Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
NOW READY OFFICIAL LIST OF SUBJECTS Llangollen Royal National Eisteddfod, 1908. Price 6d. ø Post 7d. 2 EVANS, SONS FOULKES, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road CYNRIC, Y TEILIWR CYMREIG 14 SMARTNESS WITH ECONOMY RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS AT REASONABLE PRICES. a E. C. Kenrick, ø62 RENSHAW STREET.* RAWFORDS ■ aeAM RACKERS
GLANNAU'R GLWYD.
GLANNAU'R GLWYD. 0 FLAEN Ustusiaid y Rhyl yr wythnos ddiweddaf, cyhuddwyd bachgen o'r enw Robert Jones, Lon Fawr, Rhuthyn, o ladrata ffon gwerth 6ch., a chafwyd ef yn euog. Er ieuenged Robert, yr oedd pennod neu ddwy o'i hanes yn Llyfr Cronicl Inspector Pearson eisoes. Dirwywyd ef i 2/6 a 18/- o gostau, ond am nad oedd ganddo ddim i dalu, anfonwyd ef i garchar am bythefnos. Feallai y buasai rhoddi y ffon a ysbeiliodd ar ei gefn yn amgenach cosbedigaeth iddo na'i garcharu. •5b Un arall o flaen ei well oedd Frederick George Ratcliffe o Birmingham. Cyhuddid ef o geisio chwip gwerth 13/- o siop Mr. Pepper, Kinmel Street, Rhyl, yn enw ei hen feistr. Yr oedd iddo yntau le amlwg yn y Cronicl, ac anfonwyd ef i garchar am fis. Dichon y buasai defnyddo'r chwip yn gwneud mwy o les i hwn na'i garcharu. Buasai hanes y Cythreulig o Gadara yn destyn eithaf amserol i offeiriad Dyserth bregethu arno bore Sul wythnos i'r diweddaf, oberwydd yr oedd un tebyg iddo yn chwarae ei branciau ymysg y beddau yn y fynwent. Onid yw yn gywilyddus fod ynfydion fel y Samuel Marsh hwn, o dan ddylanwad sucan y felltith," yn aflonyddu ar addolwyr, a thorri ar heddwch bore Sul mewn lie tawel fel Dyserth ? Dygwyd ef dranoeth o flaen Mr. Jacob Jones, Y.H., Rhyl. Er fod ei drosedd yn fawr, a bod hanner dwsin o benodau yn ei gondemnio yng Nghronicl Pearson, ar gais Mr. Roberts, un o wardeniaid Dyserth, bu Jacob yn dyner wrth Samuel -ni chostiodd y sport ond 11/8 iddo. k Gwaith pwysicaf Gwarcheidwaid Llanelwy ddydd Gwener diweddaf oedd dewis meddyg dros ranbarth Dinbych. Yr ymgeiswyr oeddynt Dr. David Lloyd, a Dr. James Hughes. Y cyntaf yn Rhyddfrydwr ac wedi aberthu llawer dros ei blaid a'r ail yn Dori ac yn ffyddlon iawn i'w blaid yntau. Dr. Lloyd ddewiswyd gyda mwyafrif o bump. Na ddyweder mwyach nad ydym i ystyried politics ymgeiswyr am sedd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid. Yr oedd y ty yn cael ei rannu yn Llanelwy mor deg ag yn y Senedd. Y naill ochr fel v llall yn ffyddlon i ddyn eu plaid. Yi oedd ambell i aelod wedi trefnu i forl. yn wael, neu i feddu rhyw ymrwymiad pwysig i'w atal i ddod i'r cyfarfod. k Cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol 'r diweddar Pandy Williams yn Christ Church, Rhyl, nos Sul wythnos i'r ddiweddaf. Y pregethwr oedd y Parch. Irfon Davies, Llandudno, a dywedir ei fod yn dda ac effeithiol iawn. Llongyfarchwn Mr. a Mrs. Williams, Portland Studio, Rhyl. Enillasant dair gwobr am photos yn Eisteddfod Abertawe. --0-- DYFYNIADAU LLEN CYMRU.-Gan y Parch. D. D. Williams, Manchester. Budd- ugol yn Eisteddfod Caernarfon, 1906. Ar- graffwyd yn Swyddfa'r BRYTHON fros Gym- deithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Pris 1
Yn Ynys Mon ac Arfon
Yn Ynys Mon ac Arfon [GAN BETHMA.] Llangefni. Bu cynrychiolwyr yma ddydd Iau yn cyf- arfod eu gilydd i gymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o gynnal cymanfa ganu i'r sir yn ol yr awgrym roddwyd gan Mr. D. Pryse Jones. Dyma y genadwri a gefais oddiyno Mae yn amlwg fod y syniad o gael cymanfa i'r holl sir yn addfedu, a gohiriwyd er mwyn cael llais yr holl gyfarfodydd ysgolion i'r pwyllgor gohiriedig, ond ofnir bellach nas gellir cael cymanfa hyd 1909. Dewiswyd y Parch. W. J. Williams, Llanfair P.G., yn llywydd, a Mr. E. M. Roberts, Llangefni, yn ysgrifennydd. Yr oedd tua 25 yn bresennol yn cynrychioli pob rhan o'r sir." Yr wyf wedi clywed ereill yn siarad am y mater. Y syniad cyntaf oedd cynnal y gymanfa ym Mhabell yr Eisteddfod wythnos y Sul- gwyn nesaf yn Llangefni. Nid heb reswm yr ofnai rhai y gall hynny fod yn milwrio yn erbyn llwyddiant yr Eisteddfod. Mae yr Eisteddfod i'w chynnal ar y Llun a'r Mawrth, a byddai yn afresymol disgwyl i ddynion golli eu gwaith am ddiwrnod arall yr un wythnos. Ofna ereill y byddai i'r gymanfa fawr ladd y cymanfaoedd sydd eisoes yn cael eu cynnal yn y gwahanol ddosbarthiadau. Yr oedd un yn awgrymu pe y penderfynid ei chynnal y gallesid sicrhau gwell telerau i gael pabell, byddai hynny yn fantais i'r Eisteddfod a'r gymanfa. Paham nad anturia Pwyllgor yr Eisteddfod brynnu pabell ? Credaf y byddai yn anturiaeth lwyddiannus. Gellid cael swm da yn flynyddol oddiwrthi trwy ei gosod at wahanol achosion, megis cyman- faoedd canu, pregethu, gan y gwahanol enwadau, a'r Sasiynau gan y M.C. A ydyw yr awgrym yn werth ystyriaeth ? Yr Eisteddfod. Ychydig o wobrwyon ddaeth i Fon ac Arfon oddiyno. Yr oedd yn ddrwg gennyf na fu y cor merched o Fangor yn llwydd- iannus. Nid ydynt eto am hongian eu telynau. Maent yn bwriadu paratoi at Langollen eto. Hir guro dyr y garreg ynte ? Yr wyf o galon yn llongyfarch Gwynfor a'i gyfaill Mr. H. R. Williams, yn llwyddo ar gyfansoddi tair drama a Mr. Henry Williams (Harri ap Harri) am gyfan- soddi Tuchangerdd. Yr oedd llwyddiant Harri yn destyn llawenydd i'w gyfeillion. Gan na wnaethant, da y gwnaeth efe ymgeisio ac ennill y deg punt. Gwelais Llew Tegid ar ol ei ddychweliad gartref, ac yr oedd yn dda gennyf ei weled yn fyw. Yn ol adrodd- iadau y pyre, gallasai dyn dybio fod yr anrhefn oedd yn yr Eisteddfod yn ddigon i ladd Llew Tegid. Mae hen gyfeillion Dyfn- allt yn Arfon yn llawenhau yn y ffaith ei fod wedi llwyddo i ennill y goron a dywed rhai y dylasai fod wedi ei chael cyn hyn Bethel, Arfon. Heno cynhaliwyd cyngerdd yma er cyn- orthwyo Mr. Edward Jones, Penrhos. Rai misoedd yn ol cyfarfu a damwain yn chwarel Llanberis, trwy ba un y bcollodd ei ddwy fraich. Gwaith rhwydd oedd gwerthu tocyn- au, gan fod cydymdeimlad cyffredinol gyda Mr. Jones. Yr oedd y cyngerdd yn lliosog a thalentau gwych yn gwasanaethu ynddo. Mr. John Griffiths, Porthdinorwig, yn llyw- yddu, Llew Deulyn, Nan tile, yn arwain ac yn adrodd, a Mr. O. Trefor Jones yn cyfeilio. Cafwyd elw mawr oddiwrth y cyngerdd, gan fod yr amgylchiadau mor eithriadol o ddi- frifol. Caernarfon. Cynhaliwyd arddanghosfa Mon ac Arfon heddyw mewn maes cyfleus dros bont yr Aber. Nid yw yn debyg yr anghofia y rhai fu ynddi y wasgfa gafwyd wrth ddychwelyd oddiyno. Nid yw darllenwyr y BRYTHON, feallai, yn g'ofalu fawr gan bwy yr oedd y ceffyl goreu yno, felly nis blinaf hwyarhestr y buddugwyr. Yr oedd yn llwyddiant mawr eleni. Arferid ei chynnal ym Mon ac Arfon bob yn ail flwyddyn. Yr oedd y pwyllgor eleni wedi torri tir newydd trwy gael cystadl- euaeth i Seindyrf. Ymgeisiodd 5, a dyfarn- wyd y wobr gyntaf i Lanberis yr ail i Baladeulyn, a'r 3ydd i Cynfa. Doniol oedd gweled y beirniad druan yn cael ei roddi mewn bocs i feirniadu. Nid oedd yn canmol llawer ar y gystadleuaeth. Ysgrifennydd yr arddanghosfa eleni oedd Mr. H. Parry Jones, Caergybi. At Hen Aelod. Nid oes gennyf awydd mynd i ddadleu cymhwysterau y personau a enwir fel rhai cymwys i arwain cor mawr i Langollen o Gaergybi. Yr wyf yn gymaint edmygydd o Mr. W. S. Owen ag unrhyw un, ac yr wyf hefyd yn gwybod am allu a chymhwysterau Mr. Hugh Williams ac yr wyf yn credu, pan y daw yr adeg i benderfynu rhwng y ddau, y bydd i'r cor ethol y cymhwysaf. Nid ydyw yn rhy ruan i baratoi. Mae yn y dref ddigon o gantorion i sicrhau cor teilwng, a chredaf f d digon eto yn aros o ysbryd cystadl- euol ynddynt, pe gelwid hwy at eu gilydd. Pwy wna ? A fyddai yn ormod gofyn i Mr. R. Gwaenys Davies neu Mr. Tom Roberts (Gwenerydd) ?
Advertising
Testynau Eisteddfod Liangollen.- Rhestr gyflawn y testynau yn awr yn barod, ac i'w chael, pris 6ch. drwy'r post 7Jc, gan Evans Sons O Foulkes, Swyddfa'r "Brython,"
I I 0 BIG Y G'LOMENj .......1i
I 0 BIG Y G'LOMENj .1 SAESON YN EIN P ALASA U.-Mewn arwerthiant cyhoeddus yn y Rhyl, ddydd lavi diweddaf, prynwyd Brynllithrig-palas a saif ar un o harddaf fannau Dyffryn Clwyd, nid nepell o Lanelwy, gan Mr. Hy. J. Burston, Llunden. A dyna'r hanes drwy Gymru gyfan-y Cymry yn ein bwthynod, a'r Saseon yn ein palasau. EVAN R0BERT.SV^ Taenir y si fod Mr. Evan Roberts, y Diwygiwr, yn hybu o'i afiechyd ac y bydd yn cychwyn cwrs o gyrddau diwygiadol yn y Rhos gyda hyn. Yn y Rhos y eyneuodd y tan gyntaf yn y Gogledd ar ddechreu'r Diwygiad ac yno hefyd y daliodd i gynnu hwyaf. Ifc CYMRY LLUN DEN,—Yr oedd pobl Aberystwyth a Chaerfyrddin yn cystadlu yn Abortawe am gael Eisteddfod Genedlaethol 1909 yno, ond Cymry Llunden y cafodd hi. A'r rheswm am hynny ydoedd fod Aberys- in twyth a Chaerfyrddin yn ei hawyddu oblegid y sylw trefol a'r elw sy' nglyn a hi ond Cymry Llunden oddiar wladgarwch ac er mwyn yr hen wyl ei hun. k AR Y PLWY.-Dengys adroddiad Mr. Williams, goruchwyliwr Cyfraith y Tlodion tros Gymru a Sir Fynwy, mai cyfanrif y rhai a dderbyniant beth o'r plwy yng Ngogledd Cymru yn 1907 ydoedd 16,057, o'i gymharu a 17,158 yn 1897. Yn 1897 talwyd 9108,461 i rai ar y plwy ac yn 1907 £ 117,862. Gol- ygai hyn fod poblogaeth Gogledd Cymru yn 1897 wedi talu 4/7!d y pen at gynnal 2 rhai ar y plwy, ac yn 1907 4/10 J. *5? DIWYDIANNAU SIR FON.-Drwy gar- edigrwydd Major Lawrence Williams, cyn- haliodd Cangen Mon o Gymdeithas Diwyd- iannau Cymreig ei harddanghosfa flynyddol yn y Parciau ddydd Sadwrn diweddaf. Yr oedd mawrion y sir yno'n gryno, a Lady Preston yn agor y shou. Y mae'r Parciau yn union o flaen bau Moelfre a byth nis gellir edrych ar y glasddwr trochionnog hwnnw heb gofio trychineb y Royal Charter. k NEFOEDD DDI-LADIN-Pan oedd un o'r efrydwyr yn methu'n lan a dod tros ei wersi, lediodd Mr. Josiah Evans, hen brifathro gwiwglod Ysgol Llansawel, emyn fel y canlyn Ni bydd Lladin yn y Nefoedd, Ni bydd Groeg yn Nhy ein Tad, Ni bydd Euclid nac Algebra 0 fewn cyrrau'r hyfryd wlad 0 na wawriai Bore llosgi'r rhai'n i gyd." A chyflwyna'r G'lomen yr emyn er eu cysur i rai o fechgyn y Bala a glywai'n cwyno am g'ledi Groeg wrth ddychwelyd yn y tren y dydd o'r blaen. RHAGLEN ABERTA WE-Un dila 'i gol- wg a bier ei threfniad ydoedd Rhaglen Eis- teddfod Abertawe, ac wrth son am gymysgu hysbysiadau a gwaith neu raglen ddyddiol yr Eisteddfod, "dyg ar got i mi," ebe Celt Llunden, "engraifft ddoniol a roddwyd gan Mr. Labouchere unwaith. Tystiai iddo weled rhaglen cyfarfodydd diolch am y cynhaeaf wedi ei threfnu ar gynllun hysbysiadol unwaith. Rhoid yr emynau mewn inc o un lliw, a'r llinellau hysbysebol mewn inc o liw arall, a dyma fel y darllenai golygydd y Truth un o'r emynau Hark, the herald angels sing Beecham's Pills are just the thing Peace on earth and mercy mild,— Two for man and one for child." «5z 0 LANELWY.—'Does dim blew ar dafod Gwarcheidwaid Llanelwy. Mewn atebiad i lythyr oddiwrthWarcheidwaid Tlodion Conwy yn gofyn iddynt ymuno a hwy i godi cartref i drueiniaid gwan eu. pwyll, Na, fydd a wnelo ni ddim a'r peth oedd yr ateb. Ac wrth drafod pwnc addysg y plant, pasiwyd penderfyniad yn datgan y dylai traul eu haddysg ddod o gist y Wladwriaeth. Ac ebe Mr. John Roberts wrth gefnogi Yr ydys eisoes yn talu cludiad tren rhai plant i'r ysgolion, a thoc fe fyddwn yn talu'r plant am fyned i'r ysgolion." Penodwyd Dr. David Lloyd, cyn-faer Dinbych, yn swyddog iechyd y Bwrdd, ar gyflog o Y,100 yn y flwyddyn. Yr ymgeisydd arall ydoedd Dr. James Hughes, oedd yn is-swyddog iechyd y rhan- barth er's 13 mlynedd. •fe ATHRAWON CYMRU YN BELGIUM. -Y mae 28 o athrawon ysgol sir Fflint, &c., newydd ddychwelyd o daith drwy Belgium, lie y cawsant groeso cynnes gan yr awdurdodau, ac y cawsant weled dulliau'r ysgolion yno o ddysgu'r plant. Gwlad ddwyieithog yw Bel- giumjle y siaredir y French a'r Flemish, a dy- ddorol gweld mor ddethe y dysgid y ddwy rhagor y gwneid hyd yn ddiweddar efo'r Saesneg a'r Gymraeg yng Nghymru. Byddis yn arfer yn rhai o ysgolion mwyaf gwledig Cymru a chanu emyn Milton :— Let us with a gladsome mind Praise the Lord, for He is kind," ond Letus gwydda glas a mei a ganai'r plant ar y llinell gyntaf, heb wybod ystyr y geiriau, a'r athro heb esbonio mo'nynt yn Gymraeg. 8^ 0 CAERNARFON.Brawd sy'n arrdach o flaen ei well nag o flaen ei waeth ydyw John Lovell, Caernarfon, lie y cyhuddid of unwaith eto ddydd Sadwrn diweddaf o herw-hela ar dir y Faenol. Daeth y cipars ar warthaf dau, y rhai a ffoisant, gan adael eu rhwydi a 37 o wningod. Daliwyd un, sef John Pritchard (Jan Bangor)-'does neb heb las-enw yng Nghaernarfon—ac anfonwyd ef i garchar am dri mis. Yn ddilynol, cymerwyd Lovell i'r ddalfa, a phan daerai Nee ei dwrne fod Lovell yn ei wely ar y pryd y dywedid ei weled gan y cipars, gwaeddodd Jac Bangor" mai Lovell ydoedd y gwr oedd gydag ef. Edrychodd Nee o chwith, a llaesodd gwep Lovell pan ei ddedfrydwyd i dalu £5 a'r costau. Sut y bydd hi rhwng y ddau pan ddaw Pritchard allan, oblegid y mae gwaed tair cenedl boeth yng ngwythi Lovell-y Cymry, y Gwyddelod, a'r Sipsiwn. FFORT UN ARGRAFF YDD. —Swm stad y diweddar Mr. D. W. Davies, argraffydd a chyhoeddwr, Caernarfon, a pherchen y Genedl ar un adeg, ac a fu farw rai wythnosau yn ol, ydoedd £ 7,602. Pe'n fragwr, yn lie cyhoeddwr, diau y cawsid dwy 0 0 rhwng y 7 a'r 6. •5b EGLWYS Y DRINDOD, LLANDUDNO. —Y mae'r Eglwys hon, er ei helaethed, yn rhy fychan i gynnwys cynulleidfaoedd mawr- ion yr ymwelwyr a dyrrant iddi ar y Saboth- au ac y mae'r rheithor yn deor ar gynllun i'w helaethu. Dyma'r Eglwys y darfu un o weilch direidus Llandudno, pan oedd rheithor arall ac Uchel-Eglwysig yn llyw- odraethu'r gwasanaeth ynddi, baentio'r geir- iau plaen a ganlyn ar y mur gerllaw ei drws :— Trinity Junction. Change here for Rome." K GWLAD LLEYN.—Fydd y G'lomeit byth yn b'rotach i ddisgyn nag yng ngwlad Lleyn, rywle rhwng Pwllheli ac Aberdarcn, lie y mae'r bobl yn lletach eu brestiau, ac yn fwy cydnerth ac esgyrniog nag yn odid i ardal yng Nghymru lie y clywir Cymraeg lletach nag yn y trefi; a lie y mae mursendod a choeg-fonedda eto heb andwyo'r bobl. 0 Leyn cadw dy goron. k CAPEL D-[NAS.-Dyma un o achosion hynaf y Methodistiaid yn Lleyn. Fe'i codwyd yn 1794, o fewn ychydig i'r Lon Fudr, ac fe'i helaethwyd yn 1831. Ddydd Mawrth cyn y diweddaf, Awst 20, fe'i hagorid o'r newydd trachefn, pryd y gweinyddid gan y Parchn. W. T. Ellis, B.D., Porthmadog R. Williams, M.A., Llanllechid, a Thomas Jones, Rhostyllen. Caed odfeuon da a sylweddol, ond nid oes eisieu ychwanegu gwag-eiriau'r gohebydd pren "eu bod wedi eu codi i'r drydedd nef gan arddeliad a grym.' ROBT. JONES, RHOS LAN.—Paham y discynnodd y G'lomen yn y Dinas ydoedd oblegid iddi gofio i'r Parch. Robert Jones, Rhoslan, awdwr diangof Drych yr Amseroedd, fod ynglyn a'r achos yma am gryn amser, gan breswylio yn Ty Bwlcyn gerllaw. Synnai na ddaethai i feddwl caredigion yr achos i ddodi coflech yn yr addoldy yn dangos cysylltiad gwr mor enwog a'r achos, ac i'w atgoffa ef a'i lyfr gorchestol i sylw'r genhedlaeth hon sydd mor anwybodus o'r ddau. Bu farw R. Jones, Rhoslan, yn 1829, yn nhy capel y Dinas Y triwyr a gymerent ran gyda'i gladdu oedd y Parchn. Robt. Owen, Nefyn Jas. Hughes, Crindir a Rd. Lloyd, Beaumaris a'r hyglod Michael Roberts, Pwllheli, yn codi'r corff," fel y dywedir, yn fy ty. Wyr hefyd i'r Rhoslan ydoedd y diweddar Mr. R. A. Jones, B.A., Lerpwl-a fu farw yn ei anterth, pan olygai fod yn un o hyr- wyddwyr blaenaf addysg Cymru a phe cawsai fyw, a fuasai wedi rhoi Mr. Birrell ar ben y ffordd sut i lunio Mesur Addysg mwy boddhaol a therfynol nag a wnaeth. k TINC Y LLAN. Cyn hedeg o'r Dinas, dyma damaid o Hanes Methodistiaeth J. Hughes am yr ardal uchod a'i chrefydd :— Y ty cyntaf y pregethwyd ynddo ydoedd Madryn, sef y palas a breswylir yn awr gan Lieut. Gen. Syr Love P. J. Parry. Lie arall yr arferid ymgynnull iddo oedd Brynodol. Ymddengys fod yma gryn gyrchu i wrando ar ryw achlysuron- cymaint felly ag i dynnu sylw dynion wrth fyned heiblo. Yr oedd person Tydweiliog yn teimlo yn dra chyffrous wrth weled y nifer pobl yn myned heibio'r Llan i'r ty uchod i wrando, a dywedai wrth y clochydd mewn nwyd wyllt, Tincia, tincia, Shion;' ond yr ateb a roddai Shion iddo oedd, Tinciwyf fi a allwyf, i gwch Brynodol y myn yr haid fynd i ddisgyn.' k DINAS DINLLE.-O Leyn, hedais i Ddinas Dinlle, ar y traeth rhwng Caernarfon a Chlynnog Fawr yn Arfon, lie sy'n fawr ei son am ei awyr iach a'i gyrchfa pobloedd. Y mae'r gwesty fyddai arfer a bod yma bellach wodi ei brynnu gan Mr. Stewart Barnard, Castell Brynbras, plas yn uwch i fyny rhyngom a'r Wyddfa, yr hwn sydd wed' gosod yr hotel i denant cyfrifol, ac wedi trefnu fod y bungalow helaeth sydd ynglyn a'r ty ac yn cynnwys 32 o ystefyll gwelyau, i'w droi yn llety rhad ac am ddim i blant tlodion i dreulio gwyliau haf ynddo. Ar hyn o bryd y mae plant Cartref yr Am- ddifaid u Bontnewydd yma, a phan bo eu hegwyl hwy ar ben fe'u dilynir gan blant y St. Mark's Home, Caernarfon. Yr unig amodau sydd ynglyn a'r rhodd hael ydyw fod dim llai na 25 na mwy na 50 ymhob trwp o blant derbynir plant y Llan nou blant y Capel; rhaid iddynt fod yn blant y bo eu rhieni yn rhy dlawd i fforddio holiday iddynt. a rhaid i'r rhai a ofalant am bob parti dalu eu costau o'r lie y cychwynant i orsaf Llanwnda, ac o'r orsaf honno yn ol gartref, a bod yn gyfrifol am ddiogelwch a chlydwc.h y rhai bach. Dygir holl draul eu bwydo a'u lletya gan y Barnards hael o Frynbras, a gwyn eu byd, medd y G'lomen, am fendith mor dda ac i rai mor deilwng ohoni. K MULOD FFLINT.-I chwilio am lond ei phig at FRYTHON yr wythnos hon, hedodd y G'lomen o Lerpwl fore ddydd Llun diwedd- af, tros sir Gaer hyd yn nhre Fflint yn y caeau tuhwnt i'r dre simneuog gwelodd y G'lomen beth anghyffredin iddi hi, er cymaint a heda ol a blaen, sef trwp o fulod yn pori'n hamddenol, hob bwn na llwyth, na rhegwr wrth eu sodlau. Yn y fan daeth i'w chof englyn Saesneg Gwilym Deudraeth, ac fe'i lediodd uwch eu pennau So well he'H sing a solo-in the field, With a full crescendo Rolling, in ending, you know, A tender rallcntando. Ar unwaith, dyma'r pen mul yn deehreu canu, ac i roi taw ar ei nod anynad, lediais englyn Cymraeg Alafon 0 archnadwr yr erchnodau—di-serch Dos hwnt in gororau A dilyn dy bedolau Gyda cheg wedi ei chau." Ac fe'i cauodd, Alafon. Y GWYR-DYFOD.—Er hin mor anwadaj' a haul a chwmwl yn chwarae mig cyhyd» dywedir fod cnwd dda o wyr-dyfod, sef Y visitors, ar hyd trefi glannau'r moroedd, aC yn ffermdai canol gwlad Cymru. Ond e mwyn cael tawelwch ac osgoi'r crogbris, Y mae pabellu yng nghilfachau'r mynyddoed a'r bryniau yn beth pur gyffredin. k BYWOLIAETH Y FRONGOCH mae'r Parch. T. Pugh Jones, B.A., cura, Meliden, swydd Fflint, wedi derbyn by^o iaeth y Frongoch, ger y Bala. Bu Mr. gynt yn gurad Penycae, Llanfair Dyffry Clwyd, a Llysfaen, ac am ddwy flynedd Y gaplan y carchar yn Rhuthin. A dyna r swydd roes iddo destyn ami bregeth a chy111 hariaeth fyw. Pj2 ar, Y CYNHAEAF YD.—Diolch am wyddion ein bod am gael ha bach ac er i'r cynhaeaf gwair gael ei andwyo fawr gan hin wleb ac anwadal, y wac l' amaethwyr yn mawr obeithio y ceir ig am hynny gyda'r cynhaeaf yd, ac mfti |! a fydd englyn Bardd Nantglyn y fiwyda} hon eto :— Naf eleni'n felynwyn—gywreiniol Goronodd y flwyddyn Nis caed yd yn!oes co' dyn Mawrdda bwys mor ddi-beiswyn." k ARDDANGHOSFA MON AC ARF0hr-< Ar ol ei chynnal bob yn ail rhwng a Bangor am 56 mlynedd, symudwyd y arddanghosfa hon eleni i'w chynnal yn "bref Caernarfon ddydd Sadwrn diweddaf, e' mwyn cyrraedd cylch lliosocach o ffermwY Daeth llawer o bobl yno, ond mwy tila, o un, meddir, ydoedd yr anifeiliaid. A dynnu pobl yno, trefnwyd cystadleuae wyr y cyrn, a seindorf Llanberis oedd yn 0 o bump. Mr. Frank Owen, Manchester, 0 y beirniad, a go goch oedd canu r °y ebai ef. TEYRNGED VR CLIO.— Y mae CapJf Langdon, pennaeth y Clio, neu "10119 y hogiau drwg sydd wrth ei hangor Nghulfor y Fenai, wedi cael gair °,dl\j0 ysgrifennydd y Brenin yn dymuno n y i'r gwaith bendithiol a wneir ar ^r,j f llong a'r wythnos ddiweddaf Due o Sutherland o'i yot i weld y CIIO, tb 'roedd yntau wrth ei fodd yn gweled y Iwyddiant ar y gwaith o ddiddyfnu'r bec_ o'u direidi ac o'r enafyddiaeth a ddae j, farn arnynt oddiwrth eu rhiaint a u hiy^fe| iaid fel y taflodd £ 5 at y gwaith da. CV yn unig a wel yr arwynebol yn y bee vt gwell Capt. Langdon a'i gynort 1 angel islaw iddo, a chyn'gado'r llong, cod angel ar dop y cythrel yn ami un ohony ft? i ABERTH LADY MOSTYN.—Fe g° Lady Mostyn y dydd o'r blaen i jewels i'r banc i godi arian at dalu 0 athrawes gynorthwyol a'r 116g ar £ mortgage er mwyn cynnal ysgol ddy j Talacre ymlaen er gwaethaf Cyligor Fflint. t"ilipg HER generous self-sacrifice in main the Talacre Catholic School at expense has evoked the a tion of all who appreciate devoti principle," rfa ebe'r Catholic Times, yr hwn a berity » ganmoliaeth ar y Lady, a diau arn V phethau da ereill y mae hi yn eu cylta caiff hi fynd i'r nefoedd yn syth heb aros ddiwrnod yn y purdan. CYMDEITHAS ^LLA W-FER RAEG.—Cynhaliwyd Cynhadledd o wyr llawfer Gymraeg y Deheudir yn .J Gyhoeddus Abertawe ddydd Iau diw JJ, Cadeirydd y gynhadledd oedd Mr. ^0> Thomas, Llandeilo. Yr oedd yn Mri. G. Griffiths (Lerpwl), M. Griffiths I prys einion) John Jones (Treorci), r Griffiths (golygydd y Cylchgrawn Lerpwl, G. Rees (Clydach-ar-Dawe), Phillips (Llyfrgellydd Abertawe), G. (Cwm-twrch), J. H. John (AbertaW '5 Penderfynwyd sefydlu adran o'r gyir*iyii^ gogyfer a'r De, a chynhygiwyd y rhai c yn swyddogion am y flwyddyn .0p i 1 Cadeirydd, Mr. M. Griffiths, Ysg., Mr. D. Rhys Phillips, t^r Pwyllgor, Mri. Griffith Rees, Cly Dawe, J. Jones, Treorci, D. D. R°' jj, Caerdydd, Griffith Hopkin, Cwtntw Rhys D. Jones, Rhydychen. Penderfynwyd fod cyfarfod pwyllg0 j X y gymdeithas, De a Gogledd, i %y iiae^0, dydd cyntaf o Eisteddfod Llangollen y flwyddyn nesaf. Pende hefyd fod cystadleuaeth mewn Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaetno g0i# Rhoddir bathodyn aur a gwobr i a ysgrifenno Lawfer air am air yn o ,^0 i der o 120 eiriau y funud, a'i drawsysg llaw hir mewn 40 munud.—F. E- +
Geiriau Olaf Gwyr
Geiriau Olaf Gwyr Cusanwch fi, Hardy. Yr wyf -V." ,ydd' i Dduw ddarfod i mi wneud fy nyle -Arglwydd Nelson. PENNAETH y fyddin. "-Napoleon. MAE'N dda."—Washington. Rhaid i mi gysgu'n awr."—52/ btlllgjl ( Teimlaf fel pe buaswn i fod J eto.Syr Walter Scott. f ".Gadawer i'r goleuni ddyfod i me 0 Goethe. btØ) BETH, onid oes modd llwg angau ?"-Cardinal Beaufort. $1J(JiY¡'s' Good bye, drive on."—Christmas Anibyniaeth am byth."— Cerais Dduw, fy nhad, a'm rny y Madame de Stael. { "Nid yw ond ychydig bwys P >' «, gorwedd y pen."—Syr Walter "Nis gall dyn marw wneud dim yn 6 —Franklin. Fy holl eiddo am foment o a Frenhines Elizabeth. cvvV110^' Gadawer i mi farw yn swn canu Mirabeau. ^yl^' Nid oes ddyferyn o waed ar fy Ji Fred. V. o Denmarc. '111 flltlf "CYFLWYNAF fy enaid i DdnW, a i'm gwlad."—Jefferson. eale^ fi Tybiwn y buasai marw'n & Louis XIV. JCf 'RwAN am olcuni.Humboldt. th we 'Dyw marw ddim cymaint o be cwbl."—Yr Archesgob Tait. J Ond sylweh ar y gwahaniaeth set 11 "R ydwyf fi gyda chwi bob a eofl ddIwedd y byd. -CRIST. ? Son am fyn'd a diflanu y am fod yma'n fwy nag o'r felae