Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
NOW READY OFFICIAL LIST OF SUBJECTS Llangollen Royal National Eisteddfod, 1908 Price 6d. a Post 7d. 2 EVANS, SONS FOULKES, I Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road CYNRIC, Y TEILIW ø CYMREIG SMARTNESS WITH ECONOMY RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS AT REASONABLE PRICES. o E. C. Kenrick, 062 RENSHAW STREETS ream Crackeo
fr TREM ., ' TRWY Y DRYCH.…
fr TREM TRWY Y DRYCH. j • —Mam— 9 9 am ■■■ Llangybi NID gwybyddus i holl ddarllenwyr y BRYTHON fod yng Nghymru o leiaf dri Llangybi. Nis gwyddom ni ddim am yr un ym Mynwy. Mae gennym achos da i gofio yr un sydd yng Ngheredigion, cyfagos i Landdewibrefi. Pentref gwled- ig, tawel, wedi ei gylchynnu a golygfeydd tlysion, yw hwnnw, a diau fod iddo enwau a'i henwogodd. Ond mae y Drych yn awr ar Langybi yn Eifionydd. Mae y pentref ryw filltir o'r orsaf. Bycldai y teithwyr gynt yn estyn eu pennau allan o'r tren i weled a chlywed y dyn bychan a arferai ofalu am yr orsaf honno, gan mor hynod y gwaeddai enw y lie. Ond y mae efe wedi rhoi i fyny waeddi er'sblyn- yddoedd bellach, a'r orsaf wedi colli ei hynodrwydd drwy hynny. Ardal y Cewri." DYNA deitl llyfr swllt o waith Mr. R. Evans (Cybi), yn cynnwys byr-hanes o Enwogion Plwyf Llangybi a'r Cylch." Agor y llyfr dyddorol hwn barodd i ni sylwi ar Langybi y tro hwn. Mae y terfynau yn lied gyfyng o ran daear- yddiaeth, ond gwelwn yma genedlaethau o enwogion, ac yn eu plith rai y gellid yn hollol briodol eu galw yn gewri." Ni oddefai gofod y llyfr fanylu ar neb, ond mae yma grynhodeb destlus a dyddor- ol braidd o'r oil ag y perthynai dim nodedig iddynt. Gwelir yma y fath enwogion a Dewi Wyn o Eifion ac Eben Fardd,—awdlwyr nad oes neb hyd yn hyn wedi taflu eu cysgod drostynt. Am gryfder a rhwysg cynghaneddol, ni chaed, a mentrwn ddweyd nas ceir, trech y ddau fardd yma a gellir ychwanegu fod Eben heb ei guro hyd yn hyn mewn dyfais i gynllunio a choethder iaith ac arddull. Gwelir yma hefyd enw y Parch. Morris Williams (Nicander), awdwr un o'r darnau rhyddion mwyaf clasurol mewn Cymraeg ddiweddar-Oymeriad Rhufain. Ond nid yw ei awdlau i'w cymharu ag eiddo Dewi ac Eben, ynghydag amryw ereill o'i gyd- oeswyr. Dyma hefyd enwau y gweinidog Methodistaidd enwog, Richard Jones, Wern Sion Lleyn, Sion Wyn o Eifion,- athro barddonol Eben Fardd :— Yn fachgen syn wrth draed Sion Wyn Y bum yn derbyn dysg." Robyn Wyn, y marwnadwr enwog, oedd frodor o Langybi, a phwy na wyr am yr emynwr eneiniedig, R. ap Gwilym Ddu o Eifion ? Taliesin o Eifion a anwyd yn Ty'n y Gors, gerllaw Llangybi. Efe oedd awdwr yr englyn adnabydd- us :— Wedi'r gorffen a'r pennyd,—yr Iesu Pan roes fyny'r ysbryd, Welaf yn ei olaf ennyd Yn gwyro'i ben i garu byd." Bu Huw Tegai yn weinidog ar eglwysi Anibynol Capel Helyg, Chwilog, ac Abererch, a bu'n foddion i ddeffroi a meithrin ysbryd llengar yn y cylch nad yw ei effeithiau wedi colli hyd heddyw. Richard Jones, Soar. Yr oedd y gwr galluog hwn yn haeddu cofiant iddo ei hun. Meddai gynheddfau meddyliol cryfion, ac wedi eu diwyllio yn uwch o lawer na'r cyffredin yn ei oes ef. Yr oedd yn ddiwinydd gwir alluog, yn anibynol ei feddwl, ac yn ymresymwr cadarn. Armin ydoedd ar amryw bync- iau o gred, a chymerodd ran ddeheuig yn y dadleuon mawrion ymha rai y ceid y fath ysgrifenwyr ag Ap Vychan, J.R., Dr. Thomas Rees, Cendl,—Abertawe wedi hynny,—Dr. William Davies (Hen Wyliedydd), Vulcan, &c. Ysgrifennai i'r Cronicl a'r Eurgrawn fynychaf dan yr enw Cromwell, a daliai ei dir yn deilwng o'r gwyr galluog ereill. Meddai graffter anghyffredin mewn dadl, a gwelai fan gwan ei wrthwynebydd ar unwaith. Nid oedd yn ddoniol," ac nid ymgeisiai at hynny. Manwl, yn hytrach na dyddorol," ebai Cybi am dano fel llenor. Ond yn hynny yr oedd ei ddiogelwch a'i nerth fel dadleuwr. Meddyliai yn glir fel y grisial, ac ymresymai yn llym fel ellyn. Nid oedd cysgod efelychydd ynddo a'i lygaid ei hun yr edrychai efe ar bob pwnc, a chymerai gymaint pwyll i ffurfio ei farn fel nad hawdd fyddai cael ganddo ei newid. Mynnai gystwyo bywyd i gyd i resymeg (logic), ac feallai mai ei nerth hwn oedd achlysur ei wendid hefyd. Mewn byd ymha un y mae cymaint o dryblith, a chymdeithas ymha un y mae cynnifer yn dilyn teimlad yn hytrach na rheswm, bydd y neb a geisio doddi bywyd cymdeithasol i fold rhesymeg yn sicr o ddyfod i wrthdaraw- iaw a rhywrai beunydd, ac o deimlo'n siomedig yn ei dasg aflwyddiannus. Gryfed oedd yr elfen'hon ynddo, fel y cerddoddTam lawer T o flynyddoedd o Langybi i Chwilog i'r capel-yn lie mynd i Gapel Helyg yn ymyl-am yr unig reswm, hyd y gwelem ni, nad oedd rhyw- rai y barnai ddarfod iddynt gamweddu ar ryw fater wedi datgan eu hedifeirwch. Dyn o egwyddor anhyblyg ydoedd, a chryf yn yr hyn yr oedd llawer ereill yn wan ond daeth i weled o'r diwedd ei fod yn disgwyl gormod oddiwrth ddynion ffaeledig, a dychwelodd i'w hen gartref crefyddol yng Nghapel Helyg. Dyn anghyffredin oedd Mr. Richard Jones —mor dduwiolfrydig ag o ddeallus, ac mewn difyniadau a gyhoeddwyd yn ddi- weddar o'i ddyddiaduron, mae'n eglur ei fod yn ddyn o ddifrif, ac y gwyddai am frwydrau ysbrydol yn gystal a dadleuon diwinyddol drwy y wasg. Mae ei ferch yn briod a'r awengar Capten Roberts (Rhydderch o Eifion), ac yn byw yn Soar- y ty ymha un y tynnodd yr henafgwr galluog anadl olaf un a feiddiodd feddwl drosto ei hun. Sion Sgwl." DYMA enw arall, adnabyddus iawn ni, yn y llyfr dan sylw ac mae y Drych ar yr hen dy a'r ysgoldy cysylltiedig. Rhoddir i John Jones—oblegid dyna ei enw priodol—gymaint o le yn y llyfr ag a allesid ddisgwyl, ond yr ydym yn gweled llawer mwy na hynny o'r hanes fel y daliwn y Drych ar Lanarmon. Gwir nad oedd yn ysgolhaig, a pheth lied anghyffredin oedd cael yr un i ysgolion gwledig y dyddiau hynny. Yr oedd ef, feallai, cystal a'r cyffreclin. Ac yr oedd yn ddyn deallus a ffraeth, llawn o •ddigrif- wch diniwed. Ni welsom nemor neb mor fyw i'r humorous lie bynnag y byddai. Hyd yn oed dan amgylchiadau nas mynasai, gwelid rhywbeth yn ami yn ei oglais, nes yr ymliwiai ei wyneb o eisieu chwerthin. Byddai yn arfer y wialen yn yr ysgol, a chlywsom gyfaill mynwesol i ni, sydd yn awr yn Llangybi, wrth son am yr adeg y bu dan ei athraw- iaeth, yn dweyd, gyda phwyslais teimlad- wy, Mi fyddai'n curo'n ofnadwy, fachgen Yr un pryd, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf hoff o blant, a phlant ohono yntau-pan yr oedd off duty. Efe, am flynyddoedd, oedd yr arweinydd canu, a phopeth oil ymron, yng nghapel Wesleaidd bychan Llanarmon—yr hwn achos, erbyn hyn, sydd wedi diflannu. Yr oedd yn cyfuno blaenor Wesle a chlochydd eglwys, a rhwng y ddau le, ac yntau yn gloff hefyd, byddai yn bur brysur ar y Saboth. Ac nid oedd yn ddi- fedr fel bardd, eithr deallai y cynghan- iddion yn dda, a cheir llawer englyn o'i waith ar jledd-feini a chardiau. Coffa. YR oedd bardd ieuanc ar ymweliad a'r ardal un tro, a'r chwilen garwriaethol yn afionyddu arno ac ebe John Jones Bro ddifyr i'r bardd yw Ei,fiori,-Iesol, lesin yw Llanarmon I'w Ion gesail yn gyson 'E fyn hardd fenyw o hon." r- Mae gan yr ardalwyr sydd yn eu < cofio ami hanesymdifyr am dano ef a'i briod. Yr oedd y ddau yn nodedig o ddefosiynol, ac yn dra gofalus o "ddyledswydd deulu- aidd." Yr oedd nai go ddiretdus iddynt ar ymweliad a hwynt un tro, a'r llestri swper ar y bwrdd glan—y powliau a'r llaeth yn barod i'r uwd oedd yn y crochan. Tra yr oedd gwr y ty ar ganol gofyn bendith ar y bwyd, digwyddodd i'r gath gyffwrdd y crochan, yr hwn a gwympodd oddiar y pentan ar ei wyneb ar lawr. Pwffiodd yr hogyn, a methodd. ei ewythr a'i fodryb beidio gwneud fel yntau, a'r hyn a ddechreuodd gras mewn defosiwn sobr a orffennodd natur mewn digrifwch ysmala. Ond, ond,—dyma yr hen dy a'r ardal yn wag o John Jones mwyach, ac yntau'n huno'n drwm yn y fynwent, gerllaw. Amhosibl meddwl am ddau mwy gwahanol eu meddyliau na John Jones, Llanarmon, a Richard Jones, Llangybi ond yr oeddynt, yn ddiau, yn addurniadau i gymdeithas yn eu hardal ac yn haeddu eu cyfrif ymysg enwogion y plwyf a'r cylch." Da y gwnaeth Cybi godi y gofgolofn hon iddynt a'u cyffelyb. Eisteddfod Llangollen. FEL y syllem trwy y Drych ar Eisteddfod Abertawe yn ei thorfeydd afrifed a'i mynnych benbleth, oherwydd eillwydd, mewn pyrth ac ar lwyfan, tybiem fod yno rai pethau y byddai o fudd dal arnynt ar gyfer Eisteddfod Llangollen. 0 ran hynny, bu y Drych ar ymwelwyr perthynol i'r Pwyllgor Lleol-yn eu plith Mr. Foulkes Jones, yr ysgrifennydd, Mr. Carno Jones, a lliaws ereill, y rhai a gymerent i fewn bob peth o ddydd i ddydd, o awr i awr. Am hynny, i ba beth yr ymhelaethir yma ? Modd byn- nag, clywsom gyfaill pur ddyfeisgar yn awgrymu na ddylai fod unrhyw anhawster i letya torfeydd Abertawe yn Llangollen, pe deuent yno. A'i gynllun oedd,—codi pebyll hyd lechweddau y Dyffryn hardd, a threfnu gwelyau ynddynt—fel y gwneir ar raddfa fechan gan lawer o grwydriaid haf yng Nghymru bob blwyddyn. Wrth gwrs, eithriad o dymor gwlyb gafwyd eleni, ac ni chafwyd hwnnw chwaith dros wythnos yr Eisteddfod. Byddai darpar- iaeth o'r fath yn anrhaethol well na mynd i gymowta i bellterau, ,a'r anghysur a geid mewn llawer achos wrth ac wedi cyrraedd lletai pell. Nid ym am ofyn tal gan y pwyllgor lleol am yr awgrym hwn, oblegid nid yw ond un o'r dymuniad- au da sydd.-gennym i Eisteddfod Llan- gollen 1908.
--0--GLANNAU'R GLWYD.
--0-- GLANNAU'R GLWYD. Y MAE llawenydd mawr yn Nyffryn Clwyd oherwydd fod y Parch. Thomas Pritchard, ficer y Rhos, wedi cael bywoliaeth Llanfwrog, Rhuthyn. Ni fedd yr Eglwys yng Nghymru ragorach dyn a phregethwr. Y mae yn hollol lan oddiwrth y rhagfarn enwadol a nodwedda lawer o glerigwyr. Cydweithia a chydaddola yn fynnych ag Ymneilltuwyr y Rhos. Yn y Gymanfa a gynhaliwyd yno ddwy flynedd yn ol, gwelsom ef yn y set fawr ymhob oedfa yn mwynhau y pregethau. Buasai mor hawdd cael ambell glerigwf a adwaenom i dy un gwahanglwyfus ag i gapel Ymneilltuol. Ond nid un felly yw y Parch. Thomas Pritchard, a cha groeso calon Ymneilltuwyr Dyffryn Clwyd. Bu yn gurad yn Rhyl flynyddoedd yn ol, a gwnaeth waith da yma. Yr oedd yn gyfaill calon i bobl ieuainc pob enwad. Dihangfa gyfyng a gafodd Mrs. Roberts a'i phlant, Ty'n y Coed, Rhyl, bore ddydd lau diweddaf. Pan ddeffrodd oddoutu tri o'r gloch y bore i weini ar un o'r plant, deallodd fod y ty ar dan, a dihangodd y plant a hithau gyda brys, ac ymhen ychydig funudau yr oedd y grisiau y disgynasant ar hyd-ddynt yn wenfflam. Un o'r rhai cyntaf i weled y tan oedd Mr. Thomas Roberts, un o danwyr y dref. Trwy gymorth Inspector Pearson a'r heddgeidwaid, gwysiwyd y tanwyr ereill gyda brys, a theilyngant glod am ateb yr alwad mor fuan. Ni chanwyd y Gloch Dan, oherwydd pan wneir hynny aflonyddir yr holl dref. Nid yw hynny'n ddymunol, mae'n wir, ond y mae yn sicr mai y gloch a ddug y tanwyr at eu gwaith gyntaf, a dichon munud o amser arbedir arbod bywydau. Afionyddu y dref ai peidio, caner y gloch dan hyd nes y gwel Cyngor y Dref yn dda gysylltu y Police Station a thai y tanwyr a'u gilydd a telephone. Rhyfedd mor amrywiol yw ffyrdd pobl i fwynhau eu hunain Cynllun gwreiddiol twrne o'r enw William James Rowland, Rhyl, yw gwibio o gwmpas y dref fel gwylliad yn ystod y nos ac oriau man y bor.e, ac ymguddio mewn cilfachau, a dod allan yn sydyn i ymosod ar bersonau. Cyhuddid ef o flaen yr Ustusiaid ddydd Mawrth diweddaf o ymosod ar gas-fitter ieuanc o'r enw Hornby un nos, ac ar gas-lighter o'r enw Homan nos arall. Yn yr ymdrech olaf yna collodd y twrne ei het, ac yr oedd honno yn y Llys yn mud- dystio yn ei erbyn ac yr oedd dillad carpiog y gas-lighter yn profi pa mor filain fu yr ym- osodiad. A yw gwaith y twrne yn dewis pobl y goleuni i ymosod arnynt yn profi mai un o blant y tywyllwch vw ? Costiodd y sport oddeutu 93 iddo. Mae yn dda gennym nad yw y cyfreithiwr hwn yn gynrychiolydd teg o'r urdd yn y dref ac yn y wlad. Feallai mai rhai o'i fath a barodd i foneddwr unwaith ddweyd, pan ddaeth rhywun i geisio ganddo roddi swllt tuag at dalu costau claddu twrne tlawd, Hwda, dyma i- ti bunt dos a chladd ugain ohonynt." -0- DYFYNIADAV LLEN CYMRU.—Gan y Parch. D. D. Williams, Manchester. Budd- ugol yn Eisteddfod Caernarfon, 1906. Ar- graffwyd yn Swyddfa r BRYTHON tros Gym- deithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Pris 1
Angen am Fedydd.
Angen am Fedydd. BYWYD arwyddluniol ydoedd bywyd loan drwyddo draw, ac oherwydd hynny, er i ni ddweyd fod gan loan genadwri ei hunan, gellir dweyd mai arwyddluniol ydoedd popeth a wnaeth. Mae'n wir fod loan yn cymell y bobl i edifarhau, ond credwn y rhoddir gennym ystyr lawnach i'r gair nag a roddai loan. Ystyr Fesianaidd ydoedd i'r gair ganddo ef. Nid at fedydd loan y cyfeirir pan ddywedir gan Marc a Luc fod loan yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau." Pan edrychir yn fanwl i'r geiriau, gwelir yn eglur mai cyfeiriad sydd nid at fedydd loan, ond at fedydd o ba un nad oedd bedydd loan ond cysgod. Mae'r ffurf a geir ar y gair yn galw arnom ei gyf- ieithu nid bedydd yn unig, ond angen am fedydd ac fe ddywedir fod cydberthynas y geiriau bedydd, ac edifeirwch yn galw arnonl. i ddweyd mai bedydd yw'r bedydd y cyfeirir ato yma sydd yn rhwym o arwain i edifeirwch, a bod y cyfryw yn sicr o gael ei ddilyn gan faddeuant pechodau hynny yw, yr edifeir- wch hwnnw sydd ddigon trwyadl i sicrhau maddeuant pechodau o law Duw,—yr edi- feirwch hwnnw sy'n ddigon cryf i beri fod dyn yn gadael ei bechod. Nis gellir dweyd hyn am fedydd loan. Mae'n wir fod y bobl yn cyffosu eu pechodau, ond nid oes prawf fod y gyffes yn tarddu o wir edifeirwch.
fiiliogaeth Gwiberod.
fiiliogaeth Gwiberod. Nid oedd ddiru ond arferiad allanol, fel y dengys geiriau loan wrth y Phariseaid. Ac nid oes gennym le i gredu fod y bobl gyffredin yn well na'upenaethiaid, canys fe ddywed Luc Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo, 0 genhedlaeth gwiberod." Ac os yw Matthew yn priodoli yr un geiriau at y Phariseaid a'r Saduceaid, y rheswm am hynny ydoedd mai hwynthwy oedd yn dysgu y bobl, ac felly ddyfnaf yn y camwedd. Nis gellir dweyd fod bedydd loan yn fedydd edifeirwch er maddeuant pechodau. Yn wir, os cyfieithir y geiriau fel y ceir hwynt ym Marc yn hollol lythrennol, fe welir ar un- waith fod esboniad felly yn amhosibl. Yn cyhoeddi fel rhagredegydd angen am fedydd yn rhwymo i edifeirwch a ganlynir gan faddeuant pechodau." Bedyddio a dwfr yr ydoedd loan, ond yr oedd ar yr un pryd yn dweyd yn groewalll fedydd arall, sef bedydd yr Ysbryd Glan neu fedydd edifeirwch. Mewn canlyniad, y mae'r an- hawster i esbonio paham yr oedd Crist yn cymeryd ei fedyddio a bedydd edifeirwch loan yn diflannu.
Rhagrith.
Rhagrith. Mae'r cnhawster ynglyn a bedydd Crist yn codi hefyd. o'r ffaith fod loan yn mynnu cyffes o bechod fel amod i'w fedydd. Mae'n wir y gellir dweyd mai gwendid moesol yw yr achos o bob gwendid meddyliol. Ond pan ddefnyddir y gair p'echod yn eang, y mae yn cynnwys petlmu nad ydym fel rheol yn eu galw felly. Nid oedd y Phariseaid yn euog o fywyd aflan a llygredig. Mae modd i ddyn fod yn rhag- rithiwr mewn dwy ffordd, sef (1) Fod ei fywyd allanol yn anghyson a'i argyhoeddiad n-iewnol; (2) Fod ei argyhoeddiad mewnol yn anghyson a gwirionedd. Mae'n bosibl fod rhai o'r Phariseaid yn rhagrithwyr yn yr ystyr gyntaf. Mae'n debyg iawn, er hynny, fod y rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i'r dosbarth olaf. Nid oedd eu hargyhoeddiad mewnol yn gyson a gwirion- edd, er eu bod hwy yn anymwybodol o hynny. ond gwireb yw dweyd ein bod yn gyfrifol o'n hanymwybyddiaeth. Yr oedd en syniad am fywyd crefyddol yn gyfeiliornus. Yn neilltuol yr oedd eu barn am natur teyrnas lesu Grist yn hollol gamarweiniol.
Ffrwythau Addas.
Ffrwythau Addas. FFRWYTHAU ADDAS ydoedd cydnabydd- iaeth y gallai eu barn fod yn gyfeiliornus teimlad y gallai fod yr hyn oeddynt yn ei gredu am natur Teyrnas y Messiah yn rhy anianol, a phe caed hynny arweinid hwy i synied yn wahanol, ac wrth gwrs effeithiai hynny ar eu dull o fyw. Hanfod bedydd loan, felly, ydoedd gadael yr hen ddrych- feddyliau a cherdded i mewn i gylch newydd.
Crist ac Iddewiaeth.
Crist ac Iddewiaeth. Os felly,gellid cymhwyso yr un peth at Grist. Cyfaddefiad ydoedd ar ei ran fod yr hen gylch yr oedd hyd yn hyn wedi byw ynddo, erbyn hyn wedi peidio a bod yn wir iddo. Pa mor angenrheidiol bynnag ydoedd iddo yn y gorffennol, erbyn hyn y byddai yn bech- od arno barhau ynddo. Hyd yn hyn, Iddew ydoedd wedi ei gylymu yn dyn a phopeth Iddewig, a gwyddai pawb hyn, neu buasent yn fuan yn ei wybod, fod Iddewiaeth iddo ef bellach yn peidio a bod. Trwy gymoryd ei fedyddio gan loan, gwnaeth ddatganiad eglur ei fod yn ymbriodi a mudiad a ddech- reuodd yn wir mewn Iddewiaeth, ond mudiad ydoedd ar yr un pryd yn cyhoeddi gwirionedd a fuasai yn y man yn angeu i Iddewiaeth. Ni chred neb yn ein dyddiau ni mai peth swyddogol a wnaeth Crist fel ein cynrychiol- ydd ni drwy gymeryd ei fedyddio. Mae syniadau paganaidd felly, ni dybiwn, wedi eu halltudio hyd at ffiniau Anwn. Peth personol ydoedd ei fedydd. Dwfr oedd yr arwydd allanol ond ceid hefyd ochr fewnol, sef bedyddio a'r Ysbryd Glan. Yn ei achos ef yr oedd y ffurf allanol o ymgysegriad i ddull newydd o fyw yn cydfyned a chyfraniad o nerth mewnol i gyfiawni dyledswyddau y cylch newydd drwy iddo hefyd gael ei fed- yddio a'r Ysbryd Glan.
Edifeirwch.
Edifeirwch. Yr oeddym wedi meddwl traethu ar domtiad Crist y tro hwn, ond gan ein bod yn awyddus i osod y golygiad yma am berthynas bedydd loan a Christ, fe ddichon y maddeuir i ni am fanylu ychydig ymhellach. Un peth sy'n sicr fod cysylltiad agos cydrhwng pregethu loan a'i fedydd. Dyma destyn ei bregcrth Edifarhewch, canys neshaodd teyrnas nefoedd." Hwyrach mai ein camgymeriad ni ydyw tybio nad oes byth yn y gair edifeirwch yr un ystyr ond ystyr foesol, a'i fod yn golygu bob amser ymadaw- iad oddiwrth bechod. Nid ydym yn meddwl fod hynny yn ddieithriad yn wir, yn neilltuol nid yw felly pan arferir y gair gan gyfeirio at deyrnas nefoedd. Ystyr sylfaenol a chyntefig y gair ydyw cyfnewidiad meddwl a buchedd, a dyna a ddywedir gan loan mai amod derbyniad i mown i deyrnas nefoedd ydyw cyfnewidiad meddwl a buchedd.
Publican.
Publican. I bublican a phechadur, mae'n wir, hyn yn golygu argyhoeddiad fod by^ aflan a, llygredig yn anheilwng o un oedd fryd ar deyrnas, a phenderfyniad hefyd ar ran fod yn rhaid i'w fuchedd fod yn gysOIl a'r argyhoeddiad. Nid yw hyn yn cynnWYs I o angenrheidrwydd fod Ysbryd Duw yn wneud yn achubol a'i enaid. Gall hynny foil ond gall beidio a bod hefyd. Mae cymhwys iad yr egwyddor at ddyledswyddau cyffr^ bywyd i'w weled yn Luc iii. 14—19. oedd un felly yn cymeryd ei fedyddio gilî loan, yr oedd yn ei fedydd yn yn gyhoeddus y dylasai y bywyd yr oedd e wedi arfer ei fyw ddarfod am byth yn Ðd hanes, ac y dylai gyda hynny ymgyrraed at syniad newydd a mwy ysbrydol am fy^r? j ynghydag ymegmad i ddwyn ei fuchedd gydgordiad a'r bywyd yma.
Phariseaeth.
Phariseaeth. Amod derbyniad i mewn i deyrnas nefoe ydoedd cyfnewidiad meddwl a buchedd. Phariseaid a Phenaethiaid, mae hyn yn g0^ argyhoeddiad fod yr hen syniadau am nat a deiliaid teyrnas nefoodd yn gyfeiliornus, bod y bywyd oedd yn cydfyned a'r synHtdiltl hyn yn gamarweiniol. ei Pan yr oedd y cyfryw un yn cymeryd fedyddio, yr oedd yn cyfaddef yn gyhoedd ei fod a'i fryd ar feddu syniadau mwy ysbry 01 'am natur a deiliaid teyrnas nefoedd, chyfaddef ei benderfyniad o ddwyn ei fywY i gydymffurfiad a'r syniadau hynny.
Brenin.
Brenin. Amod derbyniad i mewn i deyrnas yw cyfnewidiad meddwl a buchedd. A eft fod Crist yn frenin y deyrnas, rhaid oedd id yntau hefyd gydymffurfio a dedclfal" deyrnas. Danghosodd Crist drwy ei eirl .I ae i loan nas gall neb yn weddaidd lywodrae heb yn gyntaf ddysgu ufuddhau. awrlion canys fel hyn y mae yn wt'd i ni beidio gadael dim heb ei gyfla-wnl, ddatguddiwyd fel ewyllys gyfiawn D1' '9 I Grist, dyma yw cyfnewidiad nieddvd buchedd, argyhoeddiad fodyr adeg wedi do ddarfod am byth a'r hen syniadau oedd ga11 i gyrraedd amcanion teyrnas nefoedd,, ddarfod a'r bywyd oedd ynglyn a'r synladil g, Mae hyn o wahaniaeth pa fodd by cydrhwng cyfnewidiad meddwl Crist a en) newidiad meddwl ymysg dynion. Y cyfnewidiad meddwl a buchedd ymysg dy111^ yn tybied amlaf ddiffyg a bai, tra nad ydoe,^ cyfnewidiad meddwl a buchedd i$ yn golygu dim mwy na bod yr adeg w gi dod pan yr oedd yr hen ddull o feddwl byw yn darfod am byth.
Cyfaddefiad Crist.
Cyfaddefiad Crist. Pan yr oedd Crist, gan hynny, yn cy^e £ ,d ei fedyddio, yr oedd yn gwneud cyfadde cyhoeddus fod yr hen ddull yr oedd efe bod yn treulio ei oes yn darfod am byth, fod yn dechrevi ar gylch newydd o fy^&? Nid yn unig yr oedd galwadau te\ nefoedd yn gofyn am gyfnewidiad y° feddyliau, ond yr oedd datblygiad ei gy.11 iad yn gofyn am hynny. Nid yn unlg id fuasai yn lachawdwr byd heb iddo 1)6. ei ei syniadau a'i ddull o fyw, ond cawsa gymeriad personol ei barlysu, ac yr oed y hanfodol i'w neges yn y byd iddo ddang k cyfnewidiad yma i fyd. y Credwn, os edrychir ar fedydd loan 3. goleuni hwn, nad oes dim yn anghy^^ ar i gymeriad hollol sanctaidd fyned o yr oruchwyliaeth, ac y gellir credu yr atl^ aethau mwyaf uniongred am_ ddwyt°• iEi berson, eb ddirdynnu gwirionedd gy esboniadau swyddogol a pheirianyddol.
BWLCHGWVN A'R CYLCH.I
BWLCHGWVN A'R CYLCH. Nos Fawrth, y 27ain oyfisol, aethum i mon, Blaenau Tryddyn, i wrando Pedrog darlithio ar "Brofiad Crwydryn ar dII ¡¡,5 mor a chefais ddwyawr o saig feluS tt1 anghofiaf yr hawg. Synnwyr a ymhob brawddeg ac mor ddiorchest dweyd pethau y rhoisai llawer un brass ar y Ion i ganu fod. y drychfeddwl yn Hir oes i'w ben gwyn. I Langollen yr aeth Wesleaid capel$ fryn brydnawn dydd Sadwrn diweddaf chawsant hindda, fel roedd gore'r dig^ a thaith ddifyr, a dianffod i neb. Y Saboth a dydd Llun diweddaf, ca^I0d Wesleaid Penybryn, Mwnglawdd, gy^jjp. pregethu, pryd y gwasanaethid gan y I'^Cgef D. Tec wyn Evans, B.A., Llanddulas, a Jones—y ddau yn dra chymeradwy a'C trethu corff a meddwl i draethu'r Nege0, Ddydd Mercher diweddaf, cleddid Hughes, Llanarmon Road, ym myn Salem, Bwlchgwyn. Nid oedd ond a gedy weddw a mab bychan i alaru'n d jyji ar ei ol. Cystuddiwyd ef am flvv'.v' i y( gyfan a chymaint oedd ei arteithiau i amharodd ei synhwyrau, ac yng 11g gofdy Dinbych y bu farw. 1" Un o blant ffyddlonaf Peniel ydoedd Hughes, a chymeriad llednais a thit 11 y Gwasanaethwyd ynglyn a'r claddu S0, Parch. J. LI. Jones, B.A., a chaed g^ l capel gan amryw ereill. Duw a esty edyn tr os y tculu galarus. 1. V '010 Y Sul diweddaf, yng nghyfarfod ySg!1l Ý M.C. Broughton Newydd, cwynid a gfi pethau dieithr a hyll sy'n codi'u fwy-fwy yn yr ardaloedd hyn. Cy o fod y bel droed yn mynd a llawer g0^* fryd yr ieuenctyd, ac fod llawer oh |yjj: yrt cicio'r Deg Gorchymyn i'w yl1 y mae geriach salaf y wasg Seisnig hety dylifo i'r ardal, ac yn gwenwyno a gostwrig chwaeth y bobl—ac y mae cy gwahaniaeth rhwng y cyhoeddiadau hy y BRYTHON ag sydd rhwng me'nyn g fuddai a margarine a seimiach y siopau- Oer yw'r gwynt, cymylog yW r '1' lleidiog a llithrig yw'r ffyrdd; glas y giif ac ar ei hycl. ar lawr mewn ami 'jjgty* bwch ac aniolchgar ydyw'r bobl sy dieithriaid gwag yw'r addoldai Sul, llawn yw'r tafarnau nos Sadwrn, ydyw masnach, hir yn talu'r coel ar y siopwyr y mae'r ardalwyr; llawer ydy rhai a heidiant i Wrecsam a'r i fwynhau gwagedd y llygad, yc %.0i nifer y rhai a arhosant gartref i bai'a, Saboth; llawer ydyw rhif y rhai sy n(j(jjolc dau neu dri yma'n unig sy'n para gar. YR &