Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

MAELOR A'I PHOBL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MAELOR A'I PHOBL. MAE'R ysgrifell yn rhydu yn gyflym wrth ei gadael mor segur, ac yr wyf yn ofni fod y ddawn ohebyddol yn rhydu yr un modd heb gael ymarferiad. Rhaid i minnau, fel y rhelyw o feibion dynion, gael seibiant, a rhyfedd fod dyn yn fyw, ac ystyried leied o seibiant wyf fi a llawer ereill yn gael. Rhyfeddod fod llawer ohonom yn fyw ar ol y 'Steddfod Fawr yn y South, a rhyfedd os yw y Llew o Fangor yn cael rhuo dim ar ol bod yn ceisio dychrynu y tyrfaoedd i ddistaw- rwydd a threfn yn Abertawe. Nid at i ddweyd dim am yr Eisteddfod mae'r BEYTHON wedi rhoddi adolygiad llawn a manwl o'r holl weithrediadau. Tipyn o nodion lleol, fel arfer, dyna gyrch fy ysgrifell. Yfed Te. Wythnos i heddyw bu plant Jerusalem yn mwynhau eu te—y te a arlwyir iddynt yn flynyddol am eu cysondeb a'u ffyddlondeb i'r Ysgol Sul. Mae'r boneddigesau yn rhy liosog i'w henwi, ond yr oedd y dalent i wneud te mor loew ag erioed. Dyna'r hanes fel y ceir ef gan ohebydd newyddiadur. Ymadawiad y Ficer Pritchard. Mae y Parch. Thomas Pritchard, ficer poblogaidd y Rhos, wedi derbyn penodiad i Lanfwrog, Rhuthyn, a chwith fydd gennym ei golli o'n plith. Un o'r clerigwyr hynny sydd yn adnabod Cymru, yn deall ei hangen, yn cydymdeimlo 4'i dyheadau, yn ymdrechu ei dyrchafu yn feddyliol, yn foesol, a chrefyddol. Ficer ag y gellir dweyd wrth y Comisiwn llymrig sydd yn chwilio i hanes yr eglwys yng Nghymru, sydd yn cydweithio yn galonog ag Ymneilltuwyr yn nyrchafiad y genedl, yn foesol a chrefyddol. Pe buasai mwy o offeiriaid Eglwys Loegr o gyffelyb feddwl ac ysbryd a'n hoffeiriad ni, nis gwn a fuasai eisieu y Comisiwn i eistedd o gwbl. Pam na buasai gwr fel Mr. Pritchard yn ymyl y gadair esgobol ? Nid oes eisieu dweyd pader i berson, meddai rhyw hen air, a 'does dim eisieu ateb y cwestiwn i bawb sydd yn gwybod hanes yr Eglwys. Rhyfedd na buasai Cyngor yr Eglwysi Rhyddion yn trefnu i gael cyfarfod ymadawol iddo. Feallai eu bod, ond fy mod i ddim yn y gyfrinach. Cyrddau Pregethu. r Cynhaliodd eglwys Ebenezer ei chyfarfod pregethu wythnos i heddyw, pryd y gwas- anaethwyd gan y Parchn. O. R. Owen, Lerpwl, a J. D. Owen, Castell Newydd Emlyn -yr olaf yn frawd i'r Parch. O. J. Owen, gweinidog yr eglwys. Man cynnull yr eglwys hon ar hyn o bryd yw Ysgol y Cyngor, Ponkey ond mae seiliau y deml newydd sydd i fod yn gartref parhaol yn prysur gael eu darparu. Cafwyd gweinidogaeth amserol a'r gweision dan eneiniad. Heddyw- Pan yn ysgrifennu, cynhelir cyfarfod pregethu y Wesleaid. Y gweision gwahodd- edig rydyw y Parchn. W. O. Evans, Rhyl, ac O. Madoc Roberts, Towyn. Er yn ysgrif- ennu cyn terfyn y cwrdd, ni phetrusaf ddweyd fod yr efengyl yn cael ei thraddodi yn glir a grymus, a'r gweision dan arddeliad. Bum yn meddwl ddwy flynedd yn ol na byddai angen cwrdd pregethu yn y Rhos, dim ond fel tipyn o wledd i saint. Ond mae gan yr efengyl waith dirfawr eto i ennill yr ardal dan lywodraeth. Crefydd Crist. Gobeithio y bydd y cyrddau hyn yn gynhorthwy i'r amcan hwnnw. Gweinidog Newydd. Mae eglwys Salem (A.), wedi sicrhau olynydd i'r Parch. T. Ogwen Griffith, Rhyl, ym mherson gwr ieuanc o'r enw Mr. Jones o Lanrhaiadr-ym-Mochnant. Trefnir cwrdd ordeinio iddo wythnos i heddyw, pryd y disgwylir rhai o'r enwogion yma i'r cyfarfod. Bydd gennyf air pellach ar hyn wedi cael rhagor o fanyhon. OFFA.

O'R DE.

LLANGOLLEN.

Gweinidogion Newydd Llangollen.

CYMRY AR WASGAR.

NOD AC ESBONIAD.

Advertising

CODI PREGETHWYR.