Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Nodion o Fanceinion.
Nodion o Fanceinion. [GAN CYFRIN] Pryfyn Llyfr. *ami. y cyfansodda neb o Gymry Mancein- ion iyfr i'w gyhoeddi. Un o blith yr ychydig yw Mr. T. Pugh, pregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid yn Harpurhey. Deallaf l fod bron a chwblhau liyfr a eilw yn Nod- lcjQ hanesyddol a beirniadol ar Robert Owen 0 r Drefnewydd." Teimla fod niferi mawrion 0 weithwyr, a'r mwyafrif yn Saeson, yn llawer liyddysg yn hanes gweithrediadau Robert Owen nag ydyw ei genedl ei hun. efft'od<] y ffaith awydd yn Mr. Pugh i geisio dwyn y Cyrmo-Gyindeithasydd yn fwy lysbys ac adnabyddas i'r Werin Gymreig. Gobeithio y caiff yr anturiaeth gefnogaeth. Mae hanes Robert Owen yn dra dyddorol, ?herwydd ei ddyrchafiad cyflym a rliyfeddol. :rephreuodd ei yrfa yn blentyn eiddil a lied ^diaddysg. Tua ugain oed yr oedd yn oruchwyliwr melin gotwrn yn y dref lion, a'i |yflog yn £ 300 y flwyddyn, a chafodd *500 yn fuan wedyn, ac yna yn rhan-berch- Onnog melin. Ychydig o'i oes dreuliodd yng Nghymru, nac hyd yn oed ym Manceinion pWaith, gan iddo symud i'r Alban ac Amer- lf'a a Ffrainc. I)iau mai dyna'r rheswm Cryfaf fod ei -gydgenedl wedi esgeuluso ei goffadwriaeth. Hefyd, lie sal i dyt'u Gym- ^ithasiaeth y w y gaion Gymreig. Medi, Cywain, Diolch. DYlla, un o drioedd y cynhaoa. Teithiais ar ffordd Crewe yr wythnos ddiweddaf fp^elais ychydig yd heb ei fedi, ac wmbredd ei gywain. Digwyddais gyfarfod a ^owthyn o Gymro oedd ar ymweliad ag un 0 r ffermydd. Cwynai yn sobr am y tywydd, ac fod y ffermwyr o'u couau bron wrth fethu cael yr yd adref. Digon tebyg fod llawer I ^sgub a'i phen yn y gwynt hyd y wlad ^yddi draw. Fodd bynnag, y Sul diweddaf cynhaliodd Wesleaid Hardman Street eu cyfarfod diolch- garwch, ond nid am yr yd yn unig y diolch- ond am bob math o ffrwyth y tir. esiamplau ynghyd i'w dangos, yn ?lrin, afalau, a phob rhywogaeth,? a gwerthir ^y ar noson waith er mwyn yr achos. Da lawn. T ^regethwyd y Sul gan y Parch. Tryfan 0l*es a Daniel Williams, gweinidog newydd Y gylchdaith. Derbynied Cymry'r cylchoedd Mr. Williams gyda chroeso calon agored. CYIneryd yr Iau. Yr wythnos nesaf bydd y Parch. Robert Williams, Garregddu, Ffestiniog, yn dod i gymeryd gofal eglwys Pendleton. Efe yw'r o'r fintai fugeiliol ddaeth yma mewn ^'yddyn o amser. Mae Manceinion wedi r^arae rhan bwysig gyda gwyr y pulpud, yn eglwysyddol a phriodasol. ^Cynhelir cyfarfod sefydlu Mr. Williams ^•ydref 23. Da gennyf weled ei enw ymysg Uifer a gyhoeddwyd yn Sasiwn Bangor i Sefyll arholiad y Gymdeithasfa. lialul ar y Fodrwy. Arnlygwyd dyddordeb neilltuol mewn P?l0das a weinyddwyd ar awr anterth ddydd Archer, yr 28ain, yng nghapel Moss Side. Pan unwyd Mr. Evan Evans, .aelod o gapel ^liion Road, a brodor o Lanbedr-pont- ?rteplian, gyda Miss Cissie Hughes, merch <r- Phylip Hughes, un o ddiaconiaid Moss He. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y ^chn. R. Roberts, Chorlton Road, a D. D. illiams. Mae Mr. Evans wedi derbyn y o bostfeistr yn llythyrdy Llanymddyf- }' Hvnt lwyddiannus a dedwydd i'r au hyd ddiwedd eu gyrfa. Dyma ddy- Ulllad syml Eryddon iddynt :— bi-atal fydd y clod iti,—Evan Nwyfus, 'rol priodi Can cymaint fo'r braint a'r bri Yn oes oesoedd i Sissie, I trust that the interesting—marriage, So merry and charming, Through grace, with brightness will bring True bliss and future blessing."
---0-pULPUDAU MANCHESTER.
-0-- pULPUDAU MANCHESTER. SABOTLIJ MEIH 8, 1907. b Y Methodistiaid Calfinaidd. oss SIDE-10-30 a 6-30, W. R. Owen, Bethesda rj^NOLETON—10-30 a 6, Robert Williams H A^'OOD ST—10-30, T.R.Jones,6,B Wvn Roberts • AHDwiok—10-30, E. W. Roberts, 6, T. R. Jones, Porthdinorwig b Y Wesleaid. SANT—10-30, G. Tibbott, 6, Bf. o Didsbury C^HURST-10-30, J. M. Hughes, 6, T. O. Jones 10-30, J. Price, 6, W. M. Jones CAT AT1~-0, E Roberts, (>, J. Williams j £ **Akia—10-30, Bf. o Didsbury, 6, W. T. Jones I*°LBs-10-30, T. 0 Jones, 6-30, J. M. Hughes a 6-30, 11 a 6-30 Y Bedyddwyr. LNI, EDljOCK ST—10-30 a 6, J.H.Hughes ^6stokt.—10-30 a 6, LNS LANE, S UTTON—10-30 a 5-30, g Yr Anibynwyr. C^HST-10-30, G. Evans, 6-15, M. Llewelyn 0n» ON Rd—10-30, W. W. Jones, 6, R. Roberts SAT N's RD—10-30, M. Llewelyn, 6, G. Evans -10-30, R Roberts, 6, W. W. Jones 10.30, a 6, B. A. Pickering ^SWOKTH—10-30, Cwrdd Gweddi, 6, Pregeth b Yr Eglwys Sefydledig 1I:Wr SANT-11 a 6-30, H. R. Hughes
Advertising
COFIANT Y PARCH. Edward Morgan, DYFFRYN, |V GAN Y 0rch. GRIFFITH ELLIS, M.A., BOOTLE. y Coflant amryw Ddarluniau- Wedi ei rwymo mewn llian. PRIS, 6s. gan Gee a'i Fab, Cyf., Dinbych, ao 1 w gael gan yr holl Ljfrwerthwyr.
I ISenedd y Byd.
Senedd y Byd. X. DICHON fod llawer o ddarllenwyr y BRYTHON yn tybied fy mod yn gwneud mwy o sylw nag sydd raid o helyntion Senedd yr Hague. Goddefer i mi ddweyd yn ostyngedig fy mod i yn tybied nad wyf. Nid y materion hynny ag sydd yn cael y lie mwyaf yng ngholofnau papurau y dydd ydyw y pethau pwysicaf bob amser. Caniataer i mi, gan hynny, am ychydig o droion eto, gadw sylw fy narllen- wyr ar Seneddjjy Byd tra bydd yn eistedd, jy oblegid yr wyf yn credu, pa waith bynnag a wna neu a esgeulusa, yn yr ail senedd hon, fod y ffaith ei bod wedi cyfarfod fel y mae ynddo ei hun yn rnarcio cyfnod pwysig yn hanes y byd. Ofnid ar y declireu, fel y gwyddis, na cheid dwyn cwestiwn mawr lleihad darpariadau rhyfel ymlaen yn y Gynhadledd hon, er mai dyna oedd amcan mawr galwad yr un gyntaf. Yr oedd Germani yn erbyn, ac yr oedd rhyfeloedd China a Rwsia a Japan, ac un y Transvaal, wedi parlysu ewyllysiau y gwledydd hynny i ymaflyd yn y pwnc. Chwarae teg i C.B." a'i Weinyddiaeth, pa fodd bynnag, ar eu cais fe ddygodd Syr Edward ^Fry, ein cennad ni yn yr Hague, y mater gerbron ar yr 17eg o'r mis diweddaf, a gosododd y mater i lawr mewn araith glir a chymhedrol. Swm yr araith ydoedd fod costau darpariadau milwrol yn llethu y gwledydd, fel y cytunodd Gynhadledd 1899 yn unfrydol, ac eto eu bod er y flwyddyn honno wedi codi o 257 i 320 mliwn o bunnau yn y flwyddyn. Dyna sefyllfa pethau yn yr ugeinfed ganrif o Gristionogaeth,er fod beirdd a phroffwydi ymhob oes wedi bod yn breu- ddwydio am oes euraidd o Heddwch. Gwyddai fod y Galluoedd oil yn awyddus i leihau beichiau llethol milwriaeth, a thuag at wneud unrhyw beth yn y cyfeiriad hwnnw, yr oedd Prydain yn barod i hysbysu yn flyn- yddol i'r Galluoedd hynny a wnelai yr un peth ei rhaglen o longau rhyfel newydd, a chost eu gwneuthuriad. Byddai cyfnewid golygiadau fel hyn yn help i ystyried pa ostyngiadau y gellid eu gwneud. Cynhygiai yn ffurfiol, gan hynny, y penderfyniad can- lynol Bod y Gynhadledd yn cadarnhau penderfyniad Cynhadledd 1899 mewn per- thynas i gostau rhyfel, ac wrth weled fod y costau hynny wedi cynhyddu yn ddirfawr ymhob gwlad ymron er y flwyddyn honno, fod y Gynhadledd yn datgan mai dymunol fyddai parhau i gymeryd y cwestiwn hwn i ystyriaeth ddifrifol." Siaradodd y Llywydd'o blaid y penderfyn- iad, a datganwyd cymeradwyaeth o'r hyn yr oedd Prydain yn barod i'w wneud, a phas- iwyd y penderfyniad uchod yn unfrydol. A dyma'r oil y mae Prydain yn ei gynnyg wecli'r cyfan Ar yr olwg. gyntaf, ymddeng- ys nad yw yn ddim mwy na'r mynydd mewn gwewyr yn esgor ar lygoden. Nid yw yn debyg yr effeithia i leihau dim ar y dar- pariadau milwrol, ac y bydd y Dreadnought- iaid mawrion yn cael eu hadeiladu er popeth. Ond pan gofiwn fod yn amheus ychydig o amser yn ol a elwid yr ail Gynhadledd hon ynghyd ai peidio, ac os gwneid, a ellid dwyn y cwestiwn hwn gerbron, hwyrach fod cyn- hygiad a basiwyd fel hyn yn unfrydol yn gam ymlaen. Mae posiblrwydd pethau mawr ynddo, pa fodd bynnag. Mae pwnc Cyflafareddiad wedi bod o dan sylw yn y dyddiau diweddaf, ac ymddengys y cytunwyd yn lied unfrydol ar fod llawer iawn o faterion, megis ystyr cytundebau a'r I cyffelyb, i gael eu penderfynu o hyn allan trwy gyflafareddiad. Mae cwestiynau felly wedi bod yn achosion rhyfel laweroedd o weithiau. Onid cwestiwn o'r fath, gan gofio, a achosodd ryfel trychinebus yn y Trans- vaal ? Cymerwn gysur, gan hynny, fod cwestiynau o'r fath i gael eu penderfynu heb dywallt gwaed. Ond rhyfedd fel y mae llywiawdwyr y byd eto yn gofalu dweyd nad ymostyngent i adael i gwestiynau ynglyn a'u hanrhydedd i gael eu penderfynu gan gyflafareddwyr. Pan soniodd yr Unol Dalaethau yn 1865 am gyfeirio cwestiwn yr Alabama i gyflafareddiad, cododd Arglwydd John Russell ei wrychyn yn union, a dywedai wrth yr Unol Dalaethau :—" Her Majesty's Government are the sole guardians of their own honour." Druan ohono Penderfyn- wyd y mater trwy gyflafareddiad wedi'r cwbl, a chadwodd Prydain ei hanrhydedd. Mae syniad Arglwydd John Russell yn aros oto yn y cylchoedd uchel, fod cwestiynau o anrhydodd gwlad i gael eu golchi ymaith trwy dywallt gwacd. Dyma yr hen syniad a ddaliodd i fyny yr arferiad o ymladd duels am gynnnifer o flynyddoedd. Mae eisieu dysgu egwyddorion gwell i'n llywiawdwyr a'n pendefigion, yn ddiau. Cawn weled cyn hir bellach faint y mae Cynhadledd yr Hague wedi ei ddysgu ar y mater hwn. Mae Sosial- iaid yn eu Cynhadledd yn Stuttgart wedi datgan yn groew yn erbyn rhyfel a mwy, wedi penderfynu y defiiyddiant foddion i w atal ac i'w derfynu, pan dyr allan. Yn wir, soniant am droi allan mewn- streic pan ddechreuir rhyfel. Mae'r bobl ymhob man, fel y deuant yn gallach, yn teimlo mai hwy sydd yn gorfod ymladd, ac fel y deuant yn fwy adnabyddus o'u gilydd, nad itnt i ladd eu gilydd i foddio eu llywiawdwyr, fyddoyn mcthu setlo eu cwerylon heb hynny. Teim- iant We should have peace at home, And all things would be right, If those who made the quarrels Were the only ones to fight." ELEAZAR ROBERTS. -0--
Nodiadau Cerddorol.
Nodiadau Cerddorol. [GAN HU GADARNI- Yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwersi i'w dysgu. DICHON na fu Eisteddfod eto nad oedd digon o le ynddi i ganfod gwendidau, ac nid yw y rhai diweddaraf oil yn eithriad, fel y dengys eu gweithrediadau. A'r ddiweddaf oil— Abertawe,—nid oes a fynnom ond a rhan gerddorol y rhaglen, a bydd bras-olwg ar y trefniadau yn gymorth i ni ddwyn i'r amlwg amryw betliau y buasai yn well pe buasent yn wahanol. Yn y brif gystadleuaeth gorawl, rhoddwyd i'r corau faes llafur yn cynnwys rhan olaf treithgan Mendelssohn, "St. Paul." Gwelir ar unwaith ddiben y lilaes llafur hwn, sef ceisio mwy o lafur oddiar law y cantorion, a'u gwneud yn gyf- arwydd a chyfanwejthiau cerddorol. Y mae cryn lawer i'w ddweyd o blaid ac yn erbyn gwneud detholiad o'r fath ar gyfer y brif gystadleuaeth. Gwelir yn amlwg duedd hyrwyddwyr y modd hwn o ddethol i C Droi yr Eisteddfod yn Musical Festival ac yn y man i roddi perfiormiadau o gyfan- weithiau, a gwneud i ffwrdd a'r elfen gystadl- euol, yr hyn sydd un o nodweddion yr Eis- teddfod erioed. Amheuir y priodoldeb o gymeryd y cwrs hwn ar hyn o bryd. Yn y lie cyntaf, rhaid wrth gerddorfa i gyfeilio yn y perfformiadau a rydd y corau, ac o ba le eu ceir ? Nid yw Cymru wedi cyrraedd y safle ag y gall corau fyned a cherddorfa gyda hwy, ac ni wna rhyw fath o gerddorfa y tro. Rhaid iddi fod yn gyfryw ag y byddo'r holl chwareuwyr yn deall eu gwaith yn drwyadl. Hyn nis gall y corau gael. Eto, a chaniatau fod pwyllgorau yr Eisteddfod yn darparu y cyfryw ar gyfer y corau ddiwrnod y gystadleuaeth, beth am y rehearsals y bydd y corau eu hangen cyn myned i'r ymdrech ? Gwelir fod y peth yn amhosibl. Yn wyneb yr anhawsterau hyn, a than yr amgylchiadau, nis gall pwyllgorau wneud yn well na dewis cerddoriaeth na fyddo'n dibynnu ar y gerddorfa ond i fesiir bychan am ei effaith ac hyd yn oed gyda cherdd- oriaeth leisiol yn unig, nis gellir dweyd ein bod wedi cyrraedd tir eithriadol o uchel. Fel y sylwasom, yr anhawster yw cael Cerddorfa deilwng i fod at wasanaeth y corau ar bob achlysur Dichon y gellir dwyn hyn oddiamgylch yn rhai o brif drefi y Deheudir, ond lied ddi- obaith ydyw yn y Gogledd i roddi perfformiad teilwng o unrhyw waith. Rhaid benthyca cerddorfa o rai o'r trefi Seisnig, neu o'r hyn lleiaf rhaid cael leaders pob adran o'r gerddorfa a fyddont yn deall eu gwaith yn drwyadl. Ami y ceir perfformiad o weithiau cyflawn mewn lleoedd gwledig, ond nid heb dreuliau enfawr trwy ddwyn chwareuwyr o bell ffordd i gynorthwyo. Gall yr Eisteddfod fforddio hyn gyda'r cyngherddau hwyrol, ond nis gellir gweled pa fodd y cysonir Detholiad o Gyfanwaith fel testyn y brif gystadleuaeth, gan na cha y corau yr effaith a fwriadwyd gan y cyfansoddwr gyda dim ond pianoforte accompaniment tra wrth y gwaith o barotoi ar gyfer yr ymgyrch. Mater arall a, ddygwyd i sylw yn ystod yr Eisteddfod oedd hyn,—y dylai pob cor fyddo'n cymeryd rhan mewn cystadleuaeth gael cyfle teg i glywed y naill a'r liall yn mynd trwy y prawf. Ar hyn o bryd, yn y seddau olaf y gwelir y corau fel rheol, pan fyddo y gystadleuaeth yn myned ymlaen. Mantais o'r mwyaf i gor ydyw Gwrando ar eu Cydymgeiswyr yn myned drwy y rhannau ag y byddont hwy eu hunain yn hyddysg ynddynt. Yn sicr nis gall fod gwers bwysicach i'w chael na hon. Awgryma un fod lie yn ymyl y 11 llwyfan i'w neilltuo ar gyfer y corau fyddo'n cystadlu. Rhagorol. Ond gofynner i un- rhyw bwyllgor drefnu hyn, a bron na ddywed- wn beth fyddai eu hateb Rhaid i'r Eis- teddfod dalu yn ariannol yn gyntaf, cyn y gellir meddwl am wneud iddi dalu yn gerdd- orol." Ie, cynllun rhagorol, meddwn eto. Oni ellir rhoddi ystyr iaeth i hyn ? Y mae yn tra theilyngu hynny. Gwnaed crybwylliad am y priodoldeb o gael. Perfformiadau Cerddorfaol gan gerddorfa o'rdosbartli cyntaf yn ystod y Eisteddfod, sefydliad ag sydd yn rhoddi cym- aint o sylw i gerddoriaeth a sefydliad y cyrch mwy o gerddorion Cymreig iddo nag unrhyw un. Nis gall dwy farn fod am briodoldeb hyn. Byddai y cyfle yn wers dra phwysig i arweinwyr a chyfansoddwyr Cymreig i weled a chlywod gweithiau nas ceir hwynt odid byth yng Nghymru. Nid oes eisieu ond rhoddi y cyfleustra iddynt i'w glywed, fel ag y deuant i'w garu fel y carant gerddor- iaeth gorawl ar hyn o bryd. Digon gwir ond cadwer golwgjjddiysgog ar yr adran y mae yn bosibl i gorau Cymreig ragori ynddi, sef cerddoriaeth leisiol.
Advertising
COFIANT a PHREGETHAU Y DIWEDDAR Barch. ROBERT OWEN (Ty Draw), gan y Parch. JOHN OWEN, Wyddgrug. Telerau arferol i Lyfriverthwyr. Archebion i'w hanfon i'r Argraffydd- HUGH EVANS, 356-8a Stanley Road, Neu y Parch. WM. OWEN, 11 Greenbank Road, LIVERPOOL To Advertisers PREPAID ADVERTISEMENTS FOR BIRTHS AND DEATHS, Is, per Insertion. MARRIAGES, Is. 6d. per Insertion. SITUATIONS-Wanted & Vacant. APARTMENTS-Furnished and Unfurnished, Is. for One Insertion. 9d. for Three Insertions. 0 Rate for Trade Advertisements, Public Meetings etc., may be had on application. Advertisements must be to hand Tuesday Morning to ensure publication in the following issue, All communications re Printing and Advertising, to be directed to the Firm EVANS, SONS & FOULKES, Don Chambers, 8 Paradise Street, L'pool, or 356-358a Stanley Road, L'pool. IF YOU WANT SEASONED Oak, Mahogany, Birch, BlacK Walnut, Ash. White Wood, Fitchpi ne, Yellow Pine, Doors or Mouldings WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Undeb Ysgolion M.C. CARDIAU SAFONAl, RHAGBAROTOAWL HYD SAFON Y 9fed, I'w rhoddi yn nwylaw y plant, yn dctngos iddynt y Maes Llafur, Darllen a Dysgu Allan am y flwyddyn. Pris (assorted) 3/6 y Cant. I'w cael gan HUGH EVANS, 444 Stanley Road, Liverpool. Maes Llafur Undeb] Ysgolion M.C I rai dros 21 oed Llowlyfr or Efengy', Matt, 15 gan y Parch.W. Williams, Hirwaen. Pris, 1/3 I rai dan 21 oed-Gwerslyfr ar Efengyl Matt., 1-15. gan y Parch. W. Williams, Rhostryfan. Pris, 2c. Ax werth gan HUGH EVANS, Llyfrwerthwr, 444 Stanley Road, ESTABLISHED 1876. WILLIAMS & HUGHES, LADIES' & GENTS' TAILORS, 21 Brunswick Road, Tel. 0118 Royal. LIVERPOOL. Est. OWFNS & fft Telephone 1885. vTTLnia a 404y Royal Office êJ Shop Fitters, DECORATING, PLUMBING, GASFITTING, &c And all kinds of Jobbing, 24 Hart St., London Road, LIVERPOOL. Vl% IL T P. Neil Campbell, 84 DURNING RD. (Yn agos i Goleg Hyfforddiadol Edge Hill), LIVERPOOL. Cv Js> TYNNU DANNEDD YM qP DDIBOEN. çs A'u llenwl ag Aur, Arlan M yn y blaen. wv Rhoddir Cyfarwyddyd a phritiem yn rhad. 4 Ortau: 9yborehyd 8 rrhwyA Gweinyddet at FoneddigesoM, Ptllitlayr: 445 Royal. Y DULL AMERICANAIDD 0 @ Goroni a Phontio Dannedd. Jones' Hotel (Established over 100 years). Suffolk St., Poll Mall, London, (Adjoining Trafalgar Square.) Successors to Mr. Roberts, Thanet Place. Telegraphic Address -'Pleasant London. Proprietor-H. R. JONES. The Well=Known Remedy 4f from Wales for 4t RHEUMATISM, LUMBAGO, SCIATICA BACK-ACHE, WEAK OHEST, SORE THROAT, BURNS, GUTS, BRUISES, &c., is 11 A MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. Sold in Bottles, I/li, & 2/6, by Grocers and Chemists, or from the undermentioned Lancashire Representative- EDWARD R. HUGHES, 13 St. Michael's Road, Liverpool, S. Agent- LEWIS JOB LEWIS, 20 Verulam St., Lpool. Book of Testimonials, &c., sent. Post Free on Application to the Manufacturers- Morris Evans & Co., FESTINIOG, N. WALES Testynau Eisteddfod Llangollen.— RHESTR GYFLAWN Y TESTYNAU YN AWR YN BAROD, AO I'W CHAEL, PRIS 6ch., DRwy'R POST 71c., GAN EVANS, SONS & FOULKES, SWYDDFA'B "BBYTRON." CERDDOROL, &c. The Cambrian School of Music. Liverpool Principal: MR. John Henry Roberts Mus. Bac. (Cantab.), A.R.A.M., F.T.S.C. (London). ASSISTED BY QjU A L I FIE D a PROFESSORS a di ,The Branches taught include- Pianoforte, Organ, Violin and all Orchestral Instruments. Theory of Music, Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition. ø ø Solo Singing & Voice Production. Students Specially Prepared for, Local Examinations. POSTAL LESSONS In Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition, Accoustics, in all Tonic Sol-Fa College, Subjects. MUSICAL COMPOSITIONS REVISED AND CORRECTED. Full Particulars froin- J. H. POBEPTS, 149 GROVE ST., L'POOL; Mr. HARRY EVANS (Fellow of the Royal College of Organists) Conductor of the Liverpool Welsh Choral Union Teacher of Singing ALSO ORGAN PIANOFORTE (ADVANCED). Students prepared for Degrees and Diplomas ADDRESS 26 Princes Avenue, LIVERPOOL THE LATEST SUCCESS. ROBERTS' WATCH METRONOME A combined Watch and Metronome. All tempos seen at a glance. No adjustment re- quired. Nothing to get out of order. Every musician, whether Student, Singer, Teacher, Organist or Conductor, should possess one. TESTIMONIALS- A great acquisition to musicians." Simple,' useful, and portable." "Most ingenious and handy.' Very good idea. the best I have seen." Most useful on account of its simplicity and portability." A most valuable little thing, quite unique, ex- cellent." PRICE 15/- [postage extra] To be had from the inventor and patentee Dr. R. D. GLYN ROBERTS 40 59 Crawford Avenue, Liverpool. 0 OS OES GENNYCH Swllt DoacAnvvyd Drwg Gellwch gael ymadael a'r ddau drwy brynnu potel o Prysor-Jones* LUNG BALSAM, Y Fecldy giniaeth at ANWYD, PESWCH CRYGNI, DOLUR GWDDF, &c. Os cymerir dogn gydag ychydig o ddwfr cynnes cyn myned i orffwys, fe gynhesa y frest a sicrheir NOSON DDA. Parotoedig yn unig gan D. PRYSOR-JONES (Olynydd i S. K. Drew), Fferyllydd, 291 Park Road, LIVERPOOL. Moses O'R CAWELL A'R MOR COCH, Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd, &e. Gan PEDR HIR. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS, Swyddfa'r "Brython, Lerpwl. ø Pris, 3c. (11