allaf iddynt, heb ddisgwyl na thai na gwobr. Cefais ddegau o ymholiadau o'r fath o'r Talaethau Unedig o dro i dro, a dichon y gallwn fod o gyffelyb wasanaeth i'ch darllenwyr chwithau." Hyfryd gennym ninnau ydyw cydsynio ag awgrym garedig Tryfan, a chyhoeddi unrhyw ymholiad am Gymry ar Goll a fforddolir yma.
DYDDIADUR.
DYDDIADUR. Lerpwl a'r Cylch. Medi 11—Cor Plant Rhyl St (B.) yn Assembly Hall Marsh Lane Medi 21—Eisteddfod New Brighton Medi 22-Cyfarfod Agoriadol Bousfield Street Hydref 2—Cyfarfodydd Blynyddol y Feibl Gym. Hyd. 15-16-Cyfarfodydd Blynyddol Cymanfa Ddir- westol Gwynedd ac Undeb Dirwes tol Merched Gogledd Cymru, yn Princes rd Hyd. 16-Te Parti a Chyngerdd Trinity Road (A) Hyd. 22—Te Parti a Chyngerdd Grove Street Hyd. 29-Cyf. Cystadleuol Unedig Fitzclarence St, Edge Lane, Douglas Rd., a Newsham Park Hyd. 30—T6 a Chyngerdd Gt, Mersey Street Tach. 5-8,—Nodachfa Cymru Fydd Anfield ac Everton yn St. George's Hall. Tach. 0-10—Cjfarfod Pregethu Bousfield Street Tach. 12—Te Parti a Chyngerdd Bousfield Street Tach. 16-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Philhar- monic Hall Tachwedd 24-Cvf. Pregethu yn Marah Lane. Tach. 26—Cyf. Cystadleuol Anfield Road. Rhag. 7 a 8-Cyfarfod Pregethu Chatham Street. Rhag. 8-Cyfarfod Pregethu Bedyddwyr Edge Lane Rhag. 15-Elfed yi Gt. Mersey St. Rhag. 16-Cyf. Blynyddol Ymdrech Grefyddol yn Crosshall Street. Elfed yn annerch, Rhag. 21—Plant y Pentre yn y Central Hall. Rhagfyr 25-Cyngerdd Blynyddol Crosshall Street Nadolig-Eisteddfod Gadeiriol Nantglyn Rhagfyr 26—Eisteddfod y Temlwyr Da. Rhag. 28-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall 1908 Ion. 14—Parch. F. B. Meyer yn Bootle Maw. 5, 6, 7.-Bazaar Eglwys Martin's Lane Maw. 28-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall Ebrill 25-Risteddfod M.C. Tyldcsley. Manceinion. Medi 14 a 15-Cymanfa Bregethu Booth Street. Medi 20 a 21—Oynhadledd y Bobl Ieuainc. Hyd. 12—Oym. Ganu Methodisti dd yn Moss Side. Cymru. Awst 20-24—YiEisteddfod Genedlaetholyn Abert&we 1908. Mehefin B-9-Eisteddfod Gadeiriol Mon
GlannauY Mersey
GlannauY Mersey Y Methodistiaid Calfinaidd. PRINCES RD—10, D. D. Williams, Manceinion, 6, S. G. Evans DAVID ST—10-30, S. G. Evans, 6, D. D. Williams FITZCLARENCE ST.—10 a 6, H. Roberts DOUGLAS RD.—10 a 6, J. Pritchard, Cosarea CHATHAM ST.—10-30 a 6, J. G. Davies,Casnewydd CROSSHALL ST.—10 a 6, R. R. Hughes, Caergybi ANFIELD RD—10-30 a 6, J. E. Hughes, Caemarfon NBWSHAM PARK—10 a 6, R. Jones, Bryn'refail BOOTLE—10 a 6, O. J. Owen PARKFIELD—10-30 a 6, E. Pierce, Trelogan SHACOMBE—10-15 a 6, B. Hughes, Llanolwy GARSTON—10-30 a 6, J. H. Howard, Cwmafon ROOK FHRRY—10-30 a 6, G. Ellis WALTON—10-30 a 6, J. Roberts WATERLOO—10-30 a 6, E. J. Evans PEEL RD—10-30 a 6, JL). Jones Hughes EDGE LANE—10-30 a 6, T. Jones, Coedllai WEBSTER RD—10-30 a 6, J. Owen, Ffestiniog LAIRD STREET—10-30 a 6, H. Pugh, Dyffryn WoODCHURCH RD-10-30 a 6, G. W. Griffith,Amlwch NEW BRIGHTON—10-30 a 6-30,0. Pritchard, Nefyn WEST KIRBY-ll a 6, O. J. Griffith, Dolwyddelen HUYTON QUARRY—10-30 a 6, SOUTHPORT—10-30 a 6-30, O. Eilian Owen WARRINGTON—10-30 a 6; R. Roberts, Caergeiliog WILLIAM MOULT ST—6,0. Jones, Wigan ELLESMERE PORT—10 30 a 6-30, E. Pierce BANKHALL—6-15, Yr Achosion Seisnig. OAKFIELD RD—10-45 a 6-30, T. G. Owen EVBRTON BROW—10-45 a 6-30, R. L, Powell CATHERINE ST—10-30 a 6-30, T. J. Parry, Rhuddlan FGRBMONT—10-30 a 6-30, R. G. Jones WILLMER RD-10-45 a 6-30, R. W. Ro berts Yr Anibynwyr. TABERNACL, BBLMONT RD—10-45, R. J. Mason. Llansilin, 6-30, H. Rees, Valley PARK ROAD—10-30, J. T. Hughes, 6, O. R. Owen GROVE ST-10-30,H. S.Jones, 6^J. Charles, Dinbych CLIFTON RD—10-30, W. A, Thomas, 6, T. W. Jones, Pentraeth GT. MKRSBY ST—10-30,T.W.Jones,6, W. A. Thomas, Cwmavon MARSH LANB-10-30, A. T. Evans. 6,D. J. Williams KENSINGTON-10-30,O.R.Owen,6,J. TonIas Hughesi Bwlchgwyn TRINITY RD-10-30, J. Charles, 6, H. S. Jones, Rhosymeirch LISOARD-IO-45, H. Rees, 6.15, R. J. Mason VLTTORLA ST—10-30,D.J.Williams,|6,A,T.Evans, Caer BALMORAL RD-10-30 a 6, W. E. Jones, Colwyn SOUTHPORT-lla 6-30, J. Lloyd, Southsea PRESCOT-10-30 a 6, H. H. Chambers Y Wesleaid. OAKFIELD—10-30, H. Tudor, 6, R. Lewis SHBRLOOK ST,—10-30, R. Lewis, 6, D. Davies TRINITY RD.-10-30, Cyf. Gweddi, 6, D. Jones EDGE HILL—18-80, D. Davies, 6, H. Tudor KNOWSLBY RD—10-30, D.Jones,6,Brodyr o Bootle MYNYDD Sictox-1.0-30,E.Humphreys,6,W.M Jones BIRKENHEAD—10-30, W. M. Jones, 6, J. Felix WIDNics-10-30 a 6, J. LI. Williams GARSTON-2-30, W. M Jones, 6, R. J. Williams EGREMONT—10-30, J. Felix, 6, E. Humphreys ROOK FERRY-2-30, J. Felix, 6, P. Lloyd Y Bedyddwyr WINDSOR ST.—10-30 a 6,0. M. Owen BOUSFIELD ST.—10-30,M. Griffith, EDGE LANE—10-30 a 6, Cwrdd Gweddi BALLIOL RD.—10-30 a 6, P. Williams EVERTON VIL.—10-30 a 6, J. Griffiths, Bangor WOODLANDS—10-30 a 6, J. Davies SEA COMBE—2-30 a 6, R. Myles Griffiths KNQWSLEY RD.—10-30 a 6, L, W. Lewis Eglwys Rydd y Cymry CANNING ST—10-30, W. A. Lewis, 6-30, E. Evans HIGH PARK ST.—10-30, E. Evans, 6, W. A. Lewis BOOTLE—10-30 a 6, Ellis E. Davies, Newtown BIRKENHEAD-IO-30 a 6, GARMOYLB ROAD-10-30, D. Davies, 6, W O.Jones DONALDSON ST—10-30, W. O. Jones, 6, D. Davies EGRBMONT-IO-45, R. T. Roberts 6-30, E Price Yr Eglwys Sefydledig SANT DBWI—10-30 a 6-30, J. Davies SANT ASAPH— 10-45 a 6-30, E. Williams. SANT DJUNIOL-ll a 6-30, J. D. Thomas ST WINIFRED, B'BEAD—10-45 a 6-30, J. Hughes
--0--EBION LERPWL.
--0-- EBION LERPWL. 13.5 y fil, ebe Dr. Hope, ym Mhwyllgor Iechyd y ddinas yr wythnos ddiweddaf, ydoedd cyfartaledd marwolaethau Lerpwl yr wythnos cynt. Y paham ei fod mor isel yn awr ac ar hyd yr haf ydyw, i ni gael cyn lleied o wres a chymaint o wlaw ac yr oedd y scrympiau cawodydd trymion yn peri fod awyr Liverpool, ebe Dr. Hope, mor iached a glannau'r mor a phennau'r bryniau. Ie, ie ond ymhell y bo chwi a'ch 13.5—beth am ein holidays ni ? ebe cannoedd o aelodau eglwysig. Ebe Gwilym Deudraeth, pan glybu briodi y Parch. W. Roberts, Trinity Road, a Miss Newell (Mair Gwynedd), Porthmadog :— I ROBERTS ddiarhebol-ei ddoniau, Eiddunaf fyd siriol Dyma ennill dymunol- Ennill gwiw Ne' well i'w gol. Mwynhaed iechyd, mynned uchel-fwyn 0 fewn byd a chapel [barch Boed ei fyd llawn bywyd fel Maes newydd i Miss Newell. Mae 'i wraig anwyl Mair Gwynedd-awen Iddo'n bob ymgeledd [bur Gwyn ei fyd-Pa gwyn a fedd I flino'i nefol annedd ? Da gennym ydoedd clywed am waith eglwys Wesleaidd Mynydd Seion yn anrhegu Mr. Jabez Jones ag anerchiad hardd a phwrs o aur ar ei ymddiswyddiad fel arwein- ydd y gan—swydd a lanwodd dros ddeugain mlynedd. Cyflwynwyd y dysteb gan y Parch. J. Felix, a chaed sylwadau gwerth- fawr pellach gan y Parch. Thos. Hughes. k Yn y dyddiau gynt a fu yr oedd Mr. Jones yn gystadleuwr tenor llwyddiannus a pher- yglus yn yr eisteddfodau lleol, ac yn un o aelodau amlwg yr hen Cambrian Choral Society pan y'i harweinid-neu ei mesmereis- id, p'run ?—gan y diweddar Wm. Parry ac yr oedd graen ar ganu pob aelod o'r Cambrian yn nyddiau Parry. Y mae Mr. Jones yn gerddor o anian ac nid yn dibynu ar ffyn-baglau nodiant a chelfyddyd ac erioed ni chlywais neb allai ddechreu cynnifer o donnau heb lyfr na dim i daro'r cyweirnod. Dygodd gor Mynydd Seion i safon uchel ymysg corau'r ddinas a gall edrych yn ol ar flynyddau o lafur diwyd ac ewyllysgar. Ac nid efo'r corau chwaith y bu efe'n ffydd- Ion a medrus yn unig, ond fel ysgrifennydd ac arolygwr yr Ysgol Sul, ac hefyd fel blaenor y mae wedi ymroddi ac aberthu hyd eithaf ei allu a'i gyfleusterau. Caffed brydnawn oes heulog. Ebe "Maldwynfab :—" Diolchwch trosof i'ch gohebydd am ei ysgrif wir dda ond boneddigaidd ar Gymry a'r Weddi Gyhoedd," a phwniwch arno i dda i ysgrif- ennu nes ein cael fel cenedl i weddio'n fyrrach a mwy o ddifri, oblegid beth atgasach na Defosiwn a dyfeiswaith-gweddi wag Ddigon llefn ei haraith Rhyw weddi fost, oeraidd, faith, Gweddi wibiog, ddi-obaith.' k Ein cymydog Mr. Robert Parry (Madryn), Bootle, ydoedd yr ail ar destyn y gadair ym Mhwllheli, ddydd gwyl y Banc. Da Madryn. lp;Q Ddydd Mercher diweddaf, yng nghapel y Wesleaid, Claughton Road, Birkenhead, priodwyd Miss Laura Williams, merch ieu- engaf Mr. a Mrs. Williams, Raffles Road, a Mr. Isaac Heys, Bootle. Gweinyddwyd y ddefod dlos, yng ngwydd cynhulliad mawr o gyfeillion ac ewyllyswyr da y ddau deulu, gan y Parch. Edward Humphreys ac ar y diwedd caed gwledd briodas amheuthyn yn yr ysgoldy tan y capel. Yn ddilynol, ym- adawodd y par ieuanc i dreulio eu mis met yn Llandrindod, ac yr oedd nifer y pwyddion priodas a gawsant yn lliosog a drudfawr. k Hysbysir fod y Parch. Edwin Evans, Garmoyle Road, wedi hysbysu'r eglwys o'i fwriad i roddi ei weinidogaeth i fyny yr ail Saboth o'r mis nesaf. Gofid calon i mi ydyw deall fod brawd mor garedig a phregethwr mor goeth a meddylgar yn y ddwy iaith, ar ffarwelio a ni. Un ag y cefais lawer awr o'i gymdeithas, a Ilawer cyngor doeth a gwerthfawr ganddo, ac nid yn fuan, os byth, yr anghofiaf ei barodrwydd i gefnogi pob symudiad a fyddai a thuedd ynddo i lesoli cymdeithas a llwyddiant achos Crist. 0 galon dymunaf ei lwyddiant yn dymhorol ac Y sbrydol.-Oyfaill.
Priodas yn Lytham.
Priodas yn Lytham. Un o briodasau'r tymor yn Lytham oedd yr hon a weinyddwyd ddydd Mercher y 14eg cyfisol. Yr oedd y capel Wesleaidd wedi ei addurno'n brydferth, a thra'r oedd yr ymwel- wyr yn gwneud eu ffordd i'r addoldy chwareu-' wyd detholion ar yr organ gan Mr. J. A. Earnshaw.. Y briodferch oedd Miss Nellie Jones, merch y Parch. Isaiah Jones, gweini- dog goruchwyliaethol y gylchdaith Wesleaidd, a'r priodfab Mr. Evan Jones, cyfreithiwr, Caernarfon, partner gyda Mr. Ellis Davies, A.S., a brawd i Mr. Prysor-Jones, fferyllydd, Park Road, Lerpwl. Y morwynion priodas oedd Misses Lizzie a Gladys Jones, chwiorydd y briodferch, a'r gwas oedd Mr. Coetmor Jones, brawd y priodfab. Elai Mr. a Mrs. Evan Jones i dreulio eu mis mel i fryniau'r Alban. o
0 GYRRAU MAELOR.
0 GYRRAU MAELOR. Bu rhai o aneddau pen tref y cyrrau yn gwisgo arwyddion galar y dyddiau diweddaf. Yn eu mysg yr oedd Bodeiron, preswylfa y Dr. E. D. Evans, brawd yr hwn, sef Mr. J. Oliver Evans, Halghton Mills, a dorrwyd i lawr gan angau. Un arall oedd Trevor Villa, lIe y preswylia y Parch. R. E. Morris, M.A.,yr hwn yntau a gollodd ei frawd,—y Dr. Morris, Llanidloes. Mae tynfa cydymdeim- lad llaweroedd tua'r ddwy annedd. k Eleni yw blwyddyn Jiwbili Corfforaeth y dref, ac mae symudiad ar droed i osod arbenigrwydd a nod cyfargof ar y flwyddyn. Mae hanner can mlynedd yn gyfnod pwysig yn hanes tref a dyn, ac mae ychydig yn aros sydd yn gallu rhifo Maerod yr hanner canrif, a'u galw wrth eu henwau, ac ambell un o'r Maerod hefyd a'u henwau ar restr y byw. Yn nhreigliad yr hanner canrif, newidiwyd gwedd bron bopeth ond yr hen Eglwys a'r Clochdy, a bu raid cyweirio 61 ewinedd amser arnynt hwythau. Mae rhych- au canrifoedd yn ychwanegu at gysegred- igrwydd yr hen adeilad, a gofalwyd i beidio cyffwrdd a dim mwy nag oedd yn angen- rheidiol i'w ddiogelwch. Ymfalchiia hen dadau y dref wrth olrhain camrau gwelliant- au eu dydd a'u tymor ond yn eu munudau tawel, ymhyfrydant mewn atgof o'u hoen- usrwydd ar balmant cerrig crynion yr hen heolydd. Ymddigrifant mewn galw i gof gwasgu eu trwynau yn erbyn ffenestri siop deganau Knibs," a siop fferins "Bili Rib," a dringo stepiau siop Bailey," i gael llithro i lawr y canllaw. Mae hefyd ambell un y tu yma i'r afon yn gallu cnoi eu cil ar oedfeuon a seiadau hen gapelau Pentre- felin a Stryd yr Abbad. k Nid oes nemor flynyddau er pan adeiladwyd yr ysgolion dyddiol a elwir yn Victoria Schools, a dydd Llun agorwyd y cynhygion am adeiladu rhai ereill, i'w hadwaen wrth yr enw Alexandra Schools, a derbyniwyd cynnyg y Brodyr Davies, adeiladwyr hynaf a mwyaf cyfrifol y dref. Costiodd y cyntaf ychydig dros E15,000, a bydd cost y bresennol dros fil o bunnau mwy na hynny. Mae yr ysgolion hyn, ynghyda'r Ysgol Sir yn Grove Park, y rhai mwyaf gorwych a chyfleus yng Ngogledd Cymru, ac mae eu traul a'u henwau yn dwyn tystiolaeth i ysbryd anturiaethus a thuedd teyrngarol y trefwyr. Mewn ystyr ddaearyddol, mae natur wedi dyrchafu y Rhos goruwch y cyrrau oil, ac mae ynni a thalentau ei phobl yn prysuro i sicrhau yr un safle iddi ymhob ystyr arall. Yr wythnos ddiweddaf gweiodd Wit-Bits yn briodol i gydnabod ei phwysigrwydd trwy anfon yno rai o'i brif wobrwyon am Limericks. Pan yn cydnabod talent ei phobl, mae yn ddiameu nad oedd Tit-Bits yn anghofio eu bod "fel y tywod ar lan y mor," mewn amlder, ac felly nid oedd yn ddiystyr o'i fuddiant ei hun. «Se Ond mae yn y Rhos Ddosbarth Bardd- onol," ac mae y sel a'r brwdfrydedd a amlygir ynglyn a'r dosbarth yn arwydd nad digon gan ei dewrion ymenwogi fel Limericwyr, ond eu bod yn ymgyrraedd at bethau gwell, a phethau ynglyn wrth iachwadwriaeth y deall. Mae y ffaith iddynt feddwl sefydlu dosbarth o'r fath, ynghyda'u dewisiad o wers- lyfr, sef Awdl yr Archdderwydd ar lesu o Nazareth," yn glod i'w chwaeth,ac yn esiampl i'r cyrrau ereill. Nid yw y fro heb dorraeth o egin beirdd, ac o dan ofal a diwylliad eu hathro medrus a hynaws o Mona Garden, daw y Rhos yn ardd yr awen os nad yn Libanus y beirdd. Nid yw y Gymdeithas Geltaidd heb fod yn llawn bywyd ac ynni ac wrthi yn torri gwaith ac yn ffurfio rhaglen y tymor nesaf. Trefnir i agor y Tymor gyda Rhys Lewis," yn cael ei arfelydda gan gwmni talentog o dan arweiniad j. M. Edwards, M.A. Yng nghwrs y tymor ceir hefyd ddarlith ar Dra- ddodiadau ac argoelion Cymru fu gan Llew Tegid. Maent hefyd wedi sicrhau gwasan- aeth y Mri. Harri Evans, Lerpwl J. L. Roberts, M.A., Rhyl R. Bryan, Caernarfon a'r Parch. D. Gwynfryn Jones, Llandudno. Pwy well oedd eu heisieu, a phwy well oedd i'w cael ? Gallai nad yw yn hysbys i bawb mai yn y cyrrau y llecha yr ardal dawel y rhoddwyd swyn ac anfarwoldeb i'w henw gan Williams y Wern, ac mai yno mae y gwr anwyl yn huno. Gydag ychydig o gyfnewidiadau, erys ei gapel fel yn ei ddyddiau ef, a daw ambell estron o bell i edrych ar ei fedd. Byddai gan y diweddar Thomas Hughes, Machynlleth, ddisgrifiad toddedig o'i ymweliad a'r Wern, ond heb ei ddawn a'i oslef ofer ceisio gwneud tegwch a'r disgrifiad Y dydd o'r blaen mi eis yn lied bell o fy ffordd i gael golwg ar fedd Williams y Wern. Wedi dod at y fynwent, yr oedd y gate wedi ei chloi, a bu raid imi ddringo dros y mur,—dringais i fyny yr ochr yma, ac i lawr yr ochr draw. Ceisiwn roddi fy mhen lie yr oedd ei ben ef, a fy nhraed lie yr oedd ei draed ef, a fy nwy- law lie yr oedd ei ddwylaw yntau. Bum yn gorwedd ar y bedd am hanner awr, ac wedi codi i ymadael, dywedais Wel, cysga hun yn dawel Dros ennyd yn y grafel Nes datod trefn y rhod. Chawn ni ddim ysgwyd llaw heddyw, ond fe ddaw y bore hyd hynny, ffarwel." 15b Wel, y Saboth a'r Llun diweddaf, bu y Parch. Henry Rees, Bryngwran, a'r Parch. Ben Davies, Panteg, yn cynnal cyfarfod pregethu yn y Wern, ac yr oedd y cyfarfod ymhob ystyr yn deilwng o gysylltiadau cys- egredig y lie. Y dyddiau hyn cymerir mantais ar wyth- nosau saib yr ysgolion dyddiol i gynnal rhad- wleddoedd yr Ysgolion Sul. Flynyddau yn 01 arferid prysuro i gadw llestri a chlirio y byrddau i gynnal cyfarfod a'i duedd. i hyrwyddo amcan a gwaith yr Ysgol Sul. Erbyn hyn mae sicrhau benthyg cae yn rhan anhebgor o'r, trefniadau,ac heb drafferthu nemor gyda'r llestri a'r byrddau, prysurir i'r cae i gynnal chwareuon a dyma fu y drefn gyffredinol eleni. Nid wyf yn gallu dweyd dim am rawd y chwareuon,—mae blynyddau er pan ymunais a mintai y cae. Gall eich ufudd was fwynhau cwpanaid o do cystal ag undyn, ond pan welais chwarae y' Cylch Min-fin," a rhai o frodyr a chwiorydd oedrannus y seiat yn cael eu swyno i'r cylch, penderfynais mai mwy gweddus a diogel i un wedi sadio mewn henlancyddiaeth oedd I cadw o'r cae.
Advertising
Neuadd y Twr, New Brighton- CYNHELIR Y SEITHFED EISTEDDFOD GERDDOROI FLYNYDDOL. Ddydd Sadwrn, Medi 21, 1907. Bei,rn,iai(i Cei-ti(larol:- HENRY COWARD,Ysw.,Mus-Doc.(Oxon.), DAN PRICE, Ysw.(Llund3,p a HARRI EVANS, Ysw. Rhaglen gyHawn i'w chael ond anfon stamp i'r Ysgrifennydd- LLEW WYNNE. I Hamilton Square, Birkenhea4,
LLANGOLLEN.I
LLANGOLLEN. (JWIVY n ac oer ydyw y tywydd tros ein dyffryn, a thrwy hyn yn peri distawrwydd ym myd masnach, a chwyno mawr. Ddydd Mercher diweddaf cynhaliwyd trengholiad ar gorff Edward Rowlands, Glyndyfrdwy, a gyfarfu a'i farwolaeth mewn modd echryslawn ddydd Llun, Awst 12fed, tra yn dilyn ei waith yn chwarel Moelfaen. Ymddengys ei fod yn dod i lawr yr incline mewn tryc llawn o lechi, a bod tri arall llawn yn dod ar ei ol. Canfu y rhai a ofalent am y rhai hynny fod brake y tryc ola yn gwrthod gweithio, a'i fod yn prysur gyflymu tuag atynt. Er eu diogelwc-h, gwelsant mai neidio allan oedd y goreu, er iddynt gael ychydig niwed wrth wneud liynny. Gwaedd- ychydig niwed wrth wneud hynny. Gwaedd- asant ar Rowlands, gan mai ef oedd ar y blaen, ond gan swn y gwynt a'r tryc, methodd y truan a'u clywed hyd nes iddo gael ei daflu a'i wasgu, a thorri ei ddwy goes mewn dau neu dri o fannau, a gwasgu ei goluddion.. Cafwyd help ar unwaith, a chyrchwyd ef i'r ysbyty yn Llangollen, ond er pob ymgais bu y truan farw, heb yngan gair a chladdwyd ei weddillion gan dyrfa liosog prydnawn Iau. Gan fod Inspector y Mines heb ei hysbysu mewn pryd, methodd a gweled y lie, a thrwy hynny gorfu gohirio y cwest hyd wythnos ymhellach.
BWLCHGWYN A'R CYLCH.
BWLCHGWYN A'R CYLCH. YR oedd Ysgol Sul M.C. Peiiiol wedi trefnu picnica ddydd Iau diweddaf yn ffermdy tawel Ty Hir, ar greigiau calch y Mwnglawdd, yng ngodreu mynydd Cyrnybrain end troes yr hin yn wlyb, a bu raid boddloni ar fwyta ac yfed yn y capel, er mawr siom i'r rhai ieuainc yn enwedig. Y diwrnod cynt, hefyd, yr oedd Wesleaid Penybryn yn llymeit- ian eu te blynyddol hwythau yn y capel, a mawr oedd y canmol ar y lluniaeth a ddar- parodd y chwiorydd ffyddlon. 3P;Q Cynhaliodd yr Odyddion yma eu cinio yn yr Hwntw Arms—pwy roes yr enw hwn, tybed ? Eisteddodd rhwng cant a chwech ugain wrth y byrddau, a chaed anerchiadau ar yr Urdd a'i manteision a'i gwaith da gan Mri. W. Davies, John Evans, a R. Rogers. 0 flaen y cinio, aethid yn orymdaith drwy'r heolydd, yn y diwyg Odyddol amryliw, a Soindorf Bres y Ffridd yn eu blaenori. Yn y Treuddyn, ddydd Ian, cynhelid Cymanfa Ddirwestol M.C. sir Ffiint, ac un ragorol ydoedd. Caed anerchiadau gan y Parch Wynne Davies, Bangor Mrs Humph- reys, Rochdale a Dr. LI. Williams, F.R.C.S., yr hwn a'i rhoes hi tat y gwaed i'r meddygon sy'n cyndyn ddadleu fod alcohol yn iaothlon. Na, nid yw'n maethu dim ond trueni a phechod a gresyn fod gwyr y ffisig yma yn camarwain rhai llai gwybodus i gredu fod lies yn y trwyth viffernol. Faint bynnag ydyw sir Fflint ar ol efo'i Chymraeg a'i chanu, y mae hi'r oreu yng Nghymru am sel a ffyddlondeb ei dirwestw.vr, a diolch i Dduw am wyr fel Bithel, Coedllai, a T. Jones. K Cyfarfodydd rhagorol a gaed yn Nebo (A.), Bwlchgwyn, ynglyn a van Genhadol John Williams, a rhai o bigion yr Anibynwyr Cymraeg a Saesneg yn annerch. Y mae mawr angen cyfarfodydd o'r fath yma--tae ddim ond or mwyn sobri tipyn ar ein lliaws meddw- on, sy'n warth i'n heolydd ar y Dydd Sanct- aidd. Wel, b'lo mae gwr y botwm gloew ? ebe rhywun. 0 'does dim modd cael gwen yr un crach-foneddwr am waith felly ond pe lleddid cwningen neu ffesant, caech holl blismyn a chipars y fro yn eich gwegil yn y fan. YR ERYR.
Advertising
IndebCoravvl Cymreip LERPWL. Arweinydd— Mr. IIARRI EVANS. DECHREUIR Y Rehearsals am y Tymor NOS FERCHER, MEDI 4, 1907, yn y Small Picton Lecture Hall (Y tu cefn i'r Museum, William Brown Street), Am 7=45 o'r gloch. Y mae lie i ychydig leisiau. Bydd y pwyll- gor yn cyfarfod yn yr ystafell uchod nos Fercher, Awst 28ain, o 7-30 hyd 9 o'r gloch, i dderbyn rhai a ddymunont ymuno. LLEW WYNNE, Ysgrifennydd, 1 Hamilton Square, Birkenhead COFIANT Y PARCH. Edward Morgan, DYFFRYN, GAN Y Parch. GRIFFITH ELLIS, M.A., BOOTLE. Cynhwysa y Cofiant amryw Ddarluniau. Wedi ei rwymo mewn Ilian. PRIS, 6s. Cyhoeddedig gan Gee a'i Fab, Cyf., Dinbyoh, ac i'w gael gan yr holl Lyirwerthwyr. Eisteddfod Gadeir Nantgly11 NADOLIG, 1907. Testyn y Gadair- PRYDDEST "Hynt Canrifoedd* Bydd y rhaglenni yn barod ddiwedd inlS Pris (trwy y Post) l1c. J. M. HUGHES, Y sg., Glasmor, b Nantglyn, DenM |* iverpool N orth "Wal £ ,l| Regular Daily Sailings (Sundays incl^ From Prince's Landing Stage (weather and elr cumsfcances permitting), Every day by La Marguerite (Fridays, St. Tudno "). Of 10-45 a.m., for Llandudno, Beaumaris, and Menai Bridge, allowing 4 hours at Llandudno, and due back about 7-30 P* (Carnarvon connection week-days,) 2-30 p.m. Mondays, Fridays, Saturdays, Augu Early boat on Mondays, due Liverpool 10-1D EXTRA SAILINGS 9-15 a.m., St. Tudno," Wednesdays, 21st for Llandudno and Holyhead due back 8-« 9-15 a.m.. Anglesey Trips, Thursday, 29tby Sunday, September 1st. Through Bookings from Principal StationS. tD For Fares, &c., apply to the Liverpool and Wales Steamship Company, Ltd., T. £ *'nac^ Secretary, 40 Chapel Street, Liverpool. u Guide, post free 3d. Channel Cruises* ¡!ie. FARE 6d. Two Hours' Channel of The Favourite Saloon Steamer PATHFINDERS* other Steamers, specially fitted up for Passe having every convenience on board. leaViWa^ Prince's Landing-stage [weather and other C'jjt" st,ances permitting] Week days 3.15 p in- V! Sunday 11.15 a.m. [short trip], arriving bach- 2.15,3.30, 4.30, 6.30. and 7.30 p.m. trY COMFORTABLY FURNISHED ot",try C Cottage TO LET in Anglesey. Dining Room, Kitchen, Pantry, Four & for lovely scenery, bracing. Convenie0 ep Shops, Post, Station, Church and Ctiapl, Terms moderate.-Apply 25X Brython. I make Boots That's my business..j0eS'' You buy Boots That's your b^s If you place any value on your feet 40ffi Come and let me build you a forget. An easy Shoe is equivalent, to ail easy coi GUTTERIDGE, — BESPOKE BOOT MAKER 291 West Derby Rd. My OnlyddreSB |fil|) Greenman's • COMPLETE^HOUSB Credit—Without Hi, ment—at Cash PrlC ^Qjf 491 RICE LANE, & 72 AIGBURTH ROAD, LlVEBpU Tel. 6y Walton & 3Iv Lark Lan To Advertiselrg PREPAID ADVERTISEMENTS FOR BIRTHS AND DEATHS, ^00- Is. per Insert MARRIAGES, T t!artioP' Is. 6d. per Inger SITUATIONS—Wanted «S I Is. for One If 9d. for Three Ia>er g a Meeti¡1g Rate for Trade Advertisements, Public etc., may be had on application. tJ}Ío6 Advertisements must be* to hand Tuesday ;t1el 9 to ensure publication in the following 1 ^.gjpg) All communications re Printing and Adver to be directed to the Firm EVANS, SONS & FOULKES, 0t Don Chambers, 8 Paradise Street, hV° > 356-358a Stanley Road, L'p001^ Telephone 2270. Richard OWeof PRACTICAL TAILOR and Jt ( COSTUME Ni 152 Dale LIVERPOOL. pfOP^p Printed and Published for J etors, EVANS, SONS & Chambers, 8 Paradise Street, Kg |j Tel. 1112 Central, by HUGH J0 358a Stanley Road, Liverpoo A County of Lancaster.
Advertising
Eisteddfod Llangollen— Rhestr gyflawn y testy nau yn awr yn barod. ac i'w chael, pris 6ch. drwy'r post 7Jc, gan Evans, Sons & Foulhes, Swyddfa'r Brython."