Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Nodion o Fanceinion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o Fanceinion. [GAN CYFRIN] Calon wrth Galon. DDYDD lau, yr 22ain, yng nghapel Moss Side, priodwyd y Parch. R. J. Jones, Ardwick ac Altringham, gyda Miss Martha Jones, boneddiges iouanc o'r Wladfa Gymreig, Patagonia. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. D. D. Williams, Moss Side, a W. Rowlands, Acrefair. Brecwestwyd yng nghartref y Parch. D. D. Williams, ac ym- adawodd y par ieuanc am ysbaid i Eden Cymru, sef Dyffryn Clwyd. Amlygodd lliaws trwy eu presenoldeb yn y gwasanaeth eu gobeithion a'u dymuniadau da. Yr oedd cynrychiolwyr o Gymru, Lloegr, a Phata- gonia yn dystion o'r amgylchiad hapus. Cynghaneddai harddwch celfyddydol gwisg y briodferch ar ddydd ei phriodas gyda'i phrydferthwch naturiol ei hun, nos y cynhes- odd calonnau y rhai a'i gwolsant ati yn barod a bydd ei dyfodiad i'n plith yn holl ddibryder iddi hi a'i phriod. Croeso iddynt gael hir ddyddiau gyda ni, yn llawn o fwynhad a daioni, a bydded llwyddiant yn enfysu holl rodfeydd eu bywyd. Priodas Arall, Yr wythnos ddiweddaf hefyd cysylltwyd gyda'r cwlwm priodasol y Parch, J. Maelor Hughes a Miss Garston, o eglwys Collyhurst. Gweinyddwyd y briodas yn Ashton-in- Makerfield. Bydd Mr. Hughes yn cartrefu yn Ffestiniog, a dymunwn lwyddiant a bendith iddynt eu dau ar eu lmniad, a'u cyfrifoldeb crefyddol newydd yn yr hen wlad. Wrth Ymadael. Dywedodd y Parch. Maelor Hughes fod ei gyfleti-sterau wedi bod yn lliosog ac amrywiol iawn. Clywodd bron yr oil o bregethau naawr y Central Hall yn ystod tymor byr ei arhosiad yn y Cylch Wesleaidd hwn. Manteisiodd ar y pregethau, a chwith ganddo golli y cyfleusterau. Hefyd sylwodd ar y fantais ddeiliedig o gael cystal llyfrgelloedd at ein gwasanaeth yn y dref hon. Pregethu roddodd fwyaf o fwynhad iddo. Dibynna llwyddiant gwasanaeth nid ar y pregethwr yn Uliig, ond ar y gwrandawyr hefyd, a chafodd belp mawr yn y Gylchdaith lion trwy wran- dawiad astud. Ni ddywedodd neb air croes Wrtho. Profa hynny natur dda a goddef- garwch. Llwyddwyd i'w wneud yn hynod ° hapus. Dyna eiriau ymadawol gwerthfawr gan un hoff gennym, ac un oedd yn hoff ohonom. Caiff groeso calon os syrth ei goelbren ryw- bryd eto ar Fanceinion. Gobeithio y gwerth- fawrogwn ni sydd yma o flwyddyn i flwyddyn y cyfleusterau y cyfeiria Mr. Hughes atynt, gan gofio mai colli peth gwerthfawr sydd yn amlygu ei werth yn iawn. firavo, Williams. %ma'r wobr o £ 30 yn Eisteddfod Aber- ^awe wedi ei hennill gan y Parch. D. D. Williams am brif draithawd yr wyl ar Efrydiaeth Gymharol o'r Testament New- ^d yng nghyfieithiad Salesbury, Morgan, a aiwygiad Parry." Nid yw'r ffaith mai ef oedd yr unig ymgeisydd yn lleihavi ei anrliyd- e<id, oblegid mae ataliad gwobrau ar destynau £ eill yn profi teilyngdod llawn ennillydd. ~^ae ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ^uechreu dod mor gyffredin i Mr. Williams aS yw i blentyn ennill gwobr geiniog yng Ilghyfarfod y Band of Hope. Beia rhai fod gweillidogion yr efengyl yn cystadlu am ^°brau, ac nid heb achos, os gwobrau man Aidant. Yn fy marn i, fe garwn weled mwy ^einidogion yn ymgeisio am y prif wobrau braethodol, oblegid dengys hynny i lawer o r onyt eu pwysau yn y glorian feirniadol, rhag iddynt fagu mympwy falch am eu gallu- Oedd, heb erioed eu testio. Nid oes debyg i Systadleuaeth am osod dyn yn ei gylch Priodol, a gwnelai les i lawer un sydd yn tybio bod yn rhywun pe dechreuent gystadlu. 8 enilla gweinidog wobr draethodol uchel, ellilla yr un pryd ymddiriedaeth ei gynull- 6*dfa a'r wlad yn ei allu ieithyddol, ei feistr- ?/aeth ramadegol, a'i fedr i frawddegu, a «r\vy hynny sail' yn esiampl i'w efelychu. --0--

PULPUDAU MANCHESTER.

Advertising

AP MADOC. --

Nodiadau Cerddorol.

Gwobrwyon am gyfansoddiadau…

Testyn arbennig i gyfansoddi.

Cystadleuon Offerynol

Advertising