Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Lien a Chan.
Lien a Chan. [GAN AJIAFON.] Llythyrau Morusiaid Mon. -UYMA'S, drydedd ran allan er's dyddiau byd chwedl William Morus, a dylasai'r JJRYTHON fod wedi dweyd gair am dani cyn hyn. Hon yw y werthfawrocaf ei chynnwys 0 r tair sydd wedi dyfod allan. Ynddi hi y jiiae y llythyrau hwyaf a thrymaf. Ceir yn hop. nifer fawr o lythyrau Lewis at ei frawd William, a dau neu dri o'i lythyrau at ei Wraig. Gwneir y gweddill i fyny o lythyrau William at Lewis a Richard. Fe ysgrifen- ^yd y llythyrau sydd yma yn y blynyddoedd *753, 1754, 1755. Ac y mae'r cwestiwn yn COdl eto, Beth am lythyrau Richard ? Ai nid oes ar gael ychydig o'r rhai a ysgrifennodd efe yn ystod y tair blynedd hyn ? Prif ddyddordeb a gwerth llythyrau y frydydd rhifyn ydyw y goleuni a daflant ar bewis Morus a'i helyntoedd, ac ar Goronwy Owen a'i wraig, ac ar Thomas Pennant. Y ttiae yr hyn a ddywed William am dano'i hun, am ei v/reiddiach a'i fiodau, a'i gregin, 4c am bobl a helyntion Mon, yn ddifyr Odlaeth, ac o werth hanesyddol ac y mae e i'w weled yn parhau yr un gwr dawnus, diddan, rhadlon, a charedig o hyd. Ond y pethau a ddywed y brawd galluocach Lewis alII dano'i hun ac ereill sydd yn mynd a Illwyaf o sylw dyn, ac yn boddloni mwyaf ar chwilfrydedd dyn. Fe ddaw'r wybodaeth a i allu fwyfwy i'r golwg yn y llythyrau hyn ddaw ei fyfiaeth liaturiol i'r golwg ynddynt | raddau ond fe welir yn bur glir trwy'r J'thyrau yma ei fod yn well a gostyngeidd- a dymunolach dyn nag y gallesid ?ybio oddiwrth rai pethau a ddywedodd efe. Hyn i'w edmygu allsai wrthod dysgu celf- yddyd cyfrwysdra gwasgu'r gwan," pan ttiewn cyfle a themtasiwn i hynny, a gwrtliod jj.V'Kgu gwenhieithio i'r cryf," a dyn i'w °ffi yn fawr allsai deimlo ac ysgrifennu y y pethau a ysgrifenoodd ef at ei wraig ar ol JQarw ei Llewelyn bach, a chlywed am ffoledd boenus ei ferch, pan oedd efe yn Llunden bell mewn helbul a phryder yn wyneb ylnc)sodiad gelynion. Tlws, o'r pellter hwn cyfeillgarwch mawr a dyfodd rhwng Powys ag ef, ac nid rhyfedd fod Lewis ■^lorus yn ymfalch'io cymaint ynddo. T Y mae y rhai sydd wedi darllen hanes be-wis Morus yn gwybod am yr helynt flin fu arno fel meistr y gwaith yn Esgair y Yll, Ceredigion ond yma fe geir llawer 0 fanylion dyddorol o'r newydd. Hanes yr yiQosodiadau cyntaf a geir yn y llythyrau n, a'r anfon milwyr i warchod y gwaitli ?r gofalwyr, a'r gyfraith fawr gyntaf yn blunden, a saith deg tystion y bardd yn dychwel adref o Lunden gydag arwyddion bliddligoliaetli yn eu penwisgoedd, a'r bardd yn gorfod aros yn Llunden am fisoedd, &c. r ol hyn y ceir hanes y darostwng anghyf- laWn a fu arno. ^!i cheir yma lawer mwy am Oronwy nag ellir ddeall oddiwrth y llythyrau ynglyn ?1 waith ef, ond newydd. a rhyw fath o flasus i awer fydd clywed beth addywedaiy brodyr evvis a William Morus yn gyfririaeliol wrth eu gilydd o berthynas iddo. Swn edmygedd pharch sydd fwyaf hyglyw o lawer yn y lythyrau, ond cryn lawer o swn tosturi poenus hefyd, a pheth swn dwrdio gofidus. be William wrth Richard yn niwedd 1753:— "DYMA lythyr heddyw oddiwrth y Llew Illawr yn achwyn yntau na chawsai linnell oddiwrtho er's deufis on'd ydyw yn resyndod mawr fod dyn a g'add y fath dalent gan ei Greawdwr yn ei chuddio mewn succan ?" 1 Ac meddai yn Awst y flwyddyn ddilyn- o "BJt mwyn dynion a da, a oes dim gobaith gael byth weled peth o waith Goronwy wedi ei argrafiu ? Mae rhai o'r Personiaid a'r bobl 'nheddigions yma'n deehreu cyfaddef fod y bardd yn ddyn abl rhyfeddol." Yn ol y llythyrau yma, yr oedd y wraig yn cyfranogi i raddau alaethus o helaeth o ^endid anffodlawn y bardd ei hun. Duw elpio Goronwy," ebe Lewis, a phob dyn y a gwreigan wleb ddifraw." Ac ebai Will- Jam mewn llythyr at Richard am dani :— Qwreigan ni thai dim yn y byd, yn enwedig 1 fardd a fai a'r awen yn berwi yn ei ben yn ¡est-ad teg." Fe wnaeth Lewis gryn ymdrech 1 gael gwell lie i'r bardd, drwy IarllPowysac Pl"-ill, ae fe aeth dros derfynau'r gwir weith- "14 yn yr ymdrech, megis pan ddywedodd rth yr larll fod perygl i'r Jacobiaid ei hudo atynt. Twyll yw'r byd i gyd, chwi welwch,' eddai wrth William, pan yn son am hyn, byd yn oed wrth wneuthur personiaid." janol Mai, '55, fe gyrhaeddodd Goronwy jj^tiden, gyda'i wraig a'i ddau fab (a Lewis j^orus yno yn aros eto), a cbyn hir iawn fe .wyddwyd i gael curadiaeth Northholt iddo j ar,os rhywbeth gwell a ddisgwylid. Tueddu teirniadu pobl a phethau yn bur rydd yr oedd ^r«onwy tua Llunden, gellir mecldwl, ac i °d braidd yn rhy positive. He wants fining sadly," meddai Lewis wrth Richard. c rr|eddai William wrth Richard :— DA iawn clywed fod Grono wedi cael lie I enAm tamaid o fara, rhaid cael llymaid o ddiod hefyd iddo ei hun ag i'r wraig Ellin j-'ywiog oleu, y cebystr i'r sut nad ellid byw heb lai o'r gwlyb. Digon byehan- esgobaeth lie bo'r wraig yn sychedig ben- neoth. a ij^baid gadael y sylwadau doniol ar Pennant f r,Uan Brydydd Hir, ac ereill, gyda dweyd WiUiam yn meddwl byd o Bennant, ond lewis yn ei alw yn "rhywbeth meddai |Wjrion diddaioni," ac yn lloerean o ddynan Jgon diniwed." Rhaid gadael llawer peth y llythyrau sydd yn temtio'r pin i'w 1 Ynnu. &v!?S ^'dyw'r i'u mawr o lythyrau y brodyr 6fco eu cyboeddi. mor ddiddan a ftll er^awr a'r rhai a gyhoeddwyd yn barod, a hwy, a hynny cyn bo hir
Advertising
j^isteddfod Llangollen- hestr gyflawn y testynau yn awr barod, ac i'w chael, pris 6ch. post 7\c, gan Evans, Sons ^^QuIKes, Swyddfa'r Brython." arVVolaeth y Saint: OfErwm cof am y diweddar Feddyg ^ITugh Williams ao eraill o saint Pitaclarerice Street. Uan y Parch. J. Hughes, M.A. Llian 2s HUGH EVANS, 356-8a Stanley Rd., Liverpool.
0 0 BIG Y GTOMEN. I mmmmmmm…
0 0 BIG Y GTOMEN. I mmmmmmm 0 m 0 0 mmom 10 ai |Z>GWYSANEY.—Ddydd^Sadwrn diweddaf, daeth Ceidwadwyr sir Fflint ynghyd i lawnt Gwysaney, plasdy tlws Mr. Davies-Cooke, ger y Wyddgrug, i fwynhau garden party i ganmol rhoddwr y danteithion, ac i wrando Mr. Harold Edwards, mab Esgob Llanelwy, ac ymgeisydd gwrthodedig y Ceidwadwyr tros sir Fflint, yn yr etholiad diweddaf, yn pwyso'r Weinyddiaeth ac yn ei chael yn brin. 1 DEI HI A U' It BALA.-Pwnesy'n cyn- hyrfu llawer o Fethodistiaid ydyw pwy a ddewisir gan y Cyfarfodydd Misol i lanw'r ddwy gadair yng Ngholeg y Bala. Y mae Cyfarfod Misol Mon wedi enwi y Parch. T. Charles Williams, M.A., a'r Parch. J. O. Thomas, M.A., Porthaethwy, a Henaduriaeth Achosion Seisnig Lancashire a sir Gaer yn enwi y Parchn. E. O. Davies, M.A., B.Sc., a R. H. Richards, M.A. Penodir i'r swydd ym mis Tachwedd. DIBWEST YN AMERICA.-Dywed y Drych fod Talaetli Georgia wedi mabwysiadu Gwaharddiad, fod mesur cyffelyb tan ystyr- iaeth Talaetli Alabama fod Texas yn addfed; ac y disgwylir y bydd nifer o Dalaethau'r De yn dilyn ar fyrder. Cyfaddefai llywydd Cymdcithas Genedlaethol y Gwirodwyr y dydd o'r blaen fod Gwaharddiad yn ennill tir, "ac os nad ymroddwn gyda mwyoegni," ebai, bydd y De wedi ei gau'n llv/yr rhag- llaw." GYMDEITHAS NEWYDD.—Sonir am ffurlio Cymdeithas Newydd er amddiSyn yr iaith Gymraeg rhag y to pregethwyr o'r colegau sydd wedi bras-ddysgu popeth ond y hi a rhag reporters newyddiaduron Cym- raeg Cymru a dybiant mai camp uchaf eu crefft ydyw hel clep a lloffa geiriau trystiog a hedegog. Cynhygir y Pareli. T. Puleston Jones, Pwllheli, yn Ilywydd; a Phedr Hir, Bootle, yn ysgrifennydd. I} AR FORFA CON WY.-Ddydd "Sadwrii terfynnodd y cystadleuon saethu a barhau, asant am rai dyddiau ar Forfa Conwy, tan nawdd y Welsh Rifle Association. Yr oedd yno liaws mawr o gystadleuwyr o Dde a Gogledd Cymru; a'r amcan ydyw cael y Cymry i anelu'n well a dwyn gwell enw i'r Hen Wlad yn Eisteddfod flynyddol y saethu rhwng Volunteers y deyrnas yn Wimbledon. Y mae dysgu anelu at y target yn waith eithaf difai a chyfreithlon y gwaethaf ydyw fod llawer o'n bechgyn yn dysgu anelu at y Deg Gorchymyn yn y cyrchfannau hyn. AELODA U'R GOGLEDD.-Ar derfyn pob pen tymor, bydd y bobl yn chwilfrydus i wybod sawl gwaith y bu eu cynrychiolwyr yn y seiat," hynny yw, pa sawl ymraniad y buont bresennol ynddo yng Nhy'r Cyffredin. Dyma fel y saif y rhai a ganlyn :—Clement Edwards (rhanbarth Dinbych), 230 E. J. Griffith (Mon), 76; E. G. Hemmerde (Dwy- rain Dinbych), 169 T. A. Idris (Bwrdeis- dreli Fflint), 317 J. Herbert Lewis (sir Fflint), 444; W. Jones (Arfon), 372 D. Lloyd George, 257 J. H. Roberts (Gorllewin Dinbych), 220; A. O. Williams (Meirion) 150. K CENHADWR I CHINA.—Y mae Dr. Arnold Davies, mab Dr. Cynffig Davies, Porthaethwy, ar fin ymado i Tsang Chou, rhanbarth o China, yn genhadwr meddygol tan nawdd Cymdeithas Genhadol Llunden. Bu Dr. Davies am ysbaid ynglyn a'r Living- stone Medical Institution yn Edinburgh ac y mae'r lliaws o'i edmygwyr yn y ddinas honno yn cyfrannu at ei gynnal yn y Wlad Felen am bum mlynedd. GLASIAD DRTJD.—Am gael dau beint o gwrw, yn nhafarn y Black Inn, Llanbadarn (Aberystwyth), tan rith ei fod yn wr diarth o Lanidloes, galwodd yr ynadon ar John Bryan i dalu Yl rhwng y costau. Mor wahan- 01 bost Dewi Hafesp yn y ffrae ddirwestol :— Trwch pin am gerwin o gwrw-rown i Ond rhown, a bost yfwr, [byth Yn ei borth, pe bai werthwr, Bunt i Dduw am beint o ddwr." II} — GWATWAREG Y PARCH. EVAN, JONES.-Parodd Emyn y D.D. oedd yn y golofn hon bythefnos yn ol i'r G'lomen gofio mai y Parch. Evan Jones, Caernarfon, a roes y crafiad dyfnaf a welodd hi erioed i deitlau nawdd a phryn. Dyma ddywed yn ei gyfrol ddiweddaraf, Ysgrifau Byrion Ni fynnwn awgrymu, fel y gwna un, fod y Teitlau Tramor hyn yn disgyn, fel y gawod eira yn yr anialwch, lle nid oes dyn. Byddem yn foddlawn i gredu unrhyw both am y bobl hyn yr ewyllysient hwy eu hunain i ni ei gredu am danynt, dim ond iddynt nodi hynny." 8| UWCHBEN Y BALA.-Wrth hedeg tros dre'r Bala'r wythnos hon, a gweled y llun sydd ar hyn o bryd ar y Green, braidd na leithiodd llygad y G'lomen wrth gofio llinellau Huw Myfyr :— Y Bala, Salem wen Gad im' dy alw, Boed bendith ar dy ben, Ti haeddi'r enw Os bu ryw lecyn mad 0 ddaear ein hon wlad Yn Demi i Dduw a'r Tad Y Green yw hwnnw. Ein tadau gyda hwyl A pher Hosanna, Fel tyrfa i gadw gwyl, A gyrchent yma 0 na cheid eto'r fraint 0 weled yn ei maint Gymdeithas fawr y saint Ar Green y Bala. Nid teml oedd hon ychwaith, Heb un Shecinah Mor amlwg lawer gwaith Bu gwedd Jehofah, Na feiddiai undyn byw, Mewn rhyfyg balchaf ryw, Ofyn pa le'r oedd Duw, Ar Green y Bala. DIARDDEL KENYON.—Yr Anrhyd. G T. Kenyon oedd wedi ei ddewis yn ymgesiydd Seneddol at Fwrdeisdrefi Dinbych ond y mae y rhai ieuanc a Radicalaidd o fysg y Toriaid yn credu ei fod yn rhy hen a Cheid- wadol, ac wedi chware eu rhan mor llwydd- iannus nes peri i Mr. Kenyon ysgrifennu llythyr ei ymddiswyddad a'i anfon yr wyth- nos ddiweddaf i swyddogion y blaid. Dyma ran o 'i lythyr NiD yw yn fy mryd gynnyg fy hun fel ymgeisydd Undebol at Fwrdeisdrefi Din- bych yn yr etholiad seneddol nesaf. Aw- grymwyd i mi y dylaswn seilio fy mhender- fyniad hwn ar rith esgus gwendid corff a phall iochyd. Nis gallaf wneud hynny, a dweyd y gwir, gan na buasai gennyf betruster nac anhawster i ddod allan eto pe'm sicrheid y cawswn gefnogaeth unfryd y blaid. Dywedir wrthyf nad gwiw i mi ddibynnu cael hynny, gan fod nifer cym- liarol fychan o Geidwadwyr (ond yn cynnwys, fodd bynnag, ycliydig o'm cefn- ogwyr hyn) yn dewis yn hytrach gael ymgeisydd newydd i ymladd y frwydr. Gofidiaf am eu penderfyniad, gan fy mod yn credu i'r sedd gael ei cholli yn 1906 oherwydd yr adweithiad Radicalaidd cryf a ymweithiai ar y pryd, ac yr ydwyf yn bur sicr y buasai ein cydymdrech yn ad- ennill y sedd oeddem wedi ei dal, gwedi tair brwyclr galed, yn erbyn pob gwrthwyneb- ydd er y flwyddyn 1885. Fodd bynnag, nid oes ynnof awydd i sefyll ar ffordd dewisiad y gobeithiaf a brawf yn un doeth, er fy mod yn teimlo'n ddwfn oblegid y pall ymddiried y mae hynny yn ei olygu i bawb a'm cynorthwyodd i hyrwyddo llwydd y blaid," &e. Dyna sydd i'w gael gyda phob plaid, am fynd yn saith a thrigain oed k CWN DEFAID.—Ddydd lau diweddaf, cynhaliwyd cystadleuon own defaid yn Rhuthin, ac yma eto, fel yn Llangollen y dydd o'r blaen, Sais a'i gi aeth a'r wobr gyntaf, sef Mr. W. Akrigg, Garsdale, Sedburgh J. T. Jones, Glyn, yn ail J. LI. Roberts, Llanbedr, Rhuthin, yn 3ydd -14 a W. Jones, Ty Nant, Corwen, yn 4ydd. Mawr yw medr a ffyddlondob y creaduriaid hyn a 'doedd. rhyfedd i un o wyr mawr Cymru ddweyd y dydd o'r blaen wrth ei gi ":Wel,Pero, rwyt ti a minna'n gyfeillion mawr, a phe medrwn, buasai yn dda gennyf allu dy wneud yn ddyn, er mwyn i mi allu cymdeithasu mwy a tlii. Ond hwyrach mai fel y mae hi ydyw'r peth gore rwyt ti'n ffyddlon iawn tra'r wyt ti yn gi-wn i ddim sut y troet ti pe'th droid yn ddyn." 15b LLANBEDR.-Prin y gwyddai neb am fodolaeth Llanbedr-y pentref gwledig sydd ar draeth Meirion yng nghyffiniau'r Bermo- hyd nes i Dr. Dale fawr o Birmingham fynd yno flynycldau'n ol, gan fynd i seiat noson waith y Methodistiaid a thraddodi molawd a hir gofir ar y pethau da sydd mewn Calfin- iaeth. Yna dechreuodd y byd fynd i Lambad," ac y mae'r lie yn llawn bob ha o hynny hyd yn awr. Eleni y mae'r Sosial- ydd gwyllt Bernard Shaw ymysg yr ymwel- wyr a nos lau ddiweddaf, darlithiai yno i gynulleidfa ar Sosialaeth a Gwleidyddiaeth Ymarferol." Byrdwn ei araith ydoedd mell- tithio'r land-owners, a'u gwaith yn segura ar y pum can miliwn a wasgent bob blwyddyn allan o gyrff chwyslyd gweithwyr y deyrnas. LLANW'R BWLCH.-Bryd-nawn Saboth diweddaf, siomwyd eglwys y Bwlch—achos cynnes anghyffredin a geir yng nghesail y mynydd ger Pentredwr, uwchlaw llan- gollen-o bregethwr a chan y digwyddai fod un o flaenoriaid Cyfarfod Misol Lerpwl yno ar dro, erfyniwyd arno fynd i'r pulpud a thraethu yn ei ffordd ei hun. Wedi hir gyndynnu, boddlonodd, ac fe draethodd am hanner awr neu fwy ar Y neb a'm gwel- odd I a welodd y Tad." Awgrymodd fod sicrwydd nad oedd y pregethwr a dorrai ei gyhoeddiad i eglwys wan erioed wedi gweled y Tad," a phan gynhygiwyd iddo'r gydna- byddiaeth a fwriadesid i'r pregethwr, Na na," meddai, gan Dduw y cefais i 'mhregeth a thydw i ddim am godi arno am yr eiddo ei Hun." Byth o'r fan yma, y mae rhyw ddaioni o dorri cyhoeddiad, ebe trys- orydd y capel. PIQ EIN GOROR DU.Y mao ardal Connah's Quay, Shotton, ac oddiyno i Benarddlag, a Llaneurgain, yn sir Fflint, yn cyflym liosogi yn ei phoblogaeth, oherwydd codi amryw weithfeydd yma ac acw. Ac yn gymysg a phob bendith ceir melltith, sef cynnydd cyf- atebol mewn ymyfed a phob rhyw anfoes. Ddydd lau diweddaf dirwywyd George Hindman gan ynadon Llaneurgain i 925 am werthu diodydd meddwol heb drwydde.1 i hynny. Ironworker yw Hindman, yn byw yn Shotton; ac yn sylwi ar y mynd a dod llechwraidd oedd o'i dy, cuddiodd dau hedd- was ynddo, heb yn wybod i'w berchen, a gwelsant gynnifer a 29 yn galw yno ar y Sul, Awst 18, i nol diodydd a thalu am danynt. Yr oedd Mr. Marston, cyfreithiwr y diffynydd wedi ei gynghori i addef ei euogrwydd ond gwrthododd, ac yna tafiodd Marston yr achos i fyny, ac a gerddodd o'r llys. Gwlad ddu ydyw'r Goror ar hyd Clawdd Off a. Y WANC AM SOTHACH.-iNid yw Mr. Herbert Roberts, A.S., byth yn hapusach na phan yn annerch pobl ifanc a chan ei fod bellach yn Uefarwr mor rhwydd yn y Gym- raeg, y mae ei gyhoeddiadau gyda'r Hen Gorff yn amlhau. Siaradai nos lau yn un o gyfarfodydd Sasiwn .Bangor a dywedodd mai un o beryglon yr addysg rhad, a'r aneirif lyfrynach a ddylifent heddyw o groth y wasg, ydoedd magu bias yn yr ieuenctyd at ddarllen sothach o fath merfedd y penny dreadfuls. A'r unig ffordd i golli bias ar y dreadfids yw magu bias at y Beibl," ebe Mr. Roberts ynghyda'r BRYTHON, ebwn ninnau. BEDYDDWYR CYMRU.—Yn Llanelli, nos Lun, agorid eisteddiadau blynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru. Yr oedd Mr. Lloyd Geogre yn seibianna yn Switzerland ond cymerwyd ei le gan Mr. Llewelyn Will- iams, A.S., yr hwn a'i llanwodd agos iawn. Cyfrifid fod 800 o gynrychiolwyr wedi dod ynghyd o Dde a Gogledd ac mewn llythyr a ddarllenwyd oddiwrth Lywydd Bwrdd Masnach, sicrhai y Gynhadledd y caffai Dirwest a Chydraddoldeb addysg yn yr ysgol- ion eu trafod yn gynnar yn Senedd y flwyddyn nesaf. st- YFED GlVIN Y CYMUN.—Y mae heddweis Aberystwyth yn chwilio am rhyw walch neu weilch a dorrodd i gapel y Bedydd- wyr Seisnig yn Alfred Place, gan yfed gwir y cymun oedd ynghadw yno. Yn Owen Rees-nofel ein cyd-drefwr Mr. Eleazar Roberts—sonir am geidwad capel a arferai lymeitian bob dafn o'r gwin a adewid yn y cwpanau a'r poteli nos Sul y Cymundeb, ac a aeth yn feddwyn felly. PERERINI ON TREFF YNNON. — Yr oedd tyrfa fawr o bererinion hygoelus wedi cyrraedd Treffynnon erbyn y Saboth di- weddaf-lawor ohonynt o Oldham. Yn yr hwyr, gorymdeithiwyd o'r Eglwys Babaidd hyd at Ffynnon Gwenfrowi, a phawb yn dwyn canwyll oleuedig yn ei law, ac yn edrych yn ddefosiynol i'w ryfeddu. Y mae gorym- deithiau o'r fath yn bethau pur gyffredin yn Llydaw ac yno mesurir sel a duwioldeb pob un wrth hyd y ganwyll a brynno gan yr offeiriad wrth ymuno a'r orymdaitli. PIGO YMENYDD.—Pan fo'r BRYTHON yn difynu o bapur^arall, bydd yn clodi ei enw yng nghwt y difvniad. Ac megis y dywed- odd y Llyfrbryf am ei bapur da yntau (y pryd hwnnw), felly y dywedwn ninnau heddyw :—Wrth ein 19 cyfoesolyn, dy- wedwn o waelod calon Helaethed eich cylch- rediad cynhydded eich dylanwad a phan syrthio golygydd ambell un ohonoch (oly ydd cliwaetlius !) i gymaint cariad a pheth o gynhwysiad y colofnau hyn nes eu dyrchafu yn eu crynswtli i'w goloxnau ei hun, erfyniwn yn ostyngedig arno ddodi ar y diwedd y ddau air bach :—Y BRYTHON.
Advertising
CEINION CUDD. Adgofion.. Hiraethog AM Y PARCH. Michael Roberts, PWLLHELI. Is. 6ch Mewn Llian hardd. Is. 6ch Wedi eu rhanu fel y canlyn Arwoiniad. l-Adgofion y Bachgen. 2-Adgofion y Llane. 3-Yn y Gyradeithasfa. 4-Y Tymor Tywyll. 5—Y Diwedd. Gyda Chywydd o waith yr awdwr, yn disgrifio'r Efen gylydd mwyn yn ei odfa fawr yng Nghymdeithasfa Llanrwst. Nid oos ond ychydig gopiau ar lawr, a dylai y rhai ddymuno gael copi, anfon ar unwaith. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS, 356-358a & 444 Stanley Road, LIVERPOOL. BEAUMARIS Grammar & County School BOABDEES RECEIVED AT SCHOOL HOUSE. Preparation for Civil Seryice, Universities, Professions, Commercial and Business Careers. INDIVIDUAL ATTENTION, HIGHLY QUAL- IFIED STAFF, NEW & SPACIOUS BUILD- INGS. INSPECTION INVITED. For terms and List of Successes apply Headmaster. —— ———————————————————————— CLASSES 6 PRIVATE TUITION i for Matriculation, Professional Preliminaries, Oxford and Cambridge Locals, College of Preceptors, Preliminary Certificate, &c. School of Shorthand ê3 Typewriting which gives a thorough and efficient training in in these and all other business subjects. References given. N.B.—Intending Students or their Parents or Guardians should, before enrolling anywhere obtain refer- ences from Past and Present Pupils. I. W. BROWN, B.A., 5, 6, 7, 8, Don Chambers, 8 Paradise Street, LIVERPOOL. COLEG Y BRIFYSGOL, ABERYSTWYTH. (Un o'r Colegaw yn Mhrifysgol Cymru). PJUFATHKO T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHREUA'R tymor nesaf ar ddydd Mawrth, Hydref laf, 1907. Paratoir yn arbonnig ar gyfer arholiadau Prifysgol Cymru, ond rhoddir cynorthwy hefyd i efrydwyr weithio am raddau prifysgolion ereill. Cynhygir dros ugain o ysgoloriaethau (amryw ohonynt yn gyfyngedig i Gymry), i'r efrydwyr sydd fwyaf llwyddiannus yn yr arholiad a gynhelir ar y 17eg o fis Medi, 1907. Am fanylion pellach ymofynner a J. H. DAVIES, M.A., Oofrestrydd. ..COLEG Y GOGLEDD, BANGOR (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru), PRIFATSIRAW H. R. REICHEL, M.A,, LL.D. Dechreua'r tymor nesaf Hydref 1, 1907. Paratoi ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol ym Mhrif- ysgolion Llundain, Edinburgh a Glasgow, ac arholi iadau ereill. Rhoir addysg arbonnig mewn Amaethyddiaeth (yn cynnwys triniaeth coed) ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg adran normalaidd i Athrawon elfennol a chanolraddol. Cynhygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o X40 i £10 y flwyddyn, yn nechreu'r tymor nesaf. Mae Ysgoloriaethau Tate yn gyfyng- godig i Gymry. Ysgoloriaethau John Hughes yn gyfyngedig i fechgyn aned yn sir Fon neu sir Gaer- narfon, ac Ysgoloriaethau Richard Hughes i drigolion Mon. Dechreua'r arholiad am danynt Medi 17. Ceir pob manylion gan J. E. LLOYD, M.A., Ysgrifennydd a Chofrestrydd, W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers, 200 SCOTLAND RD. Liverpool. TELEPHONE No. 1463. Pianos & Organs Cash or Easy Payments. TUNINGS SINGLY OR BY CONTRACT REPAIRS by Expert Workmen Write or call for ILLUSTRATED CATALOGUE RICHMOND JONES & SONS, 11 6' 13 BERRY ST. (Top of Bold SJ.) TeL 2331 Royal. LIVERPOOL. Telephone 0664 Keyal. .jt ? T T 7* J. OLIVER, TAILOR and HABIT MAKER. 126 Upper Hill Street PRINCES ROAD, ^LIVERPOOL. Allan Line. Slcrheir y cysur mwyaf sydd bosibl ar Agerfongau Cyflym (Turbine). Y FORDAITH F-ERAF A RHATAF I Canada a'r L'noi Dciiaethau. Cyflym, § Cyfleusterau heb eu hail,y clud- rv. iad rhataf. Yr unig Linell a UlOgel, chanddi Gvtundeb a'r Llywod- raeth i gludo Llvthyrau tysurus. I Canada. Llawlyfr yn rhad gan Alia in, T inc. 103 LEADEN HALL ST., a PALL MALL, LONDON 19 JAMES STREET, LIVERPOOL. Telegraphic Address PIPES," Liverpool. (f JOHN EVANS SLATE BRICK, TILE, CEMENT MERCHANT, Ilea Office and Depot: 88 to 92 SOHO ST., VP001. ø Branches Cement Stores— 15 and 16 NOVA SCOTIA, CANNING DOCK. Railway Depot— SPEKELAND WHARF (L. & N.W. Riy.) Edge Hill General Stores- 20 DACRE STREET, BirRenhead Telephone Numbers: Head Office-No. 102 Royal. Birkenhead—1025. Edge Hill-728Y Royal. Canning Dk-8208 Gen, The Gwolio Hotel, Ltd., LLANDRINDOD WEllS. Telephone 40 P.O. Telegraphic, Gwalia.' Managing Director-EDTV. JENKINS. The situation of the "GWALIA" is unrivalled Beautiful outlook, commanding the finest views possible; perfect South-west aspect; close to Park. Mineral Springs—Saline, Sulphur, Claly- beat. Golf Links, and excellent waters for Angling. Heating Apparatus, good supply of Radiators on balconies and corridors. Beds and bedrooms always well aired. Electric Light. Visitors' Lift. Free Billiard Table. Recreation Room.. Lock-up Cycle House. Tariff from zC2112,16 to R311 The Nurses' Co-operation and Medical and Surgical home, 3 CANNING ST., LIVERPOOL Fully Trained Nurses sent any distance ou the shortest notice. Specially Trained & thoroughly Experienced Nurses for Mental and Nerve Cases. Daily Visiting Nurses 6 Masseuse. Medical, Surgical, Maternity, and Nerve Cases received in the Home, Miss GEACII, Lady Superintendent TELEPHONE 1092 ROYAL. tH -No=L,, I BRYSIWCH r I I geisio potelaid gan y Fferyllydd nesaf atuch, B cyn i'r Anwyd fyned yn waeth. Jg I Cofich k COUGH i MIXTURE1 HUGH DAVIES, Machynlleth. 18c. a ,s. 9c. y botel. DAVIES'S COliGH MIXTURE At Beswctl, ti DAVIES'S COliGH MIXTURE Anwyj, £ 3 DAVIES'S COUGH MIXTURE Asthma, gj DAVIES'S COUGH MIXTURE Bronchitis, DAVIES'S COUGH MIXTURE Pas. C'vgni, § DAVIES'S COUGH MIXTURE Influenza.